Mae Gwella Entrepreneuriaeth yn rhoi amrywiaeth o gyfleoedd i fyfyrwyr a graddedigion Prifysgol Wrecsam helpu i ddatblygu eu sgiliau menter neu eu cefnogi i ddechrau busnes newydd. P'un a oes gennych ddiddordeb mewn dechrau busnes, llawrydd neu fod yn feistr arnoch eich hun, mae'r tîm gwella entrepreneuriaeth yma i helpu.

Digwyddiadau

Rydym yn cynnig digwyddiadau drwy gydol y flwyddyn wedi'u trefnu'n fewnol ac ar y cyd â phartneriaid allanol.  Mae'r digwyddiadau'n amrywio o sesiynau byr un awr i gynadleddau diwrnod llawn ac maent yn cynnwys pynciau sydd o ddiddordeb i'r rhai ar bob cam o hunangyflogaeth neu ddim ond yn awyddus i ddatblygu eu sgiliau entrepreneuraidd.  Er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf am ein digwyddiadau diweddaraf dilynwch ni ar Facebook a/neu Twitter, neu cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr drwy glicio yma.

Cymorth un-i-un

Gall myfyrwyr a graddedigion gael mynediad at gymorth cychwyn busnes un i un er mwyn helpu i ddatblygu syniadau, trafod camau a chyllid posibl ar gyfer hunangyflogaeth, neu drafod sut i ddatblygu busnes sy'n bodoli eisoes.

Mae hwn yn wasanaeth y gellir ei archebu ar ddyddiadau penodol drwy gydol y flwyddyn.  Cysylltwch â enhance@glyndwr.ac.uk i drefnu eich cyfarfod.

Mentora busnes parhaus

I ddilyn y cyfarfodydd un-i-un, mae gennym nifer o weithwyr proffesiynol lleol hefyd, rhai ohonynt yn fyfyrwyr blaenorol o'r Wrecsam, sydd wedi cytuno'n garedig i fod ar restr o fentoriaid busnes ar gyfer myfyrwyr a graddedigion Wrecsam.

I gofrestru eich diddordeb yn y gwasanaeth hwn ebostiwch enhance@glyndwr.ac.uk

Gofod busnes

Drwy ein gwasanaeth Rydym hefyd yn cynnig man cychwyn busnes hyblyg i fyfyrwyr a graddedigion i redeg eu busnesau. 

Lolfa fenter - Cynnig swyddfeydd fforddiadwy i'w rhannu ar y prif gampws, delfrydol ar gyfer busnesau yn y cyfnod cynnar gyda phrisiau desgiau'n dechrau o ddim ond £12 yr wythnos

Tŷ'r prifathro - Mannau Swyddfa unigol a hyblyg ar gampws Regent Street. Mae'r cyfleusterau'n cynnwys ystafelloedd cyfarfod/hyfforddi ar y cyd a chegin a rennir.  Delfrydol ar gyfer busnesau newydd sy'n dymuno tyfu.

Gwobrau Gwella Entrprenuriaeth 

Nod y Gwobrau Gwella Entrprenuriaeth yw arddangos y doniau entrepreneuraidd yn y rhanbarth, gyda gwobrau amrywiol ar gael i ddathlu llwyddiant busnesau arloesol!

Categorïau'r Gwobrau:

  • Busness newydd gorau
  • Menter gymdeithasol orau
  • Rhwydweithiwr gorau
  • Busnes myfyriwr/graddedig gorau
  • Entrepreneur corfforaethol gorau
  • Entrepreneur ifanc y flwyddyn

Dadlwythwch y Gwobrau Gwella Entreprenuriaeth Ffurflen Gais.

Adroddiad Effaith Prosiect 2021

Cyswllt

Ebost: enhance@glyndwr.ac.uk

Twitter: @WGUEnhance

Cofrestrwch ar gyfer ein Cylchlythyr cliciwch yma