
Gyrfaeoedd
Profiad, adnoddau, a chyfleoedd i'ch helpu i wneud eich penderfyniadau gyrfaol a'ch cefnogi i ennill profiad sy'n ofynnol i gyflawni eich potensial.
Mae'r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd wedi ei ddylunio i ddarparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad diduedd a phroffesiynol i ddarpar fyfyrwyr, myfyrwyr cyfredol a graddedigion. Mae hefyd yn gweithio â chyflogwyr i hyrwyddo eu swyddi gwag a chyfleoedd gwirfoddoli.
P'un a ydych yn chwilio am waith rhan-amser wrth i chi astudio, cyfle i wirfoddoli yn ystod gwyliau neu swydd ar lefel raddedig wedi i chi gwblhau eich cwrs - bydd ein tîm yno i'ch cefnogi pob cam o'r ffordd.

Sgiliau i fynd a chi'n bellach
Ennill profiad ymarferol yn eich maes pwnc a thu hwnt.

Beth mae'n fyfyrwyryn ei feddwl
Unwaith y byddwch wedi graddio o Brifysgol Glyndŵr Wrecsam, nid yw ein cymorth yn dod i ben. Fel un o'n graddedigion, gallwch barhau i ddefnyddio'r holl gymorth a chyfarwyddyd gyrfaol a oedd gennych yn fyfyriwr gyda ni.
Rydym yma i'ch cefnogi i gael swydd neu astudio ymhellach. Mae ein holl adnoddau wrth law i'ch helpu o roi cyngor gyda gwneud cais a chael cyfweliad i gyfarwyddyd ar eich camau nesaf. Gallwch barhau i gael cymorth drwy ein System Fewngofnodi i Gyn-fyfyrwyr WGUconnect.