Content Accordions

  • Beth fydd ffioedd Prifysgol Wrecsam?

    Bydd y ffioedd byddwch yn talu a’r cymorth ar gael i chi yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Gallwch ddarganfod faint yn union bydd angen i chi dalu drwy fynd i’n tudalennau ffioedd.

  • Sut ydym wedi penderfynu ar ein ffioedd presennol?

    I wybod hyn, gallwch edrych ar ein cynllun Ffioedd a Mynediad.

  • Pa gymorth ariannol sydd ar gael?

    Bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr israddedig llawn amser y DU/UE yn gymwys ar gyfer cymorth ariannol i dalu am holl gostau'r ffioedd dysgu a ni fydd angen i chi ad-dalu unrhyw arian nes i chi raddio a dechrau ennill mwy na £21,000 y flwyddyn.

    Mae yna reolau gwahanol i fyfyrwyr ôl-raddedig a rhan-amser – cliciwch ar y linciau isod am fwy o wybodaeth.

    Cyllid myfyrwyr Cymru

    Cyllid myfyrwyr Lloegr

    Cyllid myfyrwyr yr Alban

    Myfyrwyr yr UE

  • Fydd rhaid imi dalu'r ffioedd ymlaen llaw?

    Na fydd, ni fydd rhaid i chi dalu'ch ffioedd ymlaen llaw.

  • Beth mae fy ffi dysgu israddedig yn cyfro?

    Istaddedig (a addysgir)

  • Dyma beth mae'ch ffioedd dysgu'n talu amdano

    Yn achos israddedigion DU/UE llawn-amser bydd ffi eich cwrs yn cynnwys yr holl gostau craidd sy'n gysylltiedig â'ch rhaglen astudio ac sy'n hanfodol i chi gwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys:

    • Costau addysgu, am yr ymgais gyntaf ar bob modiwl ar eich rhaglen
    • Profiad gwaith neu leoliad cyfannol sy'n hanfodol i'ch rhaglen astudio
    • Costau teithiau maes sy'n hanfodol i'ch rhaglen astudio
    • Costau arholiadau a chostau mynychu arholiad ar gyfer yr ymgais gyntaf ym mhob asesiad. Fodd bynnag, nid yw hwn yn cynnwys y gost o ail sefyll arholiad, ailasesiad neu ail-wneud y flwyddyn, mae yna ffi am ailasesiadau ac mae Myfyrwyr sy'n Ail-wneud Blwyddyn yn destun i ffi flynyddol ychwanegol.
    • Mynediad i'r llyfrgell ac adnoddau dysgu'r Brifysgol
    • Un copi ym mhob blwyddyn cofrestru academaidd o ddogfennau swyddogol yn ymwneud â'ch statws myfyriwr - yn cynnwys eich cerdyn myfyriwr a dogfennau fel llythyrau sy'n cadarnhau eich statws fel myfyriwr cofrestredig, eich canlyniadau academaidd a, phan fo hynny'n briodol oherwydd eich cyflawniad, trawsgrifiad a/neu dystysgrif . Codir ffi am gopïau neu amnewidiadau pellach.
    • Eich seremoni graddio (os ydych yn gymwys i'w mynychu), a dau docyn gwestai (ond nid y gost o logi gŵn academaidd , sy'n angenrheidiol, neu'r gost o ffotograffau swyddogol dewisol, neu docynnau gwesteion ychwanegol)
  • Beth nad ydi'ch ffioedd dysgu yn talu amdano

    Bydd y costau canlynol yn ychwanegol at eich astudiaethau craidd a bydd angen i chi dalu amdanynt:

    • Copïau personol o lyfrau testun craidd a deunyddiau dysgu a fydd yn eiddo i chi
    • Taliadau argraffu a llungopïo
    • Ffioedd a thaliadau'r llyfrgell ar gyfer benthyciadau rhwng llyfrgelloedd
    • Costau ar gyfer teithiau maes ac ymweliadau sydd yn ddewisol neu sydd wedi eu cynllunio i ychwanegu at eich astudiaethau - cewch wybod am y rhain ymlaen llaw  
    • Costau sy'n gysylltiedig ag astudio neu leoliad dramor
    • Arholiadau a sefir dramor ar eich cais (gan gynnwys tâl gweinyddol)
    • Costau ar gyfer nwyddau traul ac adnoddau cyffredinol yn gysylltiedig ag astudio neu gyfranogiad yn y rhaglen astudio (fel ffioedd stiwdio neu gostau gwisgoedd/prop)
    • Costau cyfarpar ac adnoddau TG y byddwch chi'n berchen arnynt yn bersonol neu'n eu llogi, fel gliniaduron a thabledi
    • Costau sy'n gysylltiedig â theithio i astudio neu i leoliad
    • Llety a chostau byw dydd i ddydd eraill 
    • Taliadau aelodaeth corff proffesiynol lle nad yw aelodaeth yn ofyniad hanfodol ar gyfer astudio ar y cwrs
    • Gwiriadau GDG/iechyd
    • Mynychu cynadleddau neu weithdai allanol
    • Costau Cydnabod Dysgu Blaenorol
    • Ffioedd ar gyfer ailsefyll, ailasesiadau neu ailwneud y flwyddyn.
    • Y gost o logi gŵn academaidd ar gyfer graddio, sy'n angenrheidiol, cost ffotograffau swyddogol dewisol, neu docynnau i westeion ychwanegol
    • Copïau dyblyg neu amnewidiol o'ch cerdyn myfyriwr a dogfennau, fel llythyrau, sy'n cadarnhau eich statws myfyriwr cofrestredig, eich canlyniadau academaidd a, phan fo hynny'n briodol oherwydd eich cyflawniad, drawsgrifiad a/neu dystysgrif.

    Mae'r rhestri uchod yn fynegol ac nid yw'n cynnwys pob eitem, y bwriad yw rhoi cyfarwyddyd ar gostau rhesymol astudio. Caiff wybodaeth a chyfarwyddyd pellach eu rhoi gan eich tiwtor academaidd.

  • Beth mae fy ffi dysgu ôl-raddedig yn cyfro?

    Ôl-raddedig (a addysgir)

  • Dyma beth mae'ch ffioedd dysgu'n talu amdano

    Yn achos ôl-raddedigion DU/UE llawn-amser bydd  ffi eich cwrs yn cynnwys yr holl gostau craidd hynny sy'n gysylltiedig â'ch rhaglen astudio ac sy'n hanfodol i'ch galluogi i gwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys:

    • Costau addysgu, am yr ymgais gyntaf ar bob modiwl ar eich rhaglen
    • Profiad gwaith neu leoliad cyfannol sy'n hanfodol i'ch rhaglen astudio
    • Costau teithiau maes sy'n hanfodol i'ch rhaglen astudio
    • Costau arholiadau a chostau mynychu arholiad ar gyfer yr ymgais gyntaf ym mhob asesiad. Fodd bynnag, nid yw hwn yn cynnwys y gost o ail sefyll arholiad, ailasesiad neu ail-wneud y flwyddyn, mae yna ffi am ailasesiadau ac mae Myfyrwyr sy'n Ail-wneud Blwyddyn yn destun i ffi flynyddol ychwanegol.
    • Mynediad i'r llyfrgell ac adnoddau dysgu'r Brifysgol
    • Un copi ym mhob blwyddyn cofrestru academaidd o ddogfennau swyddogol yn ymwneud â'ch statws myfyriwr - yn cynnwys eich cerdyn myfyriwr a dogfennau fel llythyrau sy'n cadarnhau eich statws fel myfyriwr cofrestredig, eich canlyniadau academaidd a, phan fo hynny'n briodol oherwydd eich cyflawniad, trawsgrifiad a/neu dystysgrif . Codir ffi am gopïau neu amnewidiadau pellach.
    • Eich seremoni graddio (os ydych yn gymwys i'w mynychu), a dau docyn gwestai (ond nid y gost o logi gŵn academaidd , sy'n angenrheidiol, neu'r gost o ffotograffau swyddogol dewisol, neu docynnau gwesteion ychwanegol)
  • Beth nad ydi'ch ffioedd dysgu yn talu amdano

    Bydd y costau canlynol yn ychwanegol at eich astudiaethau craidd a bydd angen i chi dalu amdanynt:

    • Copïau personol o lyfrau testun craidd a deunyddiau dysgu a fydd yn eiddo i chi
    • Taliadau argraffu a llungopïo
    • Ffioedd a thaliadau'r llyfrgell ar gyfer benthyciadau rhwng llyfrgelloedd
    • Costau ar gyfer teithiau maes ac ymweliadau sydd yn ddewisol neu sydd wedi eu cynllunio i ychwanegu at eich astudiaethau - cewch wybod am y rhain ymlaen llaw  
    • Costau sy'n gysylltiedig ag astudio neu leoliad dramor
    • Arholiadau a sefir dramor ar eich cais (gan gynnwys tâl gweinyddol)
    • Costau ar gyfer nwyddau traul ac adnoddau cyffredinol yn gysylltiedig ag astudio neu gyfranogiad yn y rhaglen astudio (fel ffioedd stiwdio neu gostau gwisgoedd/prop)
    • Costau cyfarpar ac adnoddau TG y byddwch chi'n berchen arnynt yn bersonol neu'n eu llogi, fel gliniaduron a thabledi
    • Costau sy'n gysylltiedig â theithio i astudio neu i leoliad
    • Llety a chostau byw dydd i ddydd eraill 
    • Taliadau aelodaeth corff proffesiynol lle nad yw aelodaeth yn ofyniad hanfodol ar gyfer astudio ar y cwrs
    • Gwiriadau GDG/iechyd
    • Mynychu cynadleddau neu weithdai allanol
    • Costau Cydnabod Dysgu Blaenorol
    • Ffioedd ar gyfer ailsefyll, ailasesiadau neu ailwneud y flwyddyn.
    • Y gost o logi gŵn academaidd ar gyfer graddio, sy'n angenrheidiol, cost ffotograffau swyddogol dewisol, neu docynnau i westeion ychwanegol
    • Copïau dyblyg neu amnewidiol o'ch cerdyn myfyriwr a dogfennau, fel llythyrau, sy'n cadarnhau eich statws myfyriwr cofrestredig, eich canlyniadau academaidd a, phan fo hynny'n briodol oherwydd eich cyflawniad, drawsgrifiad a/neu dystysgrif.

    Mae'r rhestri uchod yn fynegol ac nid yw'n cynnwys pob eitem, y bwriad yw rhoi cyfarwyddyd ar gostau rhesymol astudio. Caiff wybodaeth a chyfarwyddyd pellach eu rhoi gan eich tiwtor academaidd. 

    ÔL-RADDEDIG Dylai myfyrwyr ymchwil nodi, yn ychwanegol i'r uchod mewn rhai achosion, mae'n bosib na fydd meddalwedd arbenigol neu gyfleusterau eraill sydd eu hangen ar gyfer eu prosiectau ymchwil unigol yn eu lle yn barod, a dylech chi drafod darpariaeth a chyllido'r hyn gyda'ch tîm goruchwylio arfaethedig cyn i chi gofrestru.

  • A fydd yna gyllid ar gyfer myfyrwyr rhan-amser?

    Os ydych yn fyfyriwr rhan-amser newydd, gallwch nawr wneud cais am Fenthyciad Ffi Dysgu gan y llywodraeth i dalu eich ffioedd dysgu. Fel yn achos myfyrwyr llawn amser, dim ond ar ôl tair blynedd a phan fyddwch yn ennill dros £21,000 byddwch chi'n dechrau ad-dalu hwn. Cewch fwy o wybodaeth yma.

  • Sut a phryd byddai'n ad-dalu fy menthyciad?

    Byddwch yn dechrau ad-dalu eich benthyciad y mis Ebrill ar ôl i chi raddio. Er enghraifft, os ydych yn cychwyn ar gwrs tair blynedd yn 2015/16, byddwch yn graddio ym mis Gorffennaf 2018 ac yn dechrau gwneud ad-daliadau ym mis Ebrill 2019 ar yr amod eich bod yn ennill dros £21,000.

    Ond, os ydych yn gorffen neu’n gadael eich cwrs yn gynharach, ni fydd y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn medru cymryd ad-daliadau tan Ebrill 2016. Bydd yr ad-daliadau dim ond yn dechrau ar neu ar ôl y dyddiadau uchod yn dibynnu ar eich cyflog.

    Mae ad-dalu bob amser yn gysylltiedig â chyflog, nid faint yr ydych wedi benthyg. Dim ond pan fydd eich incwm blynyddol yn £21,000 neu fwy y byddwch yn dechrau ad-dalu. Bydd y swm y byddwch yn ei ad-dalu yn 9% o’ch incwm dros £21,000 y flwyddyn.

  • Fydd ad-daliadau fy menthyciad yn effeithio ar fy ngallu i dderbyn morgais?

    Mae'r Cyngor Benthycwyr Morgeisi wedi cynghori ei fod yn 'annhebygol iawn' y bydd yna effaith sylweddol ar allu unigolyn i dderbyn morgais os oes ganddyn nhw fenthyciad myfyrwyr. Efallai bydd swm y morgais fydd ar gael yn dibynnu ar incwm net.

  • Mae fy nghyflogwr, neu sefydliad arall, yn talu fy ffioedd;

    Pryd ydw i'n rhoi gwybod i'r swyddfa ffioedd?

    Mae'n rhaid i chi yrru llythyr noddwr gan eich cyflogwr cyn cofrestru ar-lein er mwyn cofrestru gyda'r Brifysgol. Os bydd eich noddwr dim ond yn talu rhan o'ch ffioedd, bydd rhaid i chi dalu'r gweddill yn llawn neu gofrestru am gynllun rhandaliadau pan rydych yn cofrestru.

  • Ydw i'n gymwys i nodi fy mod i'n byw yng Nghymru?

    Ceir pobl eu hystyried i fod yn byw yng Nghymru at ddibenion cymorth gan Gyllid Myfyrwyr Cymru os oes ganddyn nhw statws preswylydd sefydlog yn y DU ac maent wedi bod yn byw yn y DU am dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs ac maent fel arfer yn byw yng Nghymru ar flwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

    Ceir myfyrwyr o'r DU sy'n symud i Gymru er mwyn astudio eu hystyried fel pobl sy'n preswylio fel arfer o ble (yn y DU) ddeuant nhw oddi wrtho, ni fydd gan y myfyrwyr hyn yr hawl i dderbyn cymorth gan Gyllid Myfyrwyr Cymru.

  • Mae gen i broblemau derbyn cymeradwyaeth am fy menthyciad ffioedd dysgu gan Gyllid Myfyrwyr

    a oes rywun a all fy helpu i?

    Gallwch ymweld â'r adran Cyllid a Lles Myfyrwyr os oes gennych unrhyw ymholiadau am gyllid a ffioedd ble gall ein staff eich helpu chi i edrych ar eich cymhwysedd a'ch helpu i gyfathrebu â Chyllid Myfyrwyr.