Students in the TV production studio

Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2024

Hyd y cwrs

1 BL (LLA) 2 BL (RHA)

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Wrecsam

Course Highlights

Ennill

credydau yn y diwydiant cyfryngau proffesiynol

Cyfleoedd

profiad gwaith eang yn y diwydiant

Safle gwych

yn y Ganolfan Diwyddiannau Creadigol, cartref BBC Cymru

Pam dewis y cwrs hwn?

Rydym yn unigryw yn ein bod yn gallu cynnig cyfleoedd profiad gwaith eang fel arwain rhai meysydd o’r prosiectau cyfryngau sy’n ymweld â’n gwagleoedd cynhyrchu cyfryngau. Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i ddatblygu eich sgiliau i lefel Meistr, ac ennill credydau academaidd am weithgareddau a fydd yn cefnogi datblygiad eich gyrfa gan gynnwys:

  • profiad gwaith
  • arweinyddiaeth tîm
  • deunyddiau hunan-hyrwyddo
  • sgiliau cynhyrchu cyfryngau uwch
Close up of a video camera lens

Cynhyrchu Cyfryngau CreadigolYn Prifysgol Wrecsam

Meddwl am hybu eich gyrfa ym maes cynhyrchu yn y cyfryngau creadigol? Clywch fwy am y llwybrau sydd ar gael yn Prifysgol Wrecsam

Prif nodweddion y cwrs

  • Sgiliau Cynhyrchu Cyfryngau Uwch gan gynnwys rhywfaint o godio a rhaglennu
  • Datblygu sgiliau ymchwil i lefel ble byddai modd ichi symud ymlaen i wneud PhD
  • Cyfleoedd i astudio cwricwla dan arweiniad diwydiant, e.e. Avid, Adobe a Prifysgol Wrecsam
  • Gwagleoedd cynhyrchu cyfryngau rhagorol
  • Staff cefnogol ac arbenigol
  • Datblygu arteffactau asesu a fydd yn ddefnyddiol ar gyfer cam nesaf eich gyrfa

Beth fyddwch chin ei astudio

MODIWLAU

  • Dulliau Ymchwil Creadigol (Craidd): Modiwl sgiliau ymchwil academaidd uwch
  • Cydweithio gyda’r Diwydiant (Craidd): Modiwl cydweithio gyda’r diwydiant
  • Technegau Cyfryngau Digidol (Sain - Modiwl craidd ar gyfer y Llwybr Sain yn unig): Modiwl sgiliau cynhyrchu sain uwch ar gyfer yr arbenigwr sain
  • Technegau Cyfryngau Digidol (Cerddoriaeth - Modiwl craidd ar gyfer y Llwybr Cerddoriaeth yn unig): Modiwl sgiliau cynhyrchu cyfryngau uwch ar gyfer yr arbenigwr cerddoriaeth
  • Technegau Cyfryngau Digidol (Sgrin - Modiwl craidd ar gyfer y Llwybr Sgrin yn unig): Modiwl sgiliau cynhyrchu cyfryngau uwch ar gyfer yr arbenigwr sgrin
  • Astudiaethau Proffesiynol (Craidd): modiwl datblygu sgiliau proffesiynol a chyflwyno
  • Prosiect Cyfryngau (Craidd): cyfle i ddatblygu portffolio cynhyrchu yn y diwydiant cyfryngau o arteffactau cynhyrchu

Gofynion mynediad a gwneud cais

Yn ddelfrydol, gradd 2.2 mewn cwrs perthynol i Gynhyrchu Cyfryngau. Mae’n bosib y gallai’r broses ddethol gynnwys cyfweliad ac adolygiad portffolio o waith cyfryngau. Yn absenoldeb gradd gyntaf berthynol, byddwn yn dethol ar sail cyfweliad am brofiad blaenorol yn y diwydiant / cyfryngau ac adolygiad o bortffolio cyfredol o waith.

Sylwch, dyddiad cychwyn y cwrs yw Medi 2023.

Addysgu ac Asesu

Bydd yr addysgu yn cael ei ddarparu ar ffurf gweithgareddau cydamserol ac anghydamserol gan gynnwys darlithoedd, gweithdai, seminarau, gweithgareddau seiliedig ar diwtorialau a gweithgareddau lleoliad gwaith.

Mae asesiadau yn cynnwys cyfleoedd i arddangos sgiliau cyflwyno ysgrifenedig a llafar, creu offer ac allbynnau cynhyrchu cyfryngau, a hefyd arddangos sgiliau arweinyddiaeth a gweithio mewn tîm -Traethawd, Adroddiad, Blogiau, Portffolio o waith, dogfen CV ryngweithiol ar-lein ar gyfer y diwydiant.

DYSGU AC ADDYSGU

Mae Prifysgol Wrecsam wedi ymrwymo i gefnogi ein myfyrwyr i wneud y gorau o’u potensial academaidd.

Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol, a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sydd yno i gynorthwyo gydag agweddau ymarferol o waith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth myfyrwyr fwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael.

O ran anghenion penodol, gall Gwasanaethau Cynhwysiant y Brifysgol ddarparu arweiniad a chymorth priodol os bydd angen addasiadau rhesymol ar unrhyw fyfyriwr oherwydd anabledd cyfredol a gydnabyddir, cyflwr meddygol neu wahaniaeth dysgu penodol.

Rhagolygon gyrfaol

Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.

Bydd y cwrs yma yn eich darparu gyda’r hyfforddiant a’r arbenigedd i weithio yn un o feysydd cyffrous niferus y diwydiannau darlledu cyfryngol. Gyda chyfleoedd profiad gwaith eang ar gael ar y cwrs hwn, byddwch yn barod ar gyfer amrywiaeth o yrfaoedd yn y diwydiant cyfryngau proffesiynol, yn ddibynnol ar y llwybr o’ch dewis, gan gynnwys:

  • Darlledu: Mae gennym ystod o ddarlledwyr llwyddiannus sy’n gweithio i gwmnïau cenedlaethol mewn cyn-gynhyrchu, cynhyrchu ac ôl-gynhyrchu.
  • Cynhyrchu Fideos: Sefydlu eu fideos eu hunain neu weithio i gynhyrchwyr annibynnol ar amryw o brosiectau i ystod eang o gleientiaid.
  • Ôl-gynhyrchu: Datblygir sgiliau cyfansoddi a golygu fideos trwy gydol y cwrs, gan gynnig troedleoedd cadarn ar gyfer swyddi VFX ac ôl-gynhyrchu eraill.
  • Ffotograffiaeth: Mae dal delweddau, llonydd ac ar fideo, wrth graidd y cwricwlwm, ac mae myfyrwyr wedi mynd ymlaen i gynhyrchu ystod o waith ffotograffig.
  •  
  • Cynhyrchu a Rheolaeth Stiwdio: Mae yna lawer o gyfleoedd i raddedigion ddefnyddio eu sgiliau ar gyfer rheoli prosiectau a chomisiynau eraill gan gleientiaid.
  • Rheoli Digwyddiadau: Gwyliau, rheoli lleoliadau bach/mawr eu maint, rheoli teithiau
  • Technegwyr Clyweledol: Llawrydd, Corfforaethol a hefyd llwybrau addysgol
  • Y Theatr: Technegwyr Llwyfan, Dylunwyr goleuo, trydanwyr, rheoli llwyfan
  • Addysgu: Mae llawer o'n graddedigion yn gweithio ym myd addysg Bellach ac Uwch yn ogystal ag mewn ysgolion cynradd ac uwchradd.
  • Ymchwil a datblygu: Mae'r cwrs wedi profi yn sylfaen gadarn sy'n galluogi myfyrwyr i symud ymlaen i wneud gradd ymchwil. Oherwydd y lefel uchel o arbenigedd technegol, mae hefyd wedi galluogi myfyrwyr i weithio mewn rolau ymchwil a datblygu ar gyfer cwmnïau sain mawr.
  • Sain Deithiol: Blaen tŷ neu Beirianneg Monitor, Peirianneg Systemau, Rheolaeth Llwyfan, Ymchwil a datblygu - Mae'r cwrs wedi profi yn sylfaen gadarn sy'n galluogi myfyrwyr i Technegwyr Offer, Technegwyr Llwyfan, Gweithredwyr hunan-gyflogedig.
  • Mae’n bosib hefyd symud ymlaen i astudio ar lefel PhD 

Ffioedd a chyllid

Nid oes rhaid i chi dalu eich ffioedd dysgu ymlaen llaw.

Bydd y ffioedd rydych yn eu talu a'r cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn y mae eich ffioedd yn ei gynnwys yn y Cwestiynau Cyffredin ffioedd. 

Mae'r holl ffioedd yn ddarostyngedig i unrhyw newidiadau ym mholisi'r llywodraeth, edrychwch ar ein ffioedd ôl-raddedig.

Manyleb y rhaglen

Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma