Beth sydd gen i'r hawl i?

Myfyrwyr Cymraeg

Mae myfyrwyr o Gymru sy'n cofrestru ar radd Meistr sy'n cychwyn ym Medi 2022 yn gymwys ar gyfer hyd at £18,430 mewn cymysgedd o fenthyciadau a grantiau.

Mae benthyciad heb brawf modd ar gael i bob myfyriwr cymwys. Bydd swm y benthyciad yn gyfartal i'r holl gefnogaeth (£18,430) tynnu'r grant mae myfyriwr yn gymwys amdano.

Gall myfyrwyr sydd yn cychwyn cwrs llawn amser neu ran-amser, unrhyw le yn y DU ar neu ar ôl Awst 1, 2022, wneud cais am y benthyciad.

I fod yn gymwys rhaid i chi fod:

  • Yn astudio am radd meistr a addysgir
  • O dan 60 oed ar gychwyn blwyddyn academaidd gyntaf eich cwrs
  • Fel arfer yn byw yng Nghymru
  • Yn astudio mewn prifysgol neu goleg yn y DU, neu drwy ddysgu o bell

Gallwch ddarganfod mwy drwy wylio'r fideo yma gan Gyllid Myfyrwyr Cymru.

Mwy o wynodaeth i Fyfyrwyr Cymraeg

Myfyrwyr o Loegr

I fod yn gymwys am fenthyciad, mae rhaid eich bod chi:

  • Yn astudio am radd meistr a addysgir
  • O dan 60 oed ar gychwyn blwyddyn academaidd gyntaf eich cwrs
  • Fel arfer yn byw yn Lloegr
  • Yn astudio mewn prifysgol neu goleg yn y DU, neu drwy ddysgu o hirbell

Mwy o wybodaeth ar gyfer Myfyrwyr o Loegr

I wirio os allwch chi dderbyn cyllid myfyriwr ar gyfer eich cwrs yma ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam, cysylltwch â'n tîm ffioedd a chyllid myfyrwyr.

Am fwy o wybodaeth ar ein rhaglenni ôl-raddedig, gwelwch ein hadran cyrsiau ôl-raddedig neu dewch i un o'n nosweithiau agored ôl-raddedig.

Cynllun Bwrsariaeth Cymhelliant Gradd Meistr a Addysgir Cymreig

Mae dau fath o fwrsariaeth ar gael:

  • Bwrsariaethau gwerth £2,000 i fyfyrwyr sy’n astudio pwnc STEMM
  • Bwrsariaethau gwerth £4,000 i unrhyw un 60 oed neu drosodd sy'n astudio rhaglen meistr mewn unrhyw faes pwnc.
  • Mae bwrsariaethau ar gael i ymgeiswyr sy'n gwneud cais i raglenni astudio amser llawn (blwyddyn fel arfer) a rhan-amser (dwy flynedd fel arfer).
  • Lle mae myfyrwyr yn astudio cwrs rhan-amser, defnyddir y fwrsariaeth dros ddwy flynedd o astudio.
  • Nid yw’r bwrsariaethau yn seiliedig ar brawf modd h.y. ni fyddant yn dibynnu ar incwm teulu ymgeisydd.

Nid yw myfyrwyr sy'n derbyn cyllid bwrsariaeth Addysg Iechyd a Gwella Cymru, bwrsariaeth y GIG a bwrsariaeth Gofal Cymdeithasol yn gymwys ar gyfer y cynlluniau.

Myfyrwyr STEMM

  • Gall myfyrwyr o unrhyw oedran sy’n byw yng Nghymru yn 2022/23 dderbyn £2,000 i astudio gradd meistr mewn unrhyw bwnc gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg neu feddygaeth (STEMM). Gwnewch gais nawr trwy'r ffurflen hon.

Myfyrwyr 60 oed a hŷn

Bydd myfyrwyr cymwys yn derbyn hysbysiad o hawl i fwrsariaeth erbyn diwedd mis Hydref 2022, a bydd bwrsariaethau a ddyfernir i gyfrannu at gostau sy'n gysylltiedig â'u rhaglenni astudio.

