BEng (Anrh) Peirianneg Drydanol ac Electronig (gyda blwyddyn sylfaen)

Students using electrical engineering facilities

Manylion cwrs

Côd UCAS

H603

Blwyddyn mynediad

2024, 2025

Hyd y cwrs

4 BL (llawn-amser)

Tariff UCAS

48-72

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Wrecsam

*Yn amodol ar ail-ddilysu

Course Highlights

Cymorth mathemateg

Mynediad at ganolfan cymorth mathemateg bwrpasol.

Y 10 uchaf

yn y DU am Ansawdd Dysgu (Nghanllaw Prifysgolion Da The Times 2024)

Arbenigo

mewn naill ai peirianneg drydanol neu electronig.

Peirianneg ym Mhrifysgol Wrecsam

Meddwl am yrfa mewn Peirianneg? Clywch gan ddarlithwyr a myfyrwyr am ein graddau Peirianneg ym Mhrifysgol Wrecsam.

Pam dewis y cwrs hwn?

O gludiant i ynni adnewyddadwy i awyrofod a roboteg, mae’r radd hon yn eich arfogi gyda’r sgiliau hanfodol i weithio ar flaen y gad mewn technolegau newydd a thechnolegau sy’n datblygu. Mae’r cwrs, sydd wedi ei achredu gan y Cyngor Peirianneg, yn archwilio sut mae peirianwyr trydanol yn siapio dyfodol y sectorau yma drwy arloesi a dylunio.

Byddwch yn:

  • cael mynediad at labordai dylunio a phrofi electronig, labordy electroneg pŵer, rheolyddion rhesymeg rhaglenadwy (PLC) a labordai dylunio gyda chymorth cyfrifiadur (CAD).
  • ennill profiad ymarferol ar becynnau meddalwedd safon diwydiant, gan ddatblygu sgiliau y mae galw mawr amdanynt yn y diwydiant
  • Datblygu sgiliau dadansoddi, cyfrifiadol, dylunio a trosglwyddadwy gan gynnwys ymwybyddiaeth o oblygiadau cymdeithasol, amgylcheddol a moesegol
  • Elwa o gysylltiadau agos gyda diwydiant yn lleol a chenedlaethol, gyda chyfleoedd i gael ymweliadau safle
  • Canolbwyntio ar arbenigeddau mewn Pŵer, Electroneg, Offeryniaeth a Rheoli
  • Gallu teilwrio eich dewis modiwlau i arbenigo naill ai mewn Peirianneg Drydanol neu Electronig, yn dibynnu ar eich nodau a’ch diddordebau.

Mae’r cwrs hwn hefyd ar gael heb flwyddyn sylfaen BEng (Anrh) Peirianneg Drydanol ac Electronig Cod UCAS: H600

Prif nodweddion y cwrs

  • Yn cynnwys blwyddyn sylfaen i’ch paratoi ar gyfer astudio ar lefel prifysgol
  • Canolbwyntio ar astudiaeth ymarferol yn ogystal ag academaidd, gyda mynediad at y cyfleusterau yn ein labordai dylunio a phrofi electronig, labordy electroneg pŵer, rheolyddion rhesymeg rhaglenadwy (PLC) a labordai dylunio gyda chymorth cyfrifiadur (CAD).
  • Ennill profiad ymarferol ar becynnau meddalwedd safon diwydiant, gan gynnwys Arduino, Raspberry Pi, MATLAB a Simulink, Multisim ac Ultiboard, Texas Instruments Code Composer Studio, Microchip MPLAB, Keysight Vee Pro a meddalwedd Siemens Step 7.
  • Mae cysylltiadau cryf gyda diwydiant yn darparu cyfleoedd i ymweld â chwmnïau lleol a rhanbarthol i ennill profiad gwaith amhrisiadwy yn y diwydiant peirianneg.
  • Ffocws ar arbenigeddau Pŵer, Electroneg, Offeryniaeth a Rheoli.
  • Canolfan cymorth mathemateg bwrpasol ar gyfer myfyrwyr.
  • Mae’r rhaglen radd yma wedi ei hachredu gan Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg (IET), gan helpu i wella cyflogadwyedd graddedigion.
 

Beth fyddwch chin ei astudio

BLWYDDYN 1 (BLWYDDYN SYLFAEN)

Mae’r flwyddyn sylfaen yn darparu sail ym mhob agwedd o Beirianneg a Dylunio er mwyn eich paratoi ar gyfer blynyddoedd pellach o astudio.

MODIWLAU 

  • Dulliau Dadansoddi ar gyfer Peirianneg
  • Dylunio a Thechnoleg
  • Gwyddoniaeth Fecanyddol
  • Gwyddoniaeth Drydanol ac Electronig
  • Y Sgiliau Sydd eu Hangen Arnoch
  • Astudiaethau Cyd-destunol

BLWYDDYN 2 (LEFEL 4)

Bydd modiwlau lefel 4 yn gosod y sylfaeni ar gyfer gweddill eich rhaglen gradd ac yn eich arfogi gyda’r sgiliau damcaniaethol ac ymarferol sydd eu hangen arnoch i gwblhau’n llwyddiannus y blynyddoedd astudio sydd yn weddill gennych.

MODIWLAU

  • Mathemateg Beirianyddol
  • Cyflwyniad i Wyddoniaeth Drydanol a Mecanyddol
  • CAD a Gwyddoniaeth Cynhyrchu
  • Datblygiad Proffesiynol Peirianneg
  • Datrys Problemau gyda Rhaglennu
  • Electroneg Analog a Digidol

BLWYDDYN 3 (LEFEL 5)

Yn y flwyddyn hon byddwch yn arbenigo yn y llwybr o’ch dewis. Byddwch yn astudio cyfuniad o fodiwlau craidd a naill ai’r modiwlau trydanol neu electronig ar lefel 5, yn ddibynnol ar y llwybr astudio a ddewiswyd gennych. 

MODIWLAU

  • Peirianneg Bellach Mathemateg
  • Dyfodol Peirianneg – Ymchwil, Moeseg a Chynaliadwyedd
  • Dylunio System Reoli Deallus
  • Peirianneg Pŵer Trydanol
  • Automations Diwydiannol & PLCs
  • Systemau Mewnblanedig

BLWYDDYN 4 (LEFEL 6)

Bydd ffocws eich blwyddyn olaf ar eich prosiect peirianneg dan oruchwyliaeth. Bydd hyn yn gyfle ichi ddangos y sgiliau peirianneg rydych wedi eu datblygu yn y blynyddoedd blaenorol. Bydd gweddill y credydau lefel 6 ar gyfer eich blwyddyn olaf yn dod naill ai o fodiwlau trydanol neu electronig, yn ddibynnol ar y llwybr astudio a ddewiswyd gennych. 

MODIWLAU

  • Prosiect (40 credyd)
  • Peirianneg Broffesiynol
  • Dylunio a Phrofi Electronig
  • Prosesu Signal Digidol

Y Llwybr Electronig (dewisol)

  • Cyfathrebu ac Antenau Di-wifr

Y Llwybr Trydanol (dewisol)

  • Electroneg Pŵer a Pheiriannau Trydanol 

Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.

Gofynion mynediad a gwneud cais

Ein gofynion cyffredinol ar gyfer y flwyddyn sylfaen yw 48-72 pwynt tariff UCAS ond rydym yn ystyried pob ymgeisydd yn unigol ac yn ystyried profiad gwaith, hyfforddiant/cymwysterau galwedigaethol, yn ogystal â chymhelliant a’r potensial i lwyddo.

 

Addysgu ac Asesu

Defnyddir nifer o ddulliau asesu; ymysg y rhain mae profion cyfnodol, aseiniadau ysgrifenedig, gwaith ymarferol ar gyfrifiaduron, portffolio o waith, coflyfrau, cyflwyniadau ac astudiaethau achos o  waith labordy, a CAD. Gall cyfuniad o’r gwaith yma ffurfio rhan o’ch asesiad, ochr yn ochr ag arholiadau dan gyfyngiad amser. Mae pob modiwl yn cael ei asesu drwy ddulliau amrywiol, gan alluogi’r myfyrwyr i ddangos eu llawn botensial. Bydd traethawd estynedig yn ffurfio un o rannau terfynol eich asesiad.

DYSGU AC ADDYSGU

Mae Prifysgol Wrecsam wedi ymrwymo i gefnogi ein myfyrwyr i wneud y gorau o’u potensial academaidd. Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol, a pharatoi ar gyfer aseiniadau.

Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sydd yno i gynorthwyo gydag agweddau ymarferol o waith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth myfyrwyr fwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael.

O ran anghenion penodol, gall gwasanaethau cynhwysiant y Brifysgol ddarparu arweiniad a chymorth priodol os bydd angen addasiadau rhesymol ar unrhyw fyfyriwr oherwydd anabledd cyfredol a gydnabyddir, cyflwr meddygol neu wahaniaeth dysgu penodol.

 

 

Rhagolygon gyrfaol

Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.

Mae’r cwrs yn eich arfogi gyda gwybodaeth a sgiliau trylwyr mewn peirianneg sydd ar flaen y gad pan ddaw hi i dechnolegau newydd a’r rhai sy’n dod i’r amlwg. Bydd gan raddedigion y fantais o ddod yn arbenigwyr pwnc yn y diwydiant neu fynd ar drywydd gyrfaoedd ymchwil yn y byd academaidd.

Mae yna brinder peirianwyr trydanol/electronig cymwys yn y DU ar hyn o bryd. O ganlyniad bydd cymhwyster yn y maes hwn yn eich gwneud yn ddeniadol i gyflogwyr ar unwaith. Bydd gennych y sgiliau i gyfrannu i’r gwaith o ddylunio a datblygu systemau a phrosesau electronig. Mae cyfleoedd cyflogaeth ar gael yn y diwydiant awyrofod mewn systemau offeryniaeth electronig (lefel technegydd neu beiriannydd) neu yn y lluoedd arfog.  

 

Ffioedd a chyllid

Nid oes rhaid i chi dalu eich ffioedd dysgu ymlaen llaw.

Bydd y ffioedd rydych yn eu talu a'r cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn y mae eich ffioedd yn ei gynnwys yn y Cwestiynau Cyffredin ffioedd. 

Mae'r holl ffioedd yn ddarostyngedig i unrhyw newidiadau ym mholisi'r llywodraeth, edrychwch ar ein ffioedd israddedig.

Manyleb y rhaglen

Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma.

 

Llety

Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran Llety am fwy o wybodaeth, gan gynnwys prisiau.

I gael mwy o wybodaeth am eich opsiynau, gan gynnwys ein neuaddau preswyl ar Pentref Wrecsam.

 

Yn amodol ar ail-ddilysu

Fel rhan o’i phroses barhaus o sicrhau a gwella ansawdd, mae’r Brifysgol yn adolygu ei chyrsiau yn rheolaidd i sicrhau eu bod yn adlewyrchu anghenion myfyrwyr a chyflogwyr. Pob yn bum mlynedd mae angen cynnal adolygiad cyfnodol o’r holl raglenni cyfredol, ac mae’n bosib y bydd newidiadau sylweddol yn cael eu gwneud i raglenni yn ystod y broses o ail-ddilysu.

Mae’r rhan fwyaf o gyrsiau sydd yn ‘amodol ar ail-ddilysu’ yn cael eu cymeradwyo gan y broses ddilysu; fodd bynnag, ni warantir hyn, ac os na fydd cwrs yn mynd rhagddo yn ôl y bwriad, neu’n cael ei newid yn sylweddol, cewch eich hysbysu gan y brifysgol a rhoddir cymorth i’r bobl hynny sydd wedi cael cynnig lle i ganfod cwrs amgen addas naill ai ym Mhrifysgol Wrecsam neu gyda darparwr arall.