BSc (Anrh) Seiberddiogelwch Cymhwysol (prentisiaeth gradd)

Two students face a server stack, one plugs in a cable

Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2024, 2025

Hyd y cwrs

3 BL (rhan-amser)

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Wrecsam

Pam dewis y cwrs hwn?

Mae'r galw mawr am raddedigion sydd â'r wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i ddadansoddi, datblygu a chynnal systemau cyfrifiadurol modern. Mae sefydliadau'n dibynnu ar gyfer prosesu gwybodaeth a datrys problemau felly mae'r diwydiant yn gofyn i arbenigwyr greu, deall a datblygu Seiberddiogelwch ymhellach.

Bydd myfyrwyr yn:

  • Ennill gradd lawn mewn tair blynedd o astudiaeth ran-amser.
  • Astudio un diwrnod yr wythnos, gyda’r pedwar diwrnod sy’n weddill yn y gwaith.
  • Mynd i'r afael â'r datblygiadau mewn seiberddiogelwch drwy ddealltwriaeth drylwyr o ddiogelwch TG, hacio, gwyddorau fforensig, a'r technolegau sy'n dod i'r amlwg a rhai'r dyfodol sy'n gysylltiedig â'r maes hwn sy'n newid yn gyflym.
  • Cael cyfle i ymgymryd â phrosiectau go iawn, gan eich paratoi ar gyfer gwaith yn y diwydiant.
  • Cael cyfle i adeiladu a ffurfweddu systemau cyfrifiadurol a rhwydweithiol, yn ogystal â’r systemau cymorth angenrheidiol.
  • Archwilio’r materion sy’n gysylltiedig â rheoli’r math yma o systemau ac yn benodol, agweddau angenrheidiol i ddiogelwch rhwydwaith.
  • Cymhwyso’r wybodaeth a’r sgiliau proffesiynol sy’n cael eu datblygu yn y rhaglen i’w gweithle eu hunain.

 

Prif nodweddion y cwrs

  • Addysgu ymarferol o ystod o sgiliau, technegau ac offer diogelwch seiber, megis cryptograffeg, dilysiad, rheoli mynediad, feirysau a maleiswedd; profion hacio; rheoli risg ac ymchwiliad fforensig.
  • Cyfleusterau eang o ran cyfrifiaduron personol a chyfrifiaduron rhwydwaith gyda mynediad i'r rhyngrwyd.
  • Mae gan dîm y cwrs gysylltiadau cryf gyda Chlwstwr Seiberddiogelwch Gogledd Cymru, fforwm wedi'i arwain gan y diwydiant ar gyfer ymarferwyr a chyflogwyr seiberddiogelwch. Bydd gan fyfyrwyr gyfleoedd i fynychu eu cyfarfodydd a’u digwyddiadau.
  • Mae'r Brifysgol yn gartref i'r ARCLab, sy'n arbenigo mewn ymchwil ym maes Cyfrifiadura a Chyfrifiadureg.

Beth fyddwch chin ei astudio

BLWYDDYN 1 (LEFEL 4)

Mae lefel 4 yn cynnwys deunydd sylfaenol hanfodol sy'n berthnasol ym mhob un o'n rhaglenni cyfrifiadura ac mae'n cefnogi eich astudiaethau ym mlwyddyn dau a thri. Byddwch yn dysgu sgiliau sy'n benodol i'r pwnc ynghyd â sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn gwella eich rhagolygon cyflogadwyedd.

Gyda chefnogaeth eich tiwtoriaid, byddwch yn dysgu am rai o'r ffeithiau, cysyniadau, technegau, proses dylunio a chyd-destun hanfodol cyfrifiadureg a diogelwch cyfrifiadurol. Byddwch hefyd yn dysgu am faterion yn ymwneud â chaledwedd, gan gynnwys rhyngwynebu a chysylltiadau data, a'u heffaith ar gynllun a pherfformiad cyffredinol systemau cyfrifiadurol.

MODIWLAU

  • Systemau Cyfrifiadurol
  • Rheoli Data
  • Datrys Problemau trwy Raglennu
  • Dulliau Cyfrifiadurol Arwahanol
  • Hanfodion Diogelwch Gwybodaeth
  • Llywodraethu

BLWYDDYN 2 (Lefel 5)

Yn lefel 5 byddwch yn parhau i ddysgu am hanfodion y ddisgyblaeth wrth i fodiwlau mwy arbenigol ddechrau cael eu cyflwyno, megis modiwlau Seiberddiogelwch a Fforenseg a Diogelwch mewn Cyd-destun, a fydd yn archwilio sut mae modd ffurfweddu systemau cyfrifiadurol i wrthsefyll ac adnabod ymosodiadau seiber.  Byddwch yn gwella eich sgiliau cyfrifiadura ac ymchwilio drwy eu defnyddio mewn gwaith labordy a gwaith ymarferol, i feysydd sydd yn berthnasol i ddisgyblaeth seiberddiogelwch.

MODIWLAU

  • Technoleg Gweinydd
  • Strwythurau ac Algorithmau Data
  • Seiberddiogelwch a Fforenseg
  • Dylunio meddalwedd diogel
  • Sicrhau rhwydweithiau a Seilwaith
  • Prosiect seiliedig ar waith

BLWYDDYN 3 (LEFEL 6)

Unwaith ichi gyrraedd eich blwyddyn olaf, byddwch yn datblygu eich sgiliau ymhellach trwy fodiwlau a addysgir a gwaith ymchwil, gan ganolbwyntio ar y datblygiadau diweddaraf mewn seiberddiogelwch ac astudio modiwlau arbenigol ar Ddiogelwch Rhwydwaith a Hacio Moesegol, gyda’r ddeubeth yn eich paratoi i ddelio ag amrywiaeth o fygythiadau ac ymosodiadau diogelwch. Byddwch hefyd yn ymgymryd â phrosiect blwyddyn olaf unigol, a fydd yn eich helpu i baratoi ar gyfer y math o dasgau a sefyllfaoedd y gallech ddod ar eu traws yn y gweithle. Bydd y gwaith ymarferol a'r prosiect blwyddyn olaf yn datblygu ymhellach eich gwybodaeth arbenigol fanwl, eich dealltwriaeth a'ch sgiliau ymarferol o fewn meysydd allweddol y ddisgyblaeth, fel y'i cymhwysir at ddatblygu systemau a gwasanaethau telathrebu gan ddefnyddio technolegau cyfredol a newydd.

MODIWLAU

  • Rheoli Prosiectau TG
  • Diogelwch Rhwydwaith
  • Hacio Moesegol
  • Technolegau’r Dyfodol
  • Prosiect

Bydd myfyrwyr rhan-amser yn gwneud yr un modiwlau ond bydd eu deiet yn amrywio yn ddibynnol ar eu hargaeledd i fynychu dosbarthiadau a drefnir.

 

Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.

Gofynion mynediad a gwneud cais

Y gofynion academaidd ar gyfer y cwrs yw 112 pwynt tariff UCAS ar TAG Safon Uwch neu gyfatebol gan gynnwys TG, cyfrifiadura, mathemateg neu ffiseg.

Caiff ymgeiswyr nad ydynt yn bodloni’r meini prawf uchod eu hasesu ar sail unigol trwy gyfweliad.

I wneud cais am y llwybr prentisiaeth gradd, defnyddiwch ein cliciwch yma.

Addysgu ac Asesu

Mae asesu’n cael ei ystyried yn rhan annatod o ddysgu ac mae meini prawf asesu yn gysylltiedig â deilliannau dysgu modiwlau unigol.

Mae’r dulliau asesu yn cynnwys asesiadau ymarferol, adroddiadau a thraethodau, dadansoddiad o astudiaethau achos, cyflwyniadau llafar, papurau seminar, gwaith prosiect, portffolio datblygiad personol, arholiadau a phrofion dibaratoad yn yr ystafell ddosbarth. Bydd asesu yn cynnwys aseiniadau unigol a grŵp/tîm.

Yn y modiwlau diogelwch arbenigol, bydd cyfle i fyfyrwyr gael profiad ymarferol o asesu ymarferol lle byddant yn ffurfweddu ystod o systemau cyfrifiadurol a mynd trwy broses profion hacio a hacio moesegol.

Dysgu ac addysgu

Mae Prifysgol Wrecsam wedi ymrwymo i gefnogi ein myfyrwyr i wneud y gorau o’u potensial academaidd.

Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol, a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sydd yno i gynorthwyo gydag agweddau ymarferol o waith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth myfyrwyr fwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael.

O ran anghenion penodol, gall Gwasanaethau Cynhwysiant y Brifysgol ddarparu arweiniad a chymorth priodol os bydd angen addasiadau rhesymol ar unrhyw fyfyriwr oherwydd anabledd cyfredol a gydnabyddir, cyflwr meddygol neu wahaniaeth dysgu penodol.

 

Rhagolygon gyrfaol

Mae'r rhaglen yn creu graddedigion sy'n barod ar gyfer gyrfaoedd yn bennaf ym meysydd seiberddiogelwch, rheoli a gweinyddu rhwydweithiau, a gweinyddion systemau. Fodd bynnag, mae amrywiaeth o rolau eraill sy'n addas ar gyfer graddedigion, megis:

  • Dadansoddwr Seiberddiogelwch
  • Ymgynghorydd Diogelwch
  • Profwr Hacio
  • Dadansoddwr Gwybodaeth am Fygythiadau Seiber
  • Peiriannydd Diogelwch
  • Peiriannydd Diogelwch Seilwaith

Bydd myfyrwyr hefyd yn datblygu craidd o sgiliau cyfrifiadura a TG eang a fyddai'n caniatáu iddynt gyflawni rolau megis:

  • Datblygwr meddalwedd
  • Peiriannydd rhwydweithiau
  • Ymgynghorydd TG
  • Cymorth rhwydweithiau a TG
  • Gweinyddwr Rhwydweithiau  

Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.

Ffioedd a chyllid

Nid oes rhaid i chi dalu eich ffioedd dysgu ymlaen llaw.

Bydd y ffioedd rydych yn eu talu a'r cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn y mae eich ffioedd yn ei gynnwys yn y Cwestiynau Cyffredin ffioedd. 

Mae'r holl ffioedd yn ddarostyngedig i unrhyw newidiadau ym mholisi'r llywodraeth, edrychwch ar ein ffioedd israddedig.

Manyleb y rhaglen

Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma

Llety

Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran Llety am fwy o wybodaeth, gan gynnwys prisiau.

I gael mwy o wybodaeth am eich opsiynau, gan gynnwys ein neuaddau preswyl ar Pentref Wrecsam.