Tystysgrif Graddedig Datblygiad Proffesiynol (Addysg)

Manylion cwrs

  • Blwyddyn mynediad 2023, 2024
  • Hyd y cwrs 1-4 BL (RhA)
  • Lleoliad Wrecsam
Students in a lecture - the lecturer is pointing at the projection of the presentation slides, while students take notes

Course Highlights

Achrededig

 gan Brifysgol Cymru

 

Ymarferol

 o ran yr aseiniadau

 

Cysylltiadau

cadarn â sefydliadau ac asiantaethau cysylltiedig

Pam dewis y cwrs hwn?

Mae'r Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Datblygiad Proffesiynol (Addysg) yn rhoi Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) i chi a fydd yn eich galluogi i fodloni safonau Athro Newydd Gymhwyso (NQT).

  • Nod y raglen yw ceisio cysylltu theori ag ymarfer y rheiny sy’n astudio’r cwrs, a hynny er mwyn i’r manteision wir gael eu teimlo gan yr Athrawon Newydd Gymhwyso a’u hysgolion.

Prif nodweddion y cwrs

  • Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn gweithio mewn partneriaeth â chyflogwyr, sefydliadau ac asiantaethau cysylltiedig. Mae'n cydweithio'n agos ag ysgolion, colegau addysg bellach ac awdurdodau addysg lleol i gynnig cyfleoedd DPP cynhwysfawr i athrawon. Mae'r partneriaethau hyn yn ganolog wrth sicrhau bod pob rhaglen yn addas i'r diben ac yn cynnig y cyfle gorau o ran cyflogaeth a dilyniant gyrfaol.
  • Cynlluniwyd y cwrs hwn mewn partneriaeth ag awdurdodau addysg lleol, asiantaethau proffesiynol ac ymgynghorwyr blaenllaw.
  • Bydd y cyrsiau hyn yn gwella eich ymarfer ac yn cryfhau'r cyswllt sydd gennych rhwng addysgu ac ymchwil.
 
 

Beth fyddwch chin ei astudio

Mae’n rhaid i fynychwyr astudio a chyflawni 60 credyd er mwyn cael y Dystysgrif Ôl-radd mewn Datblygiad Proffesiynol (Addysg). Mae'r Diploma Ôl-radd mewn Datblygiad Proffesiynol (Addysg) yn cynnwys nifer o wahanol fodiwlau y gellir eu grwpio gyda'i gilydd.

MODIWLAU

  • Yr Ymarferydd Adfyfyriol
  • Dysgu wrth Addysgu
  • Rheoli Ymddygiad Cadarnhaol
  • Atebolrwydd, Gwerthuso a Gwella Ysgolion
  • Cynllunio Strategol a Datblygiad ar gyfer Gwella Ysgolion
  • Arwain a Rheoli Staff
  • Arsylwi yn y Dosbarth
  • Mentora mewn Ymarfer
  • Gweithredu Ymchwil ar gyfer Gwella Ysgolion
  • Cydweithio i gael Ysgol Effeithiol
  • Addysgeg i Gymru yn yr 21ain Ganrif
  • Datblygu meddwl ac asesu ar gyfer dysgu
  • Pontio
  • Y Cwricwlwm Cymreig
  • Cynhwysiad/AAA
  • Addysg, Dinasyddiaeth a Meddwl yn Feirniadol
  • Techniquest - Rhifedd a Datrys Problemau
  • Techniquest - Datblygiad Sgiliau Meddwl
  • Techniquest - Cynaliadwyedd, Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang
  • Datblygiad Corfforol ac Addysg Gorfforol - rhoi theori ar waith
  • Datblygu Iechyd a lles Emosiynol
  • Gweithio mewn Partneriaeth
  • Cyflwyniad i Addysgu Sgiliau Sylfaenol trwy’r Cwricwlwm
  • Sgiliau Sylfaenol mewn Pontio - Rhifedd
  • Sgiliau Sylfaenol mewn Pontio - Llythrennedd
  • Asesu ar gyfer Strategaethau Dysgu

Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.

 
 

Gofynion mynediad a gwneud cais

Rhaid bod gan ymgeiswyr Statws Athro Cymwysedig cyn gwneud cais am y cwrs.

Oes oes gennych gwestiynau neu'n dymuno cael rhagor o wybodaeth am y cwrs hwn, gofynion mynediad neu'r broses gwneud cais, cysylltwch â'n Tîm Ymholiadau a Derbyn

 
 

Addysgu ac Asesu

Byddwch yn gwneud aseiniadau ymarferol drwy gydol y cwrs. Mae yna nifer o ddulliau asesu, gan gynnwys gwaith ysgrifenedig, portffolios, a chyflwyniadau.

Bydd yr asesiadau yn galluogi theori i lywio ymarfer ac yn rhoi modd i gyfranogwyr fyfyrio'n feirniadol ar ansawdd arweinyddiaeth, rheolaeth, dysgu ac addysgu yn eu hysgolion, yn ogystal â’u gwella lle bo hynny’n bosibl.

Dysgu ac addysgu

Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi ymrwymo i roi cymorth i'n myfyrwyr i'w galluogi i gyflawni eu potensial academaidd i'r eithaf. Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sy'n ymroddedig i helpu myfyrwyr i delio ag agweddau ymarferol gwaith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth i fyfyrwyr fwy o wybodaeth ar y cymorth sydd ar gael.

 

 

 
 

Rhagolygon gyrfaol

Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.

Mae'r cyrsiau yn cynnig datblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer athrawon a fydd yn eu rhoi ar y blaen mewn marchnad cyflogaeth gystadleuol

 
 

Ffioedd a chyllid

Nid oes rhaid ichi dalu'ch ffioedd hyfforddi ymlaen llaw.

Ffioedd dysgu Prifysgol Glyndŵr Wrecsam 2023/24 ar gyfer Tystysgrif Graddedig Datblygiad Proffesiynol (Addysg) yw £5,940.

Bydd y ffioedd rydych chi'n eu talu a'r cymorth ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Ceir gwybodaeth gyflawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid.

 
 

Manyleb y rhaglen

 Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma.