A student using a VR game

Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2024

Hyd y cwrs

1 BL (LlA) 2.5 Bl (RhA)

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Wrecsam

Course Highlights

Cysylltwch â

 

chynrychiolwyr o'r diwydiant drwy ddarlithoedd gwadd, seminarau a digwyddiadau

 

Datblygwch

 

gynllun busnes gemau/cyfryngau ynghyd â sgiliauy arweinyddiaeth a rheolaeth

 

Gweithiwch

 

gyda'r offer a'r dechnoleg ddiweddaraf mewn stiwdio arbenigol ar gyfer dylunio a chynhyrchu

 

Pam dewis y cwrs hwn?

Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio i gymryd sgiliau datblygu technegol, rheoli ac entrepreneuraidd i lefel sydd ei hangen i gael mynediad i swyddi technegol a rheoli uwch mewn stiwdios, ynghyd â'r sgiliau angenrheidiol i greu a chynnal gemau/busnesau cyfryngau hyfyw.

  • Gan adeiladu ar sylfaen gref ein rhaglen Datblygu Gemau lwyddiannus, mae'r cwrs hwn yn mwynhau manteision ymgysylltu agos â'r diwydiant, gydag ymweliadau rheolaidd a siaradwyr gwadd fel rhan o raglen integredig o gyflwyniadau, grwpiau trafod a digwyddiadau cymdeithasol.
  • Elfen allweddol o'r cwrs yw ei bwyslais ar gyfuno datblygiad technegol uwch gyda rheolaeth gref a sgiliau busnes cynaliadwy. Drwy ein menter Cyflymydd Busnes unigryw, rydym yn darparu theori ac ymarfer safonol y diwydiant sy'n caniatáu i fyfyrwyr gael profiad gwerthfawr o'r cynllunio busnes a chyllid ynghyd â rheoli stiwdio gemau.

Prif nodweddion y cwrs

  • Cyswllt rheolaidd hefo ffigyrau o’r diwydiant gemau a’r cyfryngau trwy ddarlithoedd gwadd, seminarau a digwyddiadau cenedlaethol a lleol.
  • Cryfhau eich sgiliau dylunio gemau, datblygiad a dadansoddi.
  • Dysgu sut i ddatblygu gemau a chynlluniau busnes cryf ynghyd â sgiliau arweinyddiaeth a rheoli.
  • Mynediad i’n ganolfan deoriad busnes mewnol (Y Lolfa Menter)
  • Cewch eich dysgu gan dîm llwyddiannus hefo cefndiroedd proffesiynol yn y maes.
  • Defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf mewn dwy stiwdio datblygu gemau proffesiynol sydd yn ymrwymedig i ddylunio, cynhyrchu, cipio symudiad, realiti rhithwir ac offer dadansoddi.
  • Bydd gennych gyfle i hyfforddi fel mentor a gweithio hefo myfyrwyr israddedig i roi cymorth a chwarae rôl allweddol yn eu proses datblygu. 

Beth fyddwch chin ei astudio

Mae gan y rhaglen ffocws technegol cryf gyda phwyslais ar ansawdd proffesiynol drwyddi draw.

Ymhlith y meysydd a drafodir y mae sgiliau modelu a cherflunio 3D proffesiynol mewn perthynas â thopoleg 3D ac optimeiddio asedau er mwyn sicrhau addasrwydd i'r diben. Mae dylunio a datblygu cymwysiadau gemau ynghyd â dealltwriaeth o brosesau cyhoeddi a dosbarthu modern hefyd yn cael eu cwmpasu.

Bydd myfyrwyr yn dysgu sut i ddadansoddi ac optimeiddio cymwysiadau gemau o ran perfformiad technegol a phrofiad y defnyddiwr. Yn ogystal, bydd strategaethau datblygu a datrys problemau modern ar gyfer deallusrwydd artiffisial mewn gemau chwarae rôl yn bwysig.

Bydd y modiwl Busnes a Menter Gemau'n datblygu cynllunio busnes, arweinyddiaeth a sgiliau strategol tra'n annog a chefnogi gweithgarwch entrepreneuraidd.

Trwy ein rhaglen Cyflymydd Busnes, bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i weithio'n agos gyda myfyrwyr ôl-raddedig Busnes ac yn cael mynediad i'n canolfan deori busnes gyda golwg ar ddechrau a rheoli stiwdio datblygu gemau.

Yn olaf, bydd y traethawd hir 60 credyd yn rhoi'r llwyfan i fyfyrwyr ymgysylltu ag ac archwilio maes arbenigol o fewn y maes gemau a chreadigrwydd wrth gael eu cefnogi gan staff brwdfrydig a phrofiadol.

MODIWLAU

  • Datblygiad a Dobarthiad y Gyfryngau
  • Dadansoddi Gemau a Rhyngweithio
  • Menter a Rheolaeth Gemau
  • Dylunio 3D ac Optimeiddiaeth
  • Deallusrwydd Artiffisial Uwch
  • Dulliau astudio ac ymchwil ôl-raddedig
  • Traethawd hir (60 credyd)
  • Mentora mewn Technoleg (Opsiynol)

 

Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.

Gofynion mynediad a gwneud cais

Y gofyniad mynediad safonol ar gyfer y rhaglen hon yw gradd anrhydedd dosbarth 2:2 o leiaf mewn maes pwnc sy'n gysylltiedig â Chyfrifiadureg, neu gymhwyster cyfwerth mewn unrhyw radd sy'n seiliedig ar wyddoniaeth gydag elfen gyfrifiadura gref.

Mae'n bosibl y caiff ymgeiswyr sydd â phrofiad masnachol neu ddiwydiannol sylweddol, neu raddedigion sy'n dod o gefndiroedd nad ydynt yn rhai Cyfrifiadura gael eu derbyn, yn amodol ar gyfweliad a geirda.

Addysgu ac Asesu

Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar bortffolio ac felly, nid oes arholiadau ffurfiol. Yn hytrach, bydd myfyrwyr yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau cynllun technegol, busnes a ddamcaniaethol trwy aseiniadau ymarferol a gweithgareddau ymchwil a datblygu.

Mae dulliau asesu yn cynnwys cynhyrchu gemau digidol (a rhai nad ydynt yn ddigidol), ysgrifennu papurau technegol ac academaidd, casglu a dadansoddi data, gwneud cyflwyniadau, ysgrifennu cynlluniau busnes strategaethol, cynhyrchu modeli 3D sydd wedi eu hoptimeiddio’n broffesiynol yn ogystal ag asedau gêm. 

Mae angen i fyfyrwyr ôl-raddedig dangos sgiliau uwch mewn dadansoddi beirniadol a datblygu fel rhan o ganlyniadau asesu allweddol. 

Dysgu ac addysgu

Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi ymrwymo i roi cymorth i'n myfyrwyr i'w galluogi i gyflawni eu potensial academaidd i'r eithaf.

Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sy'n ymroddedig i helpu myfyrwyr i delio ag agweddau ymarferol gwaith prifysgol.Mae gan ein hadran cymorth i fyfyrwyr fwy o wybodaeth ar y cymorth sydd ar gael.

Mae dysgu annibynnol yn agwedd bwysig o'r holl fodiwlau, gan ei fod yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau pwnc penodol a'u sgiliau allweddol. Caiff dysgu annibynnol ei hyrwyddo drwy ddefnyddio offer rheoli digidol megis Jira, a thrwy'r adborth a roddir i fyfyrwyr, sy'n cymryd sawl ffurf gan gynnwys grwpiau bach a thrafodaethau un-i-un.

Rhagolygon gyrfaol

Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.

Ar ôl i chi gwblhau'r rhaglen MSc yn llwyddiannus, bydd eich sgiliau lefel uwch mewn modelu a cherflunio 3D, dadansoddi systemau, rhaglennu a dylunio cymwysiadau'n eich gwneud yn gymwys i weithio mewn nifer o swyddi lefel uchel yn y diwydiant hwn.

O ystyried y sgiliau busnes ac entrepreneuraidda ddatblygir ar y cwrs, mae rhai myfyrwyr ôl-raddedig yn dewis sefydlu eu stiwdios gemau eu hunain â chymorth ein canolfan deori busnesau fel rhan o'r rhaglen Cyflymydd Busnes. 

Rydym hefyd yn gweithio’n galed i gefnogi graddedigion sydd yn dewed sefydlu stiwdios eu hunain o fewn ein canolfan deoriad busnes arloesol.       

Yn ogystal, mae’r sgiliau a cheir ar y cwrs yn galluogi graddedigion i ddilyn gyrfaoedd mewn sawl maes cyfrifiadura fel cymorth TG, ymgynghoriaeth adatblygu meddalwedd i’r wê ac e-fasnach.  

Ffioedd a chyllid

Nid oes rhaid i chi dalu eich ffioedd dysgu ymlaen llaw.

Bydd y ffioedd rydych yn eu talu a'r cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn y mae eich ffioedd yn ei gynnwys yn y Cwestiynau Cyffredin ffioedd. 

Mae'r holl ffioedd yn ddarostyngedig i unrhyw newidiadau ym mholisi'r llywodraeth, edrychwch ar ein ffioedd ôl-raddedig.

Manyleb y rhaglen

Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma.