PGDip Nyrsio Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol
Manylion cwrs
- Blwyddyn mynediad 2023, 2024
- Hyd y cwrs 1 Fl (LlA)
- Lleoliad Wrecsam

Course Highlights
Cofrestr
y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (CNB) ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus
Astudio
wedi'i wneud o ddamcaniaeth a ddysgu seiliedig ar ymarfer
Wedi'i gyllido
y cwrs wedi'i gyllido gan Lywodraeth Cymru
Pam dewis y cwrs hwn?
Mae’r rhaglen astudio yn cynnwys dysgu seiliedig ar theori ac ymarfer a'i sylfaen yw ymarfer iechyd cyhoeddus. Mae hyn yn caniatáu nyrsys a bydwragedd cofrestredig i hybu eu sgiliau proffesiynol i lefel arbenigol yn un o’r ddau lwybr a gynigir.
- Mae cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus yn eich galluogi i gofrestru ar Ran III o gofrestr y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (CNB) ac ymarfer fel nyrs iechyd y cyhoedd cymunedol arbenigol. Mae'r cwrs hefyd yn cynnwys y rhaglen Rhagnodi Nyrs Cymunedol V100 (wedi'i hintegreiddio yn y modiwlau Ymarfer Arbenigol), y byddwch yn gallu cofnodi'r gyda'r CNB.
- Mae’r rhaglen lawn amser 52 wythnos yma (neu’r rhaglen ran-amser gyfatebol) yn cynnwys 22.5. wythnos o astudiaeth ddamcaniaethol a 22.5 wythnos o ddysgu yn y lleoliad ymarfer o dan oruchwyliaeth Athro Ymarfer a mentor arbenigol. Mae’r llwybr llawn amser yma yn cynnwys mynychu Prifysgol Glyndŵr Wrecsam am ddeuddydd, deuddydd mewn ymarfer ac un diwrnod o astudio yr wythnos yn ystod y tymor.
- Ariennir y cwrs gan Lywodraeth Cymru a cheir mynediad i’r rhaglen trwy gais a chyfweliad ar y cyd gan yr Ymddiriedolaeth GIG sy’n noddi a Phrifysgol Glyndŵr Wrecsam.
Prif nodweddion y cwrs
- Mae cwblhau’r rhaglen yn llwyddiannus yn eich galluogi i gofrestru ar Ran III o gofrestr y CNB ac ymarfer fel Nyrs Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol.
- Mae’r cwrs yn cynnwys y rhaglen Rhagnodi gan Nyrsys Cymunedol V100 (a integreiddir yn y modiwlau Ymarfer Arbenigol) y gallwch ei chofnodi gyda’r CNB.
- Mae’r radd yn eich paratoi ar gyfer ymarfer drwy ddysgu ac asesu yn y cyd-destun ymarfer.
- Mae’n bosibl y bydd myfyrwyr sy’n dilyn y llwybrau uwchraddedig yn cael cyfle i ddychwelyd i gwblhau gradd Meistr yn rhan-amser os y gwnaethont adael gyda thystysgrif uwchraddedig neu gwblhau traethawd hir yn rhan-amser ac ennill gradd Meistr. Bydd hyn yn datblygu eich sgiliau gwerthuso, gwreiddioldeb meddwl ac ymchwil, felly os byddwch yn penderfynu astudio hyd at lefel Meistr, buasech yn gallu mynd ymlaen i ymgymryd ag astudiaeth ar lefel Ddoethuriaethol.
- Mae'r llwybr modiwlaidd yn caniatáu i fyfyrwyr rhan-amser gwblhau modiwlau gyda myfyrwyr amser llawn pan fyddant yn gallu ymuno â'r rhaglen.
Beth fyddwch chin ei astudio
MODIWLAU
- Agweddau teulu at iechyd ar gyfer ymwelwyr iechyd a nyrsys ysgol (gyda rhagnodi gan nyrsys integredig)
- Agweddau unigolion at iechyd ar gyfer ymwelwyr iechyd a nyrsys ysgol (gan gynnwys cyfnod ymarfer cyfunol)
- Agweddau poblogaeth at Nyrsio Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol
- Arweinyddiaeth mewn Ymarfer Gofal Iechyd
- Proses Ymholi yn Lefel 6/Dulliau Ymchwil yn Lefel 7
Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.
Gofynion mynediad a gwneud cais
Mae’n rhaid i’r rheiny sy’n dymuno cael mynediad i’r rhaglen yma fod wedi’u cofrestru yn gyfredol fel Nyrs neu Fydwraig, meddu ar ddiploma neu radd mewn Nyrsio neu Fydwreigiaeth neu ddisgyblaeth gytras, ac un o’r gofynion yw bod â defnydd o gerbyd tra ar leoliad.
Addysgu ac Asesu
Asesir trwy aseiniadau ysgrifenedig, myfyrdodau, arholiadau byr, cyflwyniadau a phortffolio sy’n asesu gallu mewn ymarfer.
Dysgu ac addysgu
Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi ymrwymo i roi cymorth i'n myfyrwyr i'w galluogi i gyflawni eu potensial academaidd i'r eithaf. Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sy'n ymroddedig i helpu myfyrwyr i delio ag agweddau ymarferol gwaith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth i fyfyrwyr fwy o wybodaeth ar y cymorth sydd ar gael.
Rhagolygon gyrfaol
Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.
Mae Ymwelydd Iechyd yn rôl amrywiol, boddhaol a llawn her sy’n golygu ffurfio perthynas gyda theuluoedd dros amser. Mae’n addas i nyrsys a bydwragedd sydd â diddordeb mewn hybu iechyd, iechyd cyhoeddus a gweithio yn y gymuned.
Mae ymwelwyr iechyd mewn lle da i helpu teuluoedd a phlant ifanc. A dweud y gwir, mae tystiolaeth gynyddol yn tanlinellu pwysgrwydd y rôl ym mlynyddoedd cyntaf bywyd rhywun, ac mewn cydnabyddiaeth o’r ffeithiau hyn mae Llywodraeth Cymru wedi cynyddu’r niferoedd recriwtio ar gyfer hyfforddiant Ymwelwyr Iechyd ar hyn o bryd. Mae Llywodraeth Lloegr hefyd yn recriwtio mwy o ymwelwyr iechyd a chan hynny mae rhagolygon cyflogaeth gyda Chyflogwyr GIG yn dda.
Mae nyrsys ysgol yn darparu amryw o wasanaethau megis darparu addysg iechyd a rhyw mewn ysgolion, ymgymryd â sgrinio datblygiadol, cynnal cyfweliadau iechyd a gweinyddu rhaglenni imiwneiddio. Gall nyrsys ysgol gael eu cyflogi gan yr awdurdod iechyd lleol, darparwyr GIG cymunedol, neu’n uniongyrchol gan ysgolion.
Fe allai hefyd fod o fudd i unigolion sy’n gobeithio cael gyrfa fel nyrs iechyd cyhoeddus, naill ai fel ymwelydd iechyd neu fel nyrs ysgol, geisio treulio mwy o amser yn cysgodi ymwelydd iechyd neu nyrs ysgol presennol er mwyn darganfod mwy am yr hyn y mae’r rôl yn ei olygu.
Ffioedd a chyllid
Nid oes rhaid ichi dalu'ch ffioedd hyfforddi ymlaen llaw.
Bydd y ffioedd rydych chi'n eu talu a'r cymorth ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Ceir gwybodaeth gyflawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid.
Manyleb y rhaglen
Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma.
Gwneud Cais
GWNEUD CAIS:
- GRADUATE DIPLOMA SPECIALIST COMMUNITY PUBLIC HEALTH NURSING (HEALTH VISITING)
- GRADUATE DIPLOMA SPECIALIST COMMUNITY PUBLIC HEALTH NURSING (SCHOOL NURSING)
- POSTGRADUATE DIPLOMA SPECIALIST COMMUNITY PUBLIC HEALTH NURSING (HEALTH VISITING)
- POSTGRADUATE DIPLOMA SPECIALIST COMMUNITY PUBLIC HEALTH NURSING (SCHOOL NURSING)