Os nad ydych yn cyllido'ch astudiaethau drwy benthyciadau myfyriwr a/neu bwrsariaethau, mae yna wybodaeth isod ar sut i dalu'ch ffioedd dysgu:

Pwyntiau allweddol ar sut i dalu:

  • Mae'n rhaid bod gennych chi eich rhif Adnabod Myfyriwr a'ch manylion banc myfyiwr ar gyfer pob opsiwn talu.
  • Nid ydym, bellach, yn derbyn taliadau arian parod.
  • Rydym yn derbyn Cardiau debyd (Visa, MasterCard, Maestro, Delta, Solo a VISA Electron), Cardiau credyd (VISA a MasterCard yn unig) a sieciau Sterling.
  • Os ydych chi ar raglen Meistr rhan amser ar-lein, peidiwch â gwneud taliad trwy'r Siop Ar-lein neu Flywire. Mewngofnodwch i E:Vision i wneud taliad.
Myfyrwyr sydd yn talu trwy ddefnyddio cyfrif banc neu gerdyn y DU  Myfyrwyr yn talu trwy ddefnyddio cyfrif banc neu gerdyn nad yw o’r DU (gan gynnwys yr UE)

Opsiwn 1 (ein ffordd ffafriol o dalu): Ar-lein

Y ffordd fwyaf effeithlon a diogel i dalu yw ar-lein drwy'r Siop Ar-lein 

Opsiwn 1 (ein ffordd ffafriol o dalu): Flywire

Gwyddom geir ein myfyrwyr rhyngwladol yn aml eu dal allan gan ffioedd trosglwyddo blinderus wrth dalu eu ffioedd dysgu. Dyna pam y gwnaethom ni ymuno â system ar-lein Flywire i'w gwneud yn haws ac yn rhatach i chi dalu eich ffioedd a'ch llety myfyrwyr.

Gallwch wneud taliad cerdyn neu daliad trosglwyddiad banc drwy Flywire.

Talwch eich ffioedd ar-lein gan ddefnyddio Flywire

I gael gwybodaeth am sut i ddefnyddio Flywire, ewch i'n Cwestiynau Cyffredin Cyllid.

Os na allwch dalu trwy Flywire, cysylltwch â ni yn Centurus, neu e-bostiwch international@wrexham.ac.uk, gan ddyfynnu eich cyfeirnod Centurus. 

Opsiwn 2: Taliad ar-lein gyda cherdyn (ar gyfer myfyrwyr cartref yn unig)

Cliciwch yma i dalu ar-lein 

 

 
Os oes angen ichi newid manylion eich cerdyn credyd/debyd, gallwch wneud hynny ar ein system taliadau ar-lein.

Pwyntiau allweddol ar bryd i dalu:

  • Talwch y ffi cyfan, neu os yw'r ffi'n fwy na £1,000, yna talwch mewn tri rhandaliad fel a ganlyn:
    • Taliad cyntaf erbyn Hydref 31
    • Ail daliad erbyn Ionawr 31
    • Trydydd taliad erbyn Ebrill 30
  • Bydd ffioedd ar gyfer cyrsiau sydd â dyddiadau cychwyn amrywiol, gan gynnwys rhaglenni Ôl-raddedig, yn destun i ddyddiadau gwahanol a byddwch yn derbyn manylion am hyn cyn y dyddiad cofrestru.
  • NID YW'r dyddiadau hyn yn berthnasol i fyfyrwyr Rhyngwladol. Dylai myfyrwyr gyfeirio at eu llythyr cynnig/Rheoliadau Ffioedd Dysgu Rhyngwladol.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â'r tîm cyfrifon derbyniadwy ar 01978 293936 neu gyrrwch e-bost i accountsreceivable@wrexham.ac.uk

Am gyngor cyllid myfyrwyr, cysylltwch a funding@wrexham.ac.uk

Polisi Casglu ac Adennill Dyledion