Health & Wellbeing students sit on opposite sides of a desk and discuss their work

Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2023, 2024

Hyd y cwrs

Amrywiol

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Wrecsam

Course Highlights

Datblygwch

ddull systematig a myfyriol, wedi'i seilio ar dystiolaeth o wneud penderfyniadau clinigol mewn arferion rhagnodi.

Arddangos

sgiliau meddwl beirniadol a gwneud penderfyniadau sy'n ofynnol i ragnodi'n ddiogel.

Astudio

modiwlau sy'n benodol i'ch proffesiwn

Pam dewis y cwrs hwn?

Mae ein modiwlau cwrs hwn yn galluogi myfyrwyr datblygu'r cymhwysedd i ymarfer yn ddiogel, yn briodol ac yn gost-effeithiol mewn perthynas â safonau proffesiynol a osodir gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC), y Cyngor Fferyllol Cyffredinol (GPhC) neu'r cyngor gofal iechyd proffesiynol (HCPC).

  • Datblygwch ddull systematig a myfyriol, wedi'i seilio ar dystiolaeth o wneud penderfyniadau clinigol mewn arferion rhagnodi.
  • Archwilio'n feirniadol a chymhwyso'r ddeddfwriaeth berthnasol i arferion rhagnodi anfeddygol o fewn fframwaith llywodraethu clinigol gan gynnwys materion cadw cofnodion a defnyddio meddyginiaethau didrwydded.
  • Cymhwyso gwybodaeth am weithredoedd cyffuriau a rhyngweithio wrth ymarfer rhagnodi.
  • Datblygu mewnwelediad beirniadol i gyfathrebu gyda chlaf a pherthynas effeithiol gyda chlaf, cleientiaid, gofalwyr, rhagnodion eraill ac aelodau o'r tîm gofal iechyd.

Prif nodweddion y cwrs

  • Archwilio'n feirniadol y dylanwadau cymhleth – dymuniadau a gwerthoedd cleifion neu ofalwyr, a all effeithio ar arferion rhagnodi gan ddangos dealltwriaeth systematig drwy reolaeth briodol a moesegol o bresgripsiynu'n hunain.
  • Myfyrio'n feirniadol ar rôl eu hunain ac eraill sy'n ymwneud â rhagnodi, cyflenwi a rhoi meddyginiaethau.
  • Arddangos y sgiliau meddwl a phenderfynu beirniadol sydd eu hangen i ragnodi diogelwch, yn briodol ac yn gost-effeithiol.
  • Ymarfer yn gymwys o fewn fframwaith o atebolrwydd a chyfrifoldeb proffesiynol gan barhau i ddatblygu ei ysgolheictod ei hun drwy ddatblygiad proffesiynol parhaus.
  • Dangos ymwybyddiaeth systematig a beirniadol o'r materion iechyd y cyhoedd sy'n ymwneud â defnyddio meddyginiaethau.
  • Dangos dealltwriaeth feirniadol o gyfathrebu/perthynas effeithiol â chlaf/cleientiaid, gofalwyr, Rhagnodwyr eraill ac aelodau o'r tîm gofal iechyd.
 
 

Beth fyddwch chin ei astudio

Ymhlith y rhaglenni sydd ar gael i’w hastudio mae:

  • Presgripsiynu Annibynnol/Atodol ar gyfer Nyrsys (*gan gynnwys Bydwragedd a Nyrsys Iechyd y Cyhoedd Cymunedol Arbenigol (SCPHN)) (V300) NHS6A5 (israddedig) neu NHS7C1 (ôl-raddedig) Cymeradwywyd gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC)
  • Presgripsiynu Annibynnol ar gyfer Fferyllwyr: NHS7A6 (ôl-radd) Cymeradwywyd gan y Cyngor Fferyllol Cyffredinol (GPHC) Yn aros am ganlyniad ail-achredu Rhagfyr 10 2021
  • Presgripsiynu Atodol ar gyfer Proffesiynau Perthynol i Iechyd: NHS736 (ôl-radd) Cymeradwywyd gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC)
  • Presgripsiynu Annibynnol ac Atodol ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd: HLT704 Cymeradwywyd gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC)

Mae’r modiwlau Presgripsiynu Annibynnol/Atodol ar gyfer nyrsys (V300), Presgripsiynu Annibynnol ar gyfer Fferyllwyr, Presgripsiynu Atodol ar gyfer Proffesiynau Perthynol i Iechyd a Presgripsiynu Annibynnol ac Atodol ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd yn darparu rhaglen addysgol ar gyfer Nyrsys, Bydwragedd neu Nyrsys Iechyd y Cyhoedd Cymunedol Arbenigol, Fferyllwyr a Phroffesiynau Perthynol i Iechyd i’w paratoi ar gyfer eu cofnodi fel presgripsiynwyr anfeddygol gan eu priod gyrff proffesiynol (NMC, GPhC a’r HCPC). Darperir y modiwl ar lefel israddedig (Lefel 6) ar gyfer nyrsys, ac ar lefel ôl-raddedig (Lefel 7) yn unig ar gyfer Fferyllwyr a Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd.

Darperir y rhaglenni uchod, sydd yn fodiwlau 40 credyd naill ai ar Lefel 6 neu Lefel 7, ar sail ran amser. Mae’r rhaglen yn cynnwys 400 awr o ymdrech myfyrwyr, gydag o leiaf 26 diwrnod damcaniaethol (1 diwrnod o astudio pob wythnos) a 12 diwrnod o ymarfer (cyfanswm o 38 diwrnod sydd gywerth â 78 awr ar gyfer Nyrsys a 90 awr ar gyfer Fferyllwyr a Phroffesiynau Perthynol i Iechyd) a ddarperir tros gyfnod o chwe mis. O fewn hyn byddant yn treulio o leiaf un diwrnod pob wythnos yn y Brifysgol yn ymgymryd â dysgu damcaniaethol cyfunol.

  • Theori Presgripsiynu ar gyfer Nyrsys Cymunedol (V100): NHS 6A1; Ymarfer Presgripsiynu ar gyfer Nyrsys Cymunedol (V100): NHS 6A2 Ar gyfer myfyrwyr ar y rhaglen Nyrsys Iechyd y Cyhoedd Cymunedol Arbenigol ac Ymarfer Cymunedol Arbenigol yn unig. Cymeradwywyd gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC)

Mae Theori Presgripsiynu ar gyfer Nyrsys Cymunedol (V150) ac Ymarfer Presgripsiynu ar gyfer Nyrsys Cymunedol (V150) yn fodiwl 10 credyd sy’n paratoi nyrsys i’w cofnodi fel nyrsys presgripsiynu gyda’r NMC, fel eu bod yn gallu presgripsiynu o’r Llyfr Fformiwlâu Nyrs-ragnodwyr (nyrs-bresgripsiynwyr) ar gyfer Ymarferwyr Cymunedol. Darperir y modiwl ar lefel israddedig (Lefel 6). Mae’r elfen a addysgir yn gyfanswm o 13 diwrnod o ddysgu damcaniaethol a 50 awr o ymarfer dysgu ar leoliad tros gyfnod o 6 mis. Os ydych wedi gwneud rhaglen cyn-gofrestru Israddedig NMC 2018 mae’n bosib y bydd modd ichi hawlio Cydnabyddiaeth o Ddysgu blaenorol (RPL) yn erbyn y modiwl Theori Presgripsiynu ar gyfer Nyrsio Cymunedol (V150). Cysylltwch â postregadmissions@glyndwr.ac.uk. am ragor o wybodaeth ynghylch hyn.

  • Theori Presgripsiynu ar gyfer Nyrsys Cymunedol (V150): NHS 6A3; Ymarfer Presgripsiynu ar gyfer Nyrsys Cymunedol (V150): NHS 6A4 Cymeradwywyd gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC)

Mae Theori Presgripsiynu ar gyfer Nyrsys Cymunedol (V100) ac Ymarfer Presgripsiynu ar gyfer Nyrsys Cymunedol yn fodiwl 10 credyd sydd yn paratoi nyrsys i’w cofnodi fel nyrs-ragnodwyr (nyrs-bresgripsiynwyr) gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, fel eu bod yn gallu presgripsiynu o’r Llyfr Fformiwlâu Nyrs sy’n Rhagnodi ar gyfer Ymarferwyr Cymunedol. Darperir y modiwl ar lefel israddedig (Lefel 6). Mae’r elfen a addysgir yn gyfanswm o 13 diwrnod o ddysgu damcaniaethol a 50 awr o ymarfer dysgu ar leoliad tros gyfnod o 6 mis. Addysgir y modiwl theori yma ar y rhaglenni Nyrsys Iechyd y Cyhoedd Cymunedol Arbenigol (SCPHN) ac Ymarfer Cymunedol Arbenigol yn unig.

 

Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.

 
 

Gofynion mynediad a gwneud cais

Presgripsiynu Annibynnol/Atodol ar gyfer Nyrsys* (V300), (*gan gynnwys Bydwragedd a Nyrsys Iechyd y Cyhoedd Cymunedol Arbenigol)

Rhaid i ymgeiswyr sydd yn nyrsys, bydwragedd a nyrsys iechyd y cyhoedd cymunedol arbenigol fodloni’r HOLL feini prawf canlynol:
• Cofrestriad dilys ar Ran 1, 2 a 3 o’r Gofrestr Broffesiynol a gynhelir gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC).
• Meddu ar o leiaf tair blynedd o brofiad nyrsio clinigol ôl-gofrestru fel nyrs, bydwraig neu nyrs iechyd y cyhoedd cymunedol arbenigol a chael eich ystyried yn gymwys gan eich cyflogwr i ymgymryd â’r rhaglen. O’r tair blynedd yma, rhaid i’r flwyddyn yn union cyn gwneud cais i ymuno â’r rhaglen fod yn y maes clinigol yr ydych yn bwriadu presgripsiynu ar ei gyfer, e.e. Cyn-enedigol, iechyd meddwl. Rhaid bod gweithwyr rhan-amser wedi ymarfer am gyfnod digonol i gael eu hystyried yn gymwys gan eu cyflogwr.

• Meddu ar brofiad priodol yn y maes ymarfer y byddant yn presgripsiynu ynddo; bydd y sefydliadau cyflogi yn asesu a chadarnhau’r profiad A’R cymhwysedd priodol mewn meysydd ymarfer. Mae’n ofynnol gan yr NMC bod cyflogwyr yn cynnal arfarniad o addasrwydd cofrestrai i bresgripsiynu cyn iddynt wneud cais am le hyfforddi. Mae hyn yn cynnwys gallu’r ymgeisydd i wneud diagnosis yn eu maes arbenigedd a sgiliau rhifedd priodol.

• Gall ymgeiswyr gofrestru ar fodiwl asesu, diagnosis a thriniaeth glinigol sydd yn dechrau yn Semester 1 (Hydref) cyn cael mynediad i’r modiwl Presgripsiynu yn Semester 2 (Ionawr).
Presgripsiynu Annibynnol ar gyfer Fferyllwyr
Rhaid i fferyllwyr fodloni’r HOLL feini prawf canlynol:
• Mae ymgeiswyr wedi eu cofrestru fel fferyllwyr gyda’r Cyngor Fferyllol Cyffredinol (GPhC) neu yng Ngogledd Iwerddon, gyda Chymdeithas Fferyllol Gogledd Iwerddon PSNI)
• Mae gan ymgeiswyr enw da gyda’r GPhC a/neu’r PSNI ac unrhyw reoleiddiwr gofal iechyd arall y maent wedi cofrestru ag ef.
•Rhaid bod gan ymgeiswyr o leiaf dwy flynedd o brofiad ôl-gofrestru priodol gyda chleifion, mewn lleoliad perthnasol yn y DU.
• Rhaid bod gan ymgeiswyr faes penodol o ymarfer clinigol neu therapiwtig i ddatblygu ymarfer presgripsiynu annibynnol ynddo.
• Rhaid iddynt hefyd fod â phrofiad clinigol neu therapiwtig perthnasol yn y maes hwnnw, sydd yn addas i fod yn sail ar gyfer eu hymarfer presgripsiynu wrth hyfforddi.
• Rhaid i ymgeiswyr sicrhau bod ymarferydd presgripsiynu penodedig wedi cytuno i oruchwylio eu dysgu yn ymarferol am gyfnod o 90 awr neu fwy o ddysgu yn ymarferol.
• Darperir cyfleoedd sydd yn galluogi cofrestreion o’r GIG, cofrestreion hunangyflogedig neu rai nad ydynt yn gyflogedig gyda’r GIG i wneud cais am fynediad i’r rhaglen brescripsiynu gymeradwy.
• Rhaid cadarnhau bod y strwythurau llywodraethu angenrheidiol ar waith (gan gynnwys cymorth clinigol, mynediad at amser dysgu gwarchodedig a chymorth gan y cyflogwr ble mae hynny’n briodol) i alluogi myfyrwyr i ymgymryd â’r rhaglen, a chael eu cefnogi’n briodol drwyddi draw.
• Ni chaiff unrhyw gofnod o ddysgu blaenorol ei ystyried ar y rhaglen hon am nad yw Rheoliadau’r Brifysgol yn caniatáu Cydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol (RPL)/Cydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol Trwy Brofiad (RPEL) ar ran o fodiwl.
• Mae gan ymgeisydd a ddewisir i ymgymryd â rhaglen presgripsiynu y cymhwysedd, y profiad a gallu academaidd i astudio ar y lefel sy’n ofynnol ar gyfer y rhaglen honno.
• Wrth wneud cais, rhaid iddynt sicrhau bod gan yr Ymarferydd Presgripsiynu Dynodedig hyfforddiant a phrofiad sy’n briodol i’w rôl. Rhaid i’r Ymarferydd Presgripsiynu Dynodedig fod wedi cytuno i ddarparu goruchwyliaeth, cymorth a chyfleodd cysgodi ar gyfer y myfyriwr am o leiaf 90 awr o ymarfer dan oruchwyliaeth, a bod yn gyfarwydd â gofynion GPhC y rhaglen, a’r angen i gyflawni’r deilliannau dysgu.


Ar gyfer nyrsys a fferyllwyr

• Rhaid i Nyrsys a Bydwragedd lefel 6 ddarparu tystiolaeth o’u gallu i weithio ar lefel 6, e.e. meddu ar ddiploma perthnasol a/neu mae’n bosib y bydd angen iddynt gyflwyno tystiolaeth o brofiad a/neu astudiaeth berthnasol.
• Ar gyfer lefel 7 (Fferyllwyr, Nyrsys, Bydwragedd a Nyrsys Iechyd y Cyhoedd Cymunedol Arbenigol), rhaid i bob ymgeisydd feddu ar radd.
• Rhaid i Fferyllwyr gael cymeradwyaeth eu cyflogwyr neu’r sefydliad noddi yn nodi bod gan yr ymgeisydd faes priodol o ymarfer clinigol sydd yn galw am sgiliau presgripsiynu, a bod ganddynt wybodaeth glinigol, ffarmacolegol a fferyllol gyfredol sydd yn berthnasol i’w maes ymarfer arfaethedig.
• Rhaid i Fferyllwyr, Nyrsys, Bydwragedd a Nyrsys Iechyd y Cyhoedd Cymunedol Arbenigol a fydd yn presgripsiynu ar gyfer plant fod ag Ymarferydd Presgripsiynu Dynodedig sydd yn brofiadol a chymwys i bresgripsiynu ar gyfer plant.
• Mae cynnig o le ar y rhaglen Presgripsiynu Annibynnol yn amodol ar i ddatgeliad DBS gael ei ystyried yn foddhaol gan Brifysgol Wrecsam.
• Rhaid cadarnhau statws cofrestriad proffesiynol pob Ymarferydd Presgripsiynu Dynodedig.
• Rhaid cwblhau ffurflen gais Presgripsiynu Anfeddygol a Ffurflen Gais Generig Brifysgol Wrecsam.
• Rhaid cwblhau ffurflen arolwg addysgol ar gyfer lleoliad byr mewn Presgripsiynu Anfeddygol fel rhan o’r broses ymgeisio.
• Rhaid cael cydsyniad sydd wedi ei gadarnhau gan arweinydd Presgripsiynu Anfeddygol yr Ymddiriedolaeth neu gyfatebol er mwyn ymgymryd â’r cwrs (Mae hyn i’w wneud ar y ffurflen gais a’i wirio yn y cyfweliad).
• Ni chaniateir unrhyw ddigollediad ar y rhaglen hon – Rhaid i bob myfyrwyr fferyllol gwblhau pob elfen o’r asesiadau er mwyn pasio’r modiwl.
• Rhaid i bob ymgeisydd ar y rhestr fer fynychu cyfweliad.

Meini prawf mynediad ar gyfer y modiwl Presgripsiynu Annibynnol ac Atodol ar gyfer Proffesiynau Perthynol i Iechyd a Phresgripsiynu Atodol ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd:

Rhaid i bob ffisiotherapydd, ciropodyddion/podiatryddion, radiograffwyr, dietegwyr a pharafeddygon fodloni’r meini prawf canlynol:
• Fod wedi eu cofrestru gyda’r Cyngor Proffesiynau Iechyd naill ai fel ffisiotherapydd neu bodiatrydd/ciropodydd neu radiograffydd
• Rhaid i barafeddygon fod yn ymarferwyr uwch
• Rhaid iddynt fod yn ymarfer yn broffesiynol mewn amgylchedd ble mae angen a nodwyd i’r unigolyn ddefnyddio presgripsiynu annibynnol neu atodol yn rheolaidd.
 •Fel rheol, bod ag 1 flwyddyn o brofiad clinigol ers iddynt gofrestru.
• Cael eu noddi gan y sefydliad sy’n eu cyflogi.
• Bod ag Addysgwr Ymarfer sydd wedi cytuno i ddarparu yn ystod y rhaglen:

 cyfleoedd i’r myfyriwr ddatblygu cymwyseddau,
 goruchwyliaeth, cymorth ac asesiad o’u hymarfer

• Rhaid i’r cyflogwr gydnabod bod yr Addysgwr Ymarfer yn meddu ar brofiad yn y maes ymarfer perthnasol a’u bod wedi paratoi ar gyfer rôl yr Addysgwr Ymarfer
• Yn gallu astudio ar lefel academaidd 7 neu uwch.
• Meddu ar wiriad DBS manylach boddhaol.
• Cadarnhad gan eu rheolwr clinigol eu bod yn gymwys i gymryd hanes, cynnal asesiad clinigol a diagnosis yn eu maes arbenigedd.
• Cwblhau ffurflen gais ar gyfer cyfweliad.
• Bydd y broses ddethol yn cynnwys cyfweliad ar gyfer pob ymgeisydd ar y rhestr fer.
• Rhaid i bob ymgeisydd fynychu cyfweliad panel gyda chynrychiolydd o’r byd academaidd ac o’r gwasanaeth.
• Rhaid i bob ymgeisydd gwblhau ffurflen archwiliad addysgol.
Meini prawf mynediad ar gyfer y modiwl Theori ac Ymarfer Presgripsiynu ar gyfer Nyrsys Cymunedol (V100) a Theori ac Ymarfer Presgripsiynu ar gyfer Nyrsys Cymunedol (V150)
Rhaid i bob ymgeisydd sydd yn nyrs fodloni’r holl feini prawf canlynol:
• Meddu ar gofrestriad dilys ar Ran 1 o Gofrestr Broffesiynol yr NMC.
• Fel rheol, bod â 2 flynedd o brofiad clinigol ers iddynt gofrestru.
• Cael eu noddi gan y sefydliad sy’n eu cyflogi.
• Ymarfer mewn maes/bwriadu ymarfer mewn maes o angen clinigol y byddai presgripsiynu o’r Llyfr Fformiwlâu Ymarferydd Cymunedol yn gwella gofal i’r claf/cleient a darparu gwasanaeth.
• Bod â Goruchwyliwr Ymarfer ac Asesydd Ymarfer sydd yn brescripsiynydd anfeddygol gweithredol sydd wedi cytuno darparu goruchwyliaeth yn ystod y rhaglen. Mae rhagor o wybodaeth am y rolau yma ar gael ar y ffurflen gais.
• Yn gallu astudio ar lefel academaidd 6 neu uwch.
• Meddu ar wiriad DBS manylach boddhaol.
• Cadarnhad gan eu rheolwr nyrsio eu bod yn gymwys i gymryd hanes, cynnal asesiad clinigol a diagnosis yn eu maes arbenigedd
• Dangos sgiliau rhifedd priodol.
• Cwblhau ffurflen gais ar gyfer cyfweliad.
Meini prawf mynediad ar gyfer y modiwl Theori ac Ymarfer Presgripsiynu ar gyfer Nyrsys Cymunedol (V100)
Yn ychwanegol at yr uchod rhaid i bob ymgeisydd fodloni’r meini prawf canlynol:
• Wedi sicrhau lle ar y rhaglen Ymarfer Nyrsio Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol ac Ymarfer Cymunedol Arbenigol - Nyrsio Ardal.

Holl Raglenni

Y sector preifat – lleoliadau nad ydynt yn rai GIG

Rhaid i fferyllwyr, Nyrsys a Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd sy’n gweithio tu allan i leoliadau GIG ble gall systemau llywodraethu clinigol fod yn wahanol, neu ble nad ydynt ar waith yn yr un modd, sicrhau eu bod yn cydymffurfio â gofynion i ddangos eu cymhwyster i ymarfer. Bydd yn ofynnol i fyfyrwyr ddangos hyn ar eu ffurflen gais, a darparu tystiolaeth ysgrifenedig yn y cyfweliad sydd yn nodi:
• sut maent yn archwilio eu hymarfer
• sut maent yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am y canllawiau cyfredol, a
• sut maent yn diogelu’r cleifion yn eu gofal o fewn fframwaith llywodraethu clinigol.
• enw a chyfeiriad y safle.
• darparu gwybodaeth os yw’r ardal y lleoliad yn cael ei hadolygu ar hyn o bryd, neu wedi ei hadolygu’n ddiweddar gan Arolygiaeth Iechyd Cymru (AGIC) neu’r Comisiwn Ansawdd Gofal (CQC)
• darparu tystiolaeth yn eu cyfweliad o’r strwythurau llywodraethu angenrheidiol sydd wedi eu sefydlu (gan gynnwys cymorth clinigol, mynediad at amser dysgu gwarchodedig a chymorth gan y cyflogwr ble mae hynny’n briodol) i alluogi’r ymgeisydd i ymgymryd â’r rhaglen.
• darparu dau ganolwr gyda’r cais (1 x academaidd ac 1 x proffesiynol). Rhaid darparu geirda clinigol sydd i gynnwys rhif cofrestru proffesiynol y canolwr i gadarnhau eu swydd.


Ymgeisio

Cynghorir ymgeiswyr i adolygu’r pecyn cymorth ‘Preparing to Prescribe Toolkit’ (Saesneg yn unig) cyn gwneud cais ar gyfer y rhaglen. Mae’n gyflwyniad i’r myfyriwr ar ddefnyddio adnoddau ar-lein, a hefyd y cysyniad o ddysgu gweithredol. Mae hwn yn becyn cymorth ar gyfer presgripsiynwyr anfeddygol sydd i’w ddefnyddio ar-lein am ddim. Mae ar gael o ddilyn y ddolen ganlynol: https://www.surreytoolkit.uk/
Bydd angen ichi wneud cais i’r bwrdd iechyd am le wedi ei gomisiynu i astudio ar y rhaglen. Gall ymgeiswyr sector preifat, rhai nad ydynt yn ymgeiswyr y GIG wneud cais uniongyrchol i’r brifysgol ond bydd y lleoedd sydd ar gael yn ddibynnol ar nifer y lleoedd a gomisiynir.

Presgripsiynu Annibynnol ac Atodol ar gyfer Nyrsys, Presgripsiynu Annibynnol ar gyfer Fferyllwyr a Phresgripsiynu Annibynnol ac Atodol ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd, Presgripsiynu Atodol ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd.

Rydym yn derbyn myfyrwyr unwaith y flwyddyn ym mis Ionawr gan addysgu pob dydd Mawrth am 26 wythnos. Mae’r dyddiadau cychwyn dros dro fel a ganlyn:

Ionawr 11 2022 am 26 wythnos gan orffen ar Orffennaf 5 2022
Ionawr 10 2023 am 26 wythnos gan orffen ar Orffennaf 4 2023
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau 2022 fydd Hydref 15 2022
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau 2023 fydd Hydref 15 2023

Theori Presgripsiynu ar gyfer Nyrsys Cymunedol (V100) a (V150)

Rydym yn derbyn myfyrwyr unwaith y flwyddyn gan ddechrau ym mis Medi/Hydref ac yn addysgu pob bore Mercher o 0900 – 1200 am 13 wythnos. Mae’r dyddiadau dechrau dros dro fel a ganlyn:

Medi 28 2022 am 13 wythnos
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau 2022 fydd Gorffennaf 15 2022

Ymarfer Presgripsiynu ar gyfer Nyrsys Cymunedol (V100) a (V150)

Rydym yn derbyn myfyrwyr unwaith y flwyddyn gan ddechrau ym mis Medi/Hydref ac yn addysgu pob bore Mercher o 0900 – 1200 am 13 wythnos. Mae’r dyddiadau dechrau dros dro fel a ganlyn:

Medi 28 2022 am 13 wythnos
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau 2022 fydd Gorffennaf 15 2022

Cysylltwch â postregadmissions@glyndwr.ac.uk i gael pecyn cais.

Bydd yr Arweinydd Rhaglen neu’r Dirprwy Arweinydd Rhaglen a’r arweinydd Rheoli Meddyginiaethau o’r sefydliad cyflogi (Fferyllydd yw hyn ar gyfer ymgeiswyr sy’n Fferyllwyr) yn cyfweld pob myfyriwr i bennu eu cymhwyster ar gyfer y rhaglen, ac fe gaiff unrhyw dystiolaeth ategol ei chadarnhau yn y cyfweliad. Ni ellir cadarnhau lle i’r myfyriwr ar y rhaglen hyd nes bo’r holl dystiolaeth ar gyfer gofynion mynediad wedi eu gwirio gan aelod o dîm y rhaglen. Hefyd, oherwydd yr angen am ddysgu ar sail ymarfer, dylai myfyrwyr fod yn gweithio o fewn rôl sy’n gofyn iddynt ddiwallu deilliannau dysgu’r rhaglen, h.y. mewn swydd sydd yn galw am lefel o ymreolaeth, neu mewn rôl gan weithio tuag at hyn.

 
 

Addysgu ac Asesu

Presgripsiynu Annibynnol ac Atodol ar gyfer Nyrsys, Presgripsiynu Annibynnol ar gyfer Fferyllwyr a Phresgripsiynu Annibynnol ac Atodol ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd, Presgripsiynu Atodol ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd.

Dogfen Asesu Ymarfer sy’n cynnwys proffil cychwynnol y myfyriwr, cytundeb dysgu, cofnod o oriau ymarfer, log myfyriol o oriau ymarfer, adolygiad canol cyfnod, Cynllun Rheoli Clinigol, adborth gan ddefnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr, Archwiliad Clinigol Strwythurol Gwrthrychol o’u hymarfer, Cyflawni Cymwyseddau’r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol (RPS), cyffuriau llyfr fformiwlâu personol o fewn cwmpas ymarfer yr ymarferydd unigol a chadarnhad o gyflawniad. Byddwch yn cwblhau profiad ymarfer dan oruchwyliaeth (78 awr ar gyfer Nyrsys, 90 awr ar gyfer Fferyllwyr a Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd (12 diwrnod)) o ddysgu seiliedig ar ymarfer gyda’r Goruchwyliwr Ymarfer a’r Asesydd Ymarfer ar gyfer Nyrsys, Bydwragedd a Nyrsys Iechyd y Cyhoedd Cymunedol Arbenigol (SCPHN), Addysgwr Ymarfer ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd a’r Ymarferydd Presgripsiynu Dynodedig ar gyfer Fferyllwyr. Byddwch hefyd yn gwneud Arholiad Dibaratoad Rhan 1 Prawf Rhifedd (marc pasio 100%) ac Arholiad Dibaratoad Rhan 2) 20 Cwestiwn Amlddewis/Cwestiwn ateb byr (marc pasio 80%).

Theori Presgripsiynu ar gyfer Nyrsys Cymunedol (V100) a (V150

Byddwch yn gwneud Arholiad Dibaratoad Rhan 1 Prawf Rhifedd (marc pasio 100%) ac Arholiad Dibaratoad Rhan 2) 20 Cwestiwn Amlddewis/cwestiwn ateb byr (marc pasio 80%).

Ymarfer Presgripsiynu ar gyfer Nyrsys Cymunedol (V100) a (V150)

Dogfen Asesu Ymarfer sy’n cynnwys un darn myfyriol byr ar agwedd o ymarfer presgripsiynu, ysgrifennu presgripsiwn Archwiliad Clinigol Strwythuredig Gwrthrychol (OSCE), Cyflawni Cymwyseddau’r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol (RPS) ar gyfer pob Presgripsiynydd: gan gynnwys adborth gan ddefnyddwyr gwasanaeth/gofalwyr. Mae’r Asesydd Ymarfer i gadarnhau bod y nyrs, bydwraig neu’r SCPHN wedi cwblhau’n foddhaol o leiaf 50 awr o ymarfer dan oruchwyliaeth gan gynnwys cymeradwyaeth gan yr Asesydd Ymarfer o’u cymhwysedd fel Nyrs-brescripsiynydd sy’n Ymarferydd Cymunedol (V100/V150).

 
 

Rhagolygon gyrfaol

Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.

O gwblhau’r rhaglen yn llwyddiannus cewch gofnodi’ch cymhwyster gyda’ch corff proffesiynol perthnasol.


Bydd myfyrwyr yn gallu ceisio am swyddi clinigol mewn ystod o feysydd ymarfer sy’n galw am bresgripsiynydd anfeddygol. Byddwch hefyd yn gallu gwella eich perfformiad, a gwella gofal cleifion yn y rôl yr ydych eisoes yn gweithio ynddi.

 
 

Ffioedd a chyllid

Nid oes rhaid i chi dalu eich ffioedd dysgu ymlaen llaw.

Bydd y ffioedd rydych yn eu talu a'r cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn y mae eich ffioedd yn ei gynnwys yn y Cwestiynau Cyffredin ffioedd. 

Mae'r holl ffioedd yn ddarostyngedig i unrhyw newidiadau ym mholisi'r llywodraeth, edrychwch ar ein ffioedd ôl-raddedig.

Manyleb y rhaglen

Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma.

 
 

Dyddiadau cyrsiau

Dyddiad Cychwyn – Ionawr 2025
 
Dyddiad Cau Cais - Dydd Gwener 31 Mai 2024
Cysylltwch â posteregadmissions@wrexham.ac.uk i ofyn am ffurflen gais