Ceisiadau am Eirdaon Cyflogaeth

Cyn-fyfyrwyr/Myfyrwyr presennol

A ydych chi angen geirda ar gyfer swydd newydd, lle mewn Prifysgol neu unrhyw beth arall sy'n gofyn am wybodaeth ar eich sgiliau ac addasrwydd?

Cysylltwch ag aelod staff perthnasol o'ch astudiaethau, megis eich Arweinydd Rhaglen, Arweinydd Modiwl neu Diwtor Personol. Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt drwy nodi eu henw yn y blwch chwilio ar wefan Prifysgol, neu chwilio am eich cwrs a tharo golwg ar adran "Cwrdd â'r staff". Byddwch angen gofyn i'r aelod staff a ydynt yn fodlon, ac a ydynt yn gallu darparu geirda ansoddol, a dweud wrth bwy, ac ar gyfer beth mae'r geirda. Cofiwch y bydd staff Academaidd angen ystyried eu llwyth gwaith eu hunain, a gall gymryd hyd at bythefnos i ddarparu geirda (os ydynt yn gallu gwneud hynny). Noder, nid oes rheidrwydd ar staff academaidd i gwblhau ceisiadau am eirda.

Noder: Nid ydym yn gallu darparu geirda ansoddol ar eich cyfer os ydych yn gyn-fyfyriwr o NEWI neu Brifysgol Glyndŵr Llundain (GUL), ac nad yw eich darlithwyr yn cael eu cyflogi yn y Brifysgol mwyach, neu nad yw eich cwrs yn rhedeg yno bellach.

Ydych chi angen prynu dogfennau newydd?

Gellir prynu trawsgrifiadau a llythyrau cadarnhau yma.

Gellir prynu Tystysgrifau Newydd yma.

Cyflogwyr/Asiantaethau/Llysgenadaethau

A ydych chi angen geirda ansoddol ar gyfer cyn-fyfyriwr neu fyfyriwr presennol, er enghraifft, gwybodaeth ar absenoldeb a sgiliau?

Ar gyfer gwiriadau ansoddol, sy'n gofyn am eirda cymeriad personol, dylai myