Group of students

Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2024

Hyd y cwrs

3 BL (RhA)

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Wrecsam

*Yn amodol ar gymeradwyaeth broffesiynol barhaus

Course Highlights

Ennill

cymhwyster gwaith ieuenctid proffesiynol JNC.

 

Hyblyg

Cyflwyno dull dysgu cyfunol.

Cefnogaeth

gan diwtoriaid sydd â phrofiad o gynnal ymchwil yn y maes.

Pam dewis y cwrs hwn?

Mae rhaglen MA mewn Gwaith Ieuenctid a Chymuned (JNC) yn cynnig cyfle unigryw i ennill cymhwyster JNC mewn gwaith ieuenctid proffesiynol, sy’n galluogi myfyrwyr i gofrestru gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg yng Nghymru, ac i ymarfer fel gweithiwr ieuenctid yn y DU ac mewn mannau eraill.

  • Mae’r rhaglen hon yn ddelfrydol ar gyfer ymarferwyr fyddai’n hoffi ennill cymhwyster proffesiynol JNC, ond sydd, efallai, â Gradd Bagloriaeth mewn pwnc arall. Mae’r rhaglen yn ymdrin â phynciau craidd, egwyddorion a gwerthoedd sydd eu hangen i fod yn weithiwr ieuenctid proffesiynol, gan ganiatáu hefyd i chi deilwra eich dysgu i’ch maes ymarfer proffesiynol.
  • Mae’r adran ieuenctid a chymuned ym Mhrifysgol Wrecsam yn cael ei hystyried fel “cartref gwaith ieuenctid yng Nghymru”, ar ôl cynnig addysg a hyfforddiant i’r sector ieuenctid a chymuned ers mwy na 43 mlynedd. Fel y cyfryw, mae gan yr adran gysylltiadau ardderchog â chyflogwyr ar draws Gogledd Cymru, Gogledd-orllewin Lloegr, a Chanolbarth Lloegr, ac mae'n gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau ar draws y sector statudol, y sector gwirfoddol a’r trydydd sector.
  • Wedi’i chynnig trwy ymagwedd dysgu wedi’i gyfuno, bydd myfyrwyr yn dechrau pob semester gyda phenwythnos preswyl rhagarweiniol ar ein Campws yn Wrecsam, ac yna’n parhau gyda dysgu ar-lein gyda chymorth tiwtoriaid ymroddedig – sy’n caniatáu i chi astudio rhwng eich ymrwymiadau gartref ac yn y gwaith.

Prif nodweddion y cwrs

  • Darpariaeth hyblyg trwy ymagwedd dysgu cyfunol, gyda phrofiad preswyl ar ddechrau pob semester, gyda dysgu ar-lein a chymorth wyneb-yn-wyneb gyda thiwtoriaid i ddilyn, yn ôl yr angen; gan ganiatáu i chi astudio ochr yn ochr â gweithio
  • Datblygu gwybodaeth a sgiliau craidd ar gyfer ymarfer gwaith ieuenctid ac addysg anffurfiol sy’n drosglwyddadwy i weithio gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion mewn amrywiaeth o leoliadau gwahanol
  • Mae gan y cwrs werth ychwanegol yn cynnwys cyfleoedd am Ddablygiad Proffesiynol Parhaus a chyfleoedd hyfforddiant ymarferol ychwanegol.
  • Dysgu a chael profiad gyda 300 awr o ymarfer gwaith maes dan oruchwyliaeth, gyda lleoliad ym mhob blwyddyn astudio. Gall hyn fod mewn lleoliadau maes gwaith naill ai yn y DU neu’n rhyngwladol, e.e. gyda lleoliad Ewropeaidd a ariennir yn rhannol.
  • Datblygu sgiliau mewn gwaith tîm, cyfathrebu cadarnhaol, gweithio gyda grwpiau ac unigolion, arfer adfyfyriol ac arwain eraill
  • Yr opsiwn o deilwra eich dysgu i fod yn addas ar gyfer eich maes ymarfer arbenigol a’ch diddordebau trwy gyd-drafod dysgu ac ymchwil.

Beth fyddwch chin ei astudio

BLWYDDYN 1

MODIWLAU 

  • Damcaniaethu Gwaith Ieuenctid a Chymuned (gan gynnwys lleoliad proffesiynol 1) (Craidd) Bydd y modiwl hwn yn gynnig y cyfle i ddadansoddi damcaniaethau craidd yn gritigol sy’n llywio arfer gwaith ieuenctid a chymuned, a’r ffordd y mae ffactorau cymdeithasol a gwleidyddol yn effeithio ar ein gwaith gyda phobl ifanc. Bydd yn gyfle i ystyried yn gritigol sut mae’r ffactorau hyn yn llunio eich hunaniaeth broffesiynol. Mae’r modiwl hwn hefyd yn cynnwys 180 awr o leoliadau gwaith.

  • Addysgeg Gritigol ac Ymarfer Gwrth-ormesol (Craidd) Mae’r modiwl hwn yn archwilio’r gydberthynas rhwng gwaith ieuenctid, addysg anffurfiol ac addysgeg gritigol. Mae’n ystyried yn gritigol sut gellir defnyddio addysg ac ymarfer gwaith ieuenctid mewn ffordd adeiladol i herio anghydraddoldeb ac anghydbwysedd o ran pŵer yn y gymdeithas er mwyn sicrhau bod ymarferwyr gwaith ieuenctid yn gweithio mewn ffordd wrth-ormesol.

BLWYDDYN 2

MODIWLAU 

  • Lleoliad Proffesiynol 2 (Craidd) Cyfle i adeiladu ar eich dysgu o flwyddyn 1, gan gymhwyso theori i ymarfer a dangos sgiliau a galluoedd newydd mewn lleoliad gwaith ieuenctid amgen o 120 awr. Mae’n rhaid cwblhau’r modiwl hwn yn llwyddiannus ond nid oes iddo unrhyw werth credyd.

  • Methodoleg Ymchwil ac Ymchwilio i’r Gwyddorau Cymdeithasol (Craidd) Nod y modiwl hwn yw galluogi myfyrwyr i wneud prosiect ymchwil yn y gwaith ar raddfa fach. Bydd yn archwilio gwreiddiau athronyddol ymchwil ac yn canolbwyntio ar archwilio cyrff gwybodaeth sy’n bodoli eisoes sy’n gysylltiedig â chwestiynau ymchwil yn y gwaith. Bydd myfyrwyr yn ennill profiad ymarferol o’r prosesau ymchwil a byddant yn cael y cyfle i ddangos eu gallu i wneud hynny gan ddefnyddio ymagwedd foesegol a methodoleg ymchwil priodol. Mae i’r modiwl hwn elfen allweddol o baratoi myfyrwyr ar gyfer y modiwl traethawd hir tair blynedd.

  • Cyd-drafod Dewis (Opsiwn) Nod y modiwl hwn yw cynnig cyfle i fyfyrwyr ddiffinio ffocws eu hastudiaeth eu hunain o fewn paramedrau gwaith ieuenctid a chymuned. Bydd myfyrwyr yn gwerthuso ac yn dadansoddi polisi, arfer a datblygiadau damcaniaethol yn gritigol yn y maes penodol hwnnw. Cânt y cynnig o ddyfeisio eu cerbyd asesu eu hunain – gallai fod yn brosiect, yn draethawd, yn gyflwyniad ac ati.
  • Arwain a Rheolwyr Gweithwyr Proffesiynol (Opsiwn) Nod y modiwl hwn yw galluogi ymarferwyr i archwilio dysgu a rheoli gweithwyr proffesiynol mewn cyd-destunau gwaith ieuenctid a chymuned. Mae hon yn sgil allweddol ar gyfer y rheiny sy’n gweithio ar lefel broffesiynol. Bydd y modiwl yn archwilio’n gritigol y gwahaniaethau rhwng rolau arwain a rheoli, yn gwerthuso’n gritigol y rolau amrywiol y mae aelodau tîm yn eu cyflawni ac yn cydnabod pwysigrwydd deinameg timau. 

BLWYDDYN 3

MODIWLAU 

  • Traethawd Hir Mae’r traethawd hir yn astudiaeth annibynnol, sy’n cynnwys casglu a dadansoddi data o’r prif ffynonellau, sy’n cael ei wneud gan fyfyrwyr ar bwnc o’u dewis yng nghyd-destun gwaith ieuenctid a chymuned. Darn ysgrifenedig estynedig yw hwn sy’n caniatáu i fyfyrwyr werthuso cysyniadau ac arfer damcaniaethol yn gritigol mewn perthynas â’r pwnc o’u dewis.

Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.

Gofynion mynediad a gwneud cais

Y gofynion academaidd ar gyfer y cwrs yw gradd anrhydedd dda neu gymhwyster proffesiynol priodol.

Mae angen profiad blaenorol o 200 awr mewn lleoliad gwaith ieuenctid a chymuned ac mae’n rhaid bod tystiolaeth o hynny. Gellir ennill y profiad hwnnw mewn gwaith gwirfoddol neu waith am dâl ym maes gwaith ieuenctid a chymuned. Gall tîm y rhaglen gynghori myfyrwyr ynghylch cyfleoedd gwirfoddoli a phrofiad i ymarfer, os bydd angen.

Caiff yr holl ymgeiswyr a ystyrir i fod yn addas gyfweliad, a bydd y rheiny sydd ag anableddau neu o gyrsiau perthnasol yn cael cynnig cyfweliad fel mater o drefn.

Bydd llawer o fodiwlau yn gofyn i chi fod yn gweithio mewn amgylchedd ymarfer ieuenctid a chymuned addas, neu fynediad ato, er mwyn i chi gyd-destunoli eich dysgu a chwblhau’r asesiadau.
 
Bydd gofyn i chi gwblhau cliriad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) (a elwid yn CRB gynt) fel bod modd gwirio eich addasrwydd i weithio gyda phlant a/neu oedolion sy’n agored i niwed.

Addysgu ac Asesu

Caiff aseiniadau eu cynllunio gyda nodau dyblyg cefnogi datblygiad proffesiynol myfyriwr a’i ddealltwriaeth academaidd. Mae hyn yn ehangu gwybodaeth a sgiliau o’r gred bod gweithio fel ymarferydd ardderchog yn golygu, nid yn unig gweithio gyda phobl, ond hefyd gallu mynegi eich hun mewn amrywiaeth o ffyrdd sy’n cynnwys llunio adroddiadau, dogfennau a thraethodau’n seiliedig ar gasglu a dadansoddi tystiolaeth er mwyn creu dadl.

Trwy gydol y rhaglen, ac mewn modiwlau unigol, caiff amrywiaeth o ddulliau asesu eu defnyddio sydd â’r nod o dangos tegwch mewn perthynas ag anghenion, arddulliau dysgu a diddordebau unigol myfyrwyr. Caiff y ffurfiau ar asesu eu dewis er mwyn sicrhau eu bod yn nodweddu lefel academaidd y modiwlau a’u bwriad yw galluogi myfyrwyr i ystyried athroniaethau, cysyniadau a’r damcaniaethau sy’n ategu gwaith ieuenctid a chymuned, trwy ystyried a dadansoddi materion sy’n berthnasol i feysydd darpariaeth gymdeithasol.

Anogir trosglwyddo dysgu o un modiwl i’r llall ac mae’r modiwlau craidd yn cynnig ffocws yn hyn o beth. Fel y cyfryw, caiff dulliau asesu ar y rhaglen israddedig hon eu defnyddio i ddatblygu hyder a gallu myfyriwr i gwblhau ystod o sgiliau trosglwyddadwy a ystyrir i fod yn fuddiol mewn gwaith academaidd ac arfer proffesiynol.

Felly bydd amrywiaeth o ffurfiau i asesiadau ar y rhaglen gan gynnwys Traethodau, Cyflwyniadau, Portffolios, cyfraniad at Fforymau Ar-lein ac ati.

Dysgu ac addysgu

Mae Prifysgol Wrecsam wedi ymrwymo i roi cymorth i'n myfyrwyr i'w galluogi i gyflawni eu potensial academaidd i'r eithaf. Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sy'n ymroddedig i helpu myfyrwyr i delio ag agweddau ymarferol gwaith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth i fyfyrwyr fwy o wybodaeth ar y cymorth sydd ar gael.

Rhagolygon gyrfaol

Mae cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus yn arwain at Gymhwyster Gwaith Ieuenctid proffesiynol JNC, sy'n ofynnol ar gyfer cofrestru gyda Chyngor y Llu Gwaith Addysg yng Nghymru. Dyma'r cymhwyster proffesiynol sydd ei angen ar gyfer y rhan fwyaf o swyddi Gwaith Ieuenctid yn Lloegr a'r Alban. Byddwch yn cwblhau dros 300 awr o leoliad gwaith ar y cwrs sy'n rhoi profiad gwaith perthnasol i chi yn y sector Gwaith Ieuenctid a Chymunedol. 

Mae graddedigion o'r cwrs yn gweithio mewn amrywiaeth o leoliadau, gan gynnwys gweithio mewn prosiectau a gwasanaethau yn y meysydd canlynol: 

  • Gofalwyr Ifanc
  • Ymadawyr Gofal a Phobl Ifanc mewn Gofal
  • Troseddwyr Ifanc
  • Gwaith Ieuenctid yr Ysbyty
  • Iechyd Meddwl
  • Digartrefedd a Thai Ieuenctid 
  • Datblygiad Chwaraeon ac Iechyd Ieuenctid 
  • Clybiau Ieuenctid a Gwaith Ieuenctid ar y Stryd
  • Camfanteisio'n Rhywiol ar Blant
  • Addysg Awyr Agored
  • Datblygiad Cymunedol
  • Mentora ac Eiriolaeth
  • Pobl ifanc ag anabledd 

Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.

 

Ffioedd a chyllid

Nid oes rhaid i chi dalu eich ffioedd dysgu ymlaen llaw.

Bydd y ffioedd rydych yn eu talu a'r cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn y mae eich ffioedd yn ei gynnwys yn y Cwestiynau Cyffredin ffioedd. 

Mae'r holl ffioedd yn ddarostyngedig i unrhyw newidiadau ym mholisi'r llywodraeth, edrychwch ar ein ffioedd ôl-raddedig.

Manyleb y rhaglen

Gallwch weld manyleb y rhaglen lawn yma.

 

Yn amodol ar gymeradwyaeth broffesiynol barhaus

Mae'r rhaglen hon wedi derbyn estyniad i'r cyfnod dilysu gan Brifysgol Wrecsam. Ar hyn o bryd rydym wrthi'n gweithio gydag ETS Cymru, y corff proffesiynol ar gyfer Gwaith Ieuenctid a Chymunedol, i gael estyniad blwyddyn ar gyfer cymeradwyaeth broffesiynol ar gyfer elfen JNC y rhaglen. Bydd hyn yn cael ei gadarnhau erbyn haf 2024.

Visa Rhyngwladol