BA (Anrh) Rheoli Cyfrif a Cyllid (gyda blwyddyn sylfaen)
Manylion cwrs
- Côd UCASA268
- Blwyddyn mynediad 2023, 2024
- Hyd y cwrs 4 BL (llawn-amser)
- Tariff UCAS 48-72
- Côd y sefydliad G53
- Lleoliad Wrecsam

Course Highlights
Achredwyd
gan ACCA gydag wyth eithriad.
Cyfle
i gymryd rhan yn swît efelychu newydd yr Ysgol Busnes.
Sicrhau
diploma CMI lefel 5 mewn arweinyddiaeth a rheolaeth ar raddio.†
Pam dewis y cwrs hwn?
Mae ein gradd Cyfrifeg a Chyllid yn canolbwyntio ar gymwysiadau ymarferol o ddamcaniaethau cyfrifeg a chyllid, gan hybu'ch cyflogadwyedd a sicrhau eich bod yn barod i ymuno â'r byd busnes wrth raddio.
- Dysgu seiliedig ar waith – o astudiaethau achos, datrys problemau i gyfleoedd lleoliadau gwaith – sydd yn sicrhau bod gan fyfyrwyr sy’n graddio y wybodaeth a’r sgiliau i gwrdd ag anghenion cyfredol y farchnad a rhai’r dyfodol.
- Bydd graddedigion yn gymwys ar gyfer eithriad o rai papurau arholiad ACA ac AIA.
- Mae graddedigion ar y rhaglen yn gymwys ar gyfer aelodaeth lefel Cyswllt (AFA).
- Bydd pob un o’n graddedigion† hefyd yn derbyn Diploma lefel 5 mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth gan y Sefydliad Rheolaeth Siartredig sydd werth dros £1,300 heb unrhyw gost ychwanegol.
- Mae Prifysgol Glyndŵr yn Aelod Efydd o’r Gymdeithas Graddedigion Busnes (BGA) ac mae gan fyfyrwyr yr ysgol fusnes fynediad at ystod o fuddion gan gynnwys gwasanaethau ymgynghorol a hwb e-ddysgu BGA.
- *Mae’r cwrs hwn yn rhan o grŵp pwnc CHA3 sydd yn y 3ydd allan o brifysgolion Cymru am addysgu fy nghwrs yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2022.
- Efallai y cewch chi gyfle hefyd i fynd i Gyfnewidfa Stoc Llundain
Gallwch hefyd ddewis astudio’r cwrs hwn fel rhaglen 3 blynedd safonol heb y flwyddyn sylfaen BA (Anrh) Cyfrifeg a Chyllid Cod UCAS: 4J68 - neu gyda (pedair blynedd gan gynnwys blwyddyn lleoliad diwydiant) Cod UCAS: AFIP



Prif nodweddion y cwrs
- Mae gan ein holl ddarlithwyr gymwysterau proffesiynol mewn Cyfrifeg neu Gyllid.
- Mae cyfleoedd am leoliad gwaith ar gael i bob un o'n myfyrwyr sy'n dangos safon da o ymgysylltu a phroffesiynoldeb yn ystod eu hastudiaethau.
- Mae hon yn radd Achrededig ACCA gyda 8 Eithriad a gafwyd ar ôl ei chwblhau
- Byddwch yn gallu cymryd rhan yn Ystafelloedd Efelychu newydd North Wales Business School
- Bydd eich astudiaethau'n dilyn dull damcaniaethol ac ymarferol o Gyfrifeg a Chyllid sy'n sicrhau eich bod yn adeiladu'r wybodaeth graidd sydd ei hangen arnoch yn y diwydiant ar ôl graddio.
- Byddwch yn cymryd rhan yn y gyfres efelychu newydd Ysgolion Busnes lle gallwch brofi ac adeiladu gwybodaeth Cyfrifeg a Chyllid i chi ar gwmnïau efelychedig i gymhwyso'r damcaniaethau rydych chi'n eu dysgu yn yr ystafell ddosbarth, ar waith.
- Byddwch yn dysgu amrywiaeth o fodelau Excel, SPSS a meddalwedd codio eraill i sicrhau bod gennych y sgiliau sydd eu hangen arnoch pan fyddant yn dod i mewn i'r gweithle.
Gallwch hefyd ddewis astudio’r cwrs yma heb blwyddyn sylfaen, Cod UCAS: 4J68 neu gyda blwyddyn lleoliad diwydiant Cod UCAS: AFIP.
Beth fyddwch chin ei astudio
BLWYDDYN 1 (BLWYDDYN SYLFAEN)
MODIWLAU
-
Hanfodion Rheoli AD: Yn yr 21ain ganrif mae Rheoli Adnoddau Dynol wrth wraidd prosesau a gweithgarwch rheoli/datblygu pobl pob sefydliad, p’un a yw’r busnes yn gweithredu yn y sector preifat, yn y sector cyhoeddus neu’r trydydd sector. Yn ganolog i holl weithrediadau rheoli AD y mae’r cyflogai. Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno myfyrwyr i fyd rheoli AD wrth iddo esblygu’n gyson, ac yn archwilio’r offer a’r technegau y mae Rheolwyr Adnoddau Dynol yn eu defnyddio i gyflawni eu hamcanion AD.
-
Y sgiliau sydd eu hangen arnoch: Nod y modiwl hwn yw sicrhau bod myfyrwyr yn datblygu’r prif sgiliau academaidd, personol a phroffesiynol sydd eu hangen arnynt i astudio’n llwyddiannus ar lefel addysg uwch. Mae’r modiwl yn canolbwyntio ar ddatblygu’r sgiliau ymarferol, deallusol a chyfathrebu angenrheidiol i sicrhau pontio llwyddiannus i Lefel 4 ac ymlaen i raglenni gradd Anrhydedd yn ogystal â pharatoi myfyrwyr at gyflogaeth ac/neu astudiaethau pellach wedi hynny.
-
Hanfodion Busnes: Mae’r modiwl hwn yn archwilio’r cwestiwn ‘Beth yw busnes?’ drwy astudio adrannau mewnol ac allanol, marchnadoedd a rhanddeiliaid. Wrth wneud hynny, nod y modiwl yw cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr gael dealltwriaeth sylfaenol ond eang o natur yr amgylchedd busnes modern. Bydd disgwyl i fyfyrwyr ddangos gwybodaeth ymarferol ynghylch sut mae syniadau a chysyniadau busnes yn troi’n benderfyniadau busnes go iawn a byddant yn dysgu am rai o’r sefydliadau allweddol sy’n gweithredu ar hyn o bryd.
-
Cyflwyniad i Farchnata: Yn yr 21ain ganrif mae marchnata wrth wraidd gweithgarwch pob sefydliad, p’un a yw’r busnes yn gweithredu yn y sector preifat, yn y sector cyhoeddus neu’r trydydd sector. Yn ganolog i’r holl waith marchnata y mae’r cwsmer. Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno myfyrwyr i fyd cyffrous marchnata, ac yn archwilio’r offer a’r technegau y mae marchnatwyr yn eu defnyddio i gyflawni eu hamcanion marchnata.
-
Astudiaethau Cyd-destunol: Nod y modiwl yw cyflwyno’r myfyrwyr i amrywiaeth eang o faterion cyfoes i ysgogi trafodaeth, dadl a chymryd rhan. Bydd yn galluogi’r myfyrwyr i fynd i’r afael ag amrywiaeth o feysydd pwnc drwy weithgarwch ymchwil dilynol ac ymarfer adfyfyriol ymhlith grwpiau pwnc.
-
Hanfodion Cyllid: Nod y modiwl hwn yw cyflwyno myfyrwyr i gysyniadau sylfaenol mewn cyllid a’u paratoi at astudiaethau pellach mewn pynciau mwy datblygedig ym maes cyfrifeg a chyllid.
Wedi ichi gwblhau eich blwyddyn sylfaen, byddwch yn symud ymlaen i’r rhaglen safonol dros dair blynedd.
BLWYDDYN 2 (LEFEL 4)
MODIWLAU
- Cyflwyniad i Reolaeth a Busnes: Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno myfyrwyr i rai o hanfodion busnes, gan gynnwys strwythur sefydliadau a natur gwaith busnesau modern. Bydd hefyd yn rhoi cyfleoedd i’r myfyrwyr ennill dealltwriaeth eang o reolaeth drwy archwilio sgiliau a nodweddion rheolwyr ac arweinwyr effeithiol, a thechnegau i reoli tîm yn llwyddiannus.
- Cyflwyniad i Gyllid Busnes a Chyfrifeg: Nod y modiwl hwn yw cyflwyno cysyniadau ac egwyddorion cyfoes cyfrifyddu a chyllid er mwyn gwella gallu’r myfyrwyr yn y maes hwn. Gwneir hyn drwy ddefnyddio technegau cyfrifyddu rheoli, cyfrifyddu ariannol a rheoli ariannol perthnasol, er mwyn gallu gwneud y penderfyniadau ariannol gweithredol mwyaf priodol, a dadansoddi effeithiau’r penderfyniadau hynny ar berfformiad a sefyllfa ariannol cwmni.
- Sgiliau Cyfathrebu Busnes: Nod y modiwl yw sylweddoli pwysigrwydd cyfathrebu mewnol ac allanol integredig ac effeithiol wrth feithrin perthynas gynaliadwy ag eraill a sicrhau gwerth i gwsmeriaid. Bydd myfyrwyr hefyd yn dysgu sut i gyfathrebu’n effeithiol mewn lleoliadau busnes ac academaidd gan ddeall hanfodion sgiliau cyflwyno, cyfathrebu ysgrifenedig a chyfathrebu proffesiynol.
- Deall Rheoli Adnoddau Dynol: Mae’r modiwl hwn yn cynnig dealltwriaeth gynhwysfawr o rôl rheoli adnoddau dynol (HRM) mewn sefydliadau. Mae’r modiwl yn ymdrin â’r hanfodion canlynol ym maes rheoli AD:
- Mathau o sefydliadau sy’n gyffredin ym myd busnes
- Pwysigrwydd rheoli adnoddau dynol a rôl ymarferwyr AD
- Gweithgareddau AD mewn sefydliadau
- Effaith technoleg ar reoli adnoddau dynol - Hanfodion Marchnata: Mae’r modiwl hwn yn ymwneud â sylweddoli pa mor bwysig yw rôl marchnata wrth yrru llwyddiant a sicrhau canlyniadau. Bydd myfyrwyr yn dysgu am wahanol swyddogaethau marchnata yn yr 21ain ganrif ac yn astudio sut y gall deall ymddygiad cwsmeriaid a’r amgylchedd marchnata alluogi targedu a chynllunio effeithiol. Erbyn diwedd y modiwl hwn bydd myfyrwyr wedi dod i ddeall y gwahanol offer sydd ar gael i’r marchnatwr modern, ac yn gallu adnabod eu cryfderau a’u gwendidau eu hunain, gan eu galluogi i’w defnyddio’n greadigol ac yn effeithiol mewn cyd-destun gwaith gan gynnwys sefydliadau masnachol a’r sector di-elw.
- Dadansoddeg Busnes: Nod y modiwl hwn yw datblygu dealltwriaeth feirniadol ac ymarferol o gysyniadau ac egwyddorion dadansoddeg yn ogystal â datblygu’r gallu i gymhwyso’r cysyniadau hyn er mwyn mynd ati’n systematig i ddadansoddi data yn y byd busnes cyfoes.
BLWYDDYN 3 (LEFEL 5)
MODIWLAU
- Cyfrifyddu Rheoli Uwch: Nod y modiwl hwn yw datblygu gwybodaeth a sgiliau wrth gymhwyso technegau cyfrifyddu rheoli ar gyfer cynllunio, gwneud penderfyniadau, gwerthuso perfformiad, a rheolaeth. Bydd myfyrwyr yn defnyddio dulliau a thechnegau dosbarthu costau, cronni a dyrannu, ac yn eu cymharu’n feirniadol. Ymhellach, bydd y modiwl yn galluogi myfyrwyr i werthuso’r ystyriaethau a’r materion sy’n gysylltiedig â chostau a dylunio system cyfrifyddu rheoli yn ogystal â nodi a pharatoi gwybodaeth am gostau at ddibenion cyfrifyddu. Drwy gydol y modiwl bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau dadansoddi a meddwl yn feirniadol yng nghyd-destun cyfrifyddu rheoli.
- Rheoli Troseddu a Risg Corfforaethol: Nod y modiwl hwn yw datblygu dealltwriaeth feirniadol o gysyniadau ac egwyddorion rheoli risg a throseddu corfforaethol a datblygu’r gallu i gymhwyso’r rhain i fyd busnes. Mae risg yn rhan annatod o fusnes, ac fel rhan o’r modiwl hwn byddwch yn archwilio’r broses rheoli risg gan gynnwys adnabod risg sefydliadol, dadansoddi effaith debygol y risgiau hynny, cynllunio a dewis mesurau rheoli a monitro a gwerthuso’r mesurau hyn. Byddwch yn ymchwilio i risg mewn perthynas â chyllid, iechyd a diogelwch, dynladdiad corfforaethol, dwyn yn y gweithle, ymhlith pethau eraill. Byddwch hefyd yn ystyried sgandalau busnes diweddar/cyfoes, ac yn ystyried y datblygiadau diweddaraf sydd ar y gweill ym maes llywodraethu a chyfrifoldeb corfforaethol.
- Cyllid Cynaliadwy: theori ac ymarfer: Nod y modiwl hwn yw datblygu dealltwriaeth feirniadol ac ymarferol o gysyniadau ac egwyddorion buddsoddi cynaliadwy. Yn benodol, bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i ddysgu ac ymarfer buddsoddi cynaliadwy wedi’i gymhwyso i senarios y byd go iawn. Rhan annatod o gynnwys y modiwl a’r asesu arno yw’r cymwyseddau angenrheidiol i sicrhau bod gan fyfyrwyr y sgiliau sydd eu hangen arnynt i weithio ym maes buddsoddi cynaliadwy cyfredol a chefnogi datblygiad proffesiynol.
- Trethiant Busnes: Nod y modiwl hwn yw datblygu dealltwriaeth feirniadol ac ymarferol o gysyniadau ac egwyddorion trethiant busnes. Yn benodol, bydd myfyrwyr yn cael cyfle i ddysgu ac ymarfer polisïau treth cyfredol yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol. Rhan annatod o gynnwys y modiwl a’r asesu arno yw’r cymwyseddau angenrheidiol i sicrhau bod gan fyfyrwyr y sgiliau sydd eu hangen arnynt i weithio i ddeddfwriaeth dreth gyfredol a chefnogi datblygiad proffesiynol yn y dyfodol.
- Cyfraith Busnes: Nod y modiwl hwn yw datblygu dealltwriaeth feirniadol o gysyniadau ac egwyddorion y gyfraith fel y mae’n berthnasol i fusnesau yn ogystal â datblygu’r gallu i’w defnyddio mewn sefyllfaoedd busnes ymarferol. Bydd myfyrwyr yn dysgu prif egwyddorion y gyfraith yn ymwneud â chontract a chamwedd, ynghyd â chyfraith statudol diogelu defnyddwyr ac yn asesu ac yn cymhwyso’r rhain i sefyllfaoedd masnachol realistig. Bydd prif gysyniadau ac egwyddorion cyfraith cwmnïau a’r gyfraith sy’n effeithio ar fathau eraill o sefydliadau busnes yn cael eu hesbonio a’u cymhwyso i sefyllfaoedd busnes realistig yn ogystal â’u gwerthuso’n feirniadol o ran pa mor berthnasol ydynt i arferion masnachol.
- Prisio a Dadansoddi Diogelwch: Nod y modiwl hwn yw datblygu dealltwriaeth feirniadol ac ymarferol ynghylch cysyniadau diogelwch ariannol a’u dulliau prisio. Yn benodol, bydd myfyrwyr yn cael cyflwyniad i reng flaen dulliau cyfredol o dechnegau prisio a’u cymhwyso i senarios cyfredol y farchnad. Rhan annatod o gynnwys y modiwl a’r asesu arno yw’r cymwyseddau angenrheidiol i sicrhau bod gan fyfyrwyr y sgiliau sydd eu hangen arnynt i weithio ym maes dadansoddi diogelwch ac i gefnogi datblygiad proffesiynol.
- Lleoliad mewn Diwydiant (opsiwn): Nod y modiwl yw rhoi cyfle i fyfyrwyr gael profiad gwerthfawr ac uniongyrchol yn y gweithle, a hynny’n ymwneud yn benodol ag arbenigedd y myfyriwr. Mae’r modiwl hwn yn rhoi cyfle i fyfyrwyr fynd allan am gyfnod estynedig at gyflogwr i weithio ar un neu fwy o brosiectau neu amcanion diffiniedig. Bydd disgwyl i’r myfyriwr ddod o hyd i gyfle lleoliad addas mewn cydweithrediad ag Ysgol Fusnes Gogledd Cymru. Bydd y Lleoliad mewn Diwydiant fel arfer yn digwydd dros flwyddyn academaidd arferol, yn ystod y ddau semester prifysgol arferol. Fodd bynnag, pan fo angen, gall ddechrau’n gynharach a gorffen yn gynharach yn ôl anghenion y diwydiant, ond dylai bara am tua 40 wythnos fel arfer, yn dibynnu ar yr oriau gwaith.
BLWYDDYN 4 (LEFEL 6)
MODIWLAU
- Rheolaeth Ariannol Uwch: Nod y modiwl hwn yw cyflwyno’r cysyniadau a’r egwyddorion yn ymwneud â rheolaeth ariannol er mwyn cryfhau gallu’r myfyrwyr i wneud y penderfyniadau ariannol gweithredol mwyaf priodol, a gallu dadansoddi effeithiau’r penderfyniadau hynny ar berfformiad a sefyllfa ariannol cwmni. Mae’r modiwl hefyd yn ceisio helpu myfyrwyr i ddeall manteision / diffygion gwahanol dechnegau ac offer rheoli ariannol a pha mor briodol ydynt, yn ogystal â’u defnyddio yn unol â hynny i sicrhau’r gwerth mwyaf posibl.
- Rheolaeth Strategol: Mae’r modiwl hwn yn cyflwyno dull systematig o astudio rheolaeth strategol, gan adeiladu ar amrywiaeth o syniadau a damcaniaethau a’r rheiny yn amrywio o ddamcaniaeth sefydliadau diwydiannol i economeg sefydliadol. Mae’r uned hon yn amlinellu hanfodion rheolaeth strategol ac yn rhoi cyflwyniad i fyfyrwyr i’r maes pwysig hwn o reoli busnes. Bydd myfyrwyr yn dod i ddeall y materion perthnasol a’r technegau y mae rheolwyr yn eu defnyddio. Bydd yr offer a’r technegau yn helpu myfyrwyr i ddeall sut mae sefydliadau yn sicrhau mantais gystadleuol sy’n gynaliadwy.
- Awdit a Sicrwydd: Nod y modiwl hwn yw datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o’r broses archwilio a’i chymhwyso yng nghyd-destun y fframwaith rheoleiddio proffesiynol. Yn benodol, bydd myfyrwyr yn dysgu asesu natur, pwrpas a chwmpas ymrwymiadau sicrwydd, gan gynnwys archwiliadau allanol a mewnol o fewn y fframwaith rheoleiddio a moesegol. Bydd y peryglon a ddaw yn sgil archwilio a rheoli a’u canlyniadau posibl yn cael eu nodi a’u gwerthuso yn ogystal â rheolaethau mewnol a systemau gwybodaeth i bennu dull archwilio priodol. Bydd myfyrwyr hefyd yn dysgu pennu cynllun Archwilio priodol ar gyfer endid gan sicrhau ei fod yn bodloni amcanion ymrwymiadau archwilio ac yn cymhwyso Safonau Rhyngwladol ar Archwilio.
- Adroddiadau a Dadansoddiadau Ariannol: Nod y modiwl hwn yw datblygu dealltwriaeth feirniadol ac ymarferol o gysyniadau adroddiadau ariannol a dadansoddi datganiadau ariannol. Yn benodol, bydd myfyrwyr yn dod i ddeall a meistroli arferion cyfrifyddu ariannol a ddefnyddir ledled y diwydiant. Rhan annatod o gynnwys y modiwl a’r asesu arno yw’r cymwyseddau angenrheidiol i sicrhau bod gan fyfyrwyr y sgiliau sydd eu hangen arnynt i weithio ym maes buddsoddi cynaliadwy cyfredol a chefnogi datblygiad proffesiynol.
- Traethawd hir: Nod y modiwl traethawd hir yw cael myfyrwyr i ddangos eu bod yn gallu defnyddio’r wybodaeth a’r sgiliau a enillwyd ganddynt ym mhob llwybr yn y rhaglen astudio israddedig, a’u cymhwyso yn annibynnol a hunanysgogol wrth ymholi a datrys problemau. Drwy hyn, byddant yn ymestyn, yn ategu ac yn gwella eu dysg drwy nodi problem busnes/rheoli naill ai mewn busnes, cyfrifeg a chyllid, Rheoli Lletygarwch, Twristiaeth ac Adloniant, Rheoli Adnoddau Dynol, Marchnata neu unrhyw faes arall sy’n gysylltiedig â busnes sy’n gofyn am ymchwil ddamcaniaethol, casglu data strwythuredig a dadansoddi’r data hwnnw er mwyn arwain at gasgliadau ac argymhellion.
Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.
Gofynion mynediad a gwneud cais
BA (Anrh) Rheoli Cyfrif a Cyllid (gyda blwyddyn sylfaen)
Côd UCAS: A268
Y gofynion mynediad ar gyfer y cwrs yw 48-72 pwynt tariff UCAS. Fodd bynnag, mae pob cais yn cael ei ystyried yn unigol ac rydym yn ystyried profiad gwaith, hyfforddiant, galwedigaethol/ cymwysterau ynghyd â chymhelliant a'r potensial i lwyddo.
Addysgu ac Asesu
Yn rhan o'n ymroddiad i baratoi ein graddedigion at y gweithle proffesiynol, rydym yn cydnabod yr angen i ddarparu gwahanol ddulliau asesu sy'n cynnal trylwyredd academaidd, ond sydd hefyd yn cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr eu datblygu eu hunain mewn ffyrdd amrywiol. O ganlyniad, yn y rhan fwyaf o'r modiwlau, caiff myfyrwyr eu hasesu gan ddulliau megis arholiadau traddodiadol, arholiada llafar, gwerthuso astudiaethau achos, cyflwyniadau, ysgrifennu blog ac ysgrifennu adroddiadau rheoli.
Dysgu ac addysgu
Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi ymrwymo i roi cymorth i'n myfyrwyr i'w galluogi i gyflawni eu potensial academaidd i'r eithaf.
Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sy'n ymroddedig i helpu myfyrwyr i delio ag agweddau ymarferol gwaith prifysgol. Mae gan ein hadran fwy o wybodaeth ar y cymorth sydd ar gael.
Rhagolygon gyrfaol
Bydd myfyrwyr sy'n astudio BA (Anrh) Cyfrifeg a Rheoli Cyllid yn mynd ymlaen i weithio mewn meysydd megis, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- Cyfrifeg
- Archwilio
- Bancio
- Rheoli Cyfoeth
- Dadansoddwr Ariannol
Mae graddedigion wedi mynd i weithio yn; PWC, Deloitte, Banc America, Lloyds, ac amrywiaeth o gwmnïau Cyfrifeg a Chyllid eraill.
Gall myfyrwyr sy'n cwblhau'r radd hon fynd ymlaen i astudio Gweinyddu Busnes (MBA) neu MSc Rheoli Busnes Rhyngwladol a Chyllid. Gall myfyrwyr hon fynd ymlaen i astudio hefyd graddau cyfan gwbl ar-lein yn yr Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru.
Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.
Ffioedd a chyllid
Nid oes rhaid ichi dalu'ch ffioedd hyfforddi ymlaen llaw.
Ffioedd dysgu Prifysgol Glyndŵr Wrecsam 2023/24 ar gyfer cwrs gradd israddedig amser llawn yw £9000 y flwyddyn.
Bydd y ffioedd rydych chi'n eu talu a'r cymorth ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Ceir gwybodaeth gyflawn ar ein tudalennau Ffioedd a Chyllido.
Manyleb y rhaglen
Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma.
Llety
Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran Llety am fwy o wybodaeth, gan gynnwys prisiau.
I gael mwy o wybodaeth am eich opsiynau, gan gynnwys ein neuaddau preswyl ar y campws Wrexham Village.
Yn amodol ar ddilysu ac achredu
Mae cyrsiau sydd yn cael eu dangos fel rhai “amodol ar ddilysu ac achredu” yn gyrsiau newydd sydd yn cael eu datblygu ac mae manylion y cyrsiau yma yn y broses o gael eu cwblhau drwy’r gylchred gymeradwyo, a elwir yn broses ‘ddilysu’. Mae’r cyrsiau yma hefyd yn y broses o geisio am achrediad/cydnabyddiaeth gan gyrff allanol, a elwir yn CPSRh - Cyrff Proffesiynol, Statudol a Rheoleiddio, sydd yn broses gymeradwyo allanol ar wahân gyda’r CPSRh perthnasol.
Cyn gynted ag y bo rhaglenni yn cael eu dilysu a’u hachredu bydd manylion y cyrsiau yn cael eu cadarnhau. Mae’r rhan fwyaf o gyrsiau sydd yn dal i fod yn ‘amodol ar ddilysu ac achredu’ yn cael eu cymeradwyo yn ôl y disgwyl, fodd bynnag, ni warantir hyn, ac os nad fydd cwrs yn mynd rhagddo yn ôl y disgwyl, neu’n cael ei newid yn sylweddol, cewch eich hysbysu gan y brifysgol a rhoddir cymorth i’r bobl hynny sydd wedi cael cynnig lle i ganfod cwrs amgen addas naill ai ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam neu gyda darparwr arall.