Close up of hands gesticulating, in front of a laptop, pen and notebook.

Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2024, 2025

Hyd y cwrs

1.5 BL (rhan-amser)

Tariff UCAS

80-112

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Wrecsam

*Yn amodol ar ddilysu ac achredu

Course Highlights

Cwrs unigryw,

a ysgogir gan ddiwydiant, gydag aseiniadau cymhwysol yn canolbwyntio ar gynyddu twf busnes.

Dysgu cyfunol hyblyg,

yn cyfuno addysgu wyneb i wyneb a gefnogir gyda dysgu ar-lein.

Wedi'i Harchredi

gan CMI.

Pam dewis y cwrs hwn?

Mae'r cymhwyster unigryw hwn sy'n seiliedig ar waith wedi'i gynllunio ar gyfer y gweithiwr proffesiynol sy'n gweithio ac sy'n edrych i ddatblygu'r wybodaeth fusnes a'r sgiliau rheoli i symud ymlaen ymhellach yn eu gyrfa neu gymryd cyfeiriad newydd.

Rhaglen o ddysgu cyfunol yw hon, gyda chyfuniad o ddysgu wyneb i wyneb, a dysgu ar-lein hyblyg sydd yn caniatáu ichi ffitio astudio o gwmpas eich bywyd.

Wedi ei gynllunio ar gyfer y rhai hynny sydd eisoes â gradd sylfaen neu gyfatebol, mae’r cwrs atodol yma yn caniatáu ichi gyflawni BA (Anrh) mewn Rheoli Busnes Cymhwysol gyda 15 mis o astudiaeth ran-amser ar Lefel 6.

Mae Prifysgol Wrecsam yn Aelod Efydd o'r Gymdeithas Graddedigion Busnes (BGA) ac felly gall ein myfyrwyr busnes ddefnyddio ystod o fuddion megis gwasanaethau ymgynghorol a hwb e-ddysgu’r gymdeithas.

Mae Prifysgol Wrecsam yn ymfalchïo yn ein sgoriau ardderchog am gyflogadwyedd a’n arbenigedd mewn dysgu rhan amser a hyblyg. Oherwydd hyn rydym ymhlith 10 Prifysgol Uchaf y DU o ran cyflogadwyedd myfyrwyr rhan amser.    

Prif nodweddion y cwrs

  • Gyda chynnwys o’r radd flaenaf, mae’r radd Rheoli Busnes Cymhwysol yn canolbwyntio’n gadarn ar yrfaoedd ac yn adlewyrchu gofynion y diwydiant – diolch i’n perthnasau cryf gyda chyflogwyr blaenllaw sydd wedi cyfrannu at gynnwys y rhaglen, gan sicrhau ei bod yn adlewyrchu gofynion y diwydiant heddiw.
  • Darlithoedd rheolaidd gan arbenigwyr o’r diwydiant - mewn cydweithrediad â rhaglen Syniadau Mawr Gymru.
  • Dull dysgu cyfunol hyblyg sydd yn cynnwys addysgu wyneb i wyneb a thasgau ar-lein gyda chynnwys sydd wedi ei deilwrio i ddatblygu gyrfaoedd ar draws ystod eang o ddiwydiannau.
  • Ymweliadau â diwydiant i weld arfer da yng Ngogledd Cymru.

Beth fyddwch chin ei astudio

Mae’r cwricwlwm cynhwysfawr yn trafod disgyblaethau busnes allweddol, gan gynnwys marchnata, cyllid, strategaeth a rheoli adnoddau dynol, datblygu sgiliau arweinyddiaeth busnes ymarferol a damcaniaethol.

LEFEL 6

MODIWLAU

  • Archwilio Strategaethau Cystadleuol
  • Rheoli Pobl a'r Gyfraith
  • Clyfrach, Cyflymach, Gwell: Cymhwyso Gwybodaeth Strategol yn Ymarferol.

Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.

Gofynion mynediad a gwneud cais

Y gofynion academaidd ar gyfer y cwrs yw 80-112 o bwyntiau tariff UCAS ar TAG Safon Uwch a/neu brofiad perthnasol.  

Mae’n rhaid ichi gael mynediad at gyfrifiadur a chyswllt rhyngrwyd.

Addysgu ac Asesu

Mae’r asesiadau yn amrywiol ac yn eich annog i gymhwyso eich gwybodaeth yn eich rôl busnes/swydd bresennol. Byddant yn cynnwys astudiaethau achos, adroddiadau rheoli, adroddiadau ymchwil, prosiectau seiliedig ar waith, cyflwyniadau grŵp ac unigol yn ogystal ag ysgrifennu myfyriol.

Bydd eich Arweinydd Rhaglen yn darparu rhestr o aseiniadau ar gyfer pob blwyddyn o’r rhaglen.

Bydd yr addysgu yn digwydd 1 diwrnod/1 noson y mis (addysgu wyneb i wyneb) ac ar-lein.

DYSGU AC ADDYGSU

Mae Prifysgol Wrecsam wedi ymrwymo i gefnogi ein myfyrwyr i wneud y gorau o’u potensial academaidd.

Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol, a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sydd yno i gynorthwyo gydag agweddau ymarferol o waith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth myfyrwyr fwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael.

O ran anghenion penodol, gall Gwasanaethau Cynhwysiant y Brifysgol ddarparu arweiniad a chymorth priodol os bydd angen addasiadau rhesymol ar unrhyw fyfyriwr oherwydd anabledd cyfredol a gydnabyddir, cyflwr meddygol neu wahaniaeth dysgu penodol.

Rhagolygon gyrfaol

Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.

Drwy gyfuno astudiaethau academaidd gyda dysgu ymarferol mae’r rhaglen Rheoli Busnes Cymwysedig yma yn ffordd berffaith i ganfod ffyrdd cyffrous i gamu ymlaen yn eich gyrfa.

Ffioedd a chyllid

Nid oes rhaid i chi dalu eich ffioedd dysgu ymlaen llaw.

Bydd y ffioedd rydych yn eu talu a'r cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn y mae eich ffioedd yn ei gynnwys yn y Cwestiynau Cyffredin ffioedd. 

Mae'r holl ffioedd yn ddarostyngedig i unrhyw newidiadau ym mholisi'r llywodraeth, edrychwch ar ein ffioedd israddedig.

Manyleb y rhaglen

Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma

Llety

Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran Llety i gael mwy o wybodaeth am eich opsiynau, gan gynnwys ein neuaddau preswyl ar y Pentref Wrecsam.

Yn amodol ar ddilysu ac achredu

Mae cyrsiau sydd yn cael eu dangos fel rhai “amodol ar ddilysu ac achredu” yn gyrsiau newydd sydd yn cael eu datblygu ac mae manylion y cyrsiau yma yn y broses o gael eu cwblhau drwy’r gylchred gymeradwyo, a elwir yn broses ‘ddilysu’. Mae’r cyrsiau yma hefyd yn y broses o geisio am achrediad/cydnabyddiaeth gan gyrff allanol, a elwir yn CPSRh - Cyrff Proffesiynol, Statudol a Rheoleiddio, sydd yn broses gymeradwyo allanol ar wahân gyda’r CPSRh perthnasol.

Cyn gynted ag y bo rhaglenni yn cael eu dilysu a’u hachredu bydd manylion y cyrsiau yn cael eu cadarnhau. Mae’r rhan fwyaf o gyrsiau sydd yn dal i fod yn ‘amodol ar ddilysu ac achredu’ yn cael eu cymeradwyo yn ôl y disgwyl, fodd bynnag, ni warantir hyn, ac os nad fydd cwrs yn mynd rhagddo yn ôl y disgwyl, neu’n cael ei newid yn sylweddol, cewch eich hysbysu gan y brifysgol a rhoddir cymorth i’r bobl hynny sydd wedi cael cynnig lle i ganfod cwrs amgen addas naill ai ym Mhrifysgol Wrecsam neu gyda darparwr arall.

Person sat on a laptop

Busnes ymMhrifysgol Wrecsam