Smartly dressed person making notes on a document

Manylion cwrs

Côd UCAS

HRMB

Blwyddyn mynediad

2024, 2025

Hyd y cwrs

3 BL (llawn-amser)

Tariff UCAS

80-112

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Wrecsam

*Yn amodol ar ddilysu

Course Highlights

Aelod efydd

o'r gymdeithas y Graddedigion Busnes sydd â mynediad at ystod o fuddion gan gynnwys gwasanaethau ymgynghori a'r hwb e-Ddysgu BGA.

Lleoliad diwydiannol

Ar gael fel blwyddyn ddewisol

Diploma CMI

mewn arweinyddiaeth a rheolaeth ar ôl graddio

Pam dewis y cwrs hwn?

Bydd ein gradd Rheoli Busnes ac Adnoddau Dynol yn rhoi’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i reoli sefydliadau a’u pobl yn llwyddiannus mewn amgylcheddau busnes cyflym, ac yn aml heriol, sydd ohoni ac i chwarae rhan mewn ddylanwadu benderfyniadau busnes strategol.

Byddwch yn:  

  • Dysgwch dueddiadau rheoli adnoddau dynol cyfredol, heriau, effaith technoleg (deallusrwydd artiffisial) ar brosesau a pholisïau Adnoddau Dynol.
  • Dysgu sut i gymhwyso ymchwil a theori flaengar, gyfoes i'ch astudiaethau.
  • Datblygu sgiliau Adnoddau Dynol/busnes craidd sy'n drosglwyddadwy ar draws y sector busnes ehangach.
  • Adeiladu sylfaen ar gyfer gyrfa mewn busnes, gyda gwybodaeth a sgiliau arbenigol mewn Adnoddau Dynol i wneud yn siŵr bod 'gweithwyr yn dod yn gyntaf'.
  • Hefyd yn ennill Diploma Lefel 5 mewn Arwain a Rheoli gan y Sefydliad Rheoli Siartredig gwerth dros £1,300 heb unrhyw gost ychwanegol, i fyfyrwyr yn Wrecsam.
  • Ennill gwybodaeth am y newidiadau technolegol diweddaraf ar brosesau a pholisïau Adnoddau Dynol.

Gallwch hefyd astudio’r cwrs hwn gyda blwyddyn sylfaen BA (Anrh) Rheoli Adnoddau Dynol (gyda blwyddyn sylfaen) Cod UCAS: HRMF

approved cipd logo
Person sat on a laptop

Busnes ymMhrifysgol Wrecsam

Prif nodweddion y cwrs

Mae'r cwrs hwn 

  • Yn paratoi myfyrwyr i ddechrau neu symud ymlaen ymhellach yn eu gyrfa fel gweithwyr proffesiynol AD. 
  • Wedi'i achredu gan CIPD a bydd myfyrwyr yn derbyn aelodaeth lefel Cyswllt ar ôl cwblhau'r radd.  
  • Yn cyd-fynd â gwybodaeth ac ymddygiad y map proffesiynol CIPD, i gefnogi datblygiad proffesiynol parhaus y myfyriwr trwy fodiwlau'r cwrs. 
  • Yn darparu cyfleoedd amrywiol i fyfyrwyr ennill gwybodaeth am y tueddiadau AD cyfredol trwy siaradwyr gwadd, astudiaethau achos a seminarau 
  • Sicrhau bod myfyrwyr yn cael diweddariadau rheolaidd ar gyfleoedd gwaith AD sydd ar gael yn lleol ac yn darparu cefnogaeth gan wasanaeth Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd.

Beth fyddwch chin ei astudio

BLWYDDYN 1 (LEFEL 4)

MODIWLAU

  • Cyflwyniad i Reolaeth a Busnes: Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno myfyrwyr i rai o hanfodion busnes, gan gynnwys strwythur sefydliadau a natur gwaith busnesau modern. Bydd hefyd yn rhoi cyfleoedd i’r myfyrwyr ennill dealltwriaeth eang o reolaeth drwy archwilio sgiliau a nodweddion rheolwyr ac arweinwyr effeithiol, a thechnegau i reoli tîm yn llwyddiannus.
  • Cyflwyniad i Gyllid Busnes a Chyfrifeg: Nod y modiwl hwn yw cyflwyno cysyniadau ac egwyddorion cyfoes cyfrifyddu a chyllid er mwyn cryfhau gallu’r myfyrwyr yn y maes hwn. Gwneir hyn drwy ddefnyddio technegau cyfrifyddu rheoli, cyfrifyddu ariannol a rheoli ariannol perthnasol, er mwyn gallu gwneud y penderfyniadau ariannol gweithredol mwyaf priodol, a dadansoddi effeithiau’r penderfyniadau hynny ar berfformiad a sefyllfa ariannol cwmni.
  • Deall Rheoli Adnoddau Dynol: Mae’r modiwl hwn yn cynnig dealltwriaeth gynhwysfawr o rôl rheoli adnoddau dynol (HRM) mewn sefydliadau. Mae’r modiwl yn ymdrin â’r hanfodion canlynol ym maes rheoli AD:
    - Mathau o sefydliadau sy’n gyffredin ym myd busnes
    - Pwysigrwydd rheoli adnoddau dynol a rôl ymarferwyr AD
    - Gweithgareddau AD mewn sefydliadau
    - Effaith technoleg ar reoli adnoddau dynol
  • Hanfodion Marchnata: Mae’r modiwl hwn yn ymwneud â sylweddoli pa mor bwysig yw rôl marchnata wrth yrru llwyddiant a sicrhau canlyniadau. Bydd myfyrwyr yn dysgu am wahanol swyddogaethau marchnata yn yr 21ain ganrif ac yn astudio sut y gall deall ymddygiad cwsmeriaid a’r amgylchedd marchnata alluogi targedu a chynllunio effeithiol. Erbyn diwedd y modiwl hwn bydd myfyrwyr wedi dod i ddeall y gwahanol offer sydd ar gael i’r marchnatwr modern, ac yn gallu adnabod eu cryfderau a’u gwendidau eu hunain, gan eu galluogi i’w defnyddio’n greadigol ac yn effeithiol mewn cyd-destun gwaith gan gynnwys sefydliadau masnachol a’r sector di-elw.
  • Sgiliau Cyfathrebu Busnes: Nod y modiwl yw sylweddoli pwysigrwydd cyfathrebu mewnol ac allanol integredig ac effeithiol wrth feithrin perthynas gynaliadwy ag eraill a sicrhau gwerth i gwsmeriaid. Bydd myfyrwyr hefyd yn dysgu sut i gyfathrebu’n effeithiol mewn lleoliadau busnes ac academaidd gan ddeall hanfodion sgiliau cyflwyno, cyfathrebu ysgrifenedig a chyfathrebu proffesiynol.
  • Dadansoddeg Busnes: Nod y modiwl hwn yw datblygu dealltwriaeth feirniadol ac ymarferol o gysyniadau ac egwyddorion dadansoddeg yn ogystal â datblygu’r gallu i gymhwyso’r cysyniadau hyn er mwyn mynd ati’n systematig i ddadansoddi data yn y byd busnes cyfoes.

BLWYDDYN 2 (LEFEL 5)

MODIWLAU 

  • Rheoli Troseddu a Risg Corfforaethol: Nod y modiwl hwn yw datblygu dealltwriaeth feirniadol o gysyniadau ac egwyddorion rheoli risg a throseddu corfforaethol a datblygu’r gallu i gymhwyso’r rhain i fyd busnes. Mae risg yn rhan annatod o fusnes, ac fel rhan o’r modiwl hwn byddwch yn archwilio’r broses rheoli risg gan gynnwys adnabod risg sefydliadol, dadansoddi effaith debygol y risgiau hynny, cynllunio a dewis mesurau rheoli a monitro a gwerthuso’r mesurau hyn. Byddwch yn ymchwilio i risg mewn perthynas â chyllid, iechyd a diogelwch, dynladdiad corfforaethol, dwyn yn y gweithle, ymhlith eraill. Byddwch hefyd yn ystyried sgandalau busnes diweddar/cyfoes, ac yn ystyried y datblygiadau diweddaraf sydd ar y gweill ym maes llywodraethu a chyfrifoldeb corfforaethol.
  • Strategaeth Busnes Digidol: Mae’r modiwl hwn yn rhoi’r sgiliau sydd eu hangen ar fyfyrwyr i gael mantais gystadleuol ddigidol mewn byd sy’n newid yn gyflym. Mae rheolau busnes wedi newid ac nid yw hi bellach yn ddigon i gwmnïoedd fod yn well neu’n rhatach i gael mantais gystadleuol. Mae’r rheolau newydd hyn yn ei gwneud yn hanfodol i gwmnïau ailedrych ar bedair elfen sylfaenol eu busnes er mwyn ffynnu yn y cyfnod digidol, sef eu strategaeth, eu cadwyn gwerth, ymgysylltu â chwsmeriaid, a strwythur y sefydliad.
  • Arweinyddiaeth Ystwyth: Nod y modiwl hwn yw datblygu dealltwriaeth feirniadol ac ymarferol o gysyniadau ac egwyddorion arweinyddiaeth ystwyth a’r gallu i ddefnyddio’r cysyniadau hyn yn y byd busnes cyfoes, er mwyn creu’r amgylchedd cywir i dimoedd ystwyth lwyddo mewn sefydliad.
  • Ymddygiadau Proffesiynol a Gwerthfawrogi Pobl: Mae’r modiwl hwn yn rhoi llwyfan i fyfyrwyr ddatblygu a gwella eu sgiliau a’u hymddygiad proffesiynol craidd, gan gynnwys moeseg, gwerthoedd a phroffesiynoldeb. Bydd hyn oll yn eu helpu i feithrin cyd-berthnasau cadarnhaol yn y gweithle a gwella perfformiad, cyfranogiad a lles gweithwyr. Bydd y modiwl hefyd yn galluogi myfyrwyr i ddeall datblygiad proffesiynol parhaus a nodi anghenion datblygu.
  • Perfformiad Sefydliadol a Diwylliant mewn Ymarfer: Mae’r modiwl hwn yn rhoi gwybodaeth gynhwysfawr am y cysylltiadau rhwng strwythur, strategaeth a diwylliant sefydliad a sut maent yn effeithio ar berfformiad a newid sefydliadol. Yn ogystal, bydd myfyrwyr yn meithrin dealltwriaeth o effeithiau ffactorau allanol a sut mae arferion Adnoddau Dynol yn cefnogi strategaethau sefydliadol.
  • Datblygu Sefydliadol: Mae’r modiwl hwn yn rhoi dealltwriaeth gynhwysfawr o gysyniadau allweddol datblygu sefydliadol. Mae’r modiwl yn ymdrin â’r elfennau canlynol yn y maes datblygu sefydliadol:
    - Cysyniadau allweddol datblygu sefydliadol
  • Lleoliad Diwydiannol Dewisol: Nod y modiwl yw rhoi cyfle i fyfyrwyr gael profiad gwerthfawr ac uniongyrchol yn y gweithle, a hynny’n ymwneud yn benodol ag arbenigedd y myfyriwr. Mae’r modiwl hwn yn rhoi cyfle i fyfyrwyr fynd allan am gyfnod estynedig at gyflogwr i weithio ar un neu fwy o brosiectau neu amcanion diffiniedig. Bydd disgwyl i’r myfyriwr ddod o hyd i gyfle lleoliad addas mewn cydweithrediad ag Ysgol Fusnes Gogledd Cymru. Bydd y Lleoliad mewn Diwydiant fel arfer yn digwydd dros flwyddyn academaidd arferol, yn ystod y ddau semester prifysgol arferol. Fodd bynnag, pan fo angen, gall ddechrau’n gynharach a gorffen yn gynharach yn ôl anghenion y diwydiant, ond dylai bara am tua 40 wythnos fel arfer, yn dibynnu ar yr oriau gwaith.

BLWYDDYN 3 (LEFEL 6)

MODIWLAU

  • Rheolaeth Strategol: Mae’r modiwl hwn yn cyflwyno dull systematig o astudio rheolaeth strategol, gan adeiladu ar amrywiaeth o syniadau a damcaniaethau a’r rheiny yn amrywio o ddamcaniaeth sefydliadau diwydiannol i economeg sefydliadol. Mae’r uned hon yn amlinellu hanfodion rheolaeth strategol ac yn rhoi cyflwyniad i fyfyrwyr i’r maes pwysig hwn o reoli busnes. Bydd myfyrwyr yn dod i ddeall y materion perthnasol a’r technegau y mae rheolwyr yn eu defnyddio. Bydd yr offer a’r technegau yn helpu myfyrwyr i ddeall sut mae sefydliadau yn sicrhau mantais gystadleuol sy’n gynaliadwy.
  • Cyfraith Cyflogaeth: Bydd y modiwl hwn yn rhoi dealltwriaeth feirniadol i fyfyrwyr ynghylch maes cynyddol gymhleth cyfraith cyflogaeth y Deyrnas Unedig. Bydd myfyrwyr yn dysgu sut mae’r gyfraith yn effeithio ar gyflogwyr a gweithwyr o’r camau recriwtio dechreuol hyd at ddiswyddo a dileu swydd. Bydd y modiwl yn ymchwilio i ddarnau allweddol deddfwriaethau a chodau ymarfer y DU a’r UE, gan eu cyflwyno ochr yn ochr ag astudiaethau achos sy’n dangos pwysigrwydd cyfraith cyflogaeth yn y gweithle. Bydd y modiwl hwn yn rhoi gwell dealltwriaeth i fyfyrwyr o’u hawliau fel cyflogai neu weithiwr yn y gweithle, yn ogystal â bod yn amhrisiadwy os ydynt yn cyflogi staff neu’n gweithio mewn adran Adnoddau Dynol. Bydd hefyd yn ddefnyddiol i’r rheiny sy’n ystyried gweithio fel cynrychiolwyr undebau llafur.
  • Rheoli Pobl mewn Cyd-destun Rhyngwladol: Mae’r modiwl hwn yn rhoi gwybodaeth a dealltwriaeth gynhwysfawr o reoli pobl mewn cyd-destun rhyngwladol. Rhan o’r modiwl hwn fydd astudio effaith amgylchiadau cenedlaethol a diwylliannol a dulliau rheoli adnoddau dynol yn rhyngwladol (IHRM) yn ogystal â’i ddyfodol.
  • Rheoli Talent mewn Sefydliadau: Mae’r modiwl hwn yn cynnig dealltwriaeth o farchnadoedd llafur a’u heffaith ar gynllunio’r gweithlu. Bydd myfyrwyr yn dysgu am reoli talent mewn sefydliadau drwy gynllunio olyniaeth, creu cronfeydd talent drwy adnabod, hyfforddi a datblygu talent, strategaethau cadw a phwysigrwydd rheoli contractau a’r broses ymsefydlu/cynefino. Mae’r modiwl hefyd yn ymdrin ag effaith technoleg a thueddiadau yn ymwneud â rheoli talent.
  • Traethawd Hir: Nod y modiwl traethawd hir yw cael myfyrwyr i ddangos eu bod yn gallu defnyddio’r wybodaeth a’r sgiliau a enillwyd ganddynt ym mhob llwybr yn y rhaglen astudio israddedig, a’u cymhwyso mewn modd annibynnol a hunanysgogol wrth ymholi a datrys problemau. Drwy hyn, byddant yn ymestyn, yn ategu ac yn gwella eu dysg drwy nodi problem busnes/rheoli naill ai mewn busnes, cyfrifeg a chyllid, Rheoli Lletygarwch, Twristiaeth ac Adloniant, Rheoli Adnoddau Dynol, Marchnata neu unrhyw faes arall sy’n gysylltiedig â busnes sy’n gofyn am ymchwil ddamcaniaethol, casglu data strwythuredig a dadansoddi’r data hwnnw er mwyn arwain at gasgliadau ac argymhellion.

Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.

Gofynion mynediad a gwneud cais

Y gofynion academaidd ar gyfer y cwrs yw 80-112 pwyntiau tariff UCAS ar TAG Safon Uwch neu gyfatebol, o leiafswm o ddwy Safon Uwch a TGAU Mathemateg a Saesneg/Cymraeg (Iaith Gyntaf) Gradd C/4 neu gyfatebol. Caiff cymwysterau Lefel UG a Sgiliau Allweddol Lefel AS hefyd eu hystyried hefyd.

Addysgu ac Asesu

Mae myfyrwyr yn cael eu hasesu mewn amrywiol ffyrdd dros gyfnod eu cwrs israddedig. Mae’r cydbwysedd rhwng y gwahanol ffyrdd o asesu yn cael ei bennu gan wahanol nodau a deilliannau dysgu y modiwlau craidd a dewisol. Ymysg y dulliau asesu mae traethodau academaidd, cyflwyniadau, adroddiadau, ymarferion efelychu ac arholiadau.

Mae dysgu annibynnol yn agwedd bwysig ar bob modiwl, am ei fod yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu sgiliau penodol i’r pwnc a sgiliau allweddol. Mae dysgu annibynnol yn cael ei hyrwyddo drwy’r adborth a roddir i fyfyrwyr, sydd ar sawl ffurf, gan gynnwys trafodaethau mewn grwpiau bach ac un i un. 

DYSGU AC ADDYSGU

Yn unol ag ymchwil addysgol gadarn ac arfer gorau cyfredol, bydd y rhaglen BA Busnes a HRM yn cael ei chyflwyno drwy ystod eang o strategaethau dysgu ac addysgu. Bydd cyflwyno'r rhaglen a'i hasesiad yn adlewyrchu ysbryd Strategaeth Dysgu, Addysgu ac Asesu a Fframwaith Dysgu Gweithredol Prifysgol Wrecsam, gyda phwyslais arbennig ar:

  • Datblygiad dysgwyr ymreonomaidd.
  • Cefnogi dysgu hyblyg drwy ddarparu dysgu cydamserol ac anghydamserol
  • Darparu cyfleoedd dysgu sy'n berthnasol yn bersonol ac yn broffesiynol ac sy'n sicr o ansawdd.
  • Cynnal amgylchedd dysgu cefnogol.
  • Hyrwyddo ysgolheictod addysgu.

Mae Prifysgol Wrecsam wedi ymrwymo i gefnogi ein myfyrwyr i wneud y gorau o’u potensial academaidd.

Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol, a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sydd yno i gynorthwyo gydag agweddau ymarferol o waith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth myfyrwyr fwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael.

O ran anghenion penodol, gall Gwasanaethau Cynhwysiant y Brifysgol ddarparu arweiniad a chymorth priodol os bydd angen addasiadau rhesymol ar unrhyw fyfyriwr oherwydd anabledd cyfredol a gydnabyddir, cyflwr meddygol neu wahaniaeth dysgu penodol.

Rhagolygon gyrfaol

Mae gradd mewn Rheoli Busnes ac Adnoddau Dynol yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i raddedigion yn y dyfodol. Mae swyddi'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i: 

  • Adnoddau Dynol - Gweinyddwr, Swyddog, Cyffredinolydd, Ymgynghorydd, Rheolwr, Rheolwr Prosiect, Pennaeth Adnoddau Dynol, Cyfarwyddwr, Dadansoddwr 
  • Cydlynydd Recriwtio a Hyfforddi 
  • Cydlynydd Cysylltiadau Gweithwyr 
  • Arbenigwr Budd-daliadau a Gwobrau 
  • Partner Busnes Pobl 
  • Ymgynghorydd recriwtio 
  • Rheolwr Pensiynau 
  • Dadansoddwr Pobl neu Reolwr Dadansoddi'r Gweithlu
  • Rheolwr Systemau Gwybodaeth Adnoddau Dynol (HRIS)
  • Rheolwr Dysgu a Datblygu 

Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.

Gellir cymhwyso ein gradd Busnes a Rheoli Adnoddau Dynol i bron unrhyw sefydliad mewn unrhyw sector. Mae'n gymhwyster amlbwrpas ar gyfer delio â llogi, hyfforddi, datblygu a sgiliau pobl yn gyffredinol. Mae gyrfaoedd penodol yn cynnwys: Swyddog Adnoddau Dynol, Rheolwr Swyddfa, Seicolegydd Galwedigaethol, Swyddog Hyfforddi a Datblygu.

Ffioedd a chyllid

Nid oes rhaid i chi dalu eich ffioedd dysgu ymlaen llaw.

Bydd y ffioedd rydych yn eu talu a'r cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn y mae eich ffioedd yn ei gynnwys yn y Cwestiynau Cyffredin ffioedd. 

Mae'r holl ffioedd yn ddarostyngedig i unrhyw newidiadau ym mholisi'r llywodraeth, edrychwch ar ein ffioedd israddedig.

Manyleb y rhaglen

Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma

Llety

Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran Llety i gael mwy o wybodaeth am eich opsiynau, gan gynnwys ein neuaddau preswyl ar y Pentref Wrecsam.

Yn amodol ar ddilysu

Mae cyrsiau sy’n cael eu dangos fel rhai “amodol ar ddilysu” yn gyrsiau newydd sy’n cael eu cwblhau ac mae manylion y cyrsiau yma yn y broses o gael eu penderfynu drwy’r gylchred gymeradwyo, a elwir yn broses ‘ddilysu’. Cyn gynted ag y bo’r rhaglenni wedi eu dilysu bydd manylion y cwrs yn cael eu cadarnhau.

Mae’r rhan fwyaf o gyrsiau sydd yn dal i fod yn ‘amodol ar ddilysu’ yn cael eu cymeradwyo gan y broses ddilysu; fodd bynnag, ni warantir hyn, ac os na fydd cwrs yn mynd rhagddo yn ôl y bwriad, neu’n cael ei newid yn sylweddol, cewch eich hysbysu gan y brifysgol a rhoddir cymorth i’r bobl hynny sydd wedi cael cynnig lle i ganfod cwrs amgen addas naill ai ym Mhrifysgol Wrecsam neu gyda darparwr arall.