A group of students assemble balloons as part of a classroom task

Manylion cwrs

Côd UCAS

CWE6

Blwyddyn mynediad

2024, 2025

Hyd y cwrs

1 BL (llawn-amser) 2 BL (rhan-amser)

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Wrecsam

Course Highlights

Dysgu ar-lein 100%

gyda chyfarfodydd cymorth ar-lein wythnosol

Ychwanegwch

at eich cymhwyster i radd BA.

Datblygwch eich dealltwriaeth

a’ch ymarfer mewn Astudiaethau Plentyndod ac Addysg.

Pam dewis y cwrs hwn?

Mae’r cwrs BA (Anrh) Plentyndod, Lles ac Addysg (cwrs atodol lefel 6) yn gyfle cyffrous i fynd â’ch dealltwriaeth a’ch ymarfer Astudiaethau Plentyndod ac Addysg i’r lefel nesaf.

Mae’r rhaglen yn:

  • cael ei chynnig i chi fel rhaglen e-ddysgu wedi'i chefnogi'n llawn
  • annog astudiaeth annibynnol
  • dwysau gwybodaeth a dealltwriaeth academaidd
  • gellir astudio’r rhaglen dros flwyddyn neu ddwy flwyddyn yn dibynnu ar eich ymrwymiadau gwaith a theulu.

 

Prif nodweddion y cwrs

  • Astudiwch yn eich cartref eich hun, gyda'r hyblygrwydd i drefnu astudio o gwmpas eich ymrwymiadau gwaith a bywyd.
  • Ymunwch â chwrs deniadol sy'n gwerthfawrogi cyfathrebu a chymorth lle mae ein tiwtoriaid yn ymarferol ac ar gael yn rhwydd. 
  • Mae gennym dîm profiadol, cyfeillgar a chefnogol sy'n deall heriau cydbwyso astudio gydag ymrwymiadau gwaith a theulu.
  • Rydym yn croesawu myfyrwyr sy'n gweithio y tu allan i'r DU, gyda deunyddiau cwrs ac aseiniadau wedi'u hysgrifennu i alluogi myfyrwyr i ddod â'u cyd-destun a'u profiadau eu hunain i'r cwrs. 

Beth fyddwch chin ei astudio

MODIWLAU

  • Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd - Nod y modiwl hwn yw codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o rolau a chyfrifoldebau'r rhai sydd yn gweithio gyda phlant anabl, pobl ifanc a theuluoedd. Bydd myfyrwyr yn datblygu eu gwybodaeth o ymarfer cynhwysol, strategaethau ac ymyriadau i gefnogi plant gydag Anghenion Addysgol Arbennig ac Anableddau mewn ymarfer.
  • Y Plentyn Byd-eang - Nod y modiwl hwn yw archwilio cysyniadau'r ‘plentyn byd-eang’ a globaleiddio drwy ystod o safbwyntiau damcaniaethol perthnasol i brofiadau byd-eang plant yn y Gogledd Byd-eang a'r De Byd-eang. Byddwch yn archwilio profiadau plant o addysg, llafur plant, bod ‘allan o le’ a phlant mewn rhyfel. 
  • Cyfiawnder Cymdeithasol, Cydraddoldeb ac Amrywiaeth - Nod y modiwl hwn yw archwilio pwysigrwydd cyfiawnder cymdeithasol, cydraddoldeb ac amrywiaeth mewn cysylltiad â phlant a phlentyndod mewn cymdeithas. Byddwch yn archwilio cyd-destun cyfreithiol cyfiawnder cymdeithasol, cydraddoldeb ac amrywiaeth, yn genedlaethol a rhyngwladol, a datblygu dealltwriaeth o sut caiff y rhain ei gweithredu ar draws cymdeithas ac yng ngwagleoedd a mannau plentyndod.
  • Dadleuon Allweddol ynghylch Plentyndod Heddiw - Nod y modiwl hwn yw datblygu sgiliau astudio annibynnol er mwyn i'r myfyriwr ddewis ac archwilio'n feirniadol dadl allweddol ynghylch plentyndod drwy lens disgyrsiau plentyndod.
  • Prosiectau ymchwil – Nod y modiwl hwn yw cefnogi myfyrwyr i gynnal a chofnodi prosiect ymchwil ar raddfa fechan, sydd yn canolbwyntio ar agwedd o Blentyndod, Lles neu Addysg o’u dewis.

Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.

Gofynion mynediad a gwneud cais

FdA wedi ei gwblhau mewn pwnc tebyg i Astudiaethau Plentyndod neu Addysg Blynyddoedd Cynnar o Brifysgol Wrecsam.

FdA cyfatebol mewn pwnc tebyg i Astudiaethau Plentyndod neu Addysg Blynyddoedd Cynnar o Brifysgol yn y DU.

neu

Cyfanswm o 240 credyd Addysg Uwch (lefel 4/5) mewn pwnc tebyg i Astudiaethau Plentyndod neu Addysg Blynyddoedd Cynnar o Brifysgol Wrecsam neu o Brifysgol arall yn y DU.

Addysgu ac Asesu

Bydd y BA (Anrh) Plentyndod, Lles ac Addysg (lefel 6 atodol) yn cael ei gyflwyno ar-lein gan ddefnyddio amgylchedd rhith-ddysgu Prifysgol Wrecsam - Moodle. Mae hon yn wefan hunangynhwysol hawdd ei defnyddio sy'n galluogi mynediad i fyfyrwyr i ddeunyddiau cwrs, tiwtoriaid a myfyrwyr eraill ar draws y rhaglen. Rydym yn annog cyfathrebu ac mae gennym gymuned brysur o fyfyrwyr ar-lein sy'n rhannu eu profiadau o weithio gyda phlant mewn rolau amrywiol. Rydym yn defnyddio gwahanol ddulliau o gadw mewn cysylltiad gan gynnwys cynadledda ar-lein, ystafelloedd sgwrs, e-byst, negeseua a ffonio/Skype.

Dyluniwyd y rhaglen i gynnig hyblygrwydd i drefnu astudio o amgylch ymrwymiadau teulu a gwaith. Fodd bynnag mae myfyrwyr yn gweithio o fewn strwythur cwrs i annog cymhelliad a chwblhad. Mae deunyddiau pob sesiwn yn cael eu trin dros gyfnod penodol i alluogi myfyrwyr i ddatblygu eu patrymau astudio eu hunain h.y. dydd, nosweithiau, penwythnosau. Bydd pob sesiwn yn ymgysylltu â myfyrwyr drwy amrywiaeth o ffyrdd o ddarllen i fideo, podlediad, sgrinlediad ac archwilio'r we. Bydd myfyrwyr hefyd yn ymgysylltu mewn trafodaeth o gwmpas pynciau sesiwn gan ddefnyddio amrywiaeth o fforymau sgwrs.

Ar lefel 6 disgwylir i fyfyrwyr bontio i ddysgu mwy annibynnol ac i reoli asesiadau gyda mwy o gymhlethdod a chwmpas.

O fewn y radd y prif fathau o asesiad yw:

  • Traethawd
  • Adroddiad cymharol
  • Adolygiad Llenyddiaeth
  • Prosiect Ymchwil

Mae adborth a blaenborth o ansawdd uchel yn cael ei roi i fyfyrwyr sy'n astudio ar-lein i fwyhau eu cyflawniad cyffredinol. Bydd myfyrwyr yn cael adborth ysgrifenedig ar gyfer pob darn o waith a chael cyfle i drafod gyda'u cyfoedion a thiwtoriaid. Cyflwynir adborth mewn ffordd sy'n galluogi myfyrwyr i weld sut mae eu gwaith academaidd yn symud ymlaen drwy'r flwyddyn.

Dysgu ac addysgu

Mae Prifysgol Wrecsam wedi ymrwymo i gefnogi ein myfyrwyr i wneud y gorau o’u potensial academaidd.

Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol, a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sydd yno i gynorthwyo gydag agweddau ymarferol o waith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth myfyrwyr fwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael.

O ran anghenion penodol, gall Gwasanaethau Cynhwysiant y Brifysgol ddarparu arweiniad a chymorth priodol os bydd angen addasiadau rhesymol ar unrhyw fyfyriwr oherwydd anabledd cyfredol a gydnabyddir, cyflwr meddygol neu wahaniaeth dysgu penodol.

Rhagolygon gyrfaol

Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.

Mae hwn yn faes astudio amserol iawn gan fod polisi a deddfwriaeth bresennol yn golygu bod galw am arbenigwyr yn y gweithlu plant. Nod y radd hon yw'ch datblygu ymhellach fel gweithiwr proffesiynol yn eich maes dewisol. Mae llawer o'n myfyrwyr sy'n astudio’r radd wedi dringo'r ysgol yrfa drwy ddyrchafiad ac astudiaeth bellach i rolau dysgu, cynghori ac uwch.

Ffioedd a chyllid

Nid oes rhaid i chi dalu eich ffioedd dysgu ymlaen llaw.

Bydd y ffioedd rydych yn eu talu a'r cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn y mae eich ffioedd yn ei gynnwys yn y Cwestiynau Cyffredin ffioedd. 

Mae'r holl ffioedd yn ddarostyngedig i unrhyw newidiadau ym mholisi'r llywodraeth, edrychwch ar ein ffioedd israddedig.

Manyleb y rhaglen

 Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma.

 

Llety

Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran Llety i gael mwy o wybodaeth am eich opsiynau, gan gynnwys ein neuaddau preswyl ar y Pentref Wrecsam.

 

childcare student

Addysg Mhrifysgol Wrecsam