Psychology student in VR headset

Manylion cwrs

Côd UCAS

C800

Blwyddyn mynediad

2024

Hyd y cwrs

3 BL (llawn-amser) 6 BL (rhan-amser)

Tariff UCAS

80-112

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Wrecsam

Course Highlights

Achredwyd

gan Gymdeithas Seicolegol Prydain (BPS)

Yn y 3 uchaf yn y DU

a 1af allan o brifysgolion Cymru am addysgu ar fy nghwrs ag yn y 10 uchaf a 3ydd allan o brifysgolion Cymru am foddhad cyffredinol (Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2022)*

1af yn y DU

am Ansawdd Addysgu ac yn 3ydd yn y DU, 1af yng Nghymru am Brofiad Myfyrwyr (The Times & The Sunday Times Good University Guide 2023)*

Pam dewis y cwrs hwn?

Os yw ymddygiad pobl yn mynd â’ch bryd a chithe’n pendroni tybed pam mae pobl yn gwneud yr hyn maen nhw’n ei wneud, yna bydd ein gradd seicoleg, sydd wedi’i hachredu gan Gymdeithas Seicolegol Prydain (BPS), yn ddelfrydol ar gyfer eich meddwl chwilfrydig.

Bydd myfyrwyr ar y cwrs yn: 

  • cael mynediad at gymorth drwy gydol y radd gan diwtoriaid personol sydd wedi ennill gwobrau, Technegwyr seicoleg gwych ac arweinwyr Modiwlau sy’n hapus i drefnu tiwtorialau modiwl ychwanegol os gofynnwch amdanynt.  
  • cyflawni asesiadau sy’n mesur eich dealltwriaeth a’ch meddwl beirniadol o ran seicoleg, yn ogystal ag annog cymhwyso theori i broblemau’r ‘byd go iawn’.  
  • cael mynediad i ystod amrywiol o gyfleusterau gan gynnwys ein labordy seicometrig, efelychydd hedfan, labordy perfformiad chwaraeon uwch-dechnoleg, ciwbiclau arbrofi a labordy efelychu 
  • astudio modiwlau craidd sy’n ymwneud â seicoleg gymdeithasol, gwahaniaethau unigol, seicoleg wybyddol a seicobioleg, a’r rhain oll yn eich galluogi i gael gwell dealltwriaeth o ryngweithio cymdeithasol, datblygiad unigol, a’r ffordd y mae’r ymennydd yn dehongli gwybodaeth 
  • yn ystod y radd cewch ddysgu’r sgiliau sydd eu hangen i gynnal ymchwil ansoddol a meintiol; gyda modiwl penodol ar gyfer ymchwil ansoddol 
  • ennill sgiliau trosglwyddadwy sy’n ddymunol gan gyflogwyr  
  • cael cyfle i ymchwilio i bwnc o’ch dewis eich hun ar gyfer eich traethawd hir yn y flwyddyn olaf. 
  • yn rhan o ddosbarthiadau sy’n amrywiol ond yn fach o ran niferoedd 
  • *Mae’r cwrs hwn wedi’i raddio fel rhan o grŵp pwnc CHA3 sydd yn y 10fed safle yn y DU ac yn 1af allan o brifysgolion Cymru am addysgu ar fy nghwrs yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2022.
  • *Mae’r cwrs hwn wedi’i raddio fel rhan o grŵp pwnc CHA3 sydd yn gydradd 3ydd yn y DU ac yn 1af allan o brifysgolion Cymru am foddhad cyffredinol yn Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2022.
  • *Mae’r cwrs hwn wedi’i raddio 1af yn y DU fel rhan o dabl cynghrair pwnc Seicoleg ar gyfer Ansawdd Addysgu yn ogystal â 3ydd yn y DU a 1af yng Nghymru am brofiad Myfyrwyr yn The Times a The Sunday Times Good University Guide 2023.
BPS logo
Psychology student using pulse monitor

Seicolegyn Prifysgol Wrecsam

Darganfod mwy am astudio seicoleg ym Prifysgol Wrecsam gan ein staff a'n myfyrwyr presennol.

Prif nodweddion y cwrs

  • Mae’r radd wedi’i hachredu gan Gymdeithas Seicolegol Prydain (BPS) – cewch gyfle hefyd i fynychu a chyflwyno yng nghynhadledd BPS yn eich blwyddyn olaf. 
  • Mae’r adran yn un fach a chyfeillgar ac mae ganddi dîm academaidd sydd wrthi’n ymchwilio ac yn gwbl gefnogol i ddiddordebau ymchwil y myfyrwyr. Mae hyn yn cynnwys cefnogi myfyrwyr yn eu blwyddyn olaf i ddilyn eu syniadau ymchwil eu hunain ar ffurf prosiect ymchwil unigol, dan arweiniad eu goruchwyliwr. 
  • Mae cyfleoedd ym mhob modiwl i fyfyrwyr gael profiad i roi theorïau ar waith yn ymarferol ac/neu ddatblygu sgiliau ymchwil myfyrwyr. Credwn fod seicoleg yn ymwneud â bywyd go iawn ac felly mae darlithoedd ffurfiol yn cael eu hategu drwy ddysgu drwy brofiad. Mae Seicoleg yn wyddor gymhwysol, a chredwn ei bod yn bwysig bod myfyrwyr yn gallu cymhwyso theori mewn ffordd ymarferol. 
  • Cewch gymryd rhan yn ein hwythnos Cyfoethogi Seicoleg a gynhelir yn flynyddol, ac sydd wedi’i chanmol gan y BPS: “Mae’r wythnos gyfoethogi yn gyfle i fyfyrwyr a staff gael cyfleoedd rhwydweithio cyfeillgar ac mae’n helpu i ddatblygu ystod eang o sgiliau gan gynnwys sgiliau cyflwyno sy’n hanfodol i ddatblygu llythrennedd seicolegol. Mae’r sgiliau hyn yn rhai trosglwyddadwy a hanfodol y mae myfyrwyr yn gallu eu defnyddio i adfyfyrio ar eu profiadau academaidd a phersonol.” 
  • Modiwl pwrpasol ar gyfer dulliau ymchwil ansoddol, gan roi’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth sydd eu hangen arnoch i gynnal prosiect ymchwil ansoddol. 
  • Cewch gyfle i gymryd rhan yn ein hefelychiad dysgu blynyddol sef Diwrnod Lleoliad Trosedd mewn amser real – sef myfyrwyr o wahanol adrannau yn dod at ei gilydd i actio, bod yn llygad-dyst, ymchwilio ac adrodd ar drosedd proffil uchel sydd wedi digwydd ar y campws. 

Beth fyddwch chin ei astudio

BLWYDDYN 1 (LEFEL 4)

Yn ystod eich blwyddyn gyntaf byddwch yn datblygu sgiliau astudio a dulliau ymchwil sy'n allweddol i'r rhaglen gradd Seicoleg, tra hefyd i ddysgu a datblygu eich dealltwriaeth o ddamcaniaethau a chysyniadau seicolegol allweddol.

MODIWLAU

  • Seicoleg Sylfaenol: Bwriedir y modiwl yma ddarparu myfyrwyr gydag amlinelliad o ddamcaniaethau seicolegol traddodiadol a chyfoes drwy archwiliad o'i ddatblygiad hanesyddol a safbwyntiau damcaniaethol allweddol.
  • Cyflwyniad i Ddylunio Ymchwil: Maer modiwl hwn yn eich cyflwyno i natur, athroniaeth ac ehangder dulliau ymchwil mewn seicoleg. Ei nod yw eich galluogi  i gael gwybodaeth a dealltwriaeth sylfaenol or broses ymchwil a dulliau ymchwil, yn ogystal â rhoi cyflwyniad i chi i ddulliau ymchwil ansoddol a dadansoddi data. 
  • Cyflwyniad i Ddadansoddi Data: Yn y modiwl hwn, byddwch yn gwella eich dealltwriaeth o natur ac ehangder dulliau ymchwil mewn seicoleg. Bydd y modiwl hwn yn adeiladu ar eich gwybodaeth am gasglu data a ddysgoch yn y modiwl Cyflwyniad i Ddylunio Ymchwil, yn ogystal â rhoi cyflwyniad i chi i ddulliau ymchwil meintiol a dadansoddi data. 
  • Seicoleg Hanfodol: Mae'r modiwl yma'n adeiladu ar y wybodaeth cawsoch o fewn Seicoleg Sylfaenol ac yn galluogi myfyrwyr i roi amlinelliad of ddamcaniaethau seicolegol traddodiadol a chyfoes drwy archwiliad o'i ddatblygiad hanesyddol a safbwyntiau damcaniaethol allweddol.
  • Sgiliau Astudio ar gyfer Seicoleg: Mae'r modiwl hwn yn annog myfyrwyr i ddatblygu'r sgiliau angenrheidiol ar gyfer astudio seicoleg ar lefel AU a'r astudiaeth o ymchwil allweddol detholedig. Bydd hyn yn cynnwys sgiliau generig a phenodol i'r pwnc.
  • Ysgrifennu a Chyfathrebu Gwyddonol: Mae'r modiwl hwn yn adeiladu ar y modiwl sgiliau ymchwil. Mae’n eich cefnogi i ddatblygu eich sgiliau ysgrifennu a chyflwyno, wrth gyfnerthu sgiliau megis cyfeirio a dysgu o adborth.

BLWYDDYN 2 (LEFEL 5)

Yn ystod eich ail flwyddyn, byddwch yn parhau i ddatblygu eich sgiliau o ran dulliau ymchwil ac yn eu cymhwyso mewn meysydd gwahanol Seicoleg. Yn ystod y flwyddyn hon, byddwch yn cwblhau rhai modiwlau craidd a fydd yn adeiladu ar y wybodaeth a enillwyd yn ystod y flwyddyn gyntaf.

MODIWLAU

  • Seicoleg Ddatblygiadol: Mae'r modiwl yma'n cyflwyno myfyrwyr i'r ddisgyblaeth seicoleg ddatblygiadol ardraws rhychwant oes. Cyflwynir myfyrwyr i ddamcaniaethau seicolegol cyfoes o fewn seicoleg ddatblygiadol.
  • Dylunio Ymchwil Uwch: Y bwriad yw darparu myfyrwyr gyda gwybodaeth a dealltwriaeth uwch o fethodoleg ymchwil a dulliau ymchwil er mwyn iddynt fynd ymlaen i gynnal darn annibynnol o ymchwil.
  • Seicoleg Fiolegol: I ymgydnabod myfyrwyr gyda damcaniaethau, modelau ac esboniadau cyfoes o seicoleg fiolegol ac i archwilio'r berthynas rhwng bywydeg, seicoleg a gweithgaredd meddyliol.
  • Seicoleg Wybyddol: Yn ystod y modiwl hwn bydd myfyrwyr yn archwilio ffisioleg y system nerfol ganolog. Bwriedir y modiwl ddatblygu gallu'r myfyrwyr i adnabod a gwerthuso damcaniaethau seicolegol presennol o ddysgu, sylw a chof, meddwl a datrys problemau; yn ogystal â mwyhau gallu'r myfyrwyr i werthuso gwybodaeth bresennol o fewnbwn wybodaeth i ddynol ryw ac anifeiliaid.
  • Gwahaniaethau Unigol: Anogir y modiwl hwn fyfyrwyr i archwilio cysyniadau personoliaeth, deallusrwydd a chymhelliad. Bydd yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu gwerthfawrogiad o'r ffyrdd gall y cysyniadau yma ddylanwadu ar ymddygiad yr unigolyn, yn ogystal â chael dealltwriaeth o brofion seicometreg defnyddiwyd yn y maes.
  • Dulliau Ymchwil Canolradd: Mae'r modiwl yma'n adeiladu ar wybodaeth y myfyrwyr o fethodoleg ymchwil a gafwyd yn y flwyddyn gyntaf, wrth ddatblygu dealltwriaeth y myfyrwyr o'r rhain a dulliau newydd cyflwynwyd ar lefel ddyfnach. Bwriedir y modiwl ddarparu’r myfyrwyr gyda'r gallu i werthuso darganfyddiadau ymchwil a datblygu dealltwriaeth o ddylunio a dadansoddiad ymchwil, yn ogystal â datblygu gallu'r myfyrwyr i ddadansoddi data o ymchwil meintiol ac ansoddol.
  • Seicoleg Iechyd (opsiynol): Bydd y modiwl hwn yn rhoi gwybodaeth a dealltwriaeth i chi o rôl ffactorau cymdeithasol, seicolegol a biolegol ar iechyd, salwch a lles yng nghyd-destun yr unigolyn a chymdeithas gyfoes. Maen eich annog  i ddatblygu dealltwriaeth feirniadol or damcaniaethau ar modelau perthnasol o newid ymddygiad. Gall y pynciau a drafodir yn y modiwl gynnwys Hybu Iechyd a Newid Ymddygiad; Ychwanegiadau, maeth ac ymarfer corff; seicoleg poen a rheoli poen; datblygiad straen a’i reoli. 

BLWYDDYN 3 (LEFEL 6)

Yn ystod eich trydedd flwyddyn a’r un olaf, byddwch yn dylunio eich prosiect ymchwil eich hun gyda goruchwyliaeth y tîm Academaidd. Fel rhan o’r flwyddyn hon, byddwch yn cwblhau’r modiwl craidd terfynol, Seicoleg Gymdeithasol, a bydd hefyd yn caniatáu i chi ddilyn modiwlau dewisol yn seiliedig ar eich dewisiadau a’ch diddordebau chi.

MODIWLAU

  • Prosiect Ymchwil (craidd): O fewn y modiwl hwn, bydd myfyrwyr yn cynnal darn annibynnol o ymchwil gyda chefnogaeth tîm y rhaglen. Bwriad y modiwl yw ysgogi sgiliau gwerthuso beirniadol a chreu barn y myfyrwyr drwy gyfnerthu'r sgiliau a gwybodaeth ymchwil cafwyd ar lefelau 4 a 5.
  • Seicoleg Gymdeithasol (craidd): Bwriad y modiwl hwn yw datblygu dealltwriaeth feirniadol o'r cysyniadau, damcaniaethau a dulliau seicolegol sy'n berthnasol i astudiaeth rhyngweithiadau cymdeithasol, agweddau ac ymddygiadau o fewn cymdeithas. Bydd myfyrwyr yn gallu adnabod ac archwilio'r rhyngwyneb rhwng ymddygiad unigol, rhyngbersonol a grŵp mewn amryw o gyd-destunau cymdeithasol.
  • Seicoleg Glinigol (dewisol): O fewn y modiwl hwn daw myfyrwyr i adnabod prif agweddau'r ddisgyblaeth Seicoleg Glinigol, gan gynnwys cysyniadau, seicoleg glinigol fel proffesiwn, cysyniadau normalrwydd/annormaledd, gorbryder, sgitsoffrenia, anhwylder tymer a gorddryswch.
  • Dysgu a Negodwyd (dewisol): Mae'r modiwl hwn yn galluogi myfyrwyr i drafod dysgu, sy'n angenrheidiol ar gyfer eu datblygiad personol, proffesiynol a gyrfaol. O fewn y modiwl bydd myfyrwyr yn cael gwybodaeth a dealltwriaeth o egwyddorion sefydledig.
  • Seicoleg Fforensig (dewisol): Bydd y modiwl yma'n cyfarwyddo myfyrwyr gyda phrif ardaloedd y ddisgyblaeth Seicoleg Fforensig, gan gynnwys seicoleg fforensig fel proffesiwn, damcaniaethau trosedd, troseddwyr treisgar, terfysgaeth, iechyd meddwl a throsedd, ofn trosedd, proffilio troseddwr, tystiolaeth llygad dystion, darganfod celwydd, a phlant fel tystion.
  • Seicoleg Cwnsela (dewisol): Bydd y modiwl yma'n cyfarwyddo myfyrwyr gyda phrif agweddau'r disgybliaeth Seicoleg Cwnsela, gan gynnwys beth yw seicoleg cwnsela, damcaniaethau hunan, modelau damcaniaethol, gwahaniaethau diwylliannol, beirniadaeth seicoleg cwnsela, a thueddiadau'r dyfodol mewn seicoleg cwnsela.
  • Dysgu'n Seiliedig ar Waith (dewisol): O fewn y modiwl hwn, cynigir y myfyrwyr a'r cyfle i ymchwilio'n feirniadol a chymhwyso gwybodaeth seicolegol i'r amgylchedd gwaith. Bwriad y modiwl yw rhoi mewnwelediad a phrofiad uniongyrchol i fyfyrwyr o seicoleg broffesiynol, yn ogystal â pharatoi myfyrwyr ar gyfer gwaith o fewn cyd-destunau proffesiynol mewn lleoliadau seicolegol.
  • Seiberseicoleg (dewisol): Bydd y modiwl hwn yn rhoi dealltwriaeth i fyfyrwyr o brosesau seicolegol, cymhellion, bwriadau, canlyniadau ymddygiadol, a chanlyniadau unrhyw fath o ddefnydd o dechnoleg. Mae'n annog myfyrwyr i ddatblygu dealltwriaeth feirniadol o'r damcaniaethau seicolegol perthnasol sy'n gysylltiedig ag agweddau cadarnhaol a negyddol ar ymddygiad ar-lein. Gall y pynciau a drafodir yn y modiwl gynnwys: Technoleg ddigidol fel profiad bob dydd; Yr 'hunan' ar-lein, y cyfryngau cymdeithasol a rhwydweithio; Cyfeillgarwch/perthnasoedd ar-lein; Canlyniadau negyddol technoleg ddigidol; Dulliau seicolegol gwahanol i'r byd digidol.

Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.

Gofynion mynediad a gwneud cais

Y gofynion academaidd ar gyfer y cwrs yw 80-112 pwynt tariff UCAS yn TAG Safon Uwch neu gyfwerth a TGAU neu gyfwerth mewn Mathemateg a Saesneg (gradd c / 4 neu uwch). Bydd Safon UG a chymwysterau Sgiliau Allweddol Lefel 3 yn cael eu hystyried hefyd. Byddai gwyddoniaeth o fantais, ond nid yw hyn yn ofynnol.

Croesewir ceisiadau gan unrhyw un sy’n dangos y gallu a’r profiad i ymdopi gyda gofynion y rhaglen. Mae yna drefniadau mewn grym ar gyfer achredu profiad blaenorol: mae’n bosibl cael mynediad i’r crws gradd dan achrediad dysgu blaenorol a/neu brofiadol. 

Efallai y bydd angen cliriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) (a elwid yn CRB) ar gyfer gweithgarwch lleoliad ar Fodiwlau Dysgu yn y Gweithle.

Addysgu ac Asesu

Cewch eich asesu drwy amrywiaeth o wahanol ddulliau asesu, gan gynnwys cyfuniad o waith cwrs, traethodau, portffolios, adroddiadau ymarferol, cyflwyniadau a phrofion yn y dosbarthNid yw’r cwrs yn asesu myfyrwyr drwy arholiadau ar hyn o brydBydd gofyn i chi wneud traethawd hir fel rhan och asesiad blwyddyn olaf.

Dysgu ac addysgu

Mae Prifysgol Wrecsam wedi ymrwymo i roi cymorth i'n myfyrwyr i'w galluogi i gyflawni eu potensial academaidd i'r eithaf.

Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sy'n ymroddedig i helpu myfyrwyr i ddelio ag agweddau ymarferol gwaith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth i fyfyrwyr fwy o wybodaeth ar y cymorth sydd ar gael. 

O ran anghenion penodol, gall Gwasanaethau Cynhwysiant y Brifysgol ddarparu arweiniad a chymorth priodol os bydd angen addasiadau rhesymol ar unrhyw fyfyriwr oherwydd anabledd cyfredol a gydnabyddir, cyflwr meddygol neu wahaniaeth dysgu penodol.

Bydd y radd yn cael ei haddysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau, tiwtorialau, dosbarthiadau ymarferol, gwaith prosiect ac ymarferion cyfrifiadurol (e.e. mewn dulliau ymchwil ac ystadegau). Ar hyn o bryd mae'r addysgu'n digwydd dros 3 diwrnod yr wythnos ac mae oriau cyswllt yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn, wrth ichi ddod yn ddysgwr annibynnol (blwyddyn sylfaen 40 awr; blwyddyn cyntaf 36 awr; blwyddyn ail 30 awr; blwyddyn trydydd 24 awr).

 

Rhagolygon gyrfaol

Fel gradd achrededig BPS, bydd y cwrs hwn yn helpu i ennill sgiliau trosglwyddadwy gan gynnwys rhesymu beirniadol, cymhwysedd meintiol ac ansoddol, a dealltwriaeth ddofn o ymarfer gwyddonol. Ochr yn ochr â datblygu gwybodaeth seicolegol hanfodol a mwy arbenigol ar draws ystod eang o ddisgyblaethau, gall y radd hon hefyd arwain at amrywiaeth o gyfleoedd gyrfa gan gynnwys: 

  • Addysgu academaidd ac ymchwil 
  • Seicolegydd fforensig 
  • Seicolegydd addysg 
    Seicolegydd clinigol 
  • Seicolegydd chwaraeon 
  • Adnoddau Dynol  
  • Cwnsela 
    Addysgu 
  • Seicolegydd galwedigaethol 

Mae ein graddedigion wedi sicrhau cyflogaeth a gyrfaoedd llwyddiannus fel seicolegydd cynorthwyol (CAPs), ymarferydd cyffuriau ac alcohol, swyddog pontio iechyd meddwl a lles, gweithiwr cymorth preswyl, gweithiwr prosiect (Barnardo's), a chyda'r heddlu. 

Mae ein modiwl Dysgu Seiliedig ar Waith dewisol yn rhoi cyfle i fyfyrwyr adeiladu ar eu profiad ymarferol ac ennill sgiliau cyflogadwyedd galwedigaethol. 

Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.

 

Ffioedd a chyllid

Nid oes rhaid i chi dalu eich ffioedd dysgu ymlaen llaw.

Bydd y ffioedd rydych yn eu talu a'r cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn y mae eich ffioedd yn ei gynnwys yn y Cwestiynau Cyffredin ffioedd. 

Mae'r holl ffioedd yn ddarostyngedig i unrhyw newidiadau ym mholisi'r llywodraeth, edrychwch ar ein ffioedd israddedig.

Manyleb y rhaglen

Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma

Llety

Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran Llety i gael mwy o wybodaeth am eich opsiynau, gan gynnwys ein neuaddau preswyl ar y Pentref Wrecsam.

Crime scene tape with police car in background

Cymryd rhan yn ein hymarfer hyfforddi amser blynyddol

Cynhelir efelychiad dysgu Diwrnod Man Trosedd bob blwyddyn, gydag amryw o fyfyrwyr o'r cyrsiau yn actio, yn tystio, yn ymchwilio ac yn adrodd ar drosedd proffil uchel ar y campws.