Four students chatting around a table

Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2024

Hyd y cwrs

3 BL (LIA)

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Wrecsam

Course Highlights

Astudiwch

eich maes diddordeb academaidd mewn gwaith ieuenctid a chymunedol.

 

Hyblyg

cyflwyno dull dysgu cyfunol.

 

Cefnogaeth

gan diwtoriaid sydd â phrofiad o gynnal ymchwil yn y maes.

Pam dewis y cwrs hwn?

x

  • Ystyrir yr adran ieuenctid a chymuned ym Mhrifysgol Wrecsam i fod yn “gartref i waith ieuenctid yng Nghymru”, ar ôl cynnig addysg a hyfforddiant i’r sector ieuenctid a chymuned ers mwy na 43 mlynedd. Fel y cyfryw, mae gan yr adran gysylltiadau ardderchog â chyflogwyr ar draws Gogledd Cymru, Gogledd-orllewin Lloegr a Chanolbarth Lloegr, ac mae’n gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau ar draws y sector statudol, y sector gwirfoddol a’r trydydd sector. 
  • Caiff graddedigion o’r rhaglen eu cyflogi mewn amrywiaeth o leoliadau o’r awdurdod lleol, y sector gwirfoddol a chymunedol, a darparwyr addysg ar draws Cymru, Lloegr ac yn rhyngwladol. Mae ein graddedigion wedi cael cyflogaeth â’r Cyngor Prydeinig, lleoliadau ieuenctid a chymunedol, prosiectau yn yr ysgol, gwaith chwarae, gwaith gyda gofalwyr ifanc, gwaith gyda throseddwyr ifanc, lleoliadau byw â chymorth, gwaith gwrthdlodi ac adfywio, a gwaith cyffuriau ac alcohol i enwi ond ychydig. 
  • Wedi’i gynnig trwy ymagwedd dysgu cyfunol, bydd myfyrwyr yn dechrau pob semester  gyda phenwythnos preswyl cychwynnol ar ein Campws yn Wrecsam**, ac yna’n parhau i ddysgu ar-lein gyda chymorth gan diwtoriaid ymroddedig – gan ganiatáu i chi astudio rhwng ymrwymiadau i’r gwaith a’r cartref.

Prif nodweddion y cwrs

  • Darpariaeth hyblyg trwy ymagwedd dysgu cyfunol, gyda phrofiad preswyl ar ddechrau pob semester, gyda dysgu ar-lein a chymorth wyneb-yn-wyneb gyda thiwtoriaid i ddilyn, yn ôl yr angen; gan ganiatáu i chi astudio ochr yn ochr â gweithio
  • Datblygu ymhellach eich sgiliau ymchwil academaidd i ddadansoddi’n gritigol athroniaeth danategol gwaith ieuenctid a’i gwerthoedd a’i hegwyddorion, gan gynnal eich ymchwil eich hun.
  • Yr opsiwn o deilwra eich dysgu i fod yn addas ar gyfer eich maes ymarfer arbenigol a’ch diddordebau trwy gyd-drafod dysgu ac ymchwil.
  • Cymorth gan diwtoriaid sydd â phrofiad o gynnal ymchwil yn y maes.
  • Gweithio tuag at greu ymchwil a fydd â goblygiadau o ran polisi ac arfer gwaith ieuenctid
  • Gallai cwblhau’n llwyddiannus arwain at astudio pellach ar lefel PhD

Beth fyddwch chin ei astudio

BLWYDDYN 1

MODIWLAU 

  • Athroniaeth mewn Gwaith Ieuenctid a Chymuned (Craidd) Mae’r modiwl hwn yn archwilio ac yn dadansoddi’n gritigol athroniaeth gwaith ieuenctid a chymuned, ac yn archwilio sut mae’r cysyniadau hyn wedi llywio theori ac arfer gwaith ieuenctid a chymuned. Bydd yn eich annog i archwilio eich athroniaeth eich hun o ran addysg a hunaniaeth broffesiynol, gwerthoedd a chredoau mewn perthynas â gwaith ieuenctid a phobl ifanc a'r gymdeithas.

  • Addysgeg Gritigol ac Ymarfer Gwrth-ormesol (Craidd) Mae’r modiwl hwn yn archwilio’r gydberthynas rhwng gwaith ieuenctid, addysg anffurfiol ac addysgeg gritigol. Mae’n ystyried yn gritigol sut gellir defnyddio addysg ac ymarfer gwaith ieuenctid mewn ffordd adeiladol i herio anghydraddoldeb ac anghydbwysedd o ran pŵer yn y gymdeithas er mwyn sicrhau bod ymarferwyr gwaith ieuenctid yn gweithio mewn ffordd wrth-ormesol.  

BLWYDDYN 2

MODIWLAU 

  • Methodoleg Ymchwil ac Ymchwilio i’r Gwyddorau Cymdeithasol (Craidd) Nod y modiwl hwn yw galluogi myfyrwyr i wneud prosiect ymchwil yn y gwaith ar raddfa fach. Bydd yn archwilio gwreiddiau athronyddol ymchwil ac yn canolbwyntio ar archwilio cyrff gwybodaeth sy’n bodoli eisoes sy’n gysylltiedig â chwestiynau ymchwil yn y gwaith. Bydd myfyrwyr yn ennill profiad ymarferol o’r prosesau ymchwil a byddant yn cael y cyfle i ddangos eu gallu i wneud hynny gan ddefnyddio ymagwedd foesegol a methodoleg ymchwil priodol. Mae i’r modiwl hwn elfen allweddol o baratoi myfyrwyr ar gyfer y modiwl traethawd hir tair blynedd.

  • Cyd-drafod Dysgu (Opsiwn) Nod y modiwl hwn yw cynnig cyfle i fyfyrwyr ddiffinio ffocws eu hastudiaeth eu hunain o fewn paramedrau gwaith ieuenctid a chymuned. Bydd myfyrwyr yn gwerthuso ac yn dadansoddi polisi, arfer a datblygiadau damcaniaethol yn gritigol yn y maes penodol hwnnw. Cânt y cynnig o ddyfeisio eu cerbyd asesu eu hunain – gallai fod yn brosiect, yn draethawd, yn gyflwyniad ac ati.

  • Arwain a Rheolwyr Gweithwyr Proffesiynol (Opsiwn) Nod y modiwl hwn yw galluogi ymarferwyr i archwilio dysgu a rheoli gweithwyr proffesiynol mewn cyd-destunau gwaith ieuenctid a chymuned. Mae hon yn sgil allweddol ar gyfer y rheiny sy’n gweithio ar lefel broffesiynol. Bydd y modiwl yn archwilio’n gritigol y gwahaniaethau rhwng rolau arwain a rheoli, yn gwerthuso’n gritigol y rolau amrywiol y mae aelodau tîm yn eu cyflawni ac yn cydnabod pwysigrwydd deinameg timau. 

BLWYDDYN 3

MODIWLAU 

  • Traethawd hir Mae’r traethawd hir yn astudiaeth annibynnol, sy’n cynnwys casglu a dadansoddi data o’r prif ffynonellau, sy’n cael ei wneud gan fyfyrwyr ar bwnc o’u dewis yng nghyd-destun gwaith ieuenctid a chymuned. Darn ysgrifenedig estynedig yw hwn sy’n caniatáu i fyfyrwyr werthuso cysyniadau ac arfer damcaniaethol yn gritigol mewn perthynas â’r pwnc o’u dewis.

Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.

Gofynion mynediad a gwneud cais

Y gofynion academaidd ar gyfer y cwrs yw gradd anrhydedd dda neu gymhwyster proffesiynol priodol.

Mae angen profiad blaenorol o 200 awr mewn lleoliad gwaith ieuenctid a chymuned ac mae’n rhaid bod tystiolaeth o hynny. Gellir ennill y profiad hwnnw mewn gwaith gwirfoddol neu waith am dâl ym maes gwaith ieuenctid a chymuned. Gall tîm y rhaglen gynghori myfyrwyr ynghylch cyfleoedd gwirfoddoli a phrofiad ymarfer, os bydd angen.

Caiff yr holl ymgeiswyr a ystyrir i fod yn addas gyfweliad, a bydd y rheiny sydd ag anableddau neu o gyrsiau perthnasol yn cael cynnig cyfweliad fel mater o drefn. 

Bydd rhai modiwlau yn gofyn i chi fod yn gweithio mewn amgylchedd ymarfer ieuenctid a chymuned addas, neu fynediad ato, er mwyn i chi gyd-destunoli eich dysgu a chwblhau’r asesiadau.

Bydd gofyn i chi gwblhau cliriad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) (a elwid yn CRB gynt) fel bod modd gwirio eich addasrwydd i weithio gyda phlant a/neu oedolion sy’n agored i niwed os byddwch yn cynnal ymchwil gyda’r grwpiau hyn.

Addysgu ac Asesu

Caiff aseiniadau eu cynllunio gyda nodau dyblyg cefnogi datblygiad proffesiynol myfyriwr a’i ddealltwriaeth academaidd. Mae hyn yn ehangu gwybodaeth a sgiliau o’r gred bod gweithio fel ymarferydd ardderchog yn golygu, nid yn unig gweithio gyda phobl, ond hefyd gallu mynegi eich hun mewn amrywiaeth o ffyrdd sy’n cynnwys llunio adroddiadau, dogfennau a thraethodau’n seiliedig ar gasglu a dadansoddi tystiolaeth er mwyn creu dadl.

Trwy gydol y rhaglen, ac fel rhan o fodiwlau unigol, caiff amrywiaeth o ddulliau asesu eu defnyddio sydd â’r nod o ddangos tegwch o ran anghenion, arddulliau dysgu a diddordebau unigol myfyrwyr. Caiff y ffurfiau ar asesu eu dewis er mwyn sicrhau eu bod yn nodweddu lefel academaidd y modiwlau a’u bwriad yw galluogi myfyrwyr i ystyried athroniaethau, cysyniadau a’r damcaniaethau sy’n tanategu gwaith ieuenctid a gwaith cymuned, trwy archwilio a dadansoddi materion sy’n berthnasol i feysydd darpariaeth gymdeithasol.

Anogir trosi dysgu o un modiwl i’r llall ac mae’r modiwlau craidd yn cynnig ffocws yn hyn o beth. Fel y cyfryw, caiff dulliau asesu ar y rhaglen israddedig hon eu defnyddio i ddatblygu hyder a gallu myfyriwr i gwblhau ystod o sgiliau trosglwyddadwy a ystyrir i fod yn fuddiol mewn gwaith academaidd ac arfer proffesiynol.

Felly bydd amrywiaeth o ffurfiau i asesiadau ar y rhaglen gan gynnwys Traethodau, Cyflwyniadau, Portffolios, cyfraniad at Fforymau Ar-lein ac ati.

Dysgu ac addysgu

Mae Prifysgol Wrecsam wedi ymrwymo i roi cymorth i'n myfyrwyr i'w galluogi i gyflawni eu potensial academaidd i'r eithaf. Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sy'n ymroddedig i helpu myfyrwyr i delio ag agweddau ymarferol gwaith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth i fyfyrwyr fwy o wybodaeth ar y cymorth sydd ar gael.

Rhagolygon gyrfaol

Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.

Mae llawer o raddedigion o’r cwrs yn mynd ymlaen i ddatblygu gyrfaoedd mewn awdurdodau lleol, mudiadau gwirfoddol a chymunedol a darparwyr addysg ar draws Cymru, Lloegr ac yn rhyngwladol.

Mae ein graddedigion wedi cael cyflogaeth gyda’r Cyngor Prydeinig, lleoliadau ieuenctid a chymunedol traddodiadol, gwaith chwarae, gwaith gyda gofalwyr ifanc, gwaith gyda throseddwyr ifanc, lleoliadau byw â chymorth a gwaith cyffuriau ac alcohol i enwi ond ychydig.

Ffioedd a chyllid

Nid oes rhaid i chi dalu eich ffioedd dysgu ymlaen llaw.

Bydd y ffioedd rydych yn eu talu a'r cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn y mae eich ffioedd yn ei gynnwys yn y Cwestiynau Cyffredin ffioedd. 

Mae'r holl ffioedd yn ddarostyngedig i unrhyw newidiadau ym mholisi'r llywodraeth, edrychwch ar ein ffioedd ôl-raddedig.

Manyleb y rhaglen

 Gallwch weld manyleb y rhaglen lawn yma.

 

Visa Rhyngwladol