Two students wearing safety goggles working under the bonnet of a car

Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2024

Hyd y cwrs

1 Fl (LlA) 2 Fl (RhA)

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Wrecsam

Course Highlights

Rhaglen wedi’i achredu

gydag IMechE a’r IET (yn amodol ar achrediad yn 2023).

Mynediad

i offer arbenigol a nifer o gerbydau gwahanol.

 

10 uchaf

yn y Ansawdd Dysgu (Nghanllaw Prifysgolion Da The Times & Sunday Times 2024).

Pam dewis y cwrs hwn?

Mae’r rhaglen MSc Peirianneg Fodurol yn gasgliad o fodiwlau allweddol ar elfennau hanfodol peirianneg fodurol fodern. Mae hyn yn rhoi cefndir cadarn ar gyfer gyrfa lwyddiannus yn y sector peirianneg fodurol (gweithgynhyrchwyr, gweithgynhyrchu cyfarpar gwreiddiol (OEM), Ymchwil a Datblygu) neu mewn chwaraeon moduro.

Mae’r wybodaeth a’r sgiliau a gyflwynir yn y cwrs MSc Peirianneg Fodurol yn drosglwyddadwy i feysydd peirianneg eraill.

Mae’r rhaglen yn rhoi’r cyfle i gyfuno elfennau ymarferol peirianneg fodurol yn ogystal â phrosiectau sy’n seiliedig ar efelychu gan ddefnyddio meddalwedd sy’n berthnasol i’r diwydiant. Ceir yma awyrgylch agored a chyfeillgar sy’n cyfoethogi eich profiad dysgu. Mae cysylltiadau cryf â chwmnïau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol yn sicrhau bod safon yr addysgu yn berthnasol i’r diwydiant er mwyn rhoi’r man cychwyn gorau posibl i’ch llwybrau gyrfa proffesiynol.

  • Mae’r darlithoedd a’r asesu fel rheol yn seiliedig ar sefyllfaoedd go iawn ac anghenion y diwydiant.
  • Mae gan labordai offer arbenigol cyfoes a cherbydau amrywiol gan gynnwys ceir mewn pecynnau, ceir rasio, pwerweithiau trydanol a hybrid.
  • Mae gan ddarlithwyr a staff cynorthwyol y profiad diwydiannol angenrheidiol ac wrthi eu hunain yn rasio trac ac yn adeiladu ceir.

Prif nodweddion y cwrs

  • Polisi drws agored i gwrdd â thiwtoriaid
  • Cefnogaeth ychwanegol trwy weithdai
  • Cewch ddewis o blith modiwlau opsiynol i ategu llwybr eich cwricwlwm
 
 

Beth fyddwch chin ei astudio

MODIWLAU

Llawn Amser

Semester 1

  • Dulliau Ymchwil Peirianneg ac Astudiaethau Ôl-radd (Craidd)
  • Dylunio ac Arloesedd mewn Peirianneg (Craidd)
  • Modelu ac Efelychu Systemau Peirianneg Fecanyddol (Craidd)

Semester 2

  • Technoleg Adnewyddadwy a Pheirianneg Integreiddio Storio (Opsiynol)
  • Dylunio System Ddeallus a Pheirianneg Rheoli (Opsiynol)
  • Dylunio gyda Chyfansoddion – Theori ac Ymarfer (Opsiynol)
  • Dylunio Siasi Modurol Uwch (Craidd)
  • Pwerweithiau Modern ac Arloesol (Craidd)

Semester 2/3

  • Traethawd Hir (Craidd)

Rhan-amser

Blwyddyn 1 – (bob dydd Gwener)

Semester 1

  • Dylunio ac Arloesedd mewn Peirianneg (Craidd)
  • Modelu ac Efelychu Systemau Peirianneg Fecanyddol (Craidd)

Semester 2

  • Technoleg Adnewyddadwy a Pheirianneg Integreiddio Storio (Opsiynol)
  • Dylunio System Ddeallus a Pheirianneg Rheoli (Opsiynol)
  • Dylunio gyda Chyfansoddion – Theori ac Ymarfer (Opsiynol)
  • Dylunio Siasi Modurol Uwch (Craidd)

Blwyddyn 2 – (bob dydd Iau)

Semester 1

  • Dulliau Ymchwil Peirianneg ac Astudiaethau Ôl-radd (Craidd)

Semester 2

  • Pwerweithiau Modern ac Arloesol (Craidd)

Semester 2/3

  • Traethawd Hir (Craidd)

Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu ddewisol. Mae modiwlau yn cael eu pennu'n rhai craidd neu ddewisol yn unol ag angehnion cyrff proffesiynol ac adolygiadau academaidd mewnol, ac felly'n gallu newid.

 
 
 
 

Gofynion mynediad a gwneud cais

Y gofynion mynediad arferol ar gyfer cael eich derbyn i astudio’n llawn amser neu’n rhan amser fydd un o’r canlynol:

  • d) Gradd Anrhydedd Baglor mewn Peirianneg, neu Radd Baglor arall mewn disgyblaeth beirianneg briodol, fel arfer gydag o leiaf dosbarthiad 2:2 neu gyfwerth.
  • e) Gellir derbyn ymgeiswyr nad ydynt yn bodloni’r gofynion mynediad ond sydd â phrofiad proffesiynol sylweddol mewn maes arbenigol perthnasol, yn amodol ar gyfweliad a geirda.
  • f) Cymwysterau cyfatebol o wlad dramor a ystyrir yn foddhaol gan dîm y rhaglen.

Fel arfer, bydd gofyn i ymgeiswyr sy’n gwneud cais trwy bwyntiau mynediad (b) ac (c) fynychu cyfweliad. Nid yw hyn bob amser yn bosibl, e.e., myfyrwyr tramor, ac os felly defnyddir y ffurflen gais ac argymhellion y tiwtor ‘cartref’ i benderfynu a ydynt yn addas; gellir defnyddio ffôn, y rhyngrwyd a fideo-gynadledda hefyd. Bydd lle ar y rhaglen yn cael ei gynnig yn seiliedig ar gymwysterau cefndir yr ymgeiswyr a, lle bo’n briodol, eu profiadau.

Meini prawf ansafonol i gael mynediad

Yn ôl y Rheoliadau ar gyfer ‘Graddau Meistr a Addysgir’ Prifysgol Wrecsam, mae’n bosibl i berson heb radd gael eu derbyn i ymgeisio, ar yr amod:

  • c) Bod ganddynt gymhwyster nad yw’n radd y mae Prifysgol Wrecsam wedi barnu ei fod o safon foddhaol at ddiben derbyn i gwrs ôl-radd, a
  • d) bod ganddynt swydd gyfrifol sy’n berthnasol i’r rhaglen, a’u bod wedi bod yn y swydd honno am o leiaf dwy flynedd o fewn y pum mlynedd diwethaf.

Waeth beth fo cymwysterau mynediad ymgeisydd, rhaid i’r myfyriwr ddangos tystiolaeth sy’n bodloni’r panel cyfweld o’u gallu i gwblhau gwaith academaidd i’r safon ofynnol i gwblhau’r cynllun astudio arfaethedig yn llwyddiannus.

 
 
 
 

Addysgu ac Asesu

Sail y rhaglen yw’r Fframwaith Dysgu Gweithredol (ALF). Mae’r dull dysgu cyfunol hwn yn rhan allweddol o’r cyflwyno ac mae’n cynnwys addysgu, cymorth dysgu, a chynnal sesiynau ar-lein. Mae’r Fframwaith yn cynnig dull mwy hyblyg o ddysgu i fyfyrwyr ac mae’n hanfodol i roi cyfle cyfartal i bob myfyriwr lwyddo.

Mae’r dulliau dysgu ac addysgu yn adlewyrchu disgrifyddion nodweddion gradd Meistr yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (QAA) yn y ffyrdd canlynol:

  • a) Defnyddir darlithoedd i rannu gwybodaeth allweddol a dangos ffyrdd newydd o weithio a fydd yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu dealltwriaeth gadarn o egwyddorion eu maes astudio yn ogystal â chanfod ffyrdd newydd o weithio.
  • b) Bydd astudiaethau achos, chwarae rôl, a gweithio mewn grŵp yn cael eu defnyddio i gynorthwyo wrth roi’r egwyddorion ar waith yn ehangach. Byddant hefyd yn cael eu defnyddio i ysgogi trafodaeth ac ymarfer sgiliau datrys problemau. Bydd hyn hefyd yn galluogi myfyrwyr i werthuso pa mor briodol yw gwahanol ddulliau o ddatrys problemau.
  • c) Mae defnyddio portffolios yn ysgogi adfyfyrio ar y rhinweddau sy’n angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth, a hynny’n gofyn am ysgwyddo cyfrifoldeb personol a gwneud penderfyniadau. Yn ogystal, maent yn galluogi myfyrwyr i nodi terfynau eu gwybodaeth a’u sgiliau a nodi strategaethau ar gyfer datblygu.
  • d) Defnyddir asesiadau i hybu dysgu yn ogystal â rhoi syniad am gyflawniad y myfyriwr.

Mae cyfleoedd yn y rhaglen i gael adborth ffurfiannol, diagnostig a chrynodol. Defnyddir dulliau asesu sy’n adlewyrchu anghenion y grŵp myfyrwyr ac yn rhoi modd profi gwybodaeth a deilliannau dysgu’r rhaglen yn ogystal â galluogi datblygu ac asesu sgiliau ymarferol a throsglwyddadwy.

Pan wneir gwaith grŵp wedi’i asesu, bydd disgwyl i chi greu nodiadau am gyfarfodydd a llunio cynlluniau gweithredu, a thrwy’r rheiny ddangos eich bod wedi cyfrannu’n gyfartal at y dasg. Yr elfen hon o gyfraniad personol fydd yn pennu asesiad eich modiwl yn gyffredinol. h.y., ni ddylai pob myfyriwr o fewn grŵp ddisgwyl cael yr un marc.

Dysgu ac addysgu

Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi ymrwymo i roi cymorth i'n myfyrwyr i'w galluogi i gyflawni eu potensial academaidd i'r eithaf. Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sy'n ymroddedig i helpu myfyrwyr i delio ag agweddau ymarferol gwaith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth i fyfyrwyr fwy o wybodaeth ar y cymorth sydd ar gael.

Mae dulliau addysgu'n cynnwys darlithoedd, sesiynau labordy, seminarau a arweinir gan fyfyrwyr ac ymchwil dan arweiniad. 

Mae dysgu annibynnol yn agwedd bwysig o bob modiwl, gan ei fod yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau pwnc-benodol a'u sgiliau allweddol. Mae dysgu annibynnol yn cael ei hyrwyddo drwy astudio dan arweiniad neu'r adborth a roddir i fyfyrwyr.

 
 
 
 

Rhagolygon gyrfaol

Mae’r rhaglen MSc Peirianneg Fodurol yn ateb anghenion ystod o ddiwydiannau amrywiol yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, wrth sicrhau darpar weithwyr o’r radd flaenaf iddynt yn y dyfodol. Mae’r rhaglen wedi’i llunio i roi cyfleoedd i chi ddangos eich arbenigedd technegol perthnasol, eich arloesedd, eich ymrwymiad a’ch crebwyll, gan felly gynhyrchu myfyrwyr sy’n weithwyr Peirianneg proffesiynol ac yn ased y mae galw mawr amdanynt gan gyflogwyr y dyfodol. Mae cyn-fyfyrwyr naill ai mewn cyflogaeth amser llawn neu wrthi’n astudio am PhD.

Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.

Mae'r cwrs yn eich cyfarparu â gwybodaeth drylwyr a sgiliau mewn peirianneg sydd ar flaen y gad pan ddaw i dechnolegau newydd a'r rhai sy'n dod i'r amlwg. Bydd gan raddedigion y fantais o ddod yn arbenigwyr yn y diwydiant neu i fynd ar drywydd gyrfaoedd ymchwil yn y byd academaidd.

 

 
 
 
 

Ffioedd a chyllid

Nid oes rhaid i chi dalu eich ffioedd dysgu ymlaen llaw.

Bydd y ffioedd rydych yn eu talu a'r cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn y mae eich ffioedd yn ei gynnwys yn y Cwestiynau Cyffredin ffioedd. 

Mae'r holl ffioedd yn ddarostyngedig i unrhyw newidiadau ym mholisi'r llywodraeth, edrychwch ar ein ffioedd ôl-raddedig.

Manyleb y rhaglen

Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma.