Graddio 2024

Bydd graddio yn digwydd ar ein campws yn Wrecsam dros dridiau, dydd Mercher, Mai 29 – dydd Gwener, 31 Mai.    

Bydd yr achlysur hwn yn cynnwys seremoni ffurfiol lle byddwch yn cerdded ar draws y llwyfan yn Neuadd William Aston i ysgwyd llaw â'r Is-ganghellor. Dilynir hyn gan ddathliad ar ffurf gŵyl, a fydd yn cynnig lle y tu allan i graduands a'u teuluoedd i ymlacio a chymysgu â'i gilydd. Bydd adloniant byw, gemau awyr agored, amrywiaeth o gyfleoedd tynnu lluniau gwahanol, dewis eang o stondinau bwyd, bar a llawer mwy i chi eu mwynhau 

Cliciwch yma i weld yr uchafbwyntiau o ddathliadau'r llynedd.

Os ydych chi'n fyfyriwr rhyngwladol, rhaid i chi gael caniatâd dilys i fod yn y DU i fynychu eich seremoni. Os yw eich fisa myfyriwr i fod i ddod i ben cyn y seremoni, bydd angen i chi wneud cais am fisa ymwelydd. Gweler Cwestiynau Cyffredin isod am fwy o wybodaeth. 

Content Accordions

Gwybodaeth Deithio

Cynhelir y seremoni yng Nghampws Plas Coch y Brifysgol yn Wrecsam yn Neuadd William Aston.

Prifysgol Glyndŵr, Campws Plas Coch, Ffordd yr Wyddgrug, Wrecsam, LL11 2AW

Teithio mewn car – Bydd nifer gyfyngedig o lefydd parcio ar y safle yn ystod y Seremonïau Graddio ond bydd rhywfaint o lefydd parcio ar gael i’r rheiny sydd angen cymorth arbennig. Siaradwch gya stiward parcio ar ôl cyrraedd os oes angen cymorth arbennig arnoch.

Teithio ar drên – yr orsaf agosaf at gampws y Brifysgol yw Gorsaf Ganolog Wrecsam sydd oddeutu 5-10 munud ar droed o’r campws.

Gwestai – Mae gwestai gerllaw yn cynnwys:

  • Gwesty Premier Inn Canol Tref Wrecsam
  • Gwesty Ramada Wrecsam

Mae’r ddau westy yma yn ddim ond 5-10 munud ar droed o gampws y Brifysgol.

Rhowch Lyfrau Fel Rhodd!

Wrth i chi ddychwelyd i’r campws ar gyfer eich Seremoni Raddio hoffem hefyd groeaswu dychwelyd unrhyw lyfrau llyfrgell a allai fod gennych o hyd. Ni waeth pa mor hwyr ydynt, byddwn yn hapus i’w gweld yn cael eu dychwelyd. Bydd dirwyon yn cael eu hepgor ar lyfrau a ddychwelir a gellir eu gadael yn y mannau gollwng mewn gwahanol leoliadau neu eu rhoi i Farsial ar y diwrnod. 

Tystysgrifau Graddio

Nodwch y caiff eich tystysgrif ei hanfon atoch trwy’r post yn y misoedd sy’n dilyn gan y bwrdd dyfarnu a gadarnhaodd eich dyfarniad.

Os oedd eich man astudio yn y DU, neu eich bod yn fyfyriwr PG Ar-lein, anfonir y dystysgrif at y cyfeiriad ‘cartref’ sydd gennym ar ein ffeil ar hyn o bryd.

Os oeddech wedi astudio yn un o’n sefydliadau partner y tu allan i’r DU, anfonir eich tystysgrif i swyddfa ganolog eich Prifysgol, a’ch Prifysgol fydd yn gyfrifol am drefniadau anfon/casglu eich tystysgrif. Ar ôl anfon tystysgrifau, gall gymryd hyd at fis i’w danfon trwy’r Post Brenhinol, ar gyfer myfyrwyr yn y DU, a hyd at ddau fis i’w danfon trwy wasanaethau cludo post rhyngwladol i fyfyrwyr y tu allan i’r DU.

Manylion cyswllt myfyrwyr

A wnewch chi sicrhau fod gennym y manylion cyswllt cywir ar eich cyfer fel myfyriwr, gan gynnwys cyfeiriad cartref, e-bost personol a rhif ffôn symudol. Gwiriwch eich manylion cyswllt yma.

  • Mewngofnodwch i myuni.wrexham.ac.uk
  • Dewiswch ‘Cofnod Myfyriwr’
  • Mewgofnodwch i borth e:Vision gan ddefnyddio eich enw defnyddiwr a chyfrinair myfyriwr
  • Dewiswch ‘gwybodaeth bersonol’ o’r bar llywio ar frig y dudalen, ac yna gallwch weld eich ‘Manylion Personol’ a’ch ‘Manylion Cyswllt’
  • Fe welwch opsiwn i ddiweddaru eich manylion islaw pob adran

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau yn ymwneud â Graddio, danfonwch e-bost i: graduation@wrexham.ac.uk

Gwobrau i Fyfyrwyr

Pob blwyddyn mae Prifysgol Wrecsam yn cydnabod llwyddiannau ei myfyrwyr drwy gyfres o wobrau.

Mae gwobrau yn adlewyrchu gwaith eithriadol, o lefel gradd sylfaen i PhD, ar draws ystod lawn portffolio academaidd y brifysgol.

Mae gwerth ariannol i rai gwobrau, ac maent oll yn adlewyrchu ymrwymiad Prifysgol Wrecsam i adnabod gwaith caled a lefelau uchel o gyflawniad ymysg ein myfyrwyr.

Darganfod mwy am ein gwobrau myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr.