MA Ymarfer Cynhyrchu Creadigol a Curadurol
Manylion cwrs
- Blwyddyn mynediad 2022
- Hyd y cwrs 1 Fl (LlA) 2 Fl (RhA)
- Lleoliad Wrecsam

Course Highlights
Ennill
profiad a dealltwriaeth hanfodol yn y gweithle o arddangosfeydd.
Gweithiwch
ochr yn ochr â'ch astudiaethau mewn amrywiaeth o leoliadau celfyddydol megis amgueddfeydd ac orielau masnachol.
Datblygwch
sgiliau ymchwil ac entrepreneuraidd gwerthfawr i'ch helpu i ffynnu yn eich gyrfa.
Pam dewis y cwrs hwn?
Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio i roi dealltwriaeth ddofn i chi o'r sgiliau angenrheidiol sydd eu hangen i weithio ar draws cyd-destunau creadigol, proffesiynol ac academaidd. Mae wedi'i anelu at y rhai sy'n dymuno datblygu a dyfnhau eu gwybodaeth a'u harbenigedd mewn arferion curadur a rheoli prosiectau creadigol.
- Mae ymgysylltu dinesig wrth wraidd y rhaglen hon. Nid yn unig y mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio i effeithio'n gadarnhaol ar eich cyflogadwyedd drwy roi sgiliau i chi ar gyfer fel curadur a chynhyrchu diwylliannol ond byddwch hefyd yn ymgysylltu â'r gymuned leol drwy sefydliadau diwylliannol lleol ffyniannus i ymgymryd â rhyngoriaethau, gwirfoddoli neu leoliadau prosiect a drefnwyd ymlaen llaw.
- Cyflawnir yr addysgu drwy ymarfer wedi ei leoli. Mae gan y cwrs cysylltiadau cryf gydag orielau ac amgueddfeydd yng Ngogledd Cymru ac yn cynnig mewnwelediadau amhrisiadwy, gan gynnwys mynediad y tu ôl i’r llennu mewn orielau a chyfle i ddysgu gan staff curadu a gweithwyr celf broffesiynol
- Gallwch gyfuno’ch astudiaethau gyda gwaith mewn amgueddfeydd, orielau masnachol, tai ocsiwn, stiwdios celf, cylchgronau, lleoedd amgen a sefydliadau ddim er elw.
Prif nodweddion y cwrs
- Ennill profiad hanfodol o ran y gweithle a dealltwriaeth o arddangosfeydd
- Datblygu sgiliau ymchwil a mentergarwch sydd eu hangen er mwyn cynnal eich gyrfa, gydag ethos o fagu cymdeithas gynaliadwy sydd yn ystyriol o gyfrifoldeb amgylcheddol a dinesig ar gyfer ein dyfodol.
- Cymryd rhan mewn digwyddiadau a theithiau maes ledled y DU, o wyliau a digwyddiadau arbennig
- Yn y gorffennol, mae myfyrwyr wedi cael y cyfle i wneud cais am Gynllun Goruchwylio a Mwy Cyngor Celfyddydau Cymru. Roedd hyn yn caniatáu i fyfyrwyr llwyddiannus fordwyo ym Mhafiliwn Cymru yn Biennale Fenis a gweithio ochr yn ochr â chyfoedion o Brifysgolion eraill yng Nghymru. Mae myfyrwyr hefyd wedi cael cyfleoedd i fod yn rhan o gynlluniau mentora gyda churaduron ac artistiaid sefydledig.
- Cyfrannu at sgyrsiau hollbwysig ynglŷn â ffurfio ac ymgysylltiad gyda curadu cyhoeddus o arlunwyr a diwylliant Cymreig; arlunydd fel creawdwr; arddangosfa fel celf; curadu perfformiad; cynhyrchu diwylliannol fel math o hydwythdedd ac actifedd. Mae hefyd pwyslais ar ysgrifennu ar gyfer cyhoeddiad, adolygiadau arddangosfa, damcaniaeth curadu, a thestunau gwybodaeth ar gyfer cynulleidfaoedd.
Beth fyddwch chin ei astudio
Mae pedwar prif fodiwl gyda 30 credid yr un, wedyn traethawd hir gwerth 60 credid, gan wneud cyfanswm o 180 credid. Mae pob u nyn fodiwl craidd:
MODIWLAU
- Damcaniaeth ac Ymarfer Curadu - Craidd
- Dulliau Ymchwil a Gweithredu - Craidd
- Prosiect ar y Cyd - Craidd
- Cynulleidfaoedd a Marchnadoedd - Craidd
- Traethawd Ymchwil a Dangosiad Celf Meistri - Craidd
Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.
Gofynion mynediad a gwneud cais
Rhaid i ymgeiswyr fod â chraidd cychwynnol mewn pwnc perthnasol, wedi’i dosbarthu’ ddosbarth Cyntaf neu 2:1, neu ddangos tystiolaeth o weithgaredd diweddar yn y maes sydd yn gyfatebol i’r cymwysterau hyn fel y penderfynir mewn cyfweliad.
Mae disgwyl bod gan bob ymgeisydd gradd gychwynnol da a pherthnasol, neu’n gallu cyflwyno portffolio o’i gwaith, gan ddangos cyfatebiaeth â gradd gychwynnol.
Addysgu ac Asesu
Bydd asesiad yn cael ei gynnal drwy gydol y cwrs a bydd angen tystiolaeth o waith cwrs (portffolio fel arfer) gan gynnwys gwerthusiadau o'r gwaith ymarferol ar gyfer pob modiwl.
Dysgu ac addysgu
Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi ymrwymo i roi cymorth i'n myfyrwyr i'w galluogi i gyflawni eu potensial academaidd i'r eithaf. Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sy'n ymroddedig i helpu myfyrwyr i delio ag agweddau ymarferol gwaith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth i fyfyrwyr fwy o wybodaeth ar y cymorth sydd ar gael.
Rhagolygon gyrfaol
Bydd y cwrs hwn yn rhoi'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i weithio yn y meysydd canlynol;
- Amgueddfeydd
- Orielau Masnachol
- Tai Arwerthu
- Stiwdios Celf
- Cylchgronau
- Sefydliadau di-elw
- Arddangosfeydd
- Gwyliau
- Comisiynau celf gyhoeddus
- Rhaglenni Addysg y Celfyddydau
- Theatrau
Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.
Ffioedd a chyllid
Ffioedd dysgu Prifysgol Glyndŵr Wrecsam 2022/23 ar gyfer MA Ymarfer Cynhyrchu Creadigol a Curadurol yw £5940.
Nid oes rhaid ichi dalu'ch ffioedd hyfforddi ymlaen llaw.
Bydd y ffioedd rydych chi'n eu talu a'r cymorth ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol.
Ceir gwybodaeth gyflawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid.
Rhyngwladol
I gael gwybodaeth am ofynion mynediad y brifysgol ar gyfer myfyrwyr UE/rhyngwladol, os gwelwch yn dda ewch i'r adran ryngwladol.