Advanced Clinical Practice equipment

Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2024

Hyd y cwrs

3 Bl (RhA)

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Wrecsam

Course Highlights

oriau

dysgu ymarfer gyda ffocws ar bedwar piler ymarfer uwch.

Cymorth

gan fentor meddygol neu glinigol drwy gydol y rhaglen

 

Mae 100% o raddedigion

mewn gwaith taledig neu’n astudio 15 mis ar ôl graddio*

Pam dewis y cwrs hwn?

Ymestyn eich gwybodaeth a'ch sgiliau i lefelau uwch yn eich maes ymarfer arbenigol, drwy astudio modiwlau sydd wedi eu cynllunio i ddatblygu eich gallu i ymgymryd â rolau mewn ymarfer uwch.

Nod y rhaglen yw galluogi gweithwyr proffesiynol profiadol i:

  • Ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth systematig a beirniadol o’u maes ymarfer arbenigol.
  • Ddatblygu ymwybyddiaeth feirniadol o broblemau cyfredol, gan datblygu mewnwelediadau newydd sydd ar flaen y gad yn eu maes ymarfer uwch sy’n galluogi i ymarfer a gwybodaeth ymarfer ddatblygu'n strategol.
  • Galluogi ymarferwyr i hysbysu, hybu a datblygu eu cymhwysedd o fewn eu maes ymarfer.
  • Arddangos ysgolheictod uwch yn eu maes pwnc trwy gynllunio a gweithredu ymholiad Lefel 7.
  • Astudio cwrs ble mae 100% o raddedigion mewn gwaith taledig neu’n astudio 15 mis ar ôl graddio* *dadansoddiad Prifysgol Wrecsam o ddata heb ei gyhoeddi.

Prif nodweddion y cwrs

  • Mae strwythur y rhaglen yn seiliedig ar 50% o theori a 50% o ymarfer wedi’u rhannu’n gyfartal yn ystod oriau’r rhaglen.
  • Mae asesu dysgu mewn ymarfer drwy gyfrwng portffolio o dystiolaeth yn galluogi'r myfyrwyr i ddangos eu cynnydd mewn ymarfer.
  • Oriau dysgu ymarfer gyda ffocws ar bedwar piler ymarfer uwch.
  • Bydd myfyrwyr yn derbyn cymorth gan fentor meddygol neu glinigol dros y ddwy flynedd a addysgir, sy'n nodwedd nad yw ar gael mewn cwrs meistr traddodiadol.
  • Bydd myfyrwyr yn datblygu portffolio ymarfer dros yr elfennau o'r rhaglen a addysgir yn dangos gallu'r myfyriwr i weithredu ar lefel ymreolaethol mewn ymarfer, tra hefyd yn dangos y gallu i ystyried anghenion cymhleth eu cleifion/cleientiaid.
  • Mae'r rhaglen yn cynhyrchu ymarferwyr sy'n gallu meddwl ar lefel uchel mewn ymarfer, ond sydd hefyd yn seilio eu hymarfer gyda lefel uchel o ysgolheictod.
  • Mae  tîm y rhaglen yn gweithio mewn partneriaeth â'r Bwrdd Iechyd Prifysgol ac Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i ddewis ymgeiswyr priodol ar gyfer y cwrs yma.
  • Mae 100% o raddedigion y cwrs hwn mewn gwaith taledig neu'n astudio* *arolygwyd graddedigion 15 mis ar ôl graddio, dadansoddiad Prifysgol Wrecsam o ddata heb ei gyhoeddi.

Beth fyddwch chin ei astudio

BLWYDDYN 1

Modiwlau llwybr Ymarfer Clinigol Uwch:

  • Asesu Clinigol mewn Ymarfer Uwch
  • Rhagnodi Anfeddygol NEU Asesu Clinigol mewn Ymarfer Uwch
  • Ffarmacoleg Glinigol ar gyfer Ymarfer Uwch
  • Modiwl Dewisol/Trafodwyd (ar gyfer ymarferwyr na fydd yn rhagnodi)

Modiwlau llwybr Therapïau:

  • Asesu ac Ymyrryd
  • Gwerthuso Clinigol
  • Ffarmacoleg Glinigol ar gyfer Ymarfer Uwch neu Fodiwl Dewisol/Trafodwyd

Ar ôl astudio 60 credyd yn y flwyddyn gyntaf, gall myfyrwyr ymadael gyda Thystysgrif Ôl-raddedig.

BLWYDDYN 2

MODIWLAU

  • Dulliau Ymchwil
  • Hyrwyddo Ymarfer Clinigol
  • Modiwl a drafodwyd neu fodiwl dewisol

Ar ôl astudio 120 credyd ym mlynyddoedd 1 a 2, gall myfyrwyr ymadael gyda Diploma Ôl-raddedig.

BLWYDDYN 3

MODIWLAU

  • Traethawd hir

Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.

 

Gofynion mynediad a gwneud cais

Er mwyn eu derbyn ar y rhaglen, gofynnir bod gan ymgeiswyr:

  • Gofrestriad cyfredol gyda chorff statudol proffesiynol sy'n berthnasol i'w maes ymarfer uwch.
  • Radd mewn disgyblaeth sy'n gytras â'u cymhwyster proffesiynol neu yn meddu ar gymhwyster nad yw ar lefel gradd y mae'r brifysgol wedi barnu ei fod o safon foddhaol at ddibenion derbyn ymgeiswyr ôl-raddedig. Mae'n ofynnol i ymgeiswyr heb radd anrhydedd gyflawn ar ddosbarth 2:2 ac uwch gyflwynotraethawd  1,500 o eiriau ar bwnc a ddewisir gan y tîm derbyn fel rhan o'r broses sefydlu. Bydd hyn yn cael ei asesu drwy ddefnyddio'r meini prawf academaidd lefel 6 (Atodiad I) aac mae'n rhaid dangos cyflawniad ar 50% neu uwch i gael eich derbyn yn llwyddiannus i'r rhaglen. Fel arall, bydd cwblhau modiwl lefel 6 priodol diweddar yn llwyddiannus megis Dulliau Ymchwil, Rhagnodi Anfeddygol ar lefel 6 neu Paratoi ar gyfer Astudio ar Lefel Meist yn galluogi cael eich derbyn i'r rhaglen, yn amodol ar gytundeb tîm y rhaglen.
  • O leiaf dwy flynedd o brofiad clinigol ôl-gofrestru cyfwerth ag amser llawn.
  • Cyflogaeth mewn swydd glinigol sydd â lefel uchel o ymreolaeth neu fod yn gallu sicrhau lleoliad i'r uchod am o leiaf ddau ddiwrnod yr wythnos neu Bod mewn rôl Ymarferydd Uwch dan Hyfforddiant.
  • Ymarferydd Meddygol Goruchwyliol Dynodedig (DSMP) (ar gyfer y myfyrwyr hynny sy'n ymgymryd â'r modiwlau Rhagnodi Anfeddygol ac Asesu Clinigol mewn Ymarfer Uwch) ac sydd â chymorth mentor yn ystod eu lleoliad ymarfer sy'n dod o'r sefydliad sy'n eu cyflogi.

N.B. Os yn ymgymryd â Rhagnodi Anfeddygol, mae rhagor o feini prawf derbyn yn berthnasol sydd yn disodli'r rhai uchod (cysylltwch ag arweinydd y rhaglen am wybodaeth bellach). Os yn ymgymryd â Mentora mewn Ymarfer neu Dysgu ac Addysgu mewn Ymarfer, mae'n rhaid i fyfyrwyr fodloni rhagofynion y modiwlau hyn (cysylltwch ag arweinydd y rhaglen am wybodaeth bellach). Bydd myfyrwyr heb radd gyntaf sy'n cael eu derbyn i'r rhaglen yn gallu cymryd y modiwl Rhagnodi Anfeddygol (lle bo'n gymwys) ond dim ond ar lefel 6 (yn unol ag anghenion Proffesiynol, ac anghenion Cyrff Statudol a Chyrff Rheoleiddio (PSRB).

Addysgu ac Asesu

Caiff myfyrwyr ymarfer clinigol uwch eu hasesu mewn nifer o ffyrdd gwahanol. The balance between the different forms of assessment is determined by the different aims and learning outcomes of the modules.

Mae dulliau asesu yn cynnwys aseiniadau academaidd, astudiaethau achos, cyflwyniadau poster ac arholiadau. Gan fod y rhaglen yn ymwneud â dysgu mewn ymarfer, mae gan bob myfyriwr bortffolio clinigol sy'n cael ei gwblhau wrth iddynt fynd ymlaen drwy'r modiwlau. Mae gofyn bod gan bob myfyriwr DSMP a mentor er mwyn cefnogi dysgu ac asesu mewn ymarfer.

Dysgu ac addysgu

Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn ardaloedd fel ysgrifennu academaidd, creu nodiadau effeithiol a paratoi am aseiniadau. Gall fyfyrwyr archebu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd ymroddgar i'ch helpu ymdrin â'r ymarferion o waith brifysgol. Mae gan ein hadran cymorth myfyrwyr mwy o wybodaeth a chymorth.

 

Rhagolygon gyrfaol

Mae ein gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yna i'ch helpu gwneud y dewisiadau ac i gynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol llwyddiannus. O chwilio am waith neu astudio pellach i weithio allan beth ydi'ch diddordebau, sgiliau a dyheadau, gallent nhw roi'r wybodaeth, cyngor ac arweiniad arbenigol rydych angen i chi.

Ar ôl cwblhau'r cwrs Ymarfer Clinigol Uwch/Ymarfer Clinigol Uwch (Therapïau), bydd myfyrwyr yn gymwys i wneud cais am swyddi ymarfer uwch mewn nifer o leoliadau.

Yng Nghymru, bydd myfyrwyr yn gymwys i ddefnyddio'r teitl 'Uwch' ar ôl cwblhau'r MSc.

Gan fod PSRBs perthnasol yn ei ddilysu, ar ôl cwblhau'r modiwl Rhagnodi Anfeddygol, bydd myfyrwyr yn gallu cofnodi'r cymhwyster hwn gyda'u corff proffesiynol (NMC, HCPC, GPhC).

 

Ffioedd a chyllid

Nid oes rhaid i chi dalu eich ffioedd dysgu ymlaen llaw.

Bydd y ffioedd rydych yn eu talu a'r cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn y mae eich ffioedd yn ei gynnwys yn y Cwestiynau Cyffredin ffioedd. 

Mae'r holl ffioedd yn ddarostyngedig i unrhyw newidiadau ym mholisi'r llywodraeth, edrychwch ar ein ffioedd ôl-raddedig.

Manyleb y rhaglen

Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma.