Using a microscope in a lab

Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2024

Hyd y cwrs

1 BL (LlA) 2 FL (RhA)

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Dysgu Cyfunol, Wrecsam

Course Highlights

Datblygu

gwybodaeth cyfundrefnol o gemeg dadansoddol a fforensig.

Hyfforddi

mewn gwybodaeth systematig o gemeg ddadansoddol a fforensig.

Adeiladu

sgiliau trosglwyddadwy i ganiatáu dilyniant gyrfaol a'r potensial am astudiaeth doethuriaeth.

Pam dewis y cwrs hwn?

Mae'r rhaglen MRes Cemeg Ddadansoddol a Fforensig yn cyflwyno myfyrwyr i ragor eang o dechnegau safon ddiwydiannol a newydd sy'n gymwys mewn dadansoddiad fforensig.

  • Mae cyfleoedd ar gael nid yn unig yn y sector fforensig, ond hefyd y sgiliau dadansoddi a datrys problemau a ddatblygwyd yng ngwyddoniaeth fforensig a dadansoddol sydd a galw mawr amdanynt mewn sawl faes arall, gan gynnwys y diwydiannau olew, nwy, fferyllol a bwyd.
  • Mae’r rhaglen yn hybu gwella dealltwriaeth dechnegol, gyda phwyslais ar ddatrys problemau a gweithio mewn tîm/grŵp, ymwybyddiaeth a lle’n bosib ymarfer o ddatblygiadau diweddaraf y ddisgyblaeth, yn ogystal â gallu cynyddol ar gyfer dysgu’n annibynnol a gweithio trwy astudiaethau a phrosiectau.
  • Annogir myfyrwyr i dderbyn cyfrifoldebau, datblygu syniadau’n rhagweithiol; delio a phroblemau anghyfarwydd a phenagored; cynllunio a datblygu strategaethau; gweithredu cynlluniau wedi’u cytuno; arwain a rheoli timau lle mae angen; gwerthuso cyrhaeddiad yng nghyd-destun manyleb, cynllun a phenderfyniadau.
  • Dysgu cyfunol gyda chymysgedd o astudio hunangyfeiriedig hyblyg gartref, gyda phrofiadau addysgu wyneb yn wyneb.

 

Prif nodweddion y cwrs

  • Hyfforddiant mewn defnyddio detholiad eang o offer lefel uchel. 
  • Modiwlau a addysgir i ddatblygu dealltwriaeth o egwyddorion a chymhwysiad ymchwil sy'n berthnasol i'ch disgyblaeth ac yna prosiect ymchwil.
  • Ymgymryd â phrosiect ymchwil yn y sector diwydiant neu yn labordai Prifysgol Glyndŵr Wrecsam.
  • Datblygu gwybodaeth systematig o gemeg dadansoddol a fforensig.
  • Dysgu sut i weithredu gwybodaeth mewn sefyllfaoedd heriol.
  • Datblygu sgiliau trosglwyddadwy i alluogi dilyniant gyrfaol ac o bosib astudiaeth Doethurol.   

Cynigir y radd hon mewn modd llawn amser a rhan-amser o bresenoldeb. Mae yna ddull cyfunol o gyflwyno ar-lein a phresenoldeb wedi'i drefnu. Dim ond yn ystod wythnosau cyflwyno bloc penodol y bydd rhaid i chi fynychu'r brifysgol ar gyfer modiwlau sydd angen gwaith ymarferol, neu sesiynau wyneb yn wyneb. Mae'r modiwlau personol yn cynnwys Sgiliau Ymchwil Uwch, Cemeg Ddadansoddol Fforensig, ac Osteoleg Ddynol. Byddwch yn mynychu'r brifysgol am ddau neu dri diwrnod o wythnos benodol ar gyfer pob modiwl wrth astudio naill ai'n llawn amser neu'n rhan-amser, yn ogystal ag astudio yn eich amser eich hun.

Beth fyddwch chin ei astudio

MODIWLAU

  • Sgiliau Ymchwil Uwch: Mae’r modiwl yn datblygu sgiliau a gwybodaeth o’r pwnc er mwyn i waith ymchwil cael ei wneud yn effeithlon, trwy ganolbwyntio ar ddatblygu syniadau ymchwil, ymgymryd ag adolygiad llenyddiaeth a chynllunio astudiaeth ymchwil.
  • Cemeg Fforensig Dadansoddol: Bydd myfyrwyr yn archwilio a chyfnerthu cysyniadau cemeg dadansoddol a sut y gellir eu defnyddio mewn archwiliad fforensig ac ymchwil.  Bydd sgiliau allweddol yn cynnwys paratoi samplau, dulliau a phrotocolau dadansoddi offer, prosesi a dehongli data, rheolaeth ansawdd. 
  • Dysgu wedi’i Thrafod: Mae ffocws ymchwil annibynnol yn rhoi cyfle i fyfyrwyr adolygu gwybodaeth bresennol a thrafod y dysgu ac ymchwil sy’n berthnasol i’w datblygiad personol a phroffesiynol, yn ogystal â’u phwnc arbenigol.
  • Ymarferiad Proffesiynol a Lleoliad: Cyflwyniad i rolau amrywiol, eu codau ymddygiad a’r ardystiadau ac achrediadau cysylltiol yn cynorthwyo myfyrwyr i ganolbwyntio ar fyfyrdod personol, datblygiad proffesiynol a sgiliau trosglwyddadwy wrth i fyfyrwyr ymgymryd â 100 awr o weithgaredd lleoliad.
  • Traethawd hir: Astudiaeth Beilot:  Bydd myfyrwyr yn dechrau ymchwilio ar raddfa fach, gan gynyddu eu gwybodaeth o’r dulliau ymchwil ymarferol priodol ac yn archwilio herion a chyfyngiadau yng nghyfnodau cynnar eu prosiectau. 
  • Traethawd Hir: Prosiect Ymchwil: Byddwch yn gwneud ymchwil uwchradd gwreiddiol i fanteisio ar y wybodaeth a dealltwriaeth ynghyd a sgiliau ymarferol, deallusol a  throsglwyddadwy a ddatblygwyd yn ystod y rhaglen o fewn cyd-destun prosiect tymor hir.

Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.

Gofynion mynediad a gwneud cais

Bydd yn rhaid i ymgeisydd bodloni, neu gyfuniad, o’r amodau canlynol:  Bod yn berchen ac un o’r canlynol cyn i’r rhaglen ddechrau:  

  1. Gradd anrhydedd Prifysgol Glyndŵr neu gorff arall sydd yn dyfarnu gradd, hefo o leiaf 2:2 gyda chynnwys digonol o Wyddoniaeth Fforensig, Troseddeg, Archaeoleg, Anthropoleg neu Fywydeg.
  2. Cymwysterau cyfatebol o dramor, a ddyfarnir yn foddhaol gan dîm y rhaglen. 

Gall rhai sydd heb raddio cael eu derbyn fel ymgeiswyr ar yr amod fod ganddynt: 

  1. Cymhwyster nad yw’n radd, y mae’r Brifysgol yn ei dyfarnu’n foddhaol ar gyfer mynediad ôl-raddedig.
  2. Profiad gwaith ar lefel sydd yn digolledu diffyg cymwysterau ffurfiol, ac wedi cael swydd o gyfrifoldeb yn y sectorau Fforensig Archeolegol neu Blismona am isafswm o dair blynedd. 

*Bydd myfyrwyr sydd wedi sgorio llai na 60% (neu 2.1 cyfwerth) yn eu traethawd hir israddedig neu fodiwl prosiect ymchwil cyfatebol yn cael cynnig cyfweliad cyn cynnig unrhyw le.

Os oes diffyg eglurder neu os oes angen cael mewnwelediad dyfnach i addasrwydd ymgeisydd ar gyfer y rhaglen, gellir cynnal cyfweliad anffurfiol gyda'r ymgeisydd, y gellir ei gynnal trwy Skype neu dechnoleg cyfathrebu o bell arall. Bydd hyn yn rhoi cyfle i'r ymgeisydd ddarparu tystiolaeth i foddhad y panel cyfweld o'i allu i gwblhau gwaith academaidd o'r safon ofynnol yn y maes pwnc. 

Gall darpar fyfyrwyr hefyd gwneud cais am Gydnabod Dysgu Blaenorol (RPL) yn erbyn modylau penodol, ynghyd a rheoliadau Brifysgol Glyndŵr. Ni fydd angen gwiriad DBS fel rheol.

Mewn rhai amgylchiadau eithriadol, efallai y bydd yn rhaid i fyfyrwyr sydd yn gwneud lleoliad neu brosiect ymchwil (traethawd hir) gael DBS perthnasol.

Er enghraifft, os ydynt yn gweithio mewn ysgolion, ysgolion maes neu amgueddfeydd lle ellir bydd angen cysylltiad hefo plant neu bobl fregus.   Mae’r myfyriwr yn gyfrifol am ganfod yr ofyniad hefo’r sefydliad allanol perthnasol o flaen llaw ac i gysylltu â Gweinyddiaeth Myfyrwyr i sicrhau bod y gwiriad yn cael ei chwblhau cyn cychwyn y lleoliad neu’r ymchwil.

Mi fydd y brifysgol yn talu am unrhyw wiriadau DBS sydd eu hangen i gwblhau’r rhaglen.

Addysgu ac Asesu

Defnyddir amrywiaeth o strategaethau asesiad adolygol, gan gynnwys arholiad ymarferol, portffolio, adroddiadau, cyflwyniadau llafar a phoster, logau ymchwil a dysgu. Maent wedi cael eu cynllunio i adlewyrchu anghenion byd gwaith ac i ddatblygu technolegau lle’n berthnasol.    Bydd myfyrwyr yn derbyn asesiad ffurfiannol, yn enwedig yn ystod cyfnodau ymarferol ac astudio’n unigol y rhaglen i sicrhau y gallent ddilyn eu cynnydd a datblygiad.

Dysgu ac addysgu

Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn ymrwymo i gefnogi ein myfyrwyr i uchafu eu potensial academaidd.

Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn ardaloedd fel ysgrifennu academaidd, creu nodiadau effeithiol a pharatoi am aseiniadau. Gall fyfyrwyr archebu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd ymroddgar i'ch helpu ymdrin â'r ymarferion o waith brifysgol. Mae gan ein hadran cymorth myfyrwyr mwy o wybodaeth a chymorth.

Yn achos o anghenion penodol, gall Wasanaethau Cynhwysiad y Brifysgol roi arweiniad a chyngor addas os bydd unrhyw fyfyriwr angen addasiadau rhesymol wedi'u gwneud oherwydd bod ganddynt anabledd cyffredinol, cyflwr meddygol neu anhwylder dysgu penodol cydnabyddedig.

Darperir y cwrs yma drwy ddysgu cymysg, hynny yw y bydd dysgu yn y dosbarth ac ar-lein, tiwtoriaid gwadd, tiwtorialau a gweithdai labordy. Mae hyn yn golygu y gall myfyrwyr deithio o bell i astudio rhaglen, heb orfod byw yn Wrecsam, ac yn rhoi mwy o hyblygrwydd i’r rhai sydd eisiau gweithio wrth astudio. Mae pob modiwl yn cynnwys adnoddau ar-lein fel fideos, erthyglau, cwisiau, wefannau, byrddau trafod ayyb, a ganfyddir trwy’r lle modiwl ar Moodle), cyfarfodydd cymorth tiwtor a, lle mae’n berthnasol, gweithdai ymarferol.

Bydd myfyrwyr hefyd yn cwblhau 100 awr o weithgaredd lleoliad mewn diwydiannau perthnasol, fell: labordai, ysbytai, amgueddfeydd, ysgolion maes, sefydliad addysg neu’r heddlu. Gall lleoliadau fod yn daledig neu wirfoddol ac yn llawn amser, rhan amser neu ad-hoc, cyn belled â’u bod yn caniatáu amser digonol i gwblhau asesiadau cyn diwedd trimester dau. Nid oes gyfyngiad ar ble mae’r lleoliad ac mi anogir myfyrwyr i archwilio ystod eang o bosibiliadau, gan gynnwys rolau rhyngwladol.   Darparir y cwrs trwy gyfrwng y Saesneg.

Mae gan fyfyrwyr yr hawl i gyflwyno asesiadau yn y Gymraeg. Anogir myfyrwyr hefyd i ddewis lleoliadau sydd yn cefnogi’r Gymraeg lle mae’n berthnasol ac mae modd gwneud.

 

Rhagolygon gyrfaol

Mae ein gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yna i'ch helpu gwneud y dewisiadau ac i gynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol llwyddiannus. O chwilio am waith neu astudio pellach i weithio allan beth ydi'ch diddordebau, sgiliau a dyheadau, gallent nhw roi'r wybodaeth, cyngor ac arweiniad arbenigol rydych angen i chi.

Gall fyfyrwyr ar y rhaglen hon symud ymlaen i feysydd fel:

  • Cemeg Dadansoddol
  • Gwenwyneg
  • Gwyddoniaeth Fforensig
  • Gwyddoniaeth Lleoliad Trosedd
  • Ymchwilydd Gwyddonol
  • Technegydd Labordy
  • Addysg

Neu mi allent wneud ymchwil pellach fel astudiaeth Doethurol. 

 

Ffioedd a chyllid

Nid oes rhaid i chi dalu eich ffioedd dysgu ymlaen llaw.

Bydd y ffioedd rydych yn eu talu a'r cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn y mae eich ffioedd yn ei gynnwys yn y Cwestiynau Cyffredin ffioedd. 

Mae'r holl ffioedd yn ddarostyngedig i unrhyw newidiadau ym mholisi'r llywodraeth, edrychwch ar ein ffioedd ôl-raddedig.

Manyleb y rhaglen

Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma.