Students in a mental health lecture

Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2024

Hyd y cwrs

2 FL (RhA)

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Wrecsam

Course Highlights

Achrededig

gan y Gymdeithas Seicolegol Brydeinig

 

Dysgu cyfunol

gyda chymysgedd o astudio hunangyfeiriedig hyblyg gartref, gyda phrofiadau addysgu wyneb yn wyneb.

Mynediad

i gyfleusterau cyfoes

 

Pam dewis y cwrs hwn?

Cyfluniwyd y rhaglen ar gyfer raddedigion mewn pwnc arall, sydd eisiau newid cyfeiriad ac astudio neu ddilyn gyrfa mewn seicoleg.

  • I hyfforddi’n ffurfiol fel seicolegydd, mae’n rhaid cael gradd israddedig yn y pwnc, wedi’i achredu gan y BPS. Ond i lawer o bobl mae cwblhau gradd yn gostus yn ariannol ac o ran amser.
  • Dysgu cyfunol gyda chymysgedd o astudio hunangyfeiriedig hyblyg gartref, gyda phrofiadau addysgu wyneb yn wyneb.
  • Bydd y rhaglen yn cynnwys tri diwrnod 'ar y campws' y flwyddyn academaidd ar gampws Plas Coch y brifysgol yn Wrecsam

Prif nodweddion y cwrs

  • Achrededig gan y Gymdeithas Seicolegol Brydeinig
  • Dewch yn rhan o gymuned amrywiol o fyfyrwyr.
  • Cymysgedd perffaith o ddysgu ar-lein gydag addysgu wyneb yn wyneb.
  • Cymerwch ran yn ein penwythnosau preswyl deniadol a ddiwrnadau ‘ar y campws’
  • Sicrhewch gymhwyster meistr cydnabyddedig i helpu i ddechrau eich gyrfa mewn seicoleg.

 

 
 

Beth fyddwch chin ei astudio

Byddwch yn astudio chwe modiwl craidd wedi’i dysgu, a gynghorir gan y Gymdeithas Seicolegol Brydeinig, yn trafod meysydd allweddol a geir fel arfer ar raddau seicolegol israddedig. 

MODIWLAU

  • Dulliau Ymchwil
  • Seicoleg Wybyddol
  • Seicoleg Ddatblygiadol
  • Seicoleg Gymdeithasol
  • Gwahaniaethau Unigol
  • Seicoleg Fiolegol

Ynghyd â’r modylau uchod, byddwch hefyd yn cwblhau prosiect ymchwil academaidd gyda chymorth goruchwylydd ac yn archwilio materion cysyniadol a hanesyddol seicoleg.

Mae trefn a dysgir y modylau’n dibynnu ar ba flwyddyn rydych yn dechrau astudio. Bydd myfyrwyr yn astudio tri modiwl bob blwyddyn academaidd, ac yn cwblhau prosiect ymchwil ochr yn ochr â modylau’r ail flwyddyn.

Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.

 
 

Gofynion mynediad a gwneud cais

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ar gyfer derbyniad 2023 yw 7 Awst 2023.

Bydd angen i ymgeiswyr fod wedi cwblhau a phasio gradd dosbarth mewn unrhyw bwnc cyn cofrestru ar y rhaglen. Yn ddelfrydol, bydd gan ymgeiswyr o leiaf 2:1, ond mi ystyrir myfyrwyr sydd hefo 2:2.

Mi fydd angen diddordeb brwd mewn dysgu am ddamcaniaethau seicolegol, a’r gallu i wneud gwaith ymchwil.

Rydym yn croesawu ceisiadau bobl o gefndiroedd pwnc amrywiol. Gwahoddir ymgeiswyr llwyddiannus am gyfweliad. Noder y gellir cynnal cyfweliadau ar Skype os nad ydych yn byw’n lleol.

Bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus gwblhau 3 chwrs byr am ddim sy'n rhedeg ym mis Gorffennaf a mis Awst ar gyfer mynediad i'r rhaglen (mewn achosion cyfyngedig efallai y bydd eithriad gan un ohonynt, penderfynir ar hyn yn y cyfweliad).

 
 

Addysgu ac Asesu

Bydd y rhaglen yn cynnwys tri diwrnod 'ar y campws' y flwyddyn academaidd ar gampws Plas Coch y brifysgol yn Wrecsam. 

Bydd astudio gartref yn cynnwys darllen, cwblhau aseiniadau penodol, gwylio deunydd gweminar ac ymgysylltu â thrafodaethau fforwm ar-lein.

Ymhlith yr aseiniadau mae cwblhau traethodau, adroddiadau, cyflwyniadau poster, cyflwyniadau llafar a gwaith cwrs.

Dysgu ac addysgu

Mae Prifysgol Wrecsam wedi ymrwymo i roi cymorth i'n myfyrwyr i'w galluogi i gyflawni eu potensial academaidd i'r eithaf. Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sy'n ymroddedig i helpu myfyrwyr i delio ag agweddau ymarferol gwaith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth i fyfyrwyr fwy o wybodaeth ar y cymorth sydd ar gael.

 
 

Rhagolygon gyrfaol

 Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.

Byddai’r cwrs yn delfrydol ar gyfer y rhai sydd eisiau mynd ymlaen i hyfforddi’r ffurfiol i fod yn seicolegydd, neu sydd eisau gyrfa academaidd yn y maes.

 

 
 

Ffioedd a chyllid

Nid oes rhaid i chi dalu eich ffioedd dysgu ymlaen llaw.

Bydd y ffioedd rydych yn eu talu a'r cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn y mae eich ffioedd yn ei gynnwys yn y Cwestiynau Cyffredin ffioedd. 

Mae'r holl ffioedd yn ddarostyngedig i unrhyw newidiadau ym mholisi'r llywodraeth, edrychwch ar ein ffioedd ôl-raddedig.

Manyleb y rhaglen

 Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma.