nurse wearing a mask

Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2024, 2025

Hyd y cwrs

3 BL (RhA)

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Wrecsam

Course Highlights

Dysgu cyfunol,

gan hwyluso dull sy'n canolbwyntio ar y dysgwr.

 

Asesiadau

i adlewyrchu'ch maes ymarfer.

 

Datblygu

gwybodaeth arbenigol mewn disgyblaethau sy'n gysylltiedig ag iechyd.

Pam dewis y cwrs hwn?

Mae'r MSc Ymarfer Proffesiynol mewn Iechyd yn galluogi gweithwyr proffesiynol o nifer o ddisgyblaethau iechyd a gweithleoedd i ddod ynghyd i ddysgu. Nod cyffredinol y cwrs yw darparu rhaglen gynhwysfawr, fodern a deinamig i fyfyrwyr sy'n ceisio datblygu eu gyrfa ym maes iechyd cynyddol amrywiol.

  • Dadansoddwch y rhwystrau sy'n bodoli trwy'r model hwn o weithio, gan ganolbwyntio ar ofal yr unigolyn a'r buddion y gall gweithio rhyngbroffesiynol eu cynnig i'r bobl yn ein cymunedau.
  • Anogir myfyrwyr i gymryd persbectif eang i'w dysgu, gan werthfawrogi sut mae dylanwadau byd-eang, rhyngwladol, cenedlaethol a lleol, yn siapio arferion gweithwyr proffesiynol yn eu maes darpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol.
  • Bydd cyfleoedd i fyfyrwyr arwain eu dysgu eu hunain i adlewyrchu amrywiaeth y grŵp myfyrwyr, o safbwynt proffesiynol ac unigol.
  • Mae ein dull hefyd yn cydnabod y gweithleoedd a'r meysydd amrywiol y mae'r myfyrwyr yn gweithio ynddynt, gan sicrhau bod y potensial i gynyddu effaith eu hastudiaethau yn cael ei gydnabod.

Prif nodweddion y cwrs

  • Ddatblygu gwybodaeth systematig a dealltwriaeth feirniadol o ofal iechyd o safbwynt lleol, cenedlaethol a byd-eang.
  • Arddangos sgiliau trosglwyddadwy sy’n angenrheidiol i wneud penderfyniadau sy’n galw am ymreolaeth bersonol a blaengaredd: gan gynnwys datrys problemau, arweinyddiaeth, chadernid a’r gallu i fyfyrio mewn sefyllfaoedd cymhleth a/neu anrhagweladwy.
  • Dangos tystiolaeth o ymwybyddiaeth feirniadol o broblemau cyfredol a/neu fewnwelediadau newydd
  • Trafod yn gynhwysfawr a darparu sylwadau beirniadol ar dystiolaeth ymchwil ac ysgolheictod mewn meysydd sy’n ymwneud ag iechyd
 
 

Beth fyddwch chin ei astudio

Byddwch yn astudio’n rhan amser tros gyfnod o dair blynedd, gan gyflawni 60 credyd lefel 7 ym mhob blwyddyn. Bydd hyn yn cynnwys 20 credyd pob blwyddyn o fodiwlau a addysgir tros y ddwy flynedd gyntaf, a thraethawd estynedig (60 credyd) yn y drydedd. Bydd y modiwlau yn canolbwyntio ar ystod o bynciau ac maent wedi eu strwythuro’n ofalus i ganiatáu’r cyfle ichi ddatblygu eich meddwl critigol gyda’r ffocws ar ddatblygu eich hunan yn bersonol ac yn broffesiynol.

BLWYDDYN 1

MODIWLAU

  • Datblygu Ymarfer Proffesiynol ac Arweinyddiaeth (Craidd) Mae’r modiwl hwn yn galluogi myfyrwyr i amlygu eu datblygiad personol a phroffesiynol, gan greu’r cysylltiad rhwng theori ac ymarfer cyfoes. Bydd myfyrwyr yn archwilio damcaniaethau perthnasol ar arweinyddiaeth a gweithio’n effeithiol mewn tîm i gefnogi ei hymarfer proffesiynol i’r dyfodol, gan fyfyrio’n feirniadol ar y polisi gofal cymdeithasol cyfredol sy’n sail i’r sefydliad lle maent yn gweithio.
  • Arloesi a Gwelliant mewn Ymarfer (Craidd) – Nod y modiwl hwn yn paratoi myfyrwyr i arwain prosiect gwella ansawdd yn eu man gwaith. Prif ffocws y modiwl yw sut i gyflawni newid llwyddiannus gan ddefnyddio’r prosesau, yr offer a’r technegau a gysylltir â gwella gwasanaeth.
  • Iechyd y Cyhoedd ac Anghydraddoldebau (Craidd) - Nod y modiwl hwn yw darparu sail gynhwysfawr ar gyfer maes proffesiynol ac academaidd cysyniadau ac egwyddorion iechyd y cyhoedd, gan gyflwyno’r myfyrwyr i faterion sydd yn herio iechyd a lles pobl yn y gymdeithas sydd ohoni sy'n gyflym newid. Gellir cysylltu globaleiddio, technolegau newydd, a phoblogaeth sydd yn tyfu ac yn heneiddio â materion fel newid hinsawdd, llygredd aer, unigrwydd a lledaeniad firysau ar lefel bandemig.

BLWYDDYN 2

MODIWLAU

  • Arweinyddiaeth Dosturiol mewn Ymarfer (Craidd) - Nod y modiwl hwn yw cyflwyno myfyrwyr i ymddygiad arferion arweinyddiaeth dosturiol, gyfunol a chynhwysol, drwy ddatblygu dealltwriaeth feirniadol o gysyniadau, hwyluswyr, rhwystrau a galluogwyr craidd i wreiddio arweinyddiaeth dosturiol o fewn diwylliant y gweithle.
  • Dyluniadau a Dulliau Ymchwil (Craidd) - Nod y modiwl hwn yw galluogi myfyrwyr i wneud dewisiadau am fethodolegau priodol wrth ymgymryd â phrosiect gwella ansawdd, arloesi neu ymchwil. Byddant yn gwerthuso’n feirniadol ystod o ddyluniadau prosiect o wahanol safbwyntiau i ennill dealltwriaeth am ddulliau ymchwil traddodiadol ar gyfer ymarfer, ac yn cymhwyso gwybodaeth, sgiliau a phriodoleddau ymholiad ymchwil da i ysgogi datblygiadau mewn ymarfer i’r dyfodol. 

BLWYDDYN 3

MODIWLAU

  • Traethawd estynedig - Nod y modiwl hwn yw rhoi cyfle i fyfyrwyr: 1) Arddangos meddwl annibynnol a datblygiad gwreiddioldeb wrth werthuso, cymhwyso a chyfosod gwybodaeth drwy archwilio’n feirniadol testun sydd yn berthnasol i broffesiynau iechyd a maes iechyd a gofal cymdeithasol. 2) Gwella’r sgiliau academaidd sydd eu hangen wrth ddethol, cynllunio, paratoi ac ysgrifennu traethawd, sydd yn cyfuno gwybodaeth empirig a damcaniaethol a ddatblygwyd o fewn y rhaglen.

Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.

 
 

Gofynion mynediad a gwneud cais

Bydd pob cais yn cael ei ystyried yn unigol ac ôl ei deilyngdod ei hun. Bydd Arweinydd y Rhaglen yn gwneud y penderfyniad derbyn terfynol. Mae’r gofynion mynediad ar gyfer yr MSc Ymarfer Proffesiynol ym maes Iechyd wedi eu llunio yn unol â rheoliadau’r Brifysgol.

Rhaid i ymgeiswyr foddhau/feddu ar, neu fod â chyfuniad o’r amodau canlynol:

  • I gradd anrhydedd gychwynnol o Brifysgol Wrecsam neu gorff dyfarnu graddau cymeradwy arall.
  • Cymhwyster nad yw’n gymhwyster gradd, y mae’r Brifysgol yn ei ystyried o safon foddhaol at ddiben mynediad ôl-raddedig.
  • Meddu ar brofiad gwaith perthnasol ar lefel uwch y bernir ei fod yn gwneud iawn am ddiffyg cymwysterau ffurfiol, ac wedi bod mewn swydd sydd â chyfrifoldeb rheoli yn y sector iechyd neu ofal cymdeithasol am o leiaf tair blynedd o fewn y bum mlynedd diwethaf.

Mewn achos ble bo diffyg eglurder neu lle bo angen golwg ddyfnach ar addasrwydd ymgeisydd ar gyfer y rhaglen, mae’n bosib y bydd angen cynnal cyfweliad anffurfiol gyda’r ymgeisydd. Gall hyn fod wyneb yn wyneb, neu drwy lwyfan ar-lein priodol.  Bydd hyn yn rhoi cyfle i’r ymgeisydd ddarparu tystiolaeth i foddhau’r panel cyfweld o’u gallu i gwblhau gwaith academaidd i’r safon sy’n ofynnol yn y maes pwnc, ac i gwblhau’n llwyddiannus y cynllun astudio arfaethedig.

Hefyd, mae’n bosib y bydd cynnig amodol yn cael ei wneud i ymgeiswyr na lwyddodd i ddangos tystiolaeth o astudiaeth academaidd ddiweddar (o fewn y 5 mlynedd diwethaf), gan ei gwneud yn ofynnol i fyfyriwr ymgymryd â’r modiwl Paratoi ar gyfer Llwyddiant Academaidd (Lefel 6) cyn dechrau ar y rhaglen lefel Meistr. 

 
 

Addysgu ac Asesu

Bydd asesiadau yn cael eu cynllunio i sicrhau bod myfyrwyr yn adlewyrchu eu maes ymarfer ac arbenigedd proffesiynol mewn gwaith crynodol a ffurfiannol, a bod tystiolaeth o ymdrwytho a datblygu arbenigedd sy’n gymesur ag ymdrwytho ar lefel Meistr. Bydd aseswyr academaidd priodol yn cael eu dethol i hwyluso hyn.

Ymysg y dulliau asesu mae, ond heb fod yn gyfyngedig i: Aseiniadau Ysgrifenedig, Portffolio Myfyriol, Cyflwyniadau, ac Adroddiadau.

Dysgu ac addysgu

Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi ymrwymo i roi cymorth i'n myfyrwyr i'w galluogi i gyflawni eu potensial academaidd i'r eithaf. Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sy'n ymroddedig i helpu myfyrwyr i delio ag agweddau ymarferol gwaith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth i fyfyrwyr fwy o wybodaeth ar y cymorth sydd ar gael.

 
 

Rhagolygon gyrfaol

Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.

Mae’r rhaglen hon yn cynorthwyo ymarferwyr gofal iechyd i ddatblygu o fewn fframwaith gyrfaoedd a chyflogaeth Agenda ar gyfer Newid y GIG, gyda chyflawni astudiaeth lefel Meistr yn nodwedd allweddol o’r rhai sydd am symud ymlaen drwy rolau Band 7 ac uwch.

Bydd Deallusrwydd Emosiynol, cyfathrebu ac arweinyddiaeth yn edau drwy’r holl fodiwlau, gydag arweinyddiaeth dosturiol yn edefyn dysgu dangosol. Mae hyn er mwyn adlewyrchu’r ymarferydd sy’n datblygu, gofynion tystiolaeth mewn astudiaeth lefel Meistr ar gyfer y rhai hynny sy’n dilyn Band 7 (ac uwch), a phwysigrwydd datblygu gweithlu cynaliadwy a chydnerth. Bydd hyn yn galluogi myfyrwyr i archwilio dilyniant academaidd a phroffesiynol, gan anelu at gynyddu opsiynau cyflogaeth i’r dyfodol ar gyfer myfyrwyr sy’n ymgymryd â’r rhaglen.

 
 

Ffioedd a chyllid

Nid oes rhaid i chi dalu eich ffioedd dysgu ymlaen llaw.

Bydd y ffioedd rydych yn eu talu a'r cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn y mae eich ffioedd yn ei gynnwys yn y Cwestiynau Cyffredin ffioedd. 

Mae'r holl ffioedd yn ddarostyngedig i unrhyw newidiadau ym mholisi'r llywodraeth, edrychwch ar ein ffioedd ôl-raddedig.

Manyleb y rhaglen

Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma.