MSc Rhwydweithio Cyfrifiadurol

Manylion cwrs

  • Blwyddyn mynediad 2023, 2024
  • Hyd y cwrs 1 BL (llawn-amser) 2 BL (rhan-amser)
  • Lleoliad Wrecsam
Two students face a server stack, one plugs in a cable

Course Highlights

Datblygwch

sgiliau arbenigol sydd eu hangen i symud ymlaen i swyddi technegol a rheoli uwch.

Ffocws

rhwydweithio ymarferol, sy'n canolbwyntio ar ddatrys problemau rhwydwaith y byd go iawn.

Cyfle

i gwblhau Cymwysterau Ardystio Cisco allanol.

Pam dewis y cwrs hwn?

Wrth i'r galw am arbenigwyr yn y diwydiant rhwydweithio cyfrifiadurol barhau i dyfu, bydd y cwrs hwn yn eich cefnogi i ddatblygu'r sgiliau technegol ac ymgynghorol arbenigol sydd eu hangen i symud ymlaen i swyddi technegol a rheoli uwch mewn busnesau, neu weithio tuag at astudio doethurol.

  • Canolbwyntio ar rwydweithio ymarferol yn hytrach na chysyniadau neu ddamcaniaethau haniaethol mewn cyfathrebu data
  • Mae'r rhaglen yn canolbwyntio ar ddatrys problemau rhwydwaith y byd go iawn, cynllunio, dylunio a datblygu gwasanaethau a seilwaith rhwydwaith, yn ogystal â defnyddio a chymhwyso caledwedd a phrotocolau cyfredol a rhai sy'n datblygu.
  • Ymchwilio i dechnolegau arloesol, gweithredu a phrofi atebion rhwydweithio newydd, neu ddatblygu neu ddadansoddi ceisiadau rhwydwaith gwreiddiol.

Prif nodweddion y cwrs

  • Cyfle i astudio Rhwydweithio Cyfrifiadurol yn fanwl
  • Cyfoethogir darlithoedd/tiwtorialau a sesiynau ymarferol gan ddeunyddiau ar-lein ychwanegol, sy’n cynnwys llawer o adnoddau fydd yn eich galluogi i barhau i ddysgu’n annibynnol trwy amrywiaeth o ddulliau
  • Addysgir gan staff sy’n arwain ymchwil i feysydd y rhyngrwyd a rhwydweithiau cyfrifiadurol
  • Mae gweithgareddau ymchwil yn gysylltiedig â chanolfan ymchwil y Brifysgol
  • Mae'r dysgu'n symud o ddylunio ac adeiladu rhwydweithiau bychain i’r technegau sydd eu hangen ar gyfer rhwydweithiau mawr cyhoeddus
  • Mae opsiynau i gwblhau cymwysterau Ardystiad Cisco allanol

Beth fyddwch chin ei astudio

Fel yn achos y rhan fwyaf o raglenni Meistr mae gan y cwrs hwn 2 ran, rhan a addysgir a ddilynir gan draethawd hir. 

MODIWLAU

  • Dulliau Astudio ac Ymchwil Ôl-raddedig
  • Caledwedd a Meddalwedd Rhwydweithio
  • Technegau a Thechnolegau Rhwydweithio   
  • Cyrchiad Pell a Diogelwch
  • Protocolau ac Algorithmau Rhwydwaith
  • Sganio Gorwelion Technolegol
  • Traethawd Hir

Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.

Gofynion mynediad a gwneud cais

Y gofyniad mynediad safonol ar gyfer y rhaglenni hyn yw gradd anrhydedd dosbarth 2:2 o leiaf mewn maes pwnc sy'n gysylltiedig â Chyfrifiadureg, neu gymhwyster cyfwerth mewn unrhyw radd sy'n seiliedig ar wyddoniaeth a chanddi elfen gyfrifidura/peirianneg gryf. Mewn rhai achosion, gall ymgeiswyr sydd â phrofiad masnachol neu ddiwydiannol sylweddol gael eu derbyn, yn amodol ar gyfweliad a geirda.

 

Addysgu ac Asesu

ORIAU ADDYSGU/CYSWLLT

Hyd nodweddiadol y Modiwl (cyfamswn o oriau) = 200 awr

Oriau addysgu a dysgu a amserlennir = 21 awr

Astudiaethau annibynnol dan gyfarwyddyd = 179 awr

DULLIAU ASESU

Dulliau Astudio ac Ymchwil Ôl-raddedig

  • Gwaith cwrs - 40% - 1500  o eiriau
  • Gwaith cwrs - 60% - 2000  o eiriau

Caledwedd a Meddalwedd Rhwydweithio

  • Gwaith cwrs - 50% - 2000  o eiriau
  • Prawf yn y dosbarth - 20%
  • Tasgau ymarferol – 30%


Technegau a Thechnolegau Rhwydweithio   

  • Gwaith cwrs - 50% - 2000  o eiriau
  • Prawf yn y dosbarth - 20%
  • Tasgau ymarferol – 30%

Cyrchiad Pell a Diogelwch

  • Astudiaeth achos - 100%

Protocolau ac Algorithmau Rhwydwaith

  • Gwaith cwrs - 65% - 3000  o eiriau
  • Prawf yn y dosbarth - 15%
  • Tasgau ymarferol – 20%

Sganio Gorwelion Technolegol

  • Gwaith cwrs - 70% - 3000  o eiriau
  • Cyflwyniad - 30%

Traethawd Hir

  • Cynnig ymchwil- 10% - 2,000  o eiriau
  • Traethawd Hir - 90% - 15,000 to 20,000  o eiriau

Dysgu ac addysgu

Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi ymrwymo i roi cymorth i'n myfyrwyr i'w galluogi i gyflawni eu potensial academaidd i'r eithaf.

Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sy'n ymroddedig i helpu myfyrwyr i delio ag agweddau ymarferol gwaith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth i fyfyrwyr fwy o wybodaeth ar y cymorth sydd ar gael.

Rhagolygon gyrfaol

Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.

Mae cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus yn eich galluogi i ganolbwyntio mwy ar eich llwybrau gyrfaol ym maes Rhwydweithio Cyfrifiadurol neu'r llwybrau addysgol. Byddwch yn meddu ar yr wybodaeth a’r cymhwysedd angenrheidiol i barhau i ddatblygu'n broffesiynol yn y gweithle. Efallai y byddwch yn manteisio ar y cyfle i fynd ymlaen i ymchwiliad academaidd ar lefel uwch. 

Mae myfyrwyr yn y gorffennol wedi cael gwaith fel:

  • Yngynghorwyr Cyfrifiadura
  • Peiriannydd/Rheolwr Rhwydweithiau mewn cwmnïau Rhyngrwyd mawr
  • Parhau i wneud ymchwil i lefel PhD
  • Addysgu mewn Colegau Chweched Dosbarth

Ffioedd a chyllid

Nid oes rhaid ichi dalu'ch ffioedd hyfforddi ymlaen llaw.

Ffioedd dysgu Prifysgol Glyndŵr Wrecsam 2023/24 ar gyfer MSc Rhwydweithio Cyfrifiadurol yw £5,940.

Bydd y ffioedd rydych chi'n eu talu a'r cymorth ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Ceir gwybodaeth gyflawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid.

Manyleb y rhaglen

 Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma.

 

Rhyngwladol

Os ydych yn ymgeisio fel Myfyriwr Rhyngwladol/Ewropeaidd, ac yn byw tu allan i'r DU, dylech wneud eich cais drwy ein system cais ar-lein, Centurus.

I gael gwybodaeth am ofynion mynediad y brifysgol ar gyfer myfyrwyr UE/rhyngwladol, os gwelwch yn dda ewch i'r adran ryngwladol.