HNC Technoleg Dylunio Pensaernïol

Manylion cwrs

  • Blwyddyn mynediad 2023, 2024
  • Hyd y cwrs 1 BL
  • Lleoliad Wrecsam
ADT class

Course Highlights

Cydradd 1af yn y DU

o ran rhagolygon i raddedigion (Complete University Guide 2023)*

Wedi'i hachredu

gan Sefydliad Siartredig Technolegau Pensaernïol (CIAT)

Llwyddiannus

yn caniatáu mynediad uniongyrchol i ail flwyddyn y radd BSc (Anrh) Technoleg Dylunio Pensaernïol.

Pam dewis y cwrs hwn?

Mae'r HNC Technoleg Dylunio Pensaernïol yn gymhwyster delfrydol ar gyfer y rhai sy'n cael eu cyflogi yn y diwydiant ar hyn o bryd ac yn cael eu hysgogi drwy weld eu gwaith caled yn cael ei wobrwyo a'u harbenigedd yn cael ei gydnabod o fewn sector bywiog a heriol.

  • Mae’r diwydiant adeiladu yn un o sectorau cyflogaeth mwyaf y Deyrnas Unedig ac mae'n gofyn am gyflenwad cyson o arbenigwyr pensaernïaeth a thechnoleg gwybodus i gynllunio ac arwain prosiectau adeiladu o bob disgrifiad; mawr, bach, syml a chymhleth. 
  • Er bod llawer o arbenigwyr adeiladu yn rhan o'r gwaith o ddylunio ac adeiladu prosiectau datblygu cynaliadwy newydd, mae llawer o rai eraill yn gyfrifol am weithredu prosiectau treftadaeth ac adnewyddu; yn aml yn sensitif o ran natur oherwydd arwyddocâd hanesyddol neu bensaernïol, neu ansawdd traddodiadol yr adeiledd presennol. Mae gyrfa mewn technoleg bensaernïol felly yn gallu bod mor amrywiol neu mor arbenigol ag yr ydych yn dymuno iddo fod wrth ddilyn eich amcanion personol a'ch uchelgeisiau gyrfaol eich hun.
  • Bydd y rhaglen HNC yn adeiladu ar eich gwybodaeth bresennol o bensaernïaeth, dylunio adeiladau, Technoleg a phrosesau adeiladu, a bydd yn datblygu eich dealltwriaeth ymhellach o sut y caiff prosiectau eu creu, eu harwain, eu hadeiladu a'u gweithredu ar ôl eu cwblhau.
  • *Mae'r cwrs hwn mewn maes pwnc a raddiwyd yn gydradd gyntaf yn y DU am ragolygon ar ôl graddio yn yn nhablau cynghrair pwnc Adeilad, Complete University Guide 2023.

     

model building

Yr Amgylchedd Adeiledigyn PGW

Prif nodweddion y cwrs

  • Cynhelir rhaglen Technoleg Dylunio Pensaernïol yr HNC mewn un flwyddyn academaidd yn unig.
  • Mae cwblhau rhaglen Technoleg Dylunio Pensaernïol yr HNC yn llwyddiannus yn caniatáu mynediad uniongyrchol i ail flwyddyn y radd BSc (Anrh) Technoleg Dylunio Pensaernïol.
  • Mae'r rhaglen BSc (Anrh) Technoleg Dylunio Pensaernïol wedi'i hachredu gan Sefydliad Siartredig Technolegau Pensaernïol (CIAT) a bydd cwblhau'r HNC ac ail a thrydedd flwyddyn y BSc yn eich cymhwyso i wneud cais am statws Cyswllt (ACIAT).
  • Mae adnoddau digidol o safon diwydiant eang ar gael i'w defnyddio ar-ac oddi ar y campws megis meddalwedd dylunio pensaernïol a chyhoeddiadau academaidd.
  • Hwylusir ymweliadau â phrosiectau adeiladu byw lle y bo'n ymarferol, i arsylwi gweithrediadau'r safle.
  • Mae'r adran Amgylchedd Adeiledig yn rhan o Gyfadran y Celfyddydau, Gwyddoniaeth a Thechnoleg (FAST) ac felly mae'n cynnwys manteision o gysylltiad â disgyblaethau pwnc peirianneg, cyfrifiadura ac ynni adnewyddadwy.
  • *Mae'r cwrs hwn mewn maes pwnc a raddiwyd yn gydradd gyntaf yn y DU am ragolygon ar ôl graddio yn yn nhablau cynghrair pwnc Pensaerniaeth, Complete University Guide 2022.

Beth fyddwch chin ei astudio

Mae'r Dystysgrif Genedlaethol Uwch mewn Technoleg Dylunio pensaernïol yn cynnwys chwe modiwl craidd sydd yn cyfuno i ddarparu sylfaen hyddysg yn y prosesau a'r technolegau sydd yn bodoli o fewn y diwydiant adeiladu cyfoes. Ystyrir pynciau o'r egwyddorion cyntaf, fel y gall myfyrwyr ddod i werthfawrogi materion sylfaenol o ran dylunio, adeiladu, rheoli, defnyddio a datgomisiynu prosiectau adeiladu.

Modylau HNC (Lefel 4)

  • Technoleg Dylunio 1
  • Rheoli adeiladu 1
  • Technoleg adeiladu 1
  • Adeiladu cynaliadwy
  • Ymarfer Mesur Meintiau 1
  • Gwyddoniaeth a Deunyddiau

 

Mae cynnwys y cwricwlwm wedi cael ei ddatblygu i fodloni gofynion safonau addysg y Sefydliad Siartredig ar gyfer Technolegwyr Pensaernïol, ac felly mae cyflwyno modiwlau yn darparu ar gyfer pob agwedd ar gynnwys technegol y disgwylir iddo gael ei gynnwys o fewn cymhwyster adeiladu Lefel 4.

Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.

 

Gofynion mynediad a gwneud cais

I gofrestru ar y rhaglen HNC Technoleg Dylunio Bensaernïol, bydd yn ofynnol i ymgeiswyr gael eu cyflogi o fewn y sector adeiladu ac i gael eu hwyluso gyda dull mynychu 'rhyddhau am y dydd'.

O ran cymwysterau mynediad, fel arfer bydd disgwyl i ymgeiswyr fod wedi cyflawni un o'r canlynol o leiaf:  

  • 112 pwynt UCAS (280 cyn-2017).
  • Tystysgrif BTEC Cenedlaethol neu Diploma mewn disgyblaeth sy’n berthnasol i adeiladu.
  • Aelodaeth o gorff proffesiynol sy'n gysylltiedig ag adeiladu ar lefel a ystyrir yn briodol gan dîm y rhaglen. 

Croesewir hefyd ymgeiswyr a allai fod heb y gofynion ffurfiol hynny a nodwyd ond sydd â digon o brofiad diwydiannol priodol, er y bydd asesiad diagnostig cyn derbyn yn cael ei ystyried er mwyn mesur gallu academaidd, yn enwedig mewn mathemateg a Chymraeg neu Saesneg.

 

 

 

 

Addysgu ac Asesu

Caiff modiwlau eu cyflwyno gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau addysgu a dysgu, gan gynnwys darlithoedd traddodiadol. Y brif flaenoriaeth yw sicrhau bod myfyrwyr yn teimlo'n gyfforddus o fewn yr amgylchedd dysgu academaidd ac yn teimlo eu bod yn gallu cyfrannu at y drafodaeth ar y pwnc o fewn unrhyw ddosbarth, tiwtorial neu weithgaredd dysgu arall sy'n ffurfio rhan o'u hastudiaethau – mae addysgu a dysgu yn y bôn yn broses ddwyffordd lle mae barn myfyrwyr yn hanfodol bwysig megis gweithgareddau ymarferol, tiwtorialau a thrafodaethau grŵp.

Defnyddir ystod o ddulliau asesu o fewn y rhaglen i efelychu'r mathau o sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig, ymarferol, gweledol a llafar a ddisgwylir gan reolwyr adeiladu; mae adroddiadau ysgrifenedig, defnyddio offer technegol, cyflwyniadau gweledol, dadansoddiadau mewn labordai, profion yn y dosbarth, gwaith cwrs a chyflwyniadau llafar i gyd yn ffyrdd pwysig y gall myfyrwyr ddangos eu dealltwriaeth. Mae'r asesiadau ar gyfer pob modiwl wedi'u dewis i weddu i natur y cynnwys technegol ym mhob pwnc, a chyda'i gilydd maent yn darparu ystod o gyfleoedd i fyfyrwyr ddangos eu diddordeb, eu brwdfrydedd a'u dehongliad o gynnwys yn ystod eu hastudiaethau.

Dysgu ac addysgu

Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi ymrwymo i gefnogi ein myfyrwyr i wneud y gorau o’u potensial academaidd.

Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol, a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sydd yno i gynorthwyo gydag agweddau ymarferol o waith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth myfyrwyr fwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael.

O ran anghenion penodol, gall Gwasanaethau Cynhwysiant y Brifysgol ddarparu arweiniad a chymorth priodol os bydd angen addasiadau rhesymol ar unrhyw fyfyriwr oherwydd anabledd cyfredol a gydnabyddir, cyflwr meddygol neu wahaniaeth dysgu penodol.

 

Rhagolygon gyrfaol

Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.

Mae'r Dystysgrif Genedlaethol Uwch mewn Technoleg Dylunio Pensaernïol yn darparu cymhwyster sy'n cael ei gydnabod fel mesur cynhwysfawr, gwybodus a gwerthfawr o ddealltwriaeth wrth reoli adeiladu.

Mae cyfleoedd ar gyfer technolegwyr pensaernïol yn bodoli o fewn y diwydiant adeiladu mewn llawer o gyd-destunau amrywiol, o ddatblygiadau ' adeiladu newydd ' i brosiectau treftadaeth ac adnewyddu o bob graddfa a math – gall datblygu gyrfa fel technolegwyr pensaernïol felly arwain at lawer o brofiadau boddhaus, yn enwedig oherwydd y ffaith nad oes dau brosiect dylunio yr un fath, a bod rhai technolegwyr pensaernïol yn gallu treulio cymaint o amser ar y safle ag y maent wrth eu desgiau. Mae'r amgylchiadau hyn yn golygu y gall gyrfa mewn technoleg bensaernïol yn aml fod yn heriol, yn arbennig o foddhaus, ond byth yn arferol.

Mae'r nifer o arbenigeddau dylunio sy'n agored i raddedigion yn cynnwys cynlluniau adfer a threftadaeth, ailddefnyddio adeiladau sy'n bodoli eisoes, datblygu adeiladau cymdeithasol, gan gynnwys tai, yn aml gyda thenantiaid a phreswylwyr yn gleientiaid, i strwythurau uchel sy'n codi yn y pen draw. Yn yr un modd mae myfyrwyr wedi mynd ymlaen i weithio ar yr ystod lawn o adeiladau cyhoeddus, o ysgolion, colegau a phrifysgolion, i unedau masnachol, adwerthu a diwydiannol. Nid yw'r rhain wedi'u cyfyngu i'r Deyrnas Unedig, gyda graddedigion wedi dod o hyd i waith ar draws y byd.

 Mae swyddi eraill yn cynnwys:

  • Technolegwyr Cynllunio Drwy Gymorth Cyfrifiadur

  • Rheolwyr Prosiect

  • Rheolwyr Safle Adeiladu

  • Dylunwyr sy'n arbenigo mewn gwaith adfer, dylunio mewnol, a dylunio cynnyrch

Ffioedd a chyllid

Nid oes rhaid ichi dalu'ch ffioedd hyfforddi ymlaen llaw.

Mae ffioedd dysgu 2023/24 Prifysgol Glyndŵr Wrecsam ar gyfer cwrs gradd israddedig amser llawn i'w gadarnhau.

Bydd y ffioedd rydych chi'n eu talu a'r cymorth ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Ceir gwybodaeth gyflawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid.

Fel gweithiwr yn y diwydiant adeiladu, efallai bydd cyllid ar gael gan gynlluniau a gweinyddir gan sefydliadau sgiliau sector. Ewch i wefan Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu am wybodaeth pellach: https://www.citb.co.uk/

Manyleb y rhaglen

Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma.

Llety

Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran Llety i gael mwy o wybodaeth am eich opsiynau, gan gynnwys ein neuaddau preswyl ar y Pentref Wrecsam.