BSc (Anrh) Plismona Proffesiynol
Manylion cwrs
- Côd UCAS243H
- Blwyddyn mynediad 2023, 2024
- Hyd y cwrs 3 BL (Llawn amser) 4-6 BL (Rhan amser)
- Tariff UCAS 80-112
- Côd y sefydliad G53
- Lleoliad Wrecsam

Course Highlights
1af yn y DU
am ansawdd yr addysgu (Times and Sunday Times Good University Guide 2022)
1af yn y DU
ar gyfer boddhad myfyrwyr (Complete University Guide 2022).
1af yng Nghymru
yn gyffredinol yn nhablau cynghrair pwnc Troseddeg (The Guardian University Guide 2022)
Pam dewis y cwrs hwn?
Wrth i heddluoedd Lloegr a Chymru geisio addasu i gwrdd galwadau'r 21ain ganrif, darganfyddwch radd drwyadl wedi'i ddatblygu mewn partneriaeth gyda heddluoedd amrywiol yn y DU.
Bydd y cwrs yma yn:
- Cyfuno dysgu seiliedig ar senario yn efelychu sefyllfaoedd plismona gyda darlithoedd a seminarau wedi'u dysgu gan staff academaidd profiadol a swyddogion heddlu profiadol wedi ymddeol
- Cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr i ddatblygu eu gwybodaeth academaidd a sgiliau mewn plismona
Bydd myfyrwyr yn:
- Yn datblygu gwybodaeth o'r system cyfiawnder troseddol ehangach
- Yn arddangos sgiliau uwch mewn delio'n effeithiol a sensitif gydag aelodau'r cyhoedd
- Wrth gwblhau'r cwrs, gyda'r wybodaeth gyfreithiol a phlismona angenrheidiol a'r sgiliau craidd trosglwyddadwy i gwrdd â gofynion gweithredol y gwasanaeth heddlu
- *astudio mewn maes pwnc a raddiwyd yn 1af yn y DU ar gyfer boddhad myfyrwyr yn nhablau cynghrair pwnc Cymdeithaseg, Complete University Guide 2022
- *astudio cwrs sy'n rhan o faes pwnc Cymdeithaseg CAH3 dyfarnwyd yn 2il o brifysgolion y DU ar gyfer addysgu yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2021. Dyfarnwyd hefyd yn 1af o brifysgolion Cymru ar gyfer cyfleoedd dysgu, asesu ac adborth, cefnogaeth academig, trefniant a rheolaeth, cymuned dysgu, llais myfyriwr, undeb myfyrwyr a boddhad cyffredinol yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2021.
- *astudio cwrs sy'n rhan o faes pwnc a raddiwyd yn 4ydd yn y DU ac yn 1af yng Nghymru yn gyffredinol yn nhablau cynghrair pwnc Troseddeg, The Guardian University Guide 2022. Graddiwyd y maes pwnc yn 1af yn y DU am foddhad ag addysgu, 1af yn y DU am foddhad gyda’r cwrs ac yn 1af yn y DU am foddhad ag asesiad yn yr un tablau cynghrair.
- *astudio cwrs sy'n rhan o faes pwnc a raddiwyd yn 1af yn y DU am ansawdd yr addysgu ac yn 1af yng Nghymru am brofiad y myfyriwr yn nhablau cynghrair pwnc Troseddeg, Times and Sunday Times Good University Guide 2022.






Plismona Yn PGW
Gwyliwch i glywed gan fyfyrwyr ar ein BSc (Anrh) Plismona Proffesiynol
Prif nodweddion y cwrs
- Yn cyfarparu myfyrwyr gyda gwybodaeth, dealltwriaeth, sgiliau a thechnegau sydd yn hynod berthnasol i gyflogaeth fel Cwnstabl Heddlu ac mewn rolau plismona eraill.
- Addysgwyd y cwrs gan academyddion ymchwil-weithgar ac ymarferwyr gyda chefndir yn yr Heddlu a Phlismona.
