Tystysgrif Ôl-raddedig Dysgu ac Addysgu mewn Addysg Uwch

Class taking place in our Scale up space

Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2024

Hyd y cwrs

1 Fl (LlA)

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Wrecsam

Course Highlights

Delfrydol

ar gyfer athrawon newydd sydd am wella eu sgiliau a'u gwybodaeth yn y proffesiwn.

 

Datblygu

eich ymagweddau at arferion effeithiol mewn cyd-destun addysg uwch.

 

Cyfleoedd

i ennill cydnabyddiaeth broffesiynol fel cymrawd o'r Academi Addysg Uwch (FHEA).

Pam dewis y cwrs hwn?

Mae'r Dystysgrif Ôl-raddedig Dysgu ac Addysgu mewn Addysg Uwch yn ddelfrydol ar gyfer darlithwyr sydd newydd eu penodi i addysg uwch ac ymchwilwyr gyda chyfrifoldeb dysgu.

  • Nod y rhaglen yw datblygu dulliau cyfranogwyr o ymdrin ag arferion addysgu, dysgu, asesu a gwerthuso effeithiol  mewn cyd-destun addysg uwch. Yn ychwanegol at hyn mae'r rhaglen yn cefnogi datblygiad ysgolheictod dysgu ac addysgu.
  • Mae'r rhaglen astudiaeth yn canolbwyntio ar ddarparu rhaglenni lefel 4 ac uwch ar y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau (QCF) a chyd-destun ehangach cefnogi dysgu ac addysgu mewn addysg uwch. 
  • Mae'r rhaglen yn alinio gyda Disgrifydd 2 yn Fframwaith Safonau Proffesiynol y DU (Advance HE), ac ar gwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus gall cyfranogwyr hawlio cydnabyddiaeth proffesiynol fel Cymrawd gyda'r Academi Addysg Uwch (FHEA).

Prif nodweddion y cwrs

  • Mae'r rhaglen yn hanfodol o ran cefnogi ac annog staff newydd eu penodi a staff cyfredol yn eu hymarfer academaidd ac wrth ddysgu, addysgu ac asesu a gwerthuso ac yn natblygiad eu proffiliau ymchwil a chyhoeddi.
  • Cyfnerthu datblygiad proffesiynol a thystiolaeth o ymarfer broffesiynol yn eich gyrfa addysg uwch. 
  • Mae'r rhaglen yn galluogi darlithwyr AU ac eraill sydd â rolau dysgu sylweddol i ennill cydnabyddiaeth broffesiynol gyda'r Advane HE a'r Academi Addysg Uwch (HEA) drwy alinio eu hymarfer gyda Fframwaith Safonau Proffesiynol y DU. 
 
 

Beth fyddwch chin ei astudio

Mae'r rhaglen yn cael ei darparu tros flwyddyn academaidd. Mae'r ddau fodiwl wedi eu halinio â Fframwaith Safonau Proffesiynol y DU (UKPSF) ac yn galluogi cyfranogwyr i fyfyrio ar eu hymarfer eu hunain, gan ddysgu wrth rannu eu hymarfer ag eraill, a datblygu dealltwriaeth mwy dwfn o fodelau addysgol sydd yn cefnogi dysgu ac addysgu mewn Addysg Uwch.

MODIWLAU

  • Dysgu, Addysgu ac Asesu mewn Addysg Uwch (30 credyd ar lefel 7)
  • Ymarfer Academaidd mewn Addysg Uwch (30 credyd ar lefel 7)

Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid. 

 
 

Gofynion mynediad a gwneud cais

Fel rheol bydd gennych chi radd yn eich disgyblaeth eich hun a mynediad at ddysgu rheolaidd mewn sefydliad addysg uwch. 

 

 
 

Addysgu ac Asesu

Mae'r asesu'n digwydd yn gyfan gwbl drwy waith cwrs. Rhaid i fyfyrwyr ar y cwrs fod yn gyflogedig yn y sector AU, ac mewn swydd dysgu barhaol.

Ymhlith yr asesiadau mae;

  • Microddysgu i gymheiriaid
  • Arsylwad o ymarfer y cyfranogwr mewn AU
  • Traethawd myfyriol sydd yn gwerthuso'n feirniadol dysgu, addysgu ac ymarfer asesu y cyfranogwr
  • Astudiaeth feirniadol i faes cymhwysol o ymarfer academaidd sydd wedi ei ddylunio i wella ymarfer y cyfranogwr a chefnogi dysgu'r myfyriwr.

Dysgu ac addysgu

Mae Prifysgol Wrecsam wedi ymrwymo i roi cymorth i'n myfyrwyr i'w galluogi i gyflawni eu potensial academaidd i'r eithaf. Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sy'n ymroddedig i helpu myfyrwyr i delio ag agweddau ymarferol gwaith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth i fyfyrwyr fwy o wybodaeth ar y cymorth sydd ar gael.

 
 

Rhagolygon gyrfaol

Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.

Wedi cwblhau’r dyfarniad llawn (Tystysgrif Ôl-raddedig Dysgu ac Addysgu mewn Addysg Uwch ) bydd cyfranogwyr yn ennill cydnabyddiaeth broffesiynol fel Cymrawd gyda'r Academi Addysg Uwch (FHEA) ar Ddisgrifydd 2 o'r UKPSF, sef y safon sector y mae'n rhaid i athrawon addysg uwch ei gael.

 

 
 

Ffioedd a chyllid

Nid oes rhaid i chi dalu eich ffioedd dysgu ymlaen llaw.

Bydd y ffioedd rydych yn eu talu a'r cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn y mae eich ffioedd yn ei gynnwys yn y Cwestiynau Cyffredin ffioedd. 

Mae'r holl ffioedd yn ddarostyngedig i unrhyw newidiadau ym mholisi'r llywodraeth, edrychwch ar ein ffioedd ôl-raddedig.

Manyleb y rhaglen

 Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma.