FdSc Ymddygiad, Lles a Chadwraeth Anifeiliaid Cymhwysol (gyda blwyddyn sylfaen)

Manylion cwrs

Côd UCAS

85D4

Blwyddyn mynediad

2024, 2025

Hyd y cwrs

3 BL (llawn-amser)

Tariff UCAS

48-72

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Northop, Wrecsam

*Yn amodol ar ail-ddilysu

Pam dewis y cwrs hwn?

Os ydych yn angerddol am anifeiliaid does dim amser gwell amser i baratoi ar gyfer eich gyrfa ddelfrydol gyda’r cwrs hwn sydd yn rhoi sylw i ymddygiad, moeseg a lles anifeiliaid. Daeth y maes pwnc yn gyntaf yn y DU am foddhad myfyrwyr yn y Complete University Guide 2023.

Bydd myfyrwyr yn: 

  • *astudio mewn maes pwnc a raddiwyd yn 1af yn y DU o ran boddhad myfyrwyr yn nhablau cynghrair pwnc Amaeth & Choedwigaeth y Complete University Guide 2023
  • astudio gwyddoniaeth sŵolegol, hwsmonaeth anifeiliaid, dysgu a hyfforddi anifeiliaid a sgiliau arolwg ar gyfer cadwraeth
  • cymryd rhan mewn lleoliadau gwaith i ddatblygu sgiliau ymarferol ac arddangos y sgiliau maent wedi eu hennill
  • mynediad i ystafell glinigol filfeddygol, man hyfforddi pwrpasol a chwrs ystwythder safonol Crufts
  • mwynhau ymweliadau i elusennau anifeiliaid, canolfannau bywyd gwyllt a lleoliadau eraill yn gysylltiedig â'r diwydiant

 

Prif nodweddion y cwrs

  • *Mae'r cwrs hwn mewn maes pwnc a raddiwyd yn 1af yn y DU o ran boddhad myfyrwyr yn nhablau cynghrair pwnc Amaeth & Choedwigaeth y Complete University Guide 2022.
  • Datblygu lefel uchel o wybodaeth o ymddygiad, hwsmonaeth a hyfforddi anifeiliaid.
  • Amgylcheddau astudio trefol a gwledig - rhannwch eich amser astudio rhwng campws Llaneurgain sydd ynghanol cefn gwlad trawiadol Gogledd Cymru a'n campws yn Wrecsam, ar gyrion y dref fwyaf Gogledd Ddwyrain Cymru.
  • Cysylltiadau rhagorol gyda diwydiant a chyfleoedd i gael lleoliadau gwaith a fydd yn gwella’ch rhagolygon gyrfaol. Cael profiad mewn ystod o sefyllfaoedd ymarferol o waith mewn sw i hyfforddi cŵn cymorth.
  • Staff sy'n weithredol yn y diwydiant gyda sgiliau academaidd ac ymarferol arbenigol, a phrofiad o weithio gydag ystod o anifeiliaid domestig a gwyllt.
  • Gwnewch l i gael gradd BSc (Anrh) lawn mewn Astudiaethau Anifeiliaid unwaith y byddwch wedi cwblhau'r flwyddyn sylfaen (angen astudio am flwyddyn arall).

Beth fyddwch chin ei astudio

BLWYDDYN 1 (BLWYDDYN SYLFAEN)

Mae'r Flwyddyn Sylfaen yn flwyddyn integredig lle byddwch yn astudio modiwlau craidd gydag ystod eang o fyfyrwyr o bob rhan o'r Gyfadran Gwyddorau Cymdeithasol a Bywyd, gan roi mynediad i chi at wahanol safbwyntiau a chyfleoedd rhwydweithio.  

Bydd y modiwlau yn eich arfogi â sgiliau allweddol sydd eu hangen ar gyfer Addysg Uwch a thu hwnt. Byddant yn rhoi cyfle i chi archwilio eich maes pwnc a'ch gyrfaoedd sydd ar gael, gan eich galluogi i addasu eich darllen a'ch asesiadau i fod yn berthnasol i'ch llwybr gradd. 

Ochr yn ochr ag addysgu gan staff ehangach y gyfadran, byddwch yn gallu cwrdd â staff a myfyrwyr eraill o'ch prif lwybr gradd a chymryd rhan mewn digwyddiadau a chyfleoedd y maent yn eu cynnal.  

  • Bydd Sgiliau Astudio ar gyfer Llwyddiant (craidd) yn rhoi sylfaen gadarn i chi mewn confensiynau academaidd a sgiliau rheoli amser i'ch helpu i symud ymlaen trwy'ch gradd.  
  • Gwydnwch mewn Addysg Uwch a Thu hwnt (Craidd) Mae datblygiad a gwytnwch personol yr un mor bwysig â sgiliau academaidd wrth gyflawni eich taith tuag at raddio, a bydd y modiwl newydd cyffrous hwn yn eich arfogi â'r priodoleddau sydd eu hangen ar gyfer hyn.  
  • Diwrnod ym Mywyd (Bywyd) Mae'r modiwl hwn yn eich galluogi i archwilio'r opsiynau gyrfa posibl sydd ar gael i chi ar ôl i chi gwblhau eich gradd dewisol. Byddwch yn archwilio'r proffesiynau sy'n gysylltiedig â'ch gradd ac yn dechrau paratoi eich portffolio graddedigion ar gyfer cyflogwyr.  
  • Bydd Bywyd a Gwaith yng Nghyd-destun Cymru (craidd) yn rhoi cyfle i chi archwilio eich maes pwnc a/neu yrfa ddymunol mewn perthynas â byw a gweithio yn y Gymru sydd ohoni.  

Mae'r gyfres o fodiwlau dewisol wedi'u cynllunio i wella'ch sylfaen sgiliau mewn perthynas â'ch datblygiad gyrfa. Bydd eich tiwtor personol o'ch gradd yn cwrdd â chi i'ch helpu i benderfynu pa un o'r modiwlau dewisol fyddai fwyaf addas i chi. Y modiwlau dewisol yw:  

  • Mae’r Gymraeg i Ddechreuwyr yn rhoi cyflwyniad i'r Gymraeg i'r rhai sy'n cymryd eu camau cyntaf Rhifedd lle mae angen lefel gymwys o rifedd ar eich gradd, efallai y cewch eich cynghori i ddewis yr opsiwn hwn.  
  • Cyfathrebu Proffesiynol yn y Gweithle yn y modiwl hwn, byddwch yn dechrau datblygu'r sgiliau a'r gallu angenrheidiol i gyfathrebu'n effeithiol mewn cyd-destun proffesiynol.  
  • Mathemateg a Dylunio Arbrofol os oes angen dealltwriaeth o'ch llwybr gradd o rifedd a'r gwyddorau, yna mae'r modiwl hwn wedi'i gynllunio i roi'r cyfle i gyflawni hynny.  

Mae amrywiaeth o asesiadau ar draws y flwyddyn sylfaen – cyflwyniadau, portffolios, archebu sgrap electronig a logiau dysgu, er enghraifft. 

BLWYDDYN 2 (LEFEL 4)

Yn y flwyddyn gyntaf cewch eich cyflwyno i gysyniadau bioleg, ymddygiad a lles anifeiliaid y byddwch yn eu defnyddio drwy gydol eich cwrs. Mae sgiliau labordy yn hanfodol i wyddoniaeth a byddwch yn derbyn sylfaen yn y rhain. Byddwch yn datblygu sgiliau a gwybodaeth am hwsmonaeth anifeiliaid. Byddwch hefyd yn ymgymryd â chyfnod o brofiad gwaith i'ch galluogi i ymgynefino â'r sector anifeiliaid a datblygu’r sgiliau ymarferol sydd yn angenrheidiol ar gyfer y gweithle.

MODIWLAU

  • Cysyniadau Biolegol: Nod y modiwl hwn yw datblygu dealltwriaeth myfyrwyr o brif egwyddorion bioleg anifeiliaid, pathogenau biolegol, sgiliau labordy a strwythur a swyddogaeth anatomegol. Byddwn yn rhoi sylw i darddiad a dosbarthiad bywyd ynghyd â strwythur a swyddogaeth celloedd a meinweoedd. Bydd prif organau a systemau corff anifeiliaid hefyd yn cael eu cyflwyno.
  • Hwsmonaeth: Nod y modiwl hwn yw datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth myfyrwyr o hwsmonaeth anifeiliaid ac mae’n rhoi’r cyfle i fyfyrwyr ennill profiad ymarferol gydag ystod eang o rywogaethau anifeiliaid. Bydd darlithoedd, sesiynau ymarferol ac ymweliadau i sefydliadau lleol yn galluogi myfyrwyr i atgyfnerthu eu profiadau ymarferol gyda damcaniaethau hwsmonaeth priodol. Gwneir defnydd o ddeunyddiau astudiaethau achos a siaradwyr gwadd.
  • Etholeg ac Anthrosŵoleg: Mae’r modiwl hwn yn galluogi myfyrwyr i archwilio sail fiolegol ymddygiad naturiol, a gwerthuso’r berthynas rhwng ymddygiad naturiol a lles anifeiliaid mewn caethiwed. Bydd myfyrwyr yn gwneud astudiaeth ymarferol o anifail caeth a thrafod y cysylltiad rhwng lles anifeiliaid a’r amgylchedd caeth. Bydd myfyrwyr hefyd yn archwilio’r ystod o gydberthnasau rhwng pobl ac anifeiliaid a’r costau a’r manteision sy’n gysylltiedig â’r rhyngweithiadau hyn.
  • Moeseg a Lles: Nod y modiwl hwn yw ymchwilio i faterion cyfoes ym maes lles anifeiliaid a chyflwyno myfyrwyr i’r ystod o faterion moesegol perthnasol. Bydd amrywiaeth o faterion lles cyfoes yn cael eu cloriannu yn ystod y modiwl. Bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i gyflwyno eu gweithdai a’u seminarau eu hunain
  • Datblygiad Academaidd a Phersonol: Nod y modiwl hwn yw sicrhau bod myfyrwyr yn gyfarwydd â diwylliant addysg uwch, er mwyn adeiladu ar eu sgiliau allweddol (rhesymegol, mathemategol a beirniadol) sydd eu hangen i astudio’n llwyddiannus mewn addysg uwch.
  • Ymarfer Proffesiynol: Astudir ystod o gyfleoedd gyrfaol a heriau sy’n gysylltiedig â sicrhau cyflogaeth o fewn y sector anifeiliaid yn y modiwl hwn. Bydd myfyrwyr hefyd yn cael cyfle i ddatblygu eu sgiliau, eu gwybodaeth a’u cymwyseddau mewn lleoliad yn y gweithle o’u dewis. 

BLWYDDYN 3 (LEFEL 5)

Yn yr ail flwyddyn, byddwch yn adeiladu ar yr wybodaeth a ddatblygwyd yn ystod eich blwyddyn gyntaf ac yn datblygu dealltwriaeth o amrywiaeth o destunau yn fanylach. Byddwch yn dysgu am anatomeg a ffisioleg, sgiliau arolygu ar gyfer cadwraeth, dysgu a hyfforddi. Byddwch hefyd yn dysgu sgiliau ymchwil ac ysgrifennu adroddiad mewn methodolegau ymchwil. Yn ychwanegol i hyn bydd y modiwl Ymarfer Cymhwysol yn caniatáu ichi ennill rhagor o brofiad ymarferol yn y gweithle.

MODIWLAU

  • Methodolegau Ymchwil: Bydd y modiwl hwn yn eich galluogi i ddeall rôl ymchwil berthnasol ym maes astudiaethau anifeiliaid. Yn ogystal, bydd yn eich arfogi â gallu digonol i gynllunio prosiect ymchwil yn eich maes astudio, i ddiffinio’r paramedrau ymchwil, asesu methodolegau priodol, a chyflwyno eich canfyddiadau. Byddwch yn dysgu sut i archwilio ac asesu pa mor briodol yw gwahanol fethodolegau ymchwil i wahanol friffiau ymchwil a dod yn ymwybodol o faterion moesegol a gwleidyddol mewn ymchwil gymdeithasol.
  • Ymarfer Gymhwysol: Bydd y modiwl yma yn eich galluogi i elwa o ragor o ddysgu sy’n seiliedig ar waith ac ymddwyn fel ymgynghorydd sydd yn ymchwilio ac yn asesu’n feirniadol materion o fewn y sefydliad ar y cyd gyda’r cyflogwr. Bydd gennych gyfle i wneud argymhellion o ran datblygu yn seiliedig ar y profiad a gawsoch.
  • Anatomeg a Ffisioleg: Nod y modiwl hwn yw arfogi myfyrwyr â gwybodaeth ymarferol o anatomeg dopograffig ac ysgerbydol ac i'w galluogi i adnabod arwyddnodau anatomegol. Byddwch yn dysgu sut i gysylltu strwythur anatomegol â swyddogaeth ac i ddatblygu ymhellach eich sgiliau labordy ymarferol
  • Dysgu a Hyfforddi: Yn y modiwl hwn byddwch yn datblygu gwybodaeth ymarferol o egwyddorion damcaniaethau dysgu fel y’u cymhwysir i anifeiliaid. Byddwch yn cysylltu dysgu anifeiliaid gydag arferion hyfforddi ac yn ysgrifennu a gweithredu eich cynllun eich hunan i hyfforddi anifail i gwblhau tasg. Byddwch yn gwerthuso dulliau hyfforddi traddodiadol a chyfoes ac offer cysylltiedig.
  • Sgiliau Arolygu ar gyfer Cadwraeth: Bydd y modiwl Sgiliau Arolygu ar gyfer Cadwraeth yn arfogi myfyrwyr â’r sgiliau sydd eu hangen i gyflawni ystod o arolygon ar gyfer rhywogaethau anifeiliaid. Bydd myfyrwyr yn adnabod ac arolygu ystod o rywogaethau anifeiliaid, ac yn dadansoddi a dehongli’r data a gesglir. Bydd y sgiliau hyn yn cael eu datblygu drwy waith maes ymarferol, er enghraifft yn ystod ymweliadau i warchodfeydd natur a choetiroedd lleol.

Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.

Gofynion mynediad a gwneud cais

Côd UCAS: 85D4

Croesewir ceisiadau gan ymgeiswyr nad ydynt yn meddu ar y cymwysterau safonol ond a all ddangos eu gallu i ddilyn y cwrs yn llwyddiannus.

Mae mynediad i'r ymgeiswyr hyn yn dibynnu ar asesiad o'u profiad blaenorol, cyfweliad llwyddiannus, tystlythyrau ac asesiad diagnostig i benderfynu eu haddasrwydd i'r cwrs. Mae brwdfrydedd ac ymroddiad yn hanfodol.

Addysgu ac Asesu

Mae'r cwrs yn cynnwys ystod o fodiwlau sy'n cael eu hasesu gan waith cwrs damcaniaethol ac mewn rhai achosion, waith cwrs ymarferol. Mae'r mathau o asesiadau'n cynnwys, portffolios, posteri, adroddiadau labordy, traethodau, cyflwyniadau, seminarau, arholiadau ymarferol, arholiadau ysgrifenedig a dyddiaduron myfyriol.

Dysgu ac Addysgu

Mae'r rhaglen yn cynnwys dulliau dysgu ac addysgu amrywiol yn y dosbarth, lleoliadau a sesiynau ymarferol a ddarperir yn y gweithle. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Darlithoedd ac arddangosiadau
  • Seminarau a gweithdai
  • Tiwtorialau
  • Gwaith grŵp a phrosiect
  • Adroddiadau myfyriol
  • Siaradwyr allanol
  • Ymweliadau addysgiadol a diwrnodau astudio
  • Sesiynau a arweinir gan diwtor a myfyrwyr
  • Gwerthuso beirniadol
  • Datblygu portffolio
  • Lleoliadau gwaith

Mae Prifysgol Wrecsam wedi ymrwymo i gefnogi ein myfyrwyr i wneud y gorau o’u potensial academaidd.

Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol, a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sydd yno i gynorthwyo gydag agweddau ymarferol o waith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth myfyrwyr fwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael.

O ran anghenion penodol, gall Gwasanaethau Cynhwysiant y Brifysgol ddarparu arweiniad a chymorth priodol os bydd angen addasiadau rhesymol ar unrhyw fyfyriwr oherwydd anabledd cyfredol a gydnabyddir, cyflwr meddygol neu wahaniaeth dysgu penodol.

Rhagolygon gyrfaol

Mae’r diwydiant gofal anifeiliaid bellach werth £1 biliwn i economi’r DU gyda 13,000 o fusnesau ac elusennau anifeiliaid niferus, sŵau, sefydliadau cadwraeth, parciau bywyd gwyllt ac atyniadau anifeiliaid i ymwelwyr.

Mae cyfleoedd gyrfaol yn y diwydiant gofal anifeiliaid yn eang. Gallwch fod yn gweithio mewn:

  • Sefydliadau lles anifeiliaid
  • Cadwraeth
  • Sŵau a pharciau bywyd gwyllt
  • Milfeddygfeydd
  • Cwmnïau bwyd anifeiliaid
  • Chwmnïau milfeddygol neu fferyllol

Mae cyfleoedd i ymgymryd ag astudiaethau pellach ar gael hefyd, megis mynd ymlaen i wneud cymhwyster dysgu neu ymchwil ar lefel ôl-raddedig.

Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.

Ffioedd a chyllid

Nid oes rhaid i chi dalu eich ffioedd dysgu ymlaen llaw.

Bydd y ffioedd rydych yn eu talu a'r cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn y mae eich ffioedd yn ei gynnwys yn y Cwestiynau Cyffredin ffioedd. 

Mae'r holl ffioedd yn ddarostyngedig i unrhyw newidiadau ym mholisi'r llywodraeth, edrychwch ar ein ffioedd israddedig.

Manyleb y rhaglen

Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma.   

Llety

Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran Llety i gael mwy o wybodaeth am eich opsiynau, gan gynnwys ein neuaddau preswyl ar y Pentref Wrecsam.

 

Yn amodol ar ail-ddilysu

Fel rhan o’i phroses barhaus o sicrhau a gwella ansawdd, mae’r Brifysgol yn adolygu ei chyrsiau yn rheolaidd i sicrhau eu bod yn adlewyrchu anghenion myfyrwyr a chyflogwyr. Pob yn bum mlynedd mae angen cynnal adolygiad cyfnodol o’r holl raglenni cyfredol, ac mae’n bosib y bydd newidiadau sylweddol yn cael eu gwneud i raglenni yn ystod y broses o ail-ddilysu.

Mae’r rhan fwyaf o gyrsiau sydd yn ‘amodol ar ail-ddilysu’ yn cael eu cymeradwyo gan y broses ddilysu; fodd bynnag, ni warantir hyn, ac os na fydd cwrs yn mynd rhagddo yn ôl y bwriad, neu’n cael ei newid yn sylweddol, cewch eich hysbysu gan y brifysgol a rhoddir cymorth i’r bobl hynny sydd wedi cael cynnig lle i ganfod cwrs amgen addas naill ai ym Mhrifysgol Wrecsam neu gyda darparwr arall.