- Bydd myfyrwyr yn adeiladu rhwydweithiau cryf a chynaliadwy gyda'r mudiadau gwasanaeth cyhoeddus a trydydd sector sy'n ymwneud a phlismona ar gyfer datblygiad proffesiynol a phersonol.
- Agwedd rhyngweithiol cymysg i addysgu.
- Alch o weithio gyda Heddlu Gogledd Cymru, Heddlu Dyfed-Powys, Heddlu Gorllewin Mersia, Heddlu Dyffryn Tafwys a Heddlu Dinas Llundain.
- Yn datblygu gwybodaeth berthnasol i berfformiad proffesiynol y rôl cwnstabl heddlu, yn galluogi dysgwyr sydd wedyn yn cael eu recriwtio i'r gwasanaeth heddlu i ddilyn gyrfa fel cwnstabl heddlu.
- Mewn maes pwnc cafodd ei ddyfarnu'n gyntaf yn y DU am foddhad myfyrwyr, Complete University Guide 2022.
- *Mae’r cwrs hwn yn rhan o faes pwnc a raddiwyd yn 4ydd yn y DU ac yn 1af yng Nghymru yn gyffredinol yn nhablau cynghrair pwnc Troseddeg, The Guardian University Guide 2022. Graddiwyd y maes pwnc yn 1af yn y DU am foddhad ag addysgu, 1af yn y DU am foddhad gyda’r cwrs ac yn 1af yn y DU am foddhad ag asesiad yn yr un tablau cynghrair. *
- Mae’r cwrs hwn yn rhan o faes pwnc a raddiwyd yn 1af yn y DU am ansawdd yr addysgu ac yn 1af yng Nghymru am brofiad y myfyriwr yn nhablau cynghrair pwnc Troseddeg, Times and Sunday Times Good University Guide 2022
Beth fyddwch chin ei astudio
BLWYDDYN 1 (LEFEL 4)
MODIWLAU
- Sgiliau Astudio mewn Addysg Uwch
- Deall Rôl Cwnstabl Heddlu
- Gwerthfawrogi Gwahaniaeth a Chynnal Safonau Proffesiynol
- Gwneud Penderfyniadau a Doethineb
- Cyfiawnder Troseddol
BLWYDDYN 2 (LEFEL 5)
MODIWLAU
- Gwybodaeth a Chudd-wybodaeth
- Plismona'n Seiliedig ar Dystiolaeth & Datrys Problemau
- Plismona'r Ffyrdd
- Plismona Digidol a Gwrth-Derfysgaeth
- Dulliau a Sgiliau Ymchwil
- Plismona Ymateb
BLWYDDYN 3 (LEFEL 6)
MODIWLAU
- Ymchwiliad Heddlu
- Gwendid a Risg
- Diogelu'r Cyhoedd
- Plismona Cymunedau Cyfoes
- Prosiect Ymchwil
Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.
Gofynion mynediad a gwneud cais
Y gofynion lleiaf yw:
1) 80-112 pwynt UCAS neu gyfatebol e.e. Llwyddo rhaglen Mynediad i Addysg Uwch gyda 15 credyd lefel 2, 45 credyd lefel 3 i gael eu graddoli yn dilyn y rheolau cyfuno canlynol: 6 Rhagoriaeth, 33 teilyngdod, 6 llwyddo; ac
2) Mae'n rhaid i'r ymgeisydd ddangos yn eu datganiadu personol UCAS eu bod yn barod i ymgymryd ag Addysg Uwch a'r cymhelliant, yn enwedig, i ymgymryd â gradd BSc (Anrh) Plismona.
Neu
1) Mae mynediad i'r radd hefyd yn bosibl lle y mae ymgeisydd yn gallu dangos y bydd dysgu blaenorol ac/neu drwy brofiad yn eu galluogi i ymdopi â gofynion academaidd a phroffesiynol y rhaglen.
Yn amodol ar argaeledd lleoedd, byddai ymgeiswyr sy'n bodloni unrhyw un o'r gofynion hyn yn derbyn cynnig am gyfweliad. Yn y cyfweliad edrychir ymhellach ar barodrwydd yr ymgeiswyr i ymgymryd ag Addysg Uwch a'u cymhelliant a'u cymhwysedd arddangosiadol i i ymgymryd â gradd Plismona.
Addysgu ac Asesu
Caiff aseiniadau eu gosod o flaen llaw ac yn cael eu darparu i fyfyrwyr mewn llawlyfrau modiwlau a'u marcio a'u dychwelyd drwy e-bost. Mae myfyrwyr yn cael adborth electronig ac ar lafar ar yr holl asesiadau o fewn terfyn amser priodol a bennir gan reoliadau'r Brifysgol (pedair wythnos ar hyn o bryd).
Mae meini prawf asesu yn cael eu cyhoeddi yn llawlyfr rhaglenni'r myfyrwyr sy'n cael eu dosbarthu ar ddechrau'r flwyddyn academaidd. Er mwyn cynnal dull gweithredu lle gallu myfyrwyr ddatblygu eu diddordebau eu hunain ac yn cyfeirio at eu profiadau eu hunain gellir ateb cwestiynau llawer o'r aseiniadau o wahanol safbwyntiau.
Mae'r rhaglen yn cynnwys ystod o asesiadau gan gynnwys traethodau, arholiadau, cyflwyniadau a chwarae rôl.
Dysgu ac addysgu
Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi ymrwymo i gefnogi ein myfyrwyr i wneud y gorau o’u potensial academaidd. Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol, a pharatoi ar gyfer aseiniadau.
Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sydd yno i gynorthwyo gydag agweddau ymarferol o waith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth myfyrwyr fwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael.
O ran anghenion penodol, gall Gwasanaethau Cynhwysiant y Brifysgol ddarparu arweiniad a chymorth priodol os bydd angen addasiadau rhesymol ar unrhyw fyfyriwr oherwydd anabledd cyfredol a gydnabyddir, cyflwr meddygol neu wahaniaeth dysgu penodol.
Rhagolygon gyrfaol
Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.
Mae'r rhaglen wedi ei chynllunio'n benodol i ddarparu ar gyfer y bobl hynny sy'n dymuno dod yn swyddogion yr heddlu. Tra nad yw cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus yn gwarantu cael eich penodi'n Gwnstabl Rheolaidd, mae'n galluogi myfyrwyr i wneud cais credadwy ar gyfer swydd o'r fath wrth iddynt godi. Mae hyn oherwydd y dylai cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus gynnig statws yn erbyn y gofynion hyfforddi a osodir gan heddluoedd/gwasanaethau unigol yn ystod cyfnodau prawf o gyflogaeth.
Ar gyfer y rhai hynny nad ydynt eisiau dod yn swyddog heddlu gwarantedig, ond sydd eisiau gweithio o fewn plismona, bydd y rhaglen hon yn darparu cymhwyster academaidd cref i gefnogi'r fath ddewis yrfaol.
Ffioedd a chyllid
Nid oes rhaid ichi dalu'ch ffioedd hyfforddi ymlaen llaw.
Mae ffioedd dysgu 2022/23 Prifysgol Glyndŵr Wrecsam ar gyfer cwrs gradd israddedig amser llawn yw £9000 y flwyddyn.
Bydd y ffioedd rydych chi'n eu talu a'r cymorth ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Ceir gwybodaeth gyflawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid.
Manyleb y rhaglen
Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma.
Llety
Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran Llety i gael mwy o wybodaeth am eich opsiynau, gan gynnwys ein neuaddau preswyl ar y Pentref Wrecsam.
Rhyngwladol
I gael gwybodaeth am ofynion mynediad y brifysgol ar gyfer myfyrwyr UE/rhyngwladol, os gwelwch yn dda ewch i'r adran ryngwladol.

Cymerwch ran yn ein hymarferhyfforddi amser-real blynyddol
Pob blwyddyn rydym yn cynnal efelychiad dysgu ar ffurf Diwrnod Safle Trosedd proffil-uchel, gyda myfyrwyr o ystod o gyrsiau yn actio, bod yn dystion, archwilio ac adrodd ar drosedd proffil-uchel sydd wedi digwydd ar y campws.