Elusennau ac Ymddiriedolaethau Addysgol

Mae gan elusennau ac ymddiriedolaethau addysgol gylchoedd gorchwyl penodol ac anarferol yn aml. Efallai bydd ganddynt gyfyngiadau i helpu, er enghraifft, dim ond myfyrwyr sydd ar gyrsiau penodol o astudiaeth, sydd yn hŷn neu iau na oedran penodol (yn aml 21 neu 25), o rannau penodol o Brydain neu wledydd y byd, neu mewn galwedigaethau, proffesiynau neu ddiwydiannau penodol.

Mae dod o hyd i gymorth yn anoddach os ydych yn ôl-raddedig neu yn cymryd ail gwrs israddedig. Mae ceisiadau'n aml yn cymryd ychydig o amser i brosesu, felly mae'n ddoeth gwneud cais am gymorth ymhell cyn dyddiad cychwyn y cwrs.

Fel arfer, nid yw myfyrwyr yn derbyn mwy na £300 - £500 gan unrhyw elusen. Yn gyffredinol, mae elusennau'n gwneud taliadau unigol yn hytrach na thaliadau rheolaidd.

Mae taliadau'n dueddol o fod ar gyfer eitemau penodol, e.e. offer neu declynnau, neu at ddiben penodol, e.e. gofal plant, neu daliadau y mae'r elusen neu'r ymddiriedolaeth yn credu a all wneud y gwahaniaeth rhwng cwblhau a methu â chwblhau i'r myfyriwr dan sylw.

Mae elusennau yn fwy cydymdeimladol i fyfyrwyr ble mae hangen am gymorth yn deillio o salwch neu amgylchiadau annisgwyl, ac mae nifer o elusennau ond yn rhoi cymorth i fyfyrwyr am y tro cyntaf.

Canllaw Amgen i Gyllido (AGO)

Mae'r Canllaw Amgen i Gyllido Ôl-raddedig Ar-lein yn ymwneud â ffynonellau amgen o gyllido - yn enwedig elusennau - a all wneud dyfarniadau (ffioedd, cynhaliaeth, costau ymchwil) i unrhyw fyfyriwr mewn unrhyw bwnc, neu o unrhyw genedligrwydd.

Mae'r Canllaw Amgen Ar-lein yn cynnwys cronfa ddata enfawr o gyfleoedd cyllido, arweiniad cynhwysfawr, a llawer o bethau a all eich helpu i ennill cais grant. Mae Prifysgol Glyndŵr wedi prynu trwydded i'r Canllaw, ac fell mae am ddim i fyfyrwyr a staff i ddefnyddio! Cofrestrwch yma.

Os ydych yn darpar fyfyriwr (h.y. rydych yn chwilio am gyrsiau yng Nglyndŵr ond heb gofrestru eto) a hoffwch chi ddefnyddio'r Canllaw Amgen, yna gyrrwch e-bost i ago@glyndwr.ac.uk am rif PIN i gyrchu.

Mwy o opsiynau cyllido

Canllaw Cyllid Prospects

Gallwch ddod o hyd i gopi am ddim o Ganllaw Cyllid Ôl-raddedig Prospects gan eich Gwasanaeth Gyrfaoedd agosaf, neu allwch fynd i "gyllido fy astudiaeth pellach" drwy fynd i https://www.prospects.ac.uk/postgraduate-study/funding-postgraduate-study

Cynghorau Ymchwil

Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol

Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol

Cyngor Ymchwil Meddygol

Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol

Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol

Cyngor Ymchwil Peirianneg a Gwyddorau Ffisegol

Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau

Darllen Pellach

Efallai bod gan eich llyfrgell gyhoeddus leol neu'ch sefydliad gopïau o gyhoeddiadau sy'n cynnig manylion am ymddiriedaethau, elusennau a ffynonellau cyllid eraill. Mae'r rhain yn cynnwys: 

  • Y Cyfeiriadur Grantiau Addysgol, Cyfeiriadur Newid Cymdeithasol (DSC) 
  • Canllaw i Grantiau i Unigolion mewn Angen, DSC
  • Cyfeiriadur Ymddiriedolaethau sy'n Gwneud Grantiau, DSC

Mae cyhoeddiadau a sefydliadau defnyddiol eraill yn cynnwys: 

Gwasanaeth Cynghori Grantiau Addysgol
Ffôn: 020 7254 6251
Web: www.egas-online.org.uk  

Cyfeiriadur Newid Cymdeithasol
Ffôn: 020 7391 4800
Gwe: www.dsc.org.uk  

The Grants Register, Palgrave Macmillan
Gwe: www.palgrave.com
Mae hyn yn arbennig o berthnasol i ddyfarniadau myfyrwyr ôl-raddedig ar gyfer y DU a thramor.

Study Abroad, UNESCO
Gwe: www.unesco.org  

Scholarships for Study in the USA and Canada, Peterson’s
Gwe: www.petersons.com

British and International Music Yearbook, Rhinegold
Gwe: www.rhinegold.co.uk

Cyllid i Fyfyrwyr Ôl-raddedig
Gwe:  www.postgraduatestudentships.co.uk