A search dog sitting on grass

Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2024

Hyd y cwrs

1 BL (LlA) 2 FL (RhA)

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Northop

Course Highlights

Ymchwiliwch

heriau byd-eang cyfoes sy'n wynebu rhyngweithio a lles pobl-anifeiliaid.

Datblygwch

eich dealltwriaeth o sut y gellir cymhwyso ffactorau sy'n effeithio ar y berthynas rhwng pobl ac anifeiliaid i amrywiaeth o sefyllfaoedd ymarferol.

Cyfle

i ennill sgiliau a phrofiad i fynd i mewn i ystod o yrfaoedd perthnasol.

Pam dewis y cwrs hwn?

Mae'r MSc hwn yn un o ychydig iawn o raglenni'r DU sy'n archwilio rhyngweithio a lles pobl ac anifeiliaid.

Mae’r cwrs:

  • Yn croesawu'r mentrau byd-eang One Health a One Welfare, sy'n tynnu sylw at y rhyng-gysylltiadau rhwng iechyd a lles anifeiliaid, iechyd a lles pobl a'r amgylchedd.
  • Yn cyfuno theori ac ymarfer, gan alluogi cydnabyddiaeth o'r angen am ddull amlddisgyblaethol o ddefnyddio a lles ein hanifeiliaid yn gynaliadwy am eu heffeithiau sy'n fuddiol i'r ddwy ochr yn y dyfodol.
  • Yn cymryd ymagwedd gyfunol tuag at gyflwyno cyrsiau, gyda sesiynau ar-lein ac addysgu ar y campws.
  • Yn cynnwys siaradwyr gwadd ac ymweliadau addysgol.

Prif nodweddion y cwrs

  • Bydd myfyrwyr yn datblygu dealltwriaeth o natur cymhleth y berthynas rhwng bodau dynol ac anifeiliaid.
  • Datblygu gwerthfawrogiad o’r ymagwedd amlddisgyblaethol sydd ei hangen i wella iechyd a lles dynol-anifail.
  • Bydd unigolion yn meithrin ymwybyddiaeth feirniadol o’r arferion cyfredol o ran hwsmonaeth a hyfforddi ceffylau ac anifeiliaid a defnyddio anifeiliaid mewn cymdeithas.
  • Bydd myfyrwyr yn gwerthfawrogi’r angen am newidiadau o ran rhyngweithio dynol-anifail er mwyn sicrhau dyfodol cynaliadwy.
  • Bydd myfyrwyr yn cymhwyso sgiliau ymarferol a meddwl beirniadol i astudiaethau achos bywyd go iawn.
  • Bydd myfyrwyr yn elwa o’r ddarpariaeth a’r cymorth a gynigir gan ein tîm ymroddgar o academyddion a gweithwyr proffesiynol o’r diwydiant a fydd yn cyfrannu i’r rhaglen.
 
 

Beth fyddwch chin ei astudio

BLWYDDYN 1 (LEFEL 7)

MODIWLAU 

  • Cydgysylltiad Dynol-Anifail (30 credyd). Yn y gymdeithas sydd ohoni mae cyswllt annatod rhwng bywydau bodau dynol ac anifeiliaid. Mae ymagwedd amlochrog tuag at ddeall y buddion ddaw i’r naill a’r llall gyda rhyngweithiadau dynol-anifail yn hanfodol os am ddyfodol cynaliadwy. Rhaid ystyried hefyd agweddau seicolegol dyn tuag at werth rhywogaeth ac effeithiau tebygol ar oroesi. Yn y modiwl hwn byddwn yn hwyluso’r gwaith o werthuso ystod amrywiol o ryngweithiadau dynol-anifail byd-eang mewn modd beirniadol gan dreulio amser mewn lleoliad o ddewis.
  • Lles Anifeiliaid yn Ymarferol (30 credyd). Mae’r amrywiaeth byd-eang yn y defnydd a wneir o anifeiliaid yn esgor ar gwestiynau lles. Mae’r rheoliadau sydd yn rheoli’r defnydd a wneir o anifeiliaid a’u lles yn anghymesur rhwng gwahanol wledydd, ac mae’r bygythiadau byd-eang i les anifeiliaid yn amrywiol eu natur. Mae defnyddio anifeiliaid mewn modd cynaliadwy yn gofyn am asesu iechyd a lles ynghyd ag addysg barhaus. Mae’r modiwl yma yn canolbwyntio ar gymhwyso materion damcaniaethol yn ymarferol.
  • Sgiliau Ymchwil ac Astudio (30 credyd). Bydd y modiwl yma yn cyflwyno myfyrwyr i werthusiad beirniadol o ddulliau ymchwil drwy ddatblygu dealltwriaeth o gysyniadau athronyddol, ymarferol a moesegol ymchwil a dulliau ymchwil.
  • Adsefydlu anifeiliaid yn holistaidd (30 credyd). Pan nad yw safonau lles anifeiliaid yn cael eu cynnal, daw achub ac adsefydlu yn faterion hanfodol. Yma byddwn yn archwilio graddfa’r argyfwng lles ymysg anifeiliaid domestig ac anifeiliaid gwyllt. Byddwn yn archwilio rôl yr asiantaethau lles ac yn cyflwyno technegau adsefydlu ymarferol sydd yn aml yn rhoi ail gyfle i anifeiliaid.
  • Traethawd estynedig (60 credyd). i’w gwblhau yn ystod yr Haf. Bydd myfyrwyr yn cael cyfle i gwblhau darn unigryw o ymchwil ar destun o’u dewis. Byddant yn mynd ati i ysgrifennu traethawd estynedig sydd yn archwilio testun perthnasol i’w rhaglen.

Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.

 
 

Gofynion mynediad a gwneud cais

Rhaid i ymgeiswyr fodd â gradd mewn pwnc sydd yn ymwneud ag anifeiliaid neu geffylau neu ddisgyblaeth gytras.

Croesawir ymgeiswyr iechyd a gofal cymdeithasol hefyd ar yr amod eu bod yn gallu profi fod ganddynt brofiad o’r sectorau anifeiliaid neu geffylau.

Rhaid i ymgeiswyr heb gymwysterau addysg uwch ffurfiol ddangos fod ganddynt brofiad sydd yn berthnasol i’r rhaglen MSc.

 
 

Addysgu ac Asesu

Bydd y dulliau asesu yn amrywio rhwng modiwlau ond byddant yn cynnwys gwaith cwrs ac arholiadau ffurfiol.

Bydd y dulliau addysgu a dysgu yn amrywiol er mwyn hwyluso gofynion dysgu unigol. Tros yr 21 o oriau cyswllt a gynigir yn ystod pob modiwl gall pob myfyriwr ddisgwyl cyfuniad o ddarlithoedd, trafodaethau seminar, siaradwyr gwadd ac mewn rhai achosion, gwaith ymarferol. Bydd cymorth tiwtor ar gael hefyd yn ystod pob semester astudio.

Dysgu ac addysgu

Mae Prifysgol Wrecsam wedi ymrwymo i roi cymorth i'n myfyrwyr i'w galluogi i gyflawni eu potensial academaidd i'r eithaf. Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sy'n ymroddedig i helpu myfyrwyr i delio ag agweddau ymarferol gwaith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth i fyfyrwyr fwy o wybodaeth ar y cymorth sydd ar gael.

 
 

Rhagolygon gyrfaol

Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.

Wedi cwblhau’r MSC y disgwyl yw y bydd unigolion yn gweithio yn y meysydd/rolau canlynol:

  • Diwydiant Anifeiliaid / Ceffylau: Lles, Adsefydlu, Ailhyfforddi, Therapi â Chymorth Anifeiliaid
  • Ymchwil: Prifysgolion, PhD
  • Addysg: Prifysgolion, Colegau, sefydliadau nid-er-elw
  • Sefydliadau nid-er-elw: Ymchwil, Ymgynghori, Marchnata, Ymgyrchu
  • Adrannau’r Llywodraeth
 
 

Ffioedd a chyllid

Nid oes rhaid i chi dalu eich ffioedd dysgu ymlaen llaw.

Bydd y ffioedd rydych yn eu talu a'r cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn y mae eich ffioedd yn ei gynnwys yn y Cwestiynau Cyffredin ffioedd. 

Mae'r holl ffioedd yn ddarostyngedig i unrhyw newidiadau ym mholisi'r llywodraeth, edrychwch ar ein ffioedd ôl-raddedig.

Manyleb y rhaglen

 Gallwch weld manyleb lawn y rhaglen yma.