A 3D model of a building in a built environment class

Manylion cwrs

Côd UCAS

K222

Blwyddyn mynediad

2024, 2025

Hyd y cwrs

3 BL (llawn-amser) 5 BL (rhan-amser)

Tariff UCAS

80-112

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Wrecsam

Pam dewis y cwrs hwn?

Mae’r radd BSc (Anrh) Rheoli Adeiladu yn gymhwyster delfrydol i’r rheiny sy’n cael eu hysgogi wrth weld eu gwaith caled yn cael ei wobrwyo, a’u harbenigedd yn cael ei gydnabod, mewn diwydiant adeiladu bywiog a heriol.

Y Diwydiant Adeiladu yw un o’r sectorau cyflogaeth mwyaf ei faint yn y Deyrnas Unedig ac mae’r sector angen cyflenwad cyson o reolwyr adeiladu i redeg prosiectau adeiladu a pheirianneg sifil o bob maint.

Dyma nodweddion y cwrs:

  • Gellir ei astudio’n llawn amser neu’n rhan-amser.
  • Mae wedi’i achredu gan y Sefydliad Adeiladu Siartredig (CIOB).
  • Bydd yn ymestyn eich gwybodaeth ac yn atgyfnerthu eich dealltwriaeth o sut mae prosiectau’n cael eu creu, eu rheoli, eu hadeiladu a’u rhedeg ar ôl eu cwblhau.
  • Gall agor ystod eang o opsiynau gyrfa ym maes rheoli adeiladu, a gallech fod mor eang neu mor arbenigol ag y dymunwch fod wrth ddilyn eich dyheadau a’ch uchelgeisiau personol eich hun.
  • *yn rhan o faes pwnc a gafodd ei raddio yn gydradd cyntaf yn y DU ar gyfer rhagolygon graddedigion yn nhablau cynghrair pynciau Adeiladu, Complete University Guide 2022.
  • **Mae 100% o raddedigion y cwrs hwn mewn gwaith cyflogedig neu’n astudio (graddedigion a holwyd 15 mis ar ôl graddio, dadansoddiad Prifysgol Wrecsam o ddata heb ei gyhoeddi).
Chartered Institute of Building logo
model building

Yr Amgylchedd Adeiledigyn Prifysgol Wrecsam

Prif nodweddion y cwrs

  • Mae’r cwrs wedi’i achredu gan y Sefydliad Adeiladu Siartredig [CIOB].
  • Trefnir ymweliadau i weld prosiectau adeiladu byw er mwyn arsylwi ar waith ymarferol ar safleoedd.
  • Ceir cyfleoedd pellach i ymwneud yn uniongyrchol â’r diwydiant drwy gynadleddau a darlithoedd gwadd.
  • Mae adnoddau digidol eang o safon diwydiant ar gael i’w defnyddio ar y campws ac oddi ar y campws.
  • Caiff darlithoedd eu cynnal mewn blociau gymaint ag y bo modd, er mwyn sicrhau amser astudio hyblyg i ffwrdd o’r brifysgol. Rydym yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau addysgu a dysgu er mwyn sicrhau bod cynnwys technegol yn cael ei gymhwyso i senarios adeiladu nodweddiadol.
  • Mae maes pwnc yr Amgylchedd Adeiledig yn rhan o Gyfadran y Celfyddydau, Gwyddoniaeth a Thechnoleg (FAST) ac felly mae’r cynnwys yn elwa o gysylltiad â disgyblaethau pwnc peirianneg, cyfrifiadura ac ynni adnewyddadwy.
  • Mae lleoliad diwydiannol yn rhan holl bwysig o’r rhaglen Rheoli Adeiladu ac yn cynnig cyfleoedd gwych.

Beth fyddwch chin ei astudio

BLWYDDYN 1 (LEFEL 4)

Mae Lefel 4 y radd Rheoli Adeiladu yn cynnwys chwe modiwl craidd sydd gyda’i gilydd yn cyfuno i’ch cyflwyno i brosesau a thechnolegau yn y diwydiant adeiladu cyfoes. Caiff pynciau eu hystyried o’r egwyddorion cyntaf un, er mwyn i chi ddod i werthfawrogi materion sylfaenol wrth ddylunio, adeiladu, rheoli, defnyddio a datgomisiynu prosiectau adeiladu.

MODIWLAU

  • Technoleg Dylunio 1
  • Rheoli Adeiladu 1
  • Technoleg Adeiladu 1
  • Adeiladu Cynaliadwy
  • Mesur Meintiau 1
  • Gwyddoniaeth a Deunyddiau

BLWYDDYN 2 (LEFEL 5)

Mae Lefel 5 y radd yn adeiladu ar y lefel gyntaf drwy gyflwyno modiwlau pellach sy’n ymdrin ag ystyriaethau pwysig wrth ddatblygu prosiectau adeiladu. Mae Rheoliadau Cynllunio ac Adeiladu yn archwilio’r ddau brif ‘ganiatâd’ sy’n angenrheidiol pan fo datblygu dan ystyriaeth, ac mae Technolegau Digidol wrth Fesur Tir yn ystyried y defnydd o offer digidol wrth wneud mesuriadau topograffig. Mae Blwyddyn 2 hefyd yn cynnwys lleoliad gwaith wythnos o hyd a hwn yn orfodol.

MODIWLAU

  • Rheoliadau Cynllunio ac Adeiladu
  • Rheoli Safleoedd Adeiladu (Gan gynnwys Dysgu Seiliedig ar Waith)
  • Technoleg Adeiladu 2
  • Technolegau Digidol wrth Fesur Tir
  • Ymarfer Caffael a Chontractau

BLWYDDYN 3 (LEFEL 6)

Yn y flwyddyn olaf byddwch yn datblygu prosiect grŵp yn y modiwl Astudiaethau Rhyngbroffesiynol ac fe gewch gyfle i archwilio diddordeb ymchwil penodol yn y Prosiect Ymchwil Unigol. Mae pob un o’r 17 modiwl gyda’i gilydd yn cyfuno i ennyn eich diddordeb yn y maes astudio o’ch dewis a’u bwriad yw annog hyder a brwdfrydedd wrth ddatblygu eich arbenigedd.

MODIWLAU

  • Astudiaethau Rhyngbroffesiynol
  • Rheoli Adeiladu 3: Ymarfer Diwydiannol
  • Technoleg Adeiladu 3
  • Rheolaeth Fasnachol
  • Technolegau Rheoli Prosiectau a Modelu Gwybodaeth am Adeiladau (BIM)
  • Prosiect Ymchwil Unigol

Bydd astudiaeth ran-amser yn cynnwys cyfuniadau o’r modiwlau hyn dros gyfnod o bum mlynedd, er y gall Tystysgrif Genedlaethol Uwch (HNC) neu Ddiploma Cenedlaethol Uwch (HND) mewn pwnc sy’n gysylltiedig ag adeiladu gynnwys eithriadau ar Lefelau 4 ac/neu 5, yn amodol ar gymeradwyaeth y Brifysgol.

Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.

Gofynion mynediad a gwneud cais

Er mwyn cofrestru ar radd  BSc (Anrh) Rheoli Adeiladu, bydd disgwyl i ymgeiswyr fel rheol fod ag o leiaf un o’r canlynol: :

  • 80-112 pwyntiau tariff UCAS i ddechrau Blwyddyn 1 ar lefel 4; neu 
  • tystysgrif Ddiploma BTEC i ddechrau Blwyddyn 1 ar Lefel 4; neu
  • aelodaeth o gorff proffesiynol sydd yn berthnasol i adeiladu ar lefel a ystyrir yn briodol gan y tîm rhaglen, i ddechrau Blwyddyn 1 ar Lefel 4.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr nad ydynt yn bodloni’r meini prawf mynediad safonol a restrir uchod, a byddai disgwyl iddynt ddangos drwy gyfweliad fod ganddynt y potensial i lwyddo ar y rhaglen.

Rydym hefyd yn croesawu ymgeiswyr sydd wedi’u cyflogi yn y diwydiant adeiladu ac sydd â digon o brofiad priodol yn y diwydiant, er yr ystyrir asesiad diagnostig cyn eu derbyn er mwyn mesur gallu academaidd, yn enwedig mewn mathemateg a Chymraeg neu Saesneg.

Rydym hefyd yn croesawu ymgeiswyr rhyngwladol, a dylai eu cymwysterau presennol fod wedi’u hamlinellu gan y Ganolfan Wybodaeth Genedlaethol am Gydnabyddiaeth Academaidd (NARIC) i fod yn rhai sy’n cyfateb i gymhwyster mynediad perthnasol y Deyrnas Unedig. Os nad y Gymraeg neu’r Saesneg yw iaith gyntaf yr ymgeisydd, disgwylir iddynt ddangos hyfedredd yn yr iaith Saesneg. Gall ymgeiswyr Ewropeaidd ddarparu’r dystiolaeth hon mewn nifer o ffyrdd (gweler) gan gynnwys IELTS; mae ymgeiswyr rhyngwladol angen Prawf Iaith Saesneg Diogel (SELT) a gymeradwywyd gan UKVI (gweler i gael y manylion).

Addysgu ac Asesu

Caiff y modiwlau eu cyflwyno drwy ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau addysgu a dysgu, gan gynnwys darlithoedd traddodiadol, gweithgareddau ymarferol, tiwtorialau a thrafodaethau grŵp, gwaith labordy, arsylwi ar safleoedd adeiladu ac arfarnu cyfoedion. Y brif flaenoriaeth yw sicrhau bod myfyrwyr yn teimlo’n gyfforddus yn yr amgylchedd dysgu academaidd ac yn teimlo y gallant gyfrannu at y drafodaeth mewn unrhyw ddosbarth, tiwtorial neu weithgaredd dysgu arall sy’n rhan o’u hastudiaethau – mae addysgu a dysgu yn broses ddwyffordd yn y bôn a barn y myfyrwyr yn hanfodol bwysig yn y broses honno.

Mae sawl ffordd o asesu yn y rhaglen gyda’r nod o efelychu’r mathau o sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig, ymarferol, gweledol a llafar a ddisgwylir gan reolwyr adeiladu; mae adroddiadau ysgrifenedig, defnyddio offer technegol, cyflwyniadau gweledol, dadansoddiadau labordy, profion yn y dosbarth, gwaith cwrs a chyflwyniadau llafar oll yn ffyrdd pwysig y gall myfyrwyr ddangos eu dealltwriaeth. Mae’r mathau o asesu ar gyfer pob modiwl yn dibynnu ar yr hyn sy’n cyd-fynd orau â natur y cynnwys technegol ym mhob pwnc; gyda’i gilydd maent yn cynnig cyfleoedd amrywiol i fyfyrwyr ddangos eu diddordeb, eu brwdfrydedd a’u dehongliad o’r cynnwys yn ystod eu hastudiaethau.

DYSGU AC ADDYSGU

Mae Prifysgol Wrecsam wedi ymrwymo i gefnogi ein myfyrwyr i wneud y gorau o’u potensial academaidd.

Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol, a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sydd yno i gynorthwyo gydag agweddau ymarferol o waith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth myfyrwyr fwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael.

O ran anghenion penodol, gall Gwasanaethau Cynhwysiant y Brifysgol ddarparu arweiniad a chymorth priodol os bydd angen addasiadau rhesymol ar unrhyw fyfyriwr oherwydd anabledd cyfredol a gydnabyddir, cyflwr meddygol neu wahaniaeth dysgu penodol.

Rhagolygon gyrfaol

Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.

Mae’r radd BSc (Anrh) Rheoli Adeiladu yn gymhwyster sy’n cael ei gydnabod i fod yn ffordd gynhwysfawr, wybodus a gwerthfawr o fesur dealltwriaeth graddedigion Prifysgol Wrecsam i reoli adeiladu.

Mae cyfleoedd i reolwyr adeiladu yn y diwydiant i’w cael mewn llawer o gyd-destunau amrywiol, o ddatblygiadau ‘adeiladu o’r newydd’ i brosiectau treftadaeth ac adnewyddu o bob maint a math – mae datblygu gyrfa fel rheolwr adeiladu felly yn gallu arwain at lawer o brofiadau gwerth chweil, yn bennaf oherwydd nad oes unrhyw ddau brosiect adeiladu yr un fath, a bod rheolwyr adeiladu yn debygol o dreulio’r un faint o amser ar y safle ag y maent wrth eu desgiau. Mae’r amgylchiadau hyn yn golygu bod gyrfa ym maes rheoli adeiladu yn aml yn gallu bod yn heriol, yn hynod werth chweil, ond byth yn gyson yr un fath.

Bydd y radd rheoli adeiladu felly yn rhoi sail gadarn i chi ddatblygu gyrfa yn yr agweddau proffesiynol a thechnegol ar reoli prosiectau adeiladu mewn ystod o gyd-destunau. Mae graddedigion y rhaglen yn parhau i sefydlu eu hunain fel rheolwyr adeiladu, rheolwyr adeiladu cynorthwyol, arolygwyr adeiladu, syrfewyr adeiladu a thechnolegwyr adeiladu amrywiol eraill, a hynny’n bennaf oherwydd y profiad a’r ddealltwriaeth a gawsant wrth ddilyn y radd BSc (Anrh) Rheoli Adeiladu ym Mhrifysgol Wrecsam.

Ffioedd a chyllid

Nid oes rhaid i chi dalu eich ffioedd dysgu ymlaen llaw.

Bydd y ffioedd rydych yn eu talu a'r cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn y mae eich ffioedd yn ei gynnwys yn y Cwestiynau Cyffredin ffioedd. 

Mae'r holl ffioedd yn ddarostyngedig i unrhyw newidiadau ym mholisi'r llywodraeth, edrychwch ar ein ffioedd israddedig.

Manyleb y rhaglen

Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma

Llety

Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran Llety i gael mwy o wybodaeth am eich opsiynau, gan gynnwys ein neuaddau preswyl ar y Pentref Wrecsam.

Rhyngwladol

Os ydych yn ymgeisio fel Myfyriwr Rhyngwladol/Ewropeaidd, ac yn byw tu allan i'r DU, dylech wneud eich cais drwy ein system cais ar-lein, Centurus.

I gael gwybodaeth am ofynion mynediad y brifysgol ar gyfer myfyrwyr UE/rhyngwladol, os gwelwch yn dda ewch i'r adran ryngwladol.