Two students wearing safety goggles working under the bonnet of a car

Manylion cwrs

Côd UCAS

H431

Blwyddyn mynediad

2024, 2025

Hyd y cwrs

3 BL (llawn-amser)

Tariff UCAS

80-112

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Wrecsam

*Yn amodol ar ail-ddilysu

Course Highlights

Addysgu

perthnasol i'r diwydiant.

Mynediad

i weithdy chwaraeon modur arbenigol.

Gradd sy'n canolbwyntio ar yrfa

gyda chyfle am Ardystiad Catia* .

Pam dewis y cwrs hwn?

Mae'r radd anrhydedd hon wedi ei ddylunio ar gyfer y diwydiant modurol mewn ymateb i'r diffyg mewn peirianwyr mecanyddol. Mae’r cwrs ar gyfer y rhai hynny sydd â diddordeb cryf mewn peirianneg fecanyddol ac awydd clir i ddatblygu eu gwybodaeth a'u sgiliau mewn peirianneg fodurol.

Mae’r cwrs yn archwilio peirianneg, dyluniad, dadansoddiad a datblygiad ceir modern yn llawn, gan ddefnyddio ceir rasio amrywiol i gefnogi'r addysgu. Mae hefyd yn rhoi pwyslais ar ddysgu sgiliau trosglwyddadwy sy’n gymwys ar gyfer nifer o ddiwydiannau eraill.

Gallwch ddewis astudio’r cwrs yma gyda blwyddyn sylfaen BEng Anrh Peirianneg Fodurol (gyda blwyddyn sylfaen) Cod UCAS: H331

Peirianneg ym Mhrifysgol Wrecsam

Meddwl am yrfa mewn Peirianneg? Clywch gan ddarlithwyr a myfyrwyr am ein graddau Peirianneg ym Mhrifysgol Wrecsam.

Prif nodweddion y cwrs

Byddwch yn: 

  • cael mynediad at weithdy chwaraeon modur arbenigol yn ogystal â gweithdy cynhyrchu o safon diwydiant i gael profiad o ddefnyddio peiriannau. 
  • cael cyfle i weithio ar brosiectau amrywiol sy'n esblygu'n barhaus. Mae prosiectau cyfredol yn cynnwys: car ras wedi'i bweru gan feiciau un sedd, Westfield SEi, Renault 5 RWD Electric, Toyota Auris hybrid ymysg llawer o rai eraill) * yn amodol ar newid. Mae myfyrwyr hefyd yn rhedeg tîm Formula Student ar hyn o bryd. 
  • astudio yn un o ddau ddarparwr addysg yn y DU sy'n ganolfannau Ardystio Catia swyddogol, sy'n golygu bod myfyrwyr yn gallu ennill Ardystiad Catia yn ogystal â'u hastudiaethau gradd. (*Mae'n ofynnol i fyfyrwyr dalu ffi Ardystio o £50).  

Beth fyddwch chin ei astudio

BLWYDDYN 1 (LEFEL 4)

Mae'r rhan helaeth o'r wybodaeth sylfaenol beirianneg yn cael ei chyflwyno/ei hadolygu a'i ehangu ar hyn o bryd. Dilynir yr holl ddarlithoedd gan diwtorialau ac arddangosiadau ymarferol/arddangosiadau er mwyn sicrhau eich bod yn cymhathu'r wybodaeth yn llawn.

MODIWLAU:

  • Gwyddoniaeth Fecanyddol
  • Gwyddoniaeth Drydanol
  • Dulliau a Deunyddiau Labordy
  • Mathemateg Peirianneg
  • Cyflwyniad i Ddylunio ac Ymarfer Peirianneg

 

 

  • Gwyddoniaeth drydanol a mecanyddol 
  • CAD, Gwyddor Cynhyrchu  
  • Datblygiad proffesiynol 
  • Deunyddiau, yr Amgylchedd, Mathemateg
  • Systemau Modurol


BLWYDDYN 2 (LEFEL 5)

Ar y lefel hon, byddwch yn cael eich annog i weithio a dysgu'n fwy annibynnol. Rydym nid yn unig yn eich paratoi i fod yn ymarferydd gwybodus, ond rydym hefyd yn eich paratoi i ddod yn ddatryswr problemau dibynadwy ac annibynnol. 

MODIWLAU:

  • Busnes a Datblygu Ymchwil
  • Motor Tanio Mewnol: Theori a Thechnoleg
  • Dylunio Modurol
  • Mathemateg Peirianneg Pellach
  • Dynameg Peirianneg a Mecanweithiau a Dylunio Peirianneg
  • Strwythurau, Dadansoddi Methiant a Dadansoddiad Elfennau Meidraidd (FEA)

 

  • Ymchwil, Moeseg, a Chynaliadwyedd *
  • Mecaneg, Strwythurau ac FEA * 
  • Gweithgynhyrchu trwy Gymorth Cyfrifiadur *
  • Dylunio Modurol*
  • Powertrains & Hylifau*
  • Technegau dadansoddol *

BLWYDDYN 3 (LEFEL 6)

Yn y flwyddyn olaf hon o'r radd, mae'r semester cyntaf yn gyffredinol yn canolbwyntio ar ddatblygu gwybodaeth fodurol benodol. Bydd eich prosiect unigol yn caniatáu ichi arbenigo ymhellach mewn maes o'ch dewis. Ar ddiwedd hyn, byddwch yn beiriannydd graddedig yn barod ar gyfer y diwydiant! 

