Tystysgrif Ôl-raddedig Tystysgrif Ôl-raddedig Ymarferydd Brys

Close up of an xray of a hand

Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2023, 2024

Hyd y cwrs

1 FI (RhA)

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Wrecsam

Course Highlights

Wedi'i ddatblygu

gyda'n partneriaid clinigol lleol gan y GIG

10 uchaf

yn y Deyrnas Unedig am foddhad myfyrwyr (Canllaw Prifysgol Cyflawn, 2024).

Addysg efelychu

mewn amgylchedd uchel-ffyddlondeb gydag efelychu ac uwch ddarlithwyr technolegol i ddarparu addysgu cyfoes

Pam dewis y cwrs hwn?

Nod cyffredinol y rhaglen yw paratoi'r ymarferydd brys ar gyfer ei rôl ymreolaethol yn eu lleoliad dewisol yn yr Adran Achosion Brys, Uned Mân Anafiadau, Canolfan Gofal Brys neu o fewn y gwasanaeth ambiwlans.

Brys neu o fewn y gwasanaeth ambiwlans. Bydd y rhaglen yn paratoi'r ymarferydd i ddatblygu ymarfer proffesiynol, er mwyn sicrhau gwella gwasanaethau ac arloesi ac i ddatblygu cymhwysedd a hyder yr ymarferydd i ddarparu gofal ymreolaethol i fân gyflwyniadau anafiadau a salwch mewn amrywiaeth o leoliadau.

Prif nodweddion y cwrs

Mae'r cwrs yn cynnwys:

  • Strwythur rhaglen yn seiliedig ar ddamcaniaeth 50% a 50% o ymarfer wedi'i rannu mewn oriau rhaglen.
  • Mae asesu dysgu ymarfer drwy bortffolio o dystiolaeth yn caniatáu ichi ddangos eich dilyniant yn ymarferol.Efelychiad ffyddlondeb uchel ac isel drwyddi draw.
  • Addysgu a ddarperir gan arbenigwyr maes pwnc gydag arferion cyfredol ac arweinydd rhaglen sy'n nyrs frys ac yn ymarferydd nyrsio uwch sy'n gweithio yn y GIG.
  • Tîm y rhaglen yn gweithio mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd y Brifysgol.
  • Dull cyfoes o ansawdd a gwella gwasanaethau yn y GIG.
 

Beth fyddwch chin ei astudio

Bydd y modiwlau y byddwch yn eu hastudio fel a ganlyn:  

  • Ymarferydd proffesiynol ymarfer proffesiynol a gwella gwasanaethau: Bydd y modiwl hwn yn para hyd y flwyddyn academaidd, gan ddechrau gyda thri sesiwn wyneb yn wyneb ac yn semester dau a thri, un seminar ar-lein y mis.
  • Wedi'i nythu i'r modiwl uchod, byddwch hefyd yn astudio:
    • Semester dau: Asesiad a rheoli mân Anafiadau
    • Semester tri: Asesu a rheoli mân salwch
 
 

Gofynion mynediad a gwneud cais

  • 2 flynedd ar ôl cofrestru gyda NMC neu HCPC
  • DBS fel rhan o'ch rolau GIG
 
 

Addysgu ac Asesu

  • Dull cyfunol
  • Addysg efelychu mewn amgylchedd uchel-ffyddlondeb gydag efelychu ac uwch ddarlithwyr technolegol i ddarparu addysgu cyfoes
  • Realiti rhithwir ac ymgolli Wyneb yn wyneb
  • Ystafell Ddosbarth Wyneb i Waered
  • Uwchraddio
  • Asesiad drwy ddatblygu portffolio, OSCEs a chyflwyniad poster i ddangos gwelliant ansawdd/gwasanaeth

Dysgu ac addysgu

Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi ymrwymo i roi cymorth i'n myfyrwyr i'w galluogi i gyflawni eu potensial academaidd i'r eithaf. Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sy'n ymroddedig i helpu myfyrwyr i delio ag agweddau ymarferol gwaith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth i fyfyrwyr fwy o wybodaeth ar y cymorth sydd ar gael.

 

Rhagolygon gyrfaol

Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.

  • Myfyrwyr i gyd yn gweithio yn y GIG
  • Wedi’i heilio gan y bwrdd Iechyd neu'r Ymddiriedolaeth GIG
 

Ffioedd a chyllid

Nid oes rhaid i chi dalu eich ffioedd dysgu ymlaen llaw.

Bydd y ffioedd rydych yn eu talu a'r cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn y mae eich ffioedd yn ei gynnwys yn y Cwestiynau Cyffredin ffioedd. 

Mae'r holl ffioedd yn ddarostyngedig i unrhyw newidiadau ym mholisi'r llywodraeth, edrychwch ar ein ffioedd ôl-raddedig.

Manyleb y rhaglen

Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma.