Civil engineering students using surveying equipment

Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2024, 2025

Hyd y cwrs

1 BL (rhan-amser)

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Wrecsam

*Yn amodol ar ail-ddilysu

Course Highlights

Wedi’i achredu

 gan y Sefydliad Adeiladu Siartredig (CIOB)

 

Cyfleoedd

i ymweld â phrosiectau adeiladu byw ac arsylwi ar waith yn y safleoedd

Rydych yn cwblhau

eich astudiaethau mewn un flwyddyn academaidd drwy ddiwrnod astudio

Pam dewis y cwrs hwn?

Y Diwydiant Adeiladu yw un o’r sectorau cyflogaeth mwyaf ei faint yn y Deyrnas Unedig ac mae angen cyflenwad cyson o dechnolegwyr adeiladu i gyfrannu at brosiectau adeiladu a pheirianneg sifil o bob maint.

  • Mae rhaglen HNC Technoleg Adeiladu yn gymhwyster delfrydol i’r rheiny sy’n cael eu hysgogi wrth weld eu gwaith caled yn cael ei wobrwyo a’u harbenigedd yn cael ei gydnabod mewn diwydiant adeiladu bywiog a heriol.
  • Er bod llawer o dechnolegwyr adeiladu yn ymwneud â chynllunio a goruchwylio prosiectau datblygu newydd, mae llawer o rai eraill yn gyfrifol am y dechnoleg sy’n cyfrannu at brosiectau treftadaeth ac adnewyddu; prosiectau sy’n aml yn sensitif eu natur oherwydd arwyddocâd hanesyddol neu bensaernïol, neu ansawdd traddodiadol yr adeiladwaith presennol. Gall gyrfa mewn technoleg adeiladu felly fod mor amrywiol neu mor arbenigol ag y dymunwch iddo fod wrth ddilyn eich dyheadau a’ch uchelgeisiau personol eich hun.
Chartered Institute of Building logo
model building

Yr Amgylchedd Adeiledigyn Prifysgol Wrecsam

Prif nodweddion y cwrs

  • Gellir ei gwblhau mewn un flwyddyn academaidd yn unig.
  • Ymweliadau â phrosiectau adeiladu byw i edrych ar y gwaith ar safleoedd.
  • Cyfleoedd pellach i ymwneud yn uniongyrchol â’r diwydiant drwy gynadleddau a darlithoedd gwadd.
  • Adnoddau digidol eang o safon diwydiant ar gael i’w defnyddio ar y campws ac oddi ar y campws Caiff darlithoedd eu cynnal mewn blociau er mwyn i fyfyrwyr fynychu ar sail diwrnod astudio.
  • Defnyddir amrywiaeth o ddulliau addysgu a dysgu i sicrhau bod cynnwys technegol yn cael ei gymhwyso i senarios adeiladu nodweddiadol.
  • Mae maes pwnc yr Amgylchedd Adeiledig yn rhan o Gyfadran y Celfyddydau, Gwyddoniaeth a Thechnoleg (FAST) ac felly mae’r cynnwys yn elwa o gysylltiad â disgyblaethau peirianneg, cyfrifiadura ac ynni adnewyddadwy.

Beth fyddwch chin ei astudio

Mae’r cwrs Tystysgrif Genedlaethol Uwch (HNC) mewn Technoleg Adeiladu yn cynnwys chwe modiwl craidd sydd gyda’i gilydd yn esbonio prosesau a thechnolegau’r diwydiant adeiladu cyfoes. Caiff pynciau eu hystyried o’r egwyddorion cyntaf un, er mwyn i chi ddod i werthfawrogi materion sylfaenol wrth ddylunio, adeiladu, rheoli, defnyddio a datgomisiynu prosiectau adeiladu.

MODIWLAU (LEFEL 4)

  • Technoleg Dylunio 1
  • Rheoli Adeiladu 1
  • Technoleg Adeiladu 1
  • Adeiladu Cynaliadwy Mesur Meintiau 1
  • Gwyddoniaeth a Deunyddiau

Datblygwyd cynnwys y cwricwlwm i fodloni gofynion Fframwaith Addysg y Sefydliad Adeiladu Siartredig, felly mae’r modiwlau yn ymdrin â phob agwedd ar gynnwys technegol fel y disgwylid mewn cymhwyster adeiladu ar Lefel 4.

Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.

Gofynion mynediad a gwneud cais

Er mwyn cofrestru ar raglen HNC Technoleg Adeiladu, rhaid i ymgeiswyr fod wedi’u cyflogi yn y sector adeiladu ac yn gallu cael eu rhyddhau i fynychu diwrnod o astudio. Fel arfer, bydd disgwyl i ymgeiswyr fod ag o leiaf un o’r canlynol:

  • Tystysgrif neu Ddiploma Cenedlaethol BTEC Lefel 3;
  • aelodaeth o gorff proffesiynol sy’n gysylltiedig ag adeiladu ar lefel a ystyrir yn briodol gan dîm y rhaglen; neu
  • 80–112 pwynt tariff UCAS

Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr nad ydynt yn bodloni’r meini prawf mynediad safonol a restrir uchod, a byddai disgwyl iddynt ddangos drwy gyfweliad fod ganddynt y potensial i lwyddo ar y rhaglen.

Rydym hefyd yn croesawu ymgeiswyr sydd â digon o brofiad priodol yn y diwydiant, er yr ystyrir asesiad diagnostig er mwyn mesur gallu academaidd, yn enwedig mewn mathemateg a Chymraeg neu Saesneg.

Rydym hefyd yn croesawu ymgeiswyr rhyngwladol, a dylai eu cymwysterau presennol fod wedi’u hamlinellu gan y Ganolfan Wybodaeth Genedlaethol am Gydnabyddiaeth Academaidd (NARIC) i fod yn rhai sy’n cyfateb i gymhwyster mynediad perthnasol y Deyrnas Unedig. Os nad y Gymraeg neu’r Saesneg yw iaith gyntaf yr ymgeisydd, disgwylir iddynt ddangos hyfedredd yn yr iaith Saesneg. Gall ymgeiswyr Ewropeaidd ddarparu’r dystiolaeth hon mewn nifer o ffyrdd (gweler: http://www.glyndwr.ac.uk/en/Europeanstudents/entryrequirements/) gan gynnwys IELTS; mae ymgeiswyr rhyngwladol angen Prawf Iaith Saesneg Diogel (SELT) a gymeradwywyd gan UKVI (gweler: http://www.glyndwr.ac.uk/en/Internationalstudents/EntryandEnglishLanguageRequirements/ i gael y manylion).

Addysgu ac Asesu

Caiff y modiwlau eu cyflwyno drwy ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau addysgu a dysgu, gan gynnwys darlithoedd traddodiadol, gweithgareddau ymarferol, tiwtorialau a thrafodaethau grŵp, gwaith labordy, arsylwi ar safleoedd adeiladu ac arfarnu cyfoedion. Y brif flaenoriaeth yw sicrhau bod myfyrwyr yn teimlo’n gyfforddus yn yr amgylchedd dysgu academaidd ac yn teimlo y gallant gyfrannu at y drafodaeth mewn unrhyw ddosbarth, tiwtorial neu weithgaredd dysgu arall sy’n rhan o’u hastudiaethau – mae addysgu a dysgu yn broses ddwyffordd yn y bôn a barn y myfyrwyr yn hanfodol bwysig yn y broses honno.

Mae sawl ffordd o asesu yn y rhaglen gyda’r nod o efelychu’r mathau o sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig, ymarferol, gweledol a llafar a ddisgwylir gan dechnolegwyr adeiladu; mae adroddiadau ysgrifenedig, defnyddio offer technegol, cyflwyniadau gweledol, dadansoddiadau labordy, profion yn y dosbarth, gwaith cwrs a chyflwyniadau llafar oll yn ffyrdd pwysig y gall myfyrwyr ddangos eu dealltwriaeth. Mae’r mathau o asesu ar gyfer pob modiwl yn dibynnu ar yr hyn sy’n cyd-fynd orau â natur y cynnwys technegol ym mhob pwnc; gyda’i gilydd maent yn cynnig cyfleoedd amrywiol i fyfyrwyr ddangos eu diddordeb, eu brwdfrydedd a’u dehongliad o’r cynnwys yn ystod eu hastudiaethau.

O ran anghenion asesu penodol, gall adran Gwasanaethau Cynhwysiant y Brifysgol gynnig arweiniad a chymorth priodol os bydd unrhyw fyfyrwyr eisiau gofyn am addasiadau rhesymol i’r prosesau asesu oherwydd anabledd, cyflwr meddygol neu wahaniaeth dysgu penodol cydnabyddedig.

Dysgu ac addysgu

Mae Prifysgol Wrecsam wedi ymrwymo i gefnogi ein myfyrwyr i wneud y gorau o’u potensial academaidd.

Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol, a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sydd yno i gynorthwyo gydag agweddau ymarferol o waith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth myfyrwyr fwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael.

O ran anghenion penodol, gall Gwasanaethau Cynhwysiant y Brifysgol ddarparu arweiniad a chymorth priodol os bydd angen addasiadau rhesymol ar unrhyw fyfyriwr oherwydd anabledd cyfredol a gydnabyddir, cyflwr meddygol neu wahaniaeth dysgu penodol.

 

Rhagolygon gyrfaol

Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.

Mae cyfleoedd ar gyfer rheolwyr adeiladu yn bodoli o fewn y diwydiant adeiladu mewn llawer o gyd-destunau amrywiol, o ddatblygiadau adeiladau newydd i brosiectau treftadaeth ac adnewyddu o bob graddfa a math - gall datblygu gyrfa fel rheolwr adeiladu felly arwain at lawer o brofiadau boddhaus, yn anad dim oherwydd y ffaith nad oes dau brosiect adeiladu'r un fath, a bod rheolwyr adeiladu yn debygol o dreulio cymaint o amser ar y safle ag y maent wrth eu desgiau. Mae'r amgylchiadau hyn yn golygu y gall gyrfa ym maes rheoli adeiladu fod yn heriol yn aml, yn arbennig o werthfawr, ond ni fydd byth yn arferol.

Mae’r Dystysgrif Genedlaethol Uwch (HNC) mewn Technoleg Adeiladu yn gymhwyster sy’n cael ei gydnabod i fod yn ffordd gynhwysfawr, wybodus a gwerthfawr o fesur dealltwriaeth wrth gymhwyso manylion adeiladu technegol.

Mae’r cyfleoedd i dechnolegwyr adeiladu yn y diwydiant adeiladu i’w cael mewn llawer o gyd-destunau amrywiol, o ddatblygiadau ‘adeiladu o’r newydd’ i brosiectau treftadaeth ac adnewyddu o bob maint a math – gall datblygu gyrfa fel technolegydd adeiladu felly arwain at lawer o brofiadau gwerth chweil. Mae hyn yn arbennig o wir o ystyried nad oes unrhyw ddau brosiect adeiladu yr un fath, a bod technolegwyr adeiladu yn debygol o dreulio’r un faint o amser ar y safle ag y maent wrth eu desgiau. Mae’r amgylchiadau hyn yn golygu bod gyrfa mewn technoleg adeiladu yn aml yn gallu bod yn heriol, yn hynod werth chweil, ond byth yn gyson yr un fath.

Felly, bydd y cymhwyster HNC Technoleg Adeiladu yn rhoi sail gadarn ar gyfer datblygu gyrfa yn agweddau technegol prosiectau adeiladu mewn ystod o gyd-destunau. Mae myfyrwyr sydd eisoes wedi cwblhau’r rhaglen yn parhau i sefydlu eu hunain fel dylunwyr technegol, arolygwyr adeiladu, syrfewyr adeiladu a thechnolegwyr adeiladu eraill amrywiol, yn bennaf oherwydd y profiad a’r ddealltwriaeth a gawsant wrth ddilyn rhaglen HNC Technoleg Adeiladu ym Mhrifysgol Wrecsam.

Ffioedd a chyllid

Nid oes rhaid i chi dalu eich ffioedd dysgu ymlaen llaw.

Bydd y ffioedd rydych yn eu talu a'r cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn y mae eich ffioedd yn ei gynnwys yn y Cwestiynau Cyffredin ffioedd. 

Mae'r holl ffioedd yn ddarostyngedig i unrhyw newidiadau ym mholisi'r llywodraeth, edrychwch ar ein ffioedd israddedig.

Manyleb y rhaglen

Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma.

Llety

Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran Llety i gael mwy o wybodaeth am eich opsiynau, gan gynnwys ein neuaddau preswyl ar y Pentref Wrecsam.

Yn amodol ar ail-ddilysu

Fel rhan o’i phroses barhaus o sicrhau a gwella ansawdd, mae’r Brifysgol yn adolygu ei chyrsiau yn rheolaidd i sicrhau eu bod yn adlewyrchu anghenion myfyrwyr a chyflogwyr. Pob yn bum mlynedd mae angen cynnal adolygiad cyfnodol o’r holl raglenni cyfredol, ac mae’n bosib y bydd newidiadau sylweddol yn cael eu gwneud i raglenni yn ystod y broses o ail-ddilysu.

Mae’r rhan fwyaf o gyrsiau sydd yn ‘amodol ar ail-ddilysu’ yn cael eu cymeradwyo gan y broses ddilysu; fodd bynnag, ni warantir hyn, ac os na fydd cwrs yn mynd rhagddo yn ôl y bwriad, neu’n cael ei newid yn sylweddol, cewch eich hysbysu gan y brifysgol a rhoddir cymorth i’r bobl hynny sydd wedi cael cynnig lle i ganfod cwrs amgen addas naill ai ym Mhrifysgol Wrecsam neu gyda darparwr arall.