Criminology lecturer walking with a student carrying criminology textbooks

Manylion cwrs

Côd UCAS

M240

Blwyddyn mynediad

2024, 2025

Hyd y cwrs

3 BL (llawn-amser) 6 BL (rhan-amser)

Tariff UCAS

80-112

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Wrecsam

Course Highlights

10 uchaf yn y Deyrnas Unedig

am foddhad myfyrwyr (Canllaw Prifysgol Cyflawn, 2024)*

 

1af yn y DU

ar gyfer Ansawdd Addysgu a Phrofiad Myfyrwyr (Times and The Sunday Times Good University Guide 2023)*

Mae'r maes pwnc hwn yn 1af

ar gyfer Boddhad Myfyrwyr (yng Nghanllaw Prifysgol Cyflawn, 2024)

Pam dewis y cwrs hwn?

Mae ein gradd Troseddeg yn mynd i’r afael ag ystod hynod ddiddorol o gwestiynau o pam fod pobl yn troseddu a sut mae’n effeithio cymdeithas, i gerrig milltir hanesyddol yn y system gyfiawnder ac achosion enwog gafodd effaith anferthol ar y maes cyfreithiol.

Bydd myfyrwyr yn:

  • Astudio troseddeg o ystod o safbwyntiau gan gynnwys y cymdeithasol, gwleidyddol a seicolegol, gan ganolbwyntio ar ddulliau modern o blismona, datblygiad polisi a gwaith llysoedd ynadon a’r goron.
  • Archwilio cyfraith droseddol a rôl a gwaith yr asiantaethau sydd yn rhan o’r system cyfiawnder troseddol modern.
  • Mynd ar ymweliadau safle i wahanol ardaloedd gwaith yn y system cyfiawnder troseddol.
  • Cael ystod o gyfleoedd gwaith gwirfoddol.
  • Dysgu gan dîm ymroddedig o ddarlithwyr sydd â phrofiad or system cyfiawnder troseddol ac sydd wrthi’n ymchwilio ym meysydd cyfiawnder ieuenctid, carchardai, digartrefedd, terfysgaeth, a chamddefnyddio sylweddau.
  • Siaradwyr gwadd yn cyfrannu’n rheolaidd, fel barnwyr, yr heddlu, a staff y gwasanaeth prawf a chyfiawnder ieuenctid.
  • Gadael yn barod i fynd ymlaen i ystod eang o sectorau gan gynnwys cyfiawnder ieuenctid, y gwasanaeth prawf, carchardai, yr heddlu a sefydliadau gwirfoddol.
  • *Astudio mewn maes pwnc a raddiwyd yn 1af yn y DU ar gyfer boddhad myfyrwyr yn nhablau cynghrair pwnc Cymdeithaseg, Complete University Guide 2023.
  • *Astudio cwrd sydd wedi’i raddio fel rhan o grŵp pwnc CHA3 Cymdeithaseg yn safle 1af yn y DU am addysgu fy nghwrs a boddhad cyffredinol yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2022.
  • *Astudio cwrs sydd wedi'i raddio 1af yn y DU fel rhan o dabl cynghrair pwnc Troseddeg ar gyfer Ansawdd Addysgu a Phrofiad Myfyrwyr yn The Times a The Sunday Times Good University Guide 2023.
criminology students in corridor

Astudio Troseddegyn Prifysgol Wrecsam

“Rydw i wedi dewis astudio yma am fod y darlithwyr a gwrddais ar y diwrnod agored yn anhygoel- mae’n debyg y gorau i mi eu cwrdd erioed! Roeddwn yn teimlo fy mod yn cael fy nhrin fel myfyriwr yn hytrach na rhif wrth imi siarad â nhw. ”

Louis Lambert-Ward, myfyriwr Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol

Prif nodweddion y cwrs

  • Byddwch yn rhan o gymuned gynhwysol, groesawgar a chefnogol sy’n hybu dysgu ac yn eich annog i gyrraedd eich llawn botensial. 
  • Cewch gyfle i fod yn rhan o gymdeithas fywiog Cymdeithas Troseddeg a mynd i ddigwyddiadau hwyliog, rhyngweithiol, sgyrsiau gwadd, cynadleddau a digwyddiadau elusennol i godi arian.
  • Dulliau dysgu ac addysgu sy’n arloesol, yn hyblyg ac yn gwella profiad myfyrwyr drwy weithgareddau sy’n ysgogi’r meddwl, dadleuon a sesiynau strwythuredig yn yr ystafell ddosbarth.
  • Bydd ein modiwl dewisol unigryw yn rhoi cipolwg a phrofiad uniongyrchol i chi o ymarfer cyfiawnder troseddol proffesiynol a’i nod yw paratoi myfyrwyr ar gyfer gweithio mewn amgylchiadau proffesiynol. Mae’r modiwl yn seiliedig ar brofiad sy’n eich galluogi i wneud lleoliad mewn gweithle, ynghyd ag oriau addysgu.
  • Mae gennym gysylltiadau da â’r holl gyflogwyr ac asiantaethau cyfiawnder troseddol megis yr heddlu, y gwasanaeth prawf, carchardai, llysoedd ynadon a’r gwasanaeth cyfiawnder ieuenctid.
  • Os oes gennych ddiddordeb yn y cwrs, cofiwch ymuno â’n gwefannau ar y cyfryngau cymdeithasol i gael y wybodaeth ddiweddaraf am rwydweithio a digwyddiadau allweddol. Y rhain yw: @CriminalJusticeGlyndwr ar Facebook, Twitter @CCJglyndwr a Instagram @pandccj 
  • Yn ogystal â’r safleoedd a restrwyd yn gynharach, mae ein gradd Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol hefyd yn rhan o faes pwnc sydd wedi’i raddio’n 1af yn y DU am boddhad addysgu a foddhad am y cwrs, ac hefyn yn 6ed yn y DU yn gyffredinol, yn nhablau cynghrair pwnc Troseddeg (The Guardian University Guide 2023).

Beth fyddwch chin ei astudio

BLWYDDYN 1 (LEFEL 4)

Mae'r flwyddyn gyntaf yn gyflwyniad i faterion ymarfer yn ymwneud â gweithio yn y system cyfiawnder cymunedol a deall ac ymgysylltu ag ymddygiad troseddol. Mae'r ystod o fodiwlau sydd yn cael eu harchwilio yn y flwyddyn gyntaf yn darparu gwybodaeth a dealltwriaeth o achosion trosedd ar lefel gymdeithasol ac unigol ac yn archwilio gwaith yr asiantaethau sy'n rhan o'r system cyfiawnder troseddol.

MODIWLAU:

  • Sgiliau Astudio mewn Addysg Uwch (craidd): bydd hwn yn cefnogi eich dysgu ach datblygiad personol a phroffesiynol mewn addysg uwch 
  • Cyflwyniad i Droseddeg a Chyfiawnder Troseddol (craidd): Cewch yr wybodaeth sylfaenol am gyfiawnder troseddol ar gyfraith. Bydd yn canolbwyntio ar gysyniadau allweddol megis diffinio trosedd ac athroniaeth dedfrydu. 
  • Troseddwyr a Throseddau Arwyddol (craidd): Erbyn diwedd y modiwl byddwch wedi cael eich cyflwyno i drobwyntiau a dadleuon allweddol syn gysylltiedig ag ymarfer cyfiawnder troseddol.
  • Cyffuriau, Alcohol a Throseddau (dewisol): Byddwch yn ystyried amrywiaeth y cyffuriau a ddefnyddir, ac i ba raddau y cânt eu defnyddio, ynghyd â gwerthfawrogi cyd-destun cymdeithasol eu defnydd. Bydd y modiwl yn eich cyflwyno i wneuthuriad cymdeithasol y ‘broblem gyffuriau’. 
  • Trosedd, Cymdeithas a Pholisi Cymdeithasol (opsiynol): Mae’r modiwl yma yn archwilio trosedd mewn cyd-destun cymdeithasol, er enghraifft, tai, addysg ac iechyd.
  • Cyflwyniad i Seicoleg Fforensig (opsiynol): Cewch ymgyfarwyddo â phrif ystyriaethau Seicoleg Fforensig. 
  • Ymlyniad a Throsedd (opsiynol): Mae’r modiwl hwn yn cymhwyso damcaniaeth ymlyniad i ddeall rhagolygon datblygiad problemus mewn poblogaethau fforensig. Mae’r ffocws ar theori ymlyniad yn cyflwyno dull sydd yn ceisio deall dylanwad perthnasoedd ar bersonoliaeth a datblygiad cymdeithasol. Mae’r modiwl yn cwestiynu dulliau ymchwil theori ymlyniad sydd yn archwilio profiadau niweidiol sydd fwyaf tebygol o arwain at weithredu cymdeithasol gwael ac ymddygiad troseddol.

BLWYDDYN 2 (LEFEL 5)

Maer ail flwyddyn wedii chynllunio i adeiladun uniongyrchol ar y sgiliau ar wybodaeth a gawsoch yn ystod y flwyddyn gyntaf. Byddwch yn astudio cyfraith trosedd, ac mewn darlithoedd a theithiau maes traddodiadol lle bo hynnyn bosibl e.e. i'r carchar ar llys, byddwch yn dysgu am faterion uwch mewn ymarfer effeithiol gyda mathau penodol o droseddwyr. Mae damcaniaeth droseddegol ac ymchwil yn cael ei archwilio i ddechrau’r broses o ddatblygu gallu myfyrwyr i feddwl yn ddamcaniaethol ac yn feirniadol am ymarfer cyfiawnder troseddol.

MODIWLAU:

  • Gwahaniaeth Cymdeithasol ac Anghydraddoldeb (craidd): Bydd myfyrwyr yn datblygu dealltwriaeth feirniadol o berthynas dosbarth cymdeithasol, rhyw, hil, oedran, ethnigrwydd, iaith ac agweddau amlwg eraill ar amrywiaeth mewn perthynas ag erledigaeth, trosedd ac ymatebion i’r ffenomenau hyn.
  • Troseddeg (craidd): Bydd hwn yn eich galluogi  i ddeall y prif gysyniadau a dulliau damcaniaethol sydd wedi datblygu ac sydd wrthi’n datblygu mewn perthynas â throseddu, erledigaeth ac ymatebion i droseddu a gwyredigaeth. 
  • Trosedd ac Ymddygiad Troseddol (craidd): I ddarparu gwybodaeth a dealltwriaeth feirniadol i fyfyrwyr o ystod o droseddau ac ymddygiad troseddol cyfredol sydd yn cael eu cyflawni yn y gymdeithas gyfoes.
  • Dulliau Ymchwil (craidd): Byddwch yn ennill dealltwriaeth a gwerthfawrogiad beirniadol o natur a defnydd priodol o strategaethau ymchwil mewn perthynas â materion trosedd, erledigaeth, ac ymatebion i drosedd a gwyredd.
  • Dysgu yn y Gweithle (dewisol): Bydd y modiwl hwn yn rhoi mewnwelediad a phrofiad uniongyrchol i fyfyrwyr o ymarfer cyfiawnder troseddol proffesiynol a’i nod yw paratoi myfyrwyr i weithio mewn cyd-destunau proffesiynol
  • Gweithio mewn Lleoliadau Gwarchodol a Chymunedol gyda phobl sydd wedi troseddu (dewisol): Bydd y modiwl hwn yn galluogi myfyrwyr i ddysgu am ac ymarfer y sgiliau sydd yn hanfodol i weithio’n effeithiol gyda throseddwyr a lleihau’r risg o aildroseddu.
  • Cyfraith Droseddol a’r Broses Cyfiawnder Troseddol (dewisol): Mae'r modiwl hwn yn darparu myfyrwyr â dealltwriaeth o natur a chyd-destun y gyfraith, gan ganolbwyntio'n bennaf ar gyfraith droseddol. Bydd hyn yn cynnwys archwilio'r Broses Cyfiawnder Troseddol gan gynnwys - llysoedd a gwrandawiadau ar gyfer oedolion a phobl ifanc; theori ac ymarfer dedfrydu; carchar a chosbau yn y gymuned; a lle hawliau dynol yn y prosesau hyn.

BLWYDDYN 3 (LEFEL 6)

Yn y flwyddyn olaf, mae’r modiwlau yn datblygu gallu myfyrwyr i gymhwyso safbwyntiau damcaniaethol a beirniadol i brosesau ac ymarfer cyfiawnder troseddol. Cynigir rhywfaint o ddewis hefyd o ran opsiynau modiwlau. Mae natur wleidyddol-gymdeithasol llunio polisi cyfiawnder troseddol yn cael ei archwilio gan edrych drwy lens feirniadol ar y system cyfiawnder troseddol.

Yna gall myfyrwyr ddewis archwilio sut y gall euogrwydd a dieuogrwydd gael eu trafod yn yr heddlu a’r llys, a chyfraniad y gallai seicoleg fforensig ei wneud i ddeall trosedd, cyfiawnder troseddol neu ymateb cyfiawnder troseddol amlasiantaethol i drosedd. Bydd myfyrwyr hefyd yn cwblhau eu project ymchwil eu hunain (opsiwn i gynnal casglu data cynradd neu eilaidd), gan archwilio maes sydd o ddiddordeb iddynt dan oruchwyliaeth un o’r darlithwyr troseddeg profiadol yn yr adran.

MODIWLAU:

  • Prosiect Ymchwil (craidd): Llunio prosiect ymchwil annibynnol sy'n seiliedig ar ddata cynradd neu eilaidd. Dadlau traethawd ymchwil sydd yn seiliedig ar ddealltwriaeth gynhwysfawr o theori troseddeg, arfer da mewn ymchwil a pholisi cyfiawnder troseddol. Cyfosod gwybodaeth a dealltwriaeth a ddatblygwyd trwy gydol eu rhaglen troseddeg o astudiaeth israddedig.
  • Rheolaeth, Cyfiawnder a Chosb (craidd): Gwerthusiad beirniadol o ddatblygiad cymdeithasol a hanesyddol cyfiawnder, dedfrydu a rheolaeth gymdeithasol. 
  • Gwaith amlasiantaethol i reoli risg a pherygl (dewisol): Astudiwch asiantaethau cyfiawnder troseddol y system yng Nghymru a Lloegr, gan ddadansoddin feirniadol eu cyfraniad at reoli troseddu ac amddiffyn y cyhoedd. 
  • Cyfiawnder Ieuenctid (dewisol): Archwilio yn feirniadol yr ystyron sydd ynghlwm wrth blentyndod, ieuenctid a throsedd a'r ddarpariaeth ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n troseddu.
  • Terfysgaeth: Archwilio dehongliad cymdeithasol cyfoes o derfysgaeth a’r goblygiadau i gymdeithas.
  • Plismona Cymunedau Cyfoes (dewisol): Nod y modiwl hwn yw archwilio natur esblygol plismona a materion cyfoes wrth plismona cymdeithas.
  • Dehongli Euogrwydd a Dieuogrwydd (dewisol): Nod y modiwl hwn yw astudio dehongliadau cyfreithiol a chymdeithasol o euogrwydd a dieuogrwydd; Archwilio natur broblemus “ffeithiau” a “gwirionedd” wrth ddehongli euogrwydd a dieuogrwydd gan wahanol fathau o actwyr: cyhuddwyr, y sawl a gyhuddir, dyfarnwyr, y cyfryngau, ymchwilwyr a’r cyhoedd, ac astudio detholiad o achosion sydd wedi mynd i achos troseddol.

Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.

Gofynion mynediad a gwneud cais

Y gofyniad academaidd ar gyfer y cwrs yw 80-112 pwynt tariff UCAS ar TAG Safon Uwch neu gyfatebol.

Mae’n bosib y bydd angen gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) (a elwid gynt yn CRB) ar gyfer gweithgaredd lleoliad ar y modiwl dewisol Dysgu Seiliedig ar Waith.

Addysgu ac Asesu

Mae yna amrywiaeth o ddulliau asesu ar gyfer y cwrs, gan gynnwys traethodau, cyflwyniadau, astudiaethau achos ac arholiadau. Ym Mlwyddyn 3 bydd gofyn i chi wneud prosiect ymchwil ar bwnc sydd o ddiddordeb ichi.

Defnyddir dulliau addysgu hyblyg, hygyrch a chynhwysol ar draws y rhaglen radd. Bydd myfyrwyr yn mynychu darlithoedd wyneb yn wyneb dridiau'r wythnos. Mae myfyrwyr yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn ymweliadau â safleoedd sydd yn y gorffennol wedi cynnwys ymweliadau â llys y goron a charchar.

Dysgu ac addysgu

Mae Prifysgol Wrecsam wedi ymrwymo i gefnogi ein myfyrwyr i wneud y gorau o’u potensial academaidd. Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol, a pharatoi ar gyfer aseiniadau.

Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sydd yno i gynorthwyo gydag agweddau ymarferol o waith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth myfyrwyr fwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael.

O ran anghenion penodol, gall Gwasanaethau Cynhwysiant y Brifysgol ddarparu arweiniad a chymorth priodol os bydd angen addasiadau rhesymol ar unrhyw fyfyriwr oherwydd anabledd cyfredol a gydnabyddir, cyflwr meddygol neu wahaniaeth dysgu penodol.

Rhagolygon gyrfaol

Mae amrywiaeth ardderchog o gyfleoedd gyrfa ar draws y system cyfiawnder troseddol (CJS), ac mae ein gradd mewn troseddeg a chyfiawnder troseddol yn paratoi myfyrwyr gydag ystod eang o sgiliau. 

Mae cyfleoedd cyflogaeth helaeth ar gael i Raddedigion sydd â gradd troseddeg a chyfiawnder troseddol. Dyma rai enghreifftiau yn unig o yrfaoedd y mae ein graddedigion wedi symud ymlaen iddynt: 

  • Heddlu  
  • Gwasanaethau prawf
  • Cymorth i ddioddefwyr
  • Gwasanaeth carchar
  • Gwasanaeth troseddau ieuenctid
  • Asiantaethau cyffuriau ac alcohol
  • System Gyfreithiol a Llys
  • Gwasanaeth sifil
  • Grym ffiniau'r Deyrnas Unedig,
  • Gwasanaethau tai a digartrefedd
  • Gwasanaeth Erlyn y Goron
  • Trydydd Sector
  • Addysg  
  • Gwasanaethau cymdeithasol 

Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.

Os ydych eisiau parhau â’ch astudiaethau, efallai yr hoffech fynd ymlaen i wneud yr MA mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol.

Mae gradd gyda ni mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol yn cynnig cyfleoedd diddiwedd, ac efallai y byddwch hyd yn oed yn penderfynu symud ymlaen i wneud cwrs trosi cyfraith neu seicoleg os ydych am ddilyn llwybr gyrfa gwahanol.

 

Ffioedd a chyllid

Nid oes rhaid i chi dalu eich ffioedd dysgu ymlaen llaw.

Bydd y ffioedd rydych yn eu talu a'r cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn y mae eich ffioedd yn ei gynnwys yn y Cwestiynau Cyffredin ffioedd. 

Mae'r holl ffioedd yn ddarostyngedig i unrhyw newidiadau ym mholisi'r llywodraeth, edrychwch ar ein ffioedd israddedig.

Manyleb y rhaglen

Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma

Llety

Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran Llety am fwy o wybodaeth, gan gynnwys prisiau.

I gael mwy o wybodaeth am eich opsiynau, gan gynnwys ein neuaddau preswyl ar y Pentref Wrecsam.

Crime scene tape with police car in background

Cymerwch ran yn ein hymarferhyfforddi amser-real blynyddol

Pob blwyddyn rydym yn cynnal efelychiad dysgu ar ffurf Diwrnod Safle Trosedd proffil-uchel, gyda myfyrwyr o ystod o gyrsiau yn actio, bod yn dystion, archwilio ac adrodd ar drosedd proffil-uchel sydd wedi digwydd ar y campws.