Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno pecyn cymorth i fynd i'r afael â'r costau byw sy'n cynyddu ac mae'n caniatáu i fyfyrwyr canolbwyntio ar eu hastudiaethau yn hytrach na phoeni am sut i fforddio angenrheidiau sylfaenol.

Bydd gan bob myfyriwr israddedig o Gymru sy'n gymwys, sydd i fod i ddechrau'r Brifysgol o fis Medi 2018, fynediad at y pecyn cyllid myfyrwyr newydd, sy'n darparu cyfanswm cyfwerth i'r Cyflog Byw Cenedlaethol trwy gymysgedd o grantiau a benthyciadau nad oes rhaid eu had-dalu.

Elfen allweddol o'r pecyn yw ei fod yn cynnig lefel llawer uwch o gymorth i fyfyrwyr sy'n dymuno astudio'n rhan-amser, gan alluogi'r un cyfleoedd i israddedigion llawn amser a rhan-amser.

Y gobaith yw y bydd hyn yn annog myfyrwyr o bob cefndir i fynychu addysg uwch, gan leihau rhwystrau i'r rhai sydd eisoes mewn gwaith llawn amser, yn magu teulu neu gyda chyfrifoldebau gofal.

Pwy sy'n gymwys?

Gall pob myfyriwr israddedig sy'n astudio am y tro cyntaf (boed hynny'n amser llawn neu'n rhan-amser) fod yn gymwys ar gyfer y cymorth ariannol oni bai eich bod yn cychwyn eich astudiaethau o fis Medi 2018 ymlaen. Mae croeso i fyfyrwyr o Gymru wneud cais ble bynnag maent yn mynd i astudio yn y DU.

Beth rydych â hawl derbyn?

Bydd pob myfyriwr o Gymru sy'n studio ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam yn gymwys am uchafswm o £9,810, a ddarperir trwy gymysgedd o grantiau a benthyciadau. Bydd israddedigion rhan-amser yn derbyn cymorth cyfatebol, ar sail pro-rata yn seiliedig ar ddwysedd y cwrs.

Gall pob myfyriwr cymwys hawlio grant isafswm o £1,000 gan y llywodraeth. Nid oes prawf modd yn y rhan hon o'r grant felly ni fydd yn rhaid ei dalu'n ôl, beth bynnag ydi incwm eich cartref.

Mae'r gyfran ychwanegol o gyllid yn destun i brawf modd er mwyn cefnogi'r myfyrwyr hynny sydd â'r angen mwyaf am gymorth ariannol. Os ydych chi'n dod o gartref incwm isel, byddwch yn derbyn y lefel uchaf o grant. Bydd uchafswm y benthyciad yn dibynnu ar faint o grant rydych yn gymwys i dderbyn. 

Bydd y symiau hefyd yn dibynnu ar a ydych chi'n byw i ffwrdd neu yn teithio o'r cartref.

Byw i ffwrdd o gartref
Incwm cartref Grant  Benthyciad Cyfanswm
Hyd at £18,370 £8,100 £1,710 £9,810
£20,000 £7,817 £1,993 £9,810
£25,000 £6,947 £2,863 £9,810
£30,000 £6,078 £3,732 £9,810
£35,000 £5,208 £4,602 £9,810
£40,000 £4,339 £5,471 £9,810
£45,000 £3,469 £6,341 £9,810
£50,000 £2,600 £7,210 £9,810
£55,000 £1,730 £8,080 £9,810
£59,200 neu uwch £1,000 £8,810 £9,810

 

 

Teithio o gartref
Incwm cartref Grant  Benthyciad Cyfanswm
Hyd at £18,370 £6,885 £1,450 £8,335
£20,000 £6,651 £1,684 £8,335
£25,000 £5,930 £2,405 £8,335
£30,000 £5,209 £3,126 £8,335
£35,000 £4,488 £3,847 £8,335
£40,000 £3,767 £4,568 £8,335
£45,000 £3,047 £5,288 £8,335
£50,000 £2,326 £6,009 £8,335
£55,000 £1,605 £6,730 £8,335
£59,200 neu uwch £1,000 £7,335 £8,335

Mae'r pecyn cymorth yma yn wahanol i fenthyciad ffioedd dysgu - gallwch dal ymgeisio am hwn yn y ffordd arferol, os ydi'n berthnasol.

Ydi'r bethyciad yr un peth â bethyciad ffioedd dysgu?

Mae'r benthyciadau sydd ar gael i fyfyrwyr o Gymru o 2018 wedi'u cynllunio i'ch helpu chi gyda chostau byw fel costau llety, teithio a chostau eraill.

Fodd bynnag, mae'r ffordd ceir yr arian ei ad-dalu'n debyg i fenthyciadau ffioedd dysgu. Ni fydd angen i chi dalu unrhyw beth yn ôl nes i chi raddio o'r brifysgol a dim ond pan fyddwch wedi cyrraedd isafswm y trothwy incwm.

Sut allai wneud cais?

Gall myfyrwyr o Gymru sy'n dymuno gwneud cais am y pecyn cymorth ariannol hwn wneud hynny trwy wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru. 

Mae gwneud cais am gyllid myfyrwyr yn syml ac fe'i gwneir yn uniongyrchol trwy wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Gwiliwch

Gwyliwch y fideo isod gan Gyllid Myfyrwyr Cymru sy'n esbonio'r pecyn cymorth newydd - mae yna lawer o fideos eraill ar y sianel a fydd yn eich helpu gyda'ch cais hefyd.