Manylion cwrs

Côd UCAS

839K

Blwyddyn mynediad

2024, 2025

Hyd y cwrs

3 BL (llawn-amser) 5 BL (rhan-amser)

Tariff UCAS

80-112

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Northop

Pam dewis y cwrs hwn?

Mae cwrs eang ei gwmpas yma wedi ei ddylunio i'ch arfogi â'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i fynd i mewn i nifer o alwedigaethau amrywiol o fewn y sector anifeiliaid. Mae'n maes pwnc Gwyddor Anifeiliaid yn 1af yn y DU am foddhad myfyrwyr yn y Complete University Guide 2023 ac mae'r cwrs yma'n ran o'r maes pwnc.

 Bydd myfyrwyr yn:

  • *Astudio mewn maes pwnc a raddiwyd yn 1af yn y DU o ran boddhad myfyrwyr yn nhablau cynghrair pwnc Amaeth & Choedwigaeth y Complete University Guide 2023
  • Datblygu ac ehangu eu gwybodaeth bresennol yn themâu craidd lles, ymddygiad a chadwraeth anifeiliaid
  • Cynllunio a gweithredu astudiaeth ymchwil o’u dewis
  • Datblygu’n bersonol a phroffesiynol i wella cyflogadwyedd o fewn y diwydiant
  • Cael mynediad i ystafell glinigol filfeddygol, man hyfforddi pwrpasol a chwrs ystwythder safonol Crufts.
  • Mwynhau ymweliadau i elusennau anifeiliaid, canolfannau bywyd gwyllt a lleoliadau eraill sydd yn gysylltiedig â’r diwydiant

     

Prif nodweddion y cwrs

  • Datblygu gwybodaeth ar lefel uchel am ffisioleg, ymddygiad, hyfforddiant, lles a chadwraeth anifeiliaid
  • Amgylcheddau astudio trefol a gwledig – rhannwch eich amser astudio rhwng campws Llaneurgain sydd yn nghanol cefn gwlad trawiadol Gogledd Cymru a’n campws yn Wrecsam, ar gyrion tref fwyaf Gogledd Ddwyrain Cymru
  • Cysylltiadau rhagorol gyda diwydiant
  • Cyfleoedd i gynnal eich prosiect ymchwil eich hunan mewn arbenigedd o’ch dewis mewn lleoliadau amrywiol
  • Staff sy’n gweithio yn y diwydiant gyda sgiliau academaidd ac ymarferol arbenigol, a phrofiad o weithio gydag ystod o anifeiliaid domestig a gwyllt
  • Ymunwch â’n cymdeithas sŵolegol a mwynhau ystod o ddigwyddiadau, gweithgareddau a gwibdeithiau drwy gydol y flwyddyn
  • Mae dilyniant o’r BSc (Anrh) Gwyddor Ymddygiad, Lles a Chadwraeth Anifeiliaid yn cynnwys cyflogaeth neu astudiaeth ôl-raddedig

Beth fyddwch chin ei astudio

BLWYDDYN 1 (LEFEL 4)

Yn y flwyddyn cyntaf, bydd cysyniadau bioleg, ymddygiad a lles anifeiliaid yn cael eu cyflwyno a byddwch yn defnyddio’r rhain drwy gydol gweddill y cwrs. Mae sgiliau labordy yn hanfodol i wyddoniaeth a byddwch yn derbyn sylfaen yn y rhain. Byddwch yn datblygu sgiliau a gwybodaeth am hwsmonaeth. Byddwch hefyd yn ymgymryd â chyfnod o brofiad gwaith er mwyn ichi ddod yn gyfarwydd â’r sector anifeiliaid a datblygu’r sgiliau ymarferol sydd yn angenrheidiol ar gyfer y gweithle.

MODIWLAU

  • Cysyniadau Biolegol: Nod y modiwl hwn yw datblygu dealltwriaeth myfyrwyr o brif egwyddorion bioleg anifeiliaid, pathogenau biolegol, sgiliau labordy a strwythur a swyddogaeth anatomegol. Byddwn yn rhoi sylw i darddiad a dosbarthiad bywyd ynghyd â strwythur a swyddogaeth celloedd a meinweoedd. Bydd prif organau a systemau corff anifeiliaid hefyd yn cael eu cyflwyno.
  • Hwsmonaeth: Nod y modiwl hwn yw datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth myfyrwyr o hwsmonaeth anifeiliaid ac mae’n rhoi’r cyfle i fyfyrwyr ennill profiad ymarferol gydag ystod eang o rywogaethau anifeiliaid. Bydd darlithoedd, sesiynau ymarferol ac ymweliadau i sefydliadau lleol yn galluogi myfyrwyr i atgyfnerthu eu profiadau ymarferol gyda damcaniaethau hwsmonaeth priodol. Gwneir defnydd o ddeunyddiau astudiaethau achos a siaradwyr gwadd.
  • Etholeg ac Anthrosŵoleg: Mae’r modiwl hwn yn galluogi myfyrwyr i archwilio sail fiolegol ymddygiad naturiol, a gwerthuso’r berthynas rhwng ymddygiad naturiol a lles anifeiliaid mewn caethiwed. Bydd myfyrwyr yn gwneud astudiaeth ymarferol o anifail caeth a thrafod y cysylltiad rhwng lles anifeiliaid a’r amgylchedd caeth. Bydd myfyrwyr hefyd yn archwilio’r ystod o gydberthnasau rhwng pobl ac anifeiliaid a’r costau a’r manteision sy’n gysylltiedig â’r rhyngweithiadau hyn.
  • Moeseg a Lles: Nod y modiwl hwn yw ymchwilio i faterion cyfoes ym maes lles anifeiliaid a chyflwyno myfyrwyr i’r ystod o faterion moesegol perthnasol. Bydd amrywiaeth o faterion lles cyfoes yn cael eu cloriannu yn ystod y modiwl. Bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i gyflwyno eu gweithdai a’u seminarau eu hunain.
  • Datblygiad Academaidd a Phersonol: Nod y modiwl hwn yw sicrhau bod myfyrwyr yn gyfarwydd â diwylliant addysg uwch, er mwyn adeiladu ar eu sgiliau allweddol (rhesymegol, mathemategol a beirniadol) sydd eu hangen i astudio’n llwyddiannus mewn addysg uwch.
  • Ymarfer Proffesiynol: Astudir ystod o gyfleoedd gyrfaol a heriau sy’n gysylltiedig â sicrhau cyflogaeth o fewn y sector anifeiliaid yn y modiwl hwn. Bydd myfyrwyr hefyd yn cael cyfle i ddatblygu eu sgiliau, eu gwybodaeth a’u cymwyseddau mewn lleoliad yn y gweithle o’u dewis. 

BLWYDDYN 2 (LEFEL 5)

Yn yr ail flwyddyn, byddwch yn adeiladu ar yr wybodaeth a ddatblygwyd yn ystod eich flwyddyn cyntaf ac yn datblygu dealltwriaeth o amrywiaeth o destunau yn fanylach. Byddwch yn dysgu am faeth, ffisioleg, cadwraeth, a bioleg poblogaeth. Byddwch hefyd yn dysgu sgiliau ymchwil ac ysgrifennu adroddiad mewn methodolegau ymchwil.

MODIWLAU

  • Methodolegau Ymchwil: Bydd y modiwl hwn yn eich galluogi i ddeall rôl ymchwil berthnasol ym maes astudiaethau ceffylau. Yn ogystal, bydd yn eich arfogi â gallu digonol i gynllunio prosiect ymchwil yn eich maes astudio, i ddiffinio’r paramedrau ymchwil, asesu methodolegau priodol, a chyflwyno eich canfyddiadau. Byddwch yn dysgu sut i archwilio ac asesu pa mor briodol yw gwahanol fethodolegau ymchwil i wahanol friffiau ymchwil a dod yn ymwybodol o faterion moesegol a gwleidyddol mewn ymchwil gymdeithasol.
  • Maeth ac Ymarfer Bwydo: Bydd y modiwl hwn yn eich galluogi i ddadansoddi strwythur, rôl a gwerth cydrannau maethol bwyd anifeiliaid i’r corff. Byddwch yn dysgu sut i ddadansoddi’n feirniadol cyfansoddiad bwyd anifeiliaid a rôl porthiannau gwahanol o fewn diet anifeiliaid. Byddwch yn dysgu hefyd sut i gyfrifo dognau bwyd i anifeiliaid o wahanol oedrannau ac ar gyfer gwahanol lefelau o ‘waith’.
  • Anatomeg a Ffisioleg: Nod y modiwl hwn yw arfogi myfyrwyr â gwybodaeth ymarferol o anatomeg dopograffig ac ysgerbydol a’u galluogi i adnabod arwyddnodau anatomegol. Byddwch yn dysgu sut i gysylltu strwythur anatomegol gyda swyddogaeth, a datblygu ymhellach eich sgiliau labordy ymarferol.
  • Dysgu a Hyfforddi: Yn y modiwl hwn byddwch yn datblygu gwybodaeth ymarferol o egwyddorion damcaniaethau dysgu fel y’u cymhwysir i anifeiliaid. Byddwch yn cysylltu dysgu anifeiliaid gydag arferion hyfforddi ac yn ysgrifennu a gweithredu eich cynllun eich hunan i hyfforddi anifail i gwblhau tasg. Byddwch yn gwerthuso dulliau hyfforddi traddodiadol a chyfoes ac offer cysylltiedig.
  • Sgiliau Arolygu ar gyfer Cadwraeth: Bydd y modiwl Sgiliau Arolygu ar gyfer Cadwraeth yn arfogi myfyrwyr â’r sgiliau sydd eu hangen i gyflawni ystod o arolygon ar gyfer rhywogaethau anifeiliaid. Bydd myfyrwyr yn adnabod ac arolygu ystod o rywogaethau anifeiliaid, ac yn dadansoddi a dehongli’r data a gesglir. Bydd y sgiliau hyn yn cael eu datblygu drwy waith maes ymarferol, er enghraifft yn ystod ymweliadau i warchodfeydd natur a choetiroedd lleol.
  • Bioleg Poblogaeth a Geneteg: Yn y modiwl hwn byddwch yn dysgu pwysigrwydd bioleg poblogaeth o fewn esblygiad a goroesiad organebau. Byddwch hefyd yn datblygu dealltwriaeth feirniadol o egwyddorion genetig a mathemategol bioleg poblogaeth.

BLWYDDYN 3 (LEFEL 6)

Mae'r flwyddyn olaf yn rhoi'r cyfle i fyfyrwyr gwblhau eu darn unigryw eu hunain o waith ymchwil, gan eu galluogi i ganolbwyntio ar bwnc o'u dewis. Canolbwyntir ar gadwraeth, straen a lles, ynghyd â dulliau o addasu ymddygiad. Mae datblygiad gyrfaol hefyd yn thema ganolog, ac mae disgwyl i fyfyrwyr yn eu blwyddyn olaf gwblhau gweithgareddau datblygiad proffesiynol ychwanegol ochr yn ochr â'u gradd i wella eu cyfleoedd i gael gwaith.

MODIWLAU

  • Polisi Cadwraeth: Bydd y modiwl hwn yn eich galluogi i archwilio ecoleg amrywiaeth o rywogaethau o anifeiliaid brodorol y DU a deall yr angen am, a’r dulliau i sicrhau cadwraeth y rhywogaethau hyn yn cynnwys Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol.
  • Prosiect Ymchwil: Mae'r modiwl hwn yn rhoi cyfle i chi wneud eich ymchwil eich hun mewn pwnc o ddiddordeb arbennig i chi. Wrth wneud y prosiect hwn, byddwch yn adolygu llenyddiaeth sy'n berthnasol i'r maes ymchwil a ddewiswyd, gwerthuso cynlluniau ymchwil perthnasol a datblygu dull sy'n addas ar gyfer casglu a dadansoddi data, dadansoddi a dehongli data a gasglwyd ac yn olaf yn ysgrifennu ac yn trafod eich canfyddiadau mewn perthynas â'r wybodaeth bresennol.
  • Straen a Lles Anifeiliaid: Mae'r modiwl yn galluogi myfyrwyr i archwilio sut y gall straen anifeiliaid gael ei reoli mewn amrywiaeth o amgylcheddau a sefyllfaoedd. Ei nod hefyd yw rhoi dealltwriaeth i fyfyrwyr o addasiadau ffisiolegol ac ymddygiadol anifeiliaid sy'n deillio o ddefnydd a hwsmonaeth fodern.
  • Addasu Ymddygiad Anifeiliaid: Nod y modiwl yw datblygu ymwybyddiaeth myfyrwyr o'r angen am ymagwedd systematig at ddeall achoseg problemau ymddygiad a welir mewn anifeiliaid. Bydd yn ymestyn eu dealltwriaeth o sut i ddadansoddi problemau ymddygiad mewn anifeiliaid a gwerthfawrogi cyfyngiadau technegau diagnostig perthnasol.
  • Sgiliau Ymchwil a Datblygiad Proffesiynol: Mae'r modiwl yn arfogi myfyrwyr â'r sgiliau i werthuso'n feirniadol cynllun ymchwil fel y bo'n berthnasol i wyddor anifeiliaid, i ddewis a chyfiawnhau dulliau priodol ar gyfer casglu a dadansoddi data, ac i fyfyrio'n feirniadol ar ddatblygiad personol dros gyfnod y rhaglen astudio, gan gysylltu ysgolheictod ac ymarfer drwy fyfyrio ar weithgareddau datblygiad proffesiynol penodol.

Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.

Gofynion mynediad a gwneud cais

Cod UCAS: 839K

80-112 pwynt tariff UCAS ar TAG Safon Uwch neu gyfatebol. Caiff cymwysterau Lefel UG a Sgiliau Allweddol Lefel 3 eu hystyried hefyd. O leiaf pedwar TGAU ar radd C/4 (gan gynnwys Saesneg a Mathemateg).

Mae gofyn bod â chefndir anifeiliaid.  Gellir cael hwn o brofiad gwaith yn y sector anifeiliaid, ac/neu o ddulliau anffurfiol megis bridio neu gadw anifeiliaid at ddibenion hamdden.

Mae'r gofynion mynediad ar gyfer cyfarwyddyd cyffredinol. Caiff cymwysterau a phrofiad amgen eu hystyried hefyd. Caiff pob cais ei ystyried yn ôl ei rinwedd unigol ei hunan.

Addysgu ac Asesu

Mae modiwlau yn cael eu hasesu mewn amrywiaeth eang o ffyrdd. Mae hyn yn cynnwys traethodau academaidd, posteri ymchwil, cyflwyniadau, trafodaethau seminar, arholiadau, portffolios, ymarfer myfyriol ac asesiad ymarferol. Mae'r cydbwysedd rhwng y gwahanol fathau o asesu yn cael ei benderfynu gan wahanol amcanion a deilliannau dysgu y modiwlau.

Dysgu ac Addysgu

Mae modiwlau yn cael eu dysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd damcaniaethol, trafodaethau seminar, darlithoedd gwadd, ymweliadau addysgol, a gwaith ymarferol. Rhwng darlithoedd, disgwylir i fyfyrwyr ddarllen o amgylch eu pwnc a defnyddio’r rhestrau darllen manwl a gyhoeddir y Canllawiau i’r Modiwlau.

Mae Prifysgol Wrecsam wedi ymrwymo i roi cymorth i'n myfyrwyr i'w galluogi i gyflawni eu potensial academaidd i'r eithaf.

Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sy'n ymroddedig i helpu myfyrwyr i delio ag agweddau ymarferol gwaith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth i fyfyrwyr fwy o wybodaeth ar y cymorth sydd ar gael.

O ran anghenion penodol, gall Gwasanaethau Cynhwysiant y Brifysgol ddarparu arweiniad a chymorth priodol os bydd angen addasiadau rhesymol ar unrhyw fyfyriwr oherwydd anabledd cyfredol a gydnabyddir, cyflwr meddygol neu wahaniaeth dysgu penodol.

Rhagolygon gyrfaol

Mae ein gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i ganfod beth yw eich diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.

Mae cyfleoedd gyrfaol yn y diwydiant gofal anifeiliaid yn eang. Gallech fod yn gweithio mewn:

  • Sefydliadau lles anifeiliaid,
  • Cadwraeth,
  • Sŵau a pharciau bywyd gwyllt,
  • Milfeddygfeydd,
  • Cwmnïau bwyd anifeiliaid a
  • Chwmnïau milfeddygol neu fferyllol.

Mae cyfleoedd astudio pellach ar gael hefyd, megis dilyniant i gymwysterau ymchwil ac addysgu lefel ôl-raddedig.

Gallai myfyrwyr sy'n symud i gyflogaeth ddisgwyl symud ymlaen i yrfaoedd yn y diwydiant anifeiliaid megis rheolwyr Canolfan Lles, ceidwaid sw neu yrfaoedd sy'n gysylltiedig â diwydiant, er enghraifft ymchwil a gwaith ymgynghori.

Ffioedd a chyllid

Nid oes rhaid i chi dalu eich ffioedd dysgu ymlaen llaw.

Bydd y ffioedd rydych yn eu talu a'r cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn y mae eich ffioedd yn ei gynnwys yn y Cwestiynau Cyffredin ffioedd. 

Mae'r holl ffioedd yn ddarostyngedig i unrhyw newidiadau ym mholisi'r llywodraeth, edrychwch ar ein ffioedd israddedig.

Manyleb y rhaglen

Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma.

Llety

Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran Llety i gael mwy o wybodaeth am eich opsiynau, gan gynnwys ein neuaddau preswyl ar y Pentref Wrecsam