MODIWLAU:

  • Siasis, Peiriannau a Phwerwaith Ceir Perfformio
  • Dadansoddi Dirgryniad a Strwythurau
  • Aerodynameg a CFD 
  • Cyflogadwyedd ac Entrepreneuriaeth
  • Prosiect blwyddyn olaf (traethawd estynedig unigol)

 

  • Modelu ac Efelychu Peirianneg*
  • Dynameg Modurol*
  • Powertrains Modurol Modern*
  • Prosiect *

Dewisol  

  • Peirianneg Broffesiynol*
  • Ymarfer Chwaraeon Modur *

Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.

Gofynion mynediad a gwneud cais

Ein gofynion mynediad academaidd ar gyfer cwrs yw 80-112 pwynt tariff UCAS ar TAG Safon Uwch neu gyfatebol, gan gynnwys Mathemateg a Ffiseg.

Addysgu ac Asesu

Defnyddir nifer o ddulliau asesu; mae'r rhain yn cynnwys ymarferion seiliedig ar dasgau, cyflwyniadau llafar a phoster, traethodau ac adroddiadau labordy ac arholiadau ysgrifenedig. Asesir pob modiwl trwy amrywiaeth o ddulliau, gan alluogi myfyrwyr i ddangos eu llawn botensial. Bydd traethawd estynedig y prosiect yn ffurfio un o rannau terfynol eich asesiad.

DYSGU AC ADDYSGU

Mae'r dulliau addysgu yn cynnwys darlithoedd, sesiynau labordy, seminarau a arweinir gan fyfyrwyr a gwaith ymchwil dan arweiniad.

Mae dysgu annibynnol yn agwedd bwysig o'r holl fodiwlau, am ei fod yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau pwnc penodol a'u sgiliau allweddol. Mae dysgu annibynnol yn cael ei hyrwyddo drwy astudiaeth dan arweiniad neu drwy'r adborth a roddir i fyfyrwyr.

Mae Prifysgol Wrecsam wedi ymrwymo i roi cymorth i'n myfyrwyr i'w galluogi i gyflawni eu potensial academaidd i'r eithaf.

Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sy'n ymroddedig i helpu myfyrwyr i delio ag agweddau ymarferol gwaith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth i fyfyrwyr fwy o wybodaeth ar y cymorth sydd ar gael.

O ran anghenion penodol, gall Gwasanaethau Cynhwysiant y Brifysgol ddarparu arweiniad a chymorth priodol os bydd angen addasiadau rhesymol ar unrhyw fyfyriwr oherwydd anabledd cyfredol a gydnabyddir, cyflwr meddygol neu wahaniaeth dysgu penodol.

Rhagolygon gyrfaol

Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.

Mae’r amrywiaeth gyffrous o ddewisiadau gyrfa sydd ar gael i chi pan fyddwch yn graddio yn cynnwys gweithio gyda gweithgynhyrchwyr ceir a’u rhwydwaith gyflenwi, ymchwilio a datblygu cerbydau modur, gwaith ymgynghori, rheoli peirianneg, dylunio moduron, yn ogystal ag yn y diwydiant chwaraeon modur.

Mae prinder cenedlaethol o beirianwyr sydd â chymwysterau llawn yn y diwydiant moduron; drwy fod â gradd mewn technoleg cerbydau byddwch yn rhagori ar y rhelyw pan ddaw hi i chwilio am waith.

Mae cyfleoedd yn cynnwys (ond nid ydynt yn gyfyngedig i):

  • dynameg car rasio
  • electroneg chwaraeon modurol
  • peirianneg y ffrâm
  • strwythurau ceir rasio
  • technolegau electronig
  • peiriannau perfformio.

Ffioedd a chyllid

Nid oes rhaid i chi dalu eich ffioedd dysgu ymlaen llaw.

Bydd y ffioedd rydych yn eu talu a'r cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn y mae eich ffioedd yn ei gynnwys yn y Cwestiynau Cyffredin ffioedd. 

Mae'r holl ffioedd yn ddarostyngedig i unrhyw newidiadau ym mholisi'r llywodraeth, edrychwch ar ein ffioedd israddedig.

Manyleb y rhaglen

Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma

Llety

Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran Llety am fwy o wybodaeth, gan gynnwys prisiau.

I gael mwy o wybodaeth am eich opsiynau, gan gynnwys ein neuaddau preswyl ar Pentref Wrecsam.

Yn amodol ar ail-ddilysu

Fel rhan o’i phroses barhaus o sicrhau a gwella ansawdd, mae’r Brifysgol yn adolygu ei chyrsiau yn rheolaidd i sicrhau eu bod yn adlewyrchu anghenion myfyrwyr a chyflogwyr. Pob yn bum mlynedd mae angen cynnal adolygiad cyfnodol o’r holl raglenni cyfredol, ac mae’n bosib y bydd newidiadau sylweddol yn cael eu gwneud i raglenni yn ystod y broses o ail-ddilysu.

Mae’r rhan fwyaf o gyrsiau sydd yn ‘amodol ar ail-ddilysu’ yn cael eu cymeradwyo gan y broses ddilysu; fodd bynnag, ni warantir hyn, ac os na fydd cwrs yn mynd rhagddo yn ôl y bwriad, neu’n cael ei newid yn sylweddol, cewch eich hysbysu gan y brifysgol a rhoddir cymorth i’r bobl hynny sydd wedi cael cynnig lle i ganfod cwrs amgen addas naill ai ym Mhrifysgol Wrecsam neu gyda darparwr arall.