Os nad ydych yn siŵr a ydych yn gymwys neu os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â'r Tîm Ariannu Myfyrwyr a Chyngor Ariannol am ragor o wybodaeth.

E-bost: funding@glyndwr.ac.uk

Ffôn: 01978 293295

Ysgoloriaeth Ôl-raddedig i Gynfyfyrwyr PGW

Mae'r Brifysgol yn cynnig cynllun ysgoloriaeth Ôl-raddedig i Gynfyfyrwyr ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig a addysgir ym mlwyddyn academaidd 2022/23.

I fod yn gymwys ar gyfer yr ysgoloriaeth, mae gofyn bod y darpar fyfyriwr gwrdd â'r gofynion mynediad ar gyfer y rhaglen astudio ôl-raddedig o'u dewis ac yn derbyn cynnig diamod ar gyfer mynediad i'r rhaglen honno, i fod wedi derbyn y cynnig hwnnw'n gadarn ac i fod wedi bodloni'r holl ofynion mynediad. 

Mae'r hepgor-ffioedd canlynol ar gael i raddedigion Prifysgol Glyndwr Wrecsam sydd am ymgymryd â rhaglen gradd a addysgir llawn-amser neu ran-amser ym Mhrifysgol Glyndwr Wrecsam.

  • 20% ar gyfer graddedigion sydd wedi cael gradd dosbrth cyntaf
  • 20% ar gyfer graddedigion sydd â 2:1
  • 20% ar gyfer graddedigion sydd â 2:2

DS: Nid yw hyn yn berthnasol i fyfyrwyr sy'n astudio mewn sefydliadau Rhyddfraint neu bartnerol

Sut i wneud cais: Bydd ymgeiswyr sy'n bodloni'r meini prawf Ysgoloriaeth Ôl-raddedig i Gynfyfyrwyr ac sydd wedi derbyn cynnig lle amodol neu ddi-amod ar raglen astudio ôl-raddedig yn derbyn yr ysgoloriaeth i gynfyfyrwyr yn otomatig ar ôl cofrestru. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y broses, cysylltwch â admissions@glyndwr.ac.uk.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Gorffennaf 31 2022

Mae telerau ac amodau yn berthnasol, gweler Rheoliadau Ysgoloriaethau Ôl-raddedig am ragor o wybodaeth.

Ariannu amgen ar gyfer cyrsiau Ôl-raddedig

Nawdd cyflogwyr

Mae llawer o raddedigion yn cychwyn astudiaethau ôl-raddedig yn syth ar ôl cwblhau eu gradd gyntaf. Ond mae hefyd yn bosib dewis gohirio'ch astudiaethau pellach i ddyddiad diweddarach - fel hyn efallai y byddwch hyd yn oed yn ddigon ffodus i weithio i gyflogwr sy'n gallu talu - neu o leiaf ariannu'ch cwrs yn rhannol, yn enwedig os yw'r cwrs yn berthnasol i'ch dilyniant gyrfaol.

Gall cwrs ôl-raddedig a noddir gan gyflogwr fod yn drefniant delfrydol - cewch gyfle i dderbyn cymhwyster a fydd yn gwella'ch gallu i wneud eich swydd ac a fydd yn helaethu'ch rhagolygon gyrfaol, a bydd eich cyflogwr yn elwa gyda gweithiwr â chymwysterau gwell, sy'n fwy cynhyrchiol a gyda mwy o gymhelliant.

Pethau allweddol i gytuno â'ch cyflogwr:

  • Sut caiff y ffioedd eu talu (a fyddwch chi'n gyfrifol am unrhyw un o'r costau?)
  • Pwy fydd yn talu am eich deunyddiau astudio?
  • Amser i ffwrdd ar gyfer dosbarthiadau, adolygu ac arholiadau
  • A cheir yr amser i ffwrdd hwn yn ei ddidynnu o'ch lwfans gwyliau?
  • A gewch chi eich rhwymo i gytundeb. Os felly, pa mor hir ydyw?