Lecturer Gareth Carr point out key features of a 3D building plan to a student

Manylion cwrs

Côd UCAS

K100

Blwyddyn mynediad

2024, 2025

Hyd y cwrs

3 BL (llawn-amser) 4 BL (rhan-amser)

Tariff UCAS

80-112

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Wrecsam

*Yn amodol ar ail-ddilysu
model building

Yr Amgylchedd Adeiledigyn Prifysgol Wrecsam

Pam dewis y cwrs hwn?

Mae ein gradd Technoleg Dylunio Pensaernïol yn archwilio sut mae dylunio a thechnoleg yn gweithio gyda’i gilydd, gan roi gwybodaeth ymarferol ichi o’r ddau faes.

Mae’r cwrs wedi ei achredu’n llawn gan y Sefydliad Siartredig Technolegau Pensaernïol (CIAT) a byddwch yn gymwys i wneud cais am Aelodaeth Gyswllt (ACIAT) unwaith ichi raddio. Gallwch symud ymlaen i statws Siartredig llawn gyda phrofiad priodol, a bydd bod yn Dechnegydd Pensaernïol Siartredig yn rhoi’r un pwerau ichi ag sydd gan Bensaer ond mewn llawer llai o amser.

Gall myfyrwyr:

  • gweithio ar brosiectau sy'n seiliedig ar safleoedd lleol, gan gynnwys cynlluniau go iawn gyda chleientiaid go iawn, yn ogystal ag ymwneud â phartneriaid Ewropeaidd
  • yn datblygu gwybodaeth am sut mae dyluniadau'n esblygu o'r syniad cychwynnol i'r cam adeiladu, a thu hwnt. Bydd hyn yn cynnwys goblygiadau eich dewisiadau o strwythur a deunyddiau er mwyn arwain y ffordd gydag atebion dylunio arloesol ar gyfer pob scenario
  • gydag ymwybyddiaeth gynyddol o'r effaith y mae'r diwydiant adeiladu yn ei chael fel cyfrannwr at newid yn yr hinsawdd, byddwch yn deall sut y gall gwell dewisiadau dylunio a thechnoleg eich gwneud yn Dechnolegydd Pensaernïol sy'n cynnig atebion i'r newidiadau hyn, gan gynnwys sicrhau bod lliniaru a gwydnwch yn allweddol i'r ffordd rydym yn darparu amgylcheddau adeiledig
  • yn gweithio o fewn amgylchedd dysgu lle mae eich profiad dylunio yn bersonol ac yn canolbwyntio ar ddatblygu eich sgiliau, darganfod rhai newydd, a dod yn Dechnolegydd Pensaernïol hyderus ac argyhoeddiadol

*Mae'r cwrs hwn mewn maes pwnc a raddiwyd yn gydradd gyntaf yn y DU am ragolygon ar ôl graddio yn yn nhablau cynghrair pwnc Adeilad, Complete University Guide 2023.

CIAT accredited programme logo

Prif nodweddion y cwrs

  • Wedi’i hachredu gan Sefydliad Siartredig Technolegwyr Pensaernïol, yn cynnig aelodaeth myfyrwyr am ddim, a mynediad i grŵp aelodau ifanc/newydd, AspirATion.
  • *Mae'r cwrs hwn mewn maes pwnc a raddiwyd yn gydradd gyntaf yn y DU am ragolygon ar ôl graddio yn yn nhablau cynghrair pwnc Pensaerniaeth, Complete University Guide 2022.
  • Byddwch yn gweithio mewn amgylchedd dysgu cyfeillgar a chefnogol gyda thîm addysgu sydd eu hunain yn aelodau o’r cyrff proffesiynol ar gyfer y diwydiant pensaernïaeth ac adeiladu sydd yn achredu ein cyrsiau.
  • Byddwch yn gwneud cymysgedd o waith grŵp ac unigol a, ble maent yn berthnasol i’r dyluniadau, bydd gennych ofod stiwdio bwrpasol i fyfyrwyr technoleg dylunio pensaernïol.
  • Byddwch yn cael cyfleoedd i gwrdd ag arbenigwyr o’r diwydiant pensaernïol ac adeiladu yn y brifysgol a thrwy ein rhaglen eang o ymweliadau â safleoedd.
  • Cewch gynnig profiad lleoliad ar Lefel 5 o’r cwrs a byddwch yn gallu manteisio ar y rhwydwaith cyflogwyr sydd yn ein defnyddio i ganfod hyfforddeion a staff.
  • Cewch fynediad at y meddalwedd dylunio gyda chymorth cyfrifiadur ac adnoddau gwybodaeth ddigidol diweddaraf; yn ogystal ag arweiniad a chymorth gan y tîm addysgu ar sut i’w defnyddio i ychwanegu at neu ddatblygu eich sgiliau presennol.

Beth fyddwch chin ei astudio

BLWYDDYN 1 (LEFEL 4)

Mae blwyddyn gyntaf ein gradd Dylunio Pensaernïol yn cynnwys chwe modiwl craidd sy'n cyfuno i roi cyflwyniad i'r prosesau a'r technolegau sy'n bodoli o fewn y diwydiant adeiladu cyfoes. Mae’r pynciau yn cael eu hystyried o’r egwyddorion cyntaf fel bod myfyrwyr yn gallu gwerthfawrogi materion sylfaenol yn nyluniad, yr adeiladu, rheoli, y defnydd a datgomisiynu prosiectau adeiladu.

Mae ffocws y dylunio yn y flwyddyn hon yn ddomestig, gyda’r tasgau yn cael eu gosod er mwyn archwilio sut i greu tai ar gyfer unigolion a theuluoedd gwahanol gan adlewyrchu popeth a ddysgwyd mewn modiwlau ategol fel Technoleg Adeiladu 1.

MODIWLAU

  • Dylunio a Thechnoleg 1
  • Rheoli Adeiladu 1
  • Technoleg Adeiladu 1
  • Adeiladu Cynaliadwy
  • Ymarfer Mesur Meintiau 1
  • Gwyddoniaeth a Deunyddiau  

BLWYDDYN 2 (LEFEL 5)

Mae’r flwyddyn hon yn adeiladu ar yr ail drwy gyflwyno modiwlau pellach sydd yn archwilio ystyriaethau pwysig yn natblygiad prosiectau adeiladu. 

Mae’r ffocws dylunio yn symud i adeiladau cyhoeddus, ar raddfa fwy, a ble mae hynny’n bosib, gyda chleientiaid go iawn. Mae modiwlau eraill gan gynnwys Rheoliadau Cynllunio ac Adeiladu, yn archwilio’r ddau brif ‘ganiatâd’ sydd yn angenrheidiol pan fo cynigion datblygu yn cael eu gwneud, ac mae Technolegau Digidol ar gyfer Tirfesur yn edrych ar y defnydd a wneir o offer digidol wrth fesur tir. Mae Blwyddyn 2 hefyd yn cynnwys lleoliad gwaith gorfodol wythnos o hyd.  

MODIWLAU

  • Dylunio a Thechnoleg Bensaernïol (Gan gynnwys Dysgu yn y Gweithle)
  • Rheoliadau Cynllunio ac Adeiladu
  • Technoleg Adeiladu 2
  • Technolegau Digidol ar gyfer Tirfesur
  • Ymarfer Caffael a Chontractio.

BLWYDDYN 3 (LEFEL 6)

Mae blwyddyn olaf y rhaglen yn dwyn ynghyd y gwersi o’r prosiectau Dylunio cynharach wrth astudio a datblygu adeilad masnachol o faint, gyda chefnogaeth ymchwil gynhwysfawr ar agwedd technoleg a dylunio cysylltiedig.

Yn yr Astudiaethau Rhyngddisgyblaethol sydd yn digwydd yn ystod y flwyddyn hon bydd angen datblygu prosiect grŵp ac mae’r Prosiect Ymchwil Unigol yn gyfle i archwilio diddordeb ymchwil penodol. Mae pob un o’r 22 modiwl yn cyfuno i ymdrochi myfyrwyr yn eu maes astudiaeth a’r bwriad yw annog hyder a brwdfrydedd wrth ddatblygu eu harbenigedd.  

MODIWLAU

  • Dylunio a Thechnoleg Bensaernïol 3
  • Astudiaethau Rhyngddisgyblaethol
  • Technoleg Adeiladu 3
  • Rheoli Masnachol
  • Technolegau Rheoli Prosiect a BIM

Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.

Gofynion mynediad a gwneud cais

Côd UCAS: K100

I gofrestru ar y rhaglen BSc (Anrh) Technoleg Dylunio Pensaernïol, bydd disgwyl fel rheol i ymgeiswyr fod wedi cyflawni’r canlynol fel lleiafswm gofyniad:

  • 48-72 pwynt tariff UCAS i ddechrau’r Flwyddyn Sylfaen ar Lefel 3 (hy, 4 blwyddyn amser llawn i gyd); neu  
  • 80-112 pwynt tariff UCAS i ddechrau Blwyddyn 1 ar Lefel 4; neu
  • Tystysgrif neu Ddiploma BTEC i ddechrau Blwyddyn 1 ar Lefel 4; neu
  • Aelodaeth o gorff proffesiynol cysylltiedig ag adeiladu ar lefel yr ystyrir yn dderbyniol gan dîm y rhaglen, i ddechrau Blwyddyn 1 ar Lefel 4.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr nad ydynt yn ateb y gofynion mynediad safonol uchod a bydd disgwyl iddynt dangos mewn cyfweliad bod ganddynt y potensial i lwyddo ar y rhaglen.   

Mae croeso hefyd i ymgeiswyr sydd yn gweithio yn y diwydiant adeiladu ac sydd â digon o brofiad priodol, ond fe’i hystyrir mewn asesiad diagnostig cyn iddynt gael eu derbyn i fesur eu gallu academaidd, yn enwedig mewn mathemateg a Saesneg neu’r Gymraeg.

Addysgu ac Asesu

Mae ystod o ddulliau asesu yn cael eu defnyddio yn y rhaglen i ysgogi’r math o sgiliau ysgrifenedig, ymarferol, gweledol a llafar a ddisgwylir gan dechnegwyr dylunio pensaernïol; mae adroddiadau ysgrifenedig, defnydd ymarferol o offer technegol, cyflwyniadau gweledol, dadansoddiadau labordy, profion yn y dosbarth, gwaith cwrs a chyflwyniadau llafar oll yn ffyrdd pwysig i fyfyrwyr ddangos eu dealltwriaeth. Mae’r mathau o asesu ar gyfer pob modiwl wedi eu dewis i weddu natur y cynnwys technegol ym mhob pwnc, a gyda’i gilydd maent yn darparu ystod o gyfleoedd i fyfyrwyr ddangos eu diddordeb, brwdfrydedd a dehongliad o gynnwys yn ystod eu hastudiaethau.

Gyda phob asesiad, cewch gefnogaeth lawn gan y tîm addysgu; gan gynnwys aseinio tiwtor personol i chi y gallwch siarad ag am unrhyw faterion sydd gennych yn ystod eich amser ar y cwrs.

DYSGU AC ADDYSGU

Mae modiwlau yn cael eu dysgu gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau addysgu a dysgu, gan gynnwys darlithoedd traddodiadol, gweithgareddau ymarferol, tiwtorialau a thrafodaethau grŵp. Y brif flaenoriaeth yw sicrhau bod myfyrwyr yn teimlo’n gyfforddus yn yr amgylchedd ddysgu academaidd a’u bod yn teimlo’u bod yn gallu cyfrannu at y drafodaeth ar y pynciau dan sylw mewn unrhyw ddosbarth, tiwtorial neu weithgaredd ddysgu arall sydd yn ffurfio rhan o’u hastudiaethau - yn y bôn, mae’r addysgu a’r addysgu yn broses ddwyffordd ble mae barn y myfyriwr yn hanfodol bwysig.

Mae gwaith yn cael ei wneud yn unigol ac mewn grwpiau. Byddwch yn cael eich annog i feddwl yn annibynnol, yn feirniadol ac yn rhesymegol i gyfathrebu atebion dylunio priodol yn effeithiol. Nod y cwrs yw ysgogi proffesiynoldeb, dawn dylunio, cymhwysedd technolegol a gwreiddioldeb.

Mae ffocws sylweddol yn cael ei roi ar ddylunio, a bydd yr asesiadau sy’n ymwneud â datblygu a chynhyrchu adeiladau yn cael eu cefnogi drwy ddarlithoedd penodol a’u gwerthuso drwy amrywiaeth o ddulliau gyda’r nod o gynyddu hyder mewn sgiliau cyflwyno, yn weledol ac ar lafar.

Mae Prifysgol Wrecsam wedi ymrwymo i gefnogi ein myfyrwyr i wneud y gorau o’u potensial academaidd.

Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol, a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sydd yno i gynorthwyo gydag agweddau ymarferol o waith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth myfyrwyr fwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael.

O ran anghenion penodol, gall Gwasanaethau Cynhwysiant y Brifysgol ddarparu arweiniad a chymorth priodol os bydd angen addasiadau rhesymol ar unrhyw fyfyriwr oherwydd anabledd cyfredol a gydnabyddir, cyflwr meddygol neu wahaniaeth dysgu penodol.

Rhagolygon gyrfaol

Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.

Mae’r BSc (Anrh) Technoleg Dylunio Pensaernïol yn cynnig cymhwyster a gydnabyddir fel mesuriad cynhwysfawr, deallus a gwerthfawr o allu myfyriwr graddedig Prifysgol Wrecsam mewn dylunio pensaernïol a’r technolegau sydd yn gysylltiedig â dylunio ac adeiladu.

Mae’r ystod o arbenigaethau dylunio sydd ar gael i raddedigion yn cynnwys cynlluniau adfer a threftadaeth, addasu i ailddefnyddio adeiladau presennol, datblygu adeiladau cymdeithasol, gan gynnwys tai, yn aml gyda thenantiaid a phreswylwyr yn gleientiaid, i strwythurau uchel iawn o ansawdd uchel. Yn yr un modd, mae myfyrwyr wedi mynd ymlaen i weithio ar ystod lawn adeiladau cyhoeddus, o ysgolion, colegau a phrifysgolion, i unedau masnachol, adwerthu a diwydiannol. Nid yw’r rhain yn gyfyngedig i’r Deyrnas Unedig, gyda graddedigion wedi canfod gwaith ar draws y byd.

Ymysg rolau eraill mae:

  • Technolegwyr Dylunio Gyda Chymorth Cyfrifiadur, yn cynnwys arbenigo mewn gwaith realiti rhithwir ac estynedig
  • Rheolwyr Prosiect
  • Rheolwyr Safle Adeiladu
  • Dylunwyr sy’n arbenigo mewn gwaith adfer, dylunwyr mewnol, a chynllunio cynnyrch.

 

 

 

Ffioedd a chyllid

Nid oes rhaid i chi dalu eich ffioedd dysgu ymlaen llaw.

Bydd y ffioedd rydych yn eu talu a'r cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn y mae eich ffioedd yn ei gynnwys yn y Cwestiynau Cyffredin ffioedd. 

Mae'r holl ffioedd yn ddarostyngedig i unrhyw newidiadau ym mholisi'r llywodraeth, edrychwch ar ein ffioedd israddedig.

Manyleb y rhaglen

Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma.

Llety

Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran Llety i gael mwy o wybodaeth am eich opsiynau, gan gynnwys ein neuaddau preswyl ar y Pentref Wrecsam.

 

Yn amodol ar ail-ddilysu

Fel rhan o’i phroses barhaus o sicrhau a gwella ansawdd, mae’r Brifysgol yn adolygu ei chyrsiau yn rheolaidd i sicrhau eu bod yn adlewyrchu anghenion myfyrwyr a chyflogwyr. Pob yn bum mlynedd mae angen cynnal adolygiad cyfnodol o’r holl raglenni cyfredol, ac mae’n bosib y bydd newidiadau sylweddol yn cael eu gwneud i raglenni yn ystod y broses o ail-ddilysu.

Mae’r rhan fwyaf o gyrsiau sydd yn ‘amodol ar ail-ddilysu’ yn cael eu cymeradwyo gan y broses ddilysu; fodd bynnag, ni warantir hyn, ac os na fydd cwrs yn mynd rhagddo yn ôl y bwriad, neu’n cael ei newid yn sylweddol, cewch eich hysbysu gan y brifysgol a rhoddir cymorth i’r bobl hynny sydd wedi cael cynnig lle i ganfod cwrs amgen addas naill ai ym Mhrifysgol Wrecsam neu gyda darparwr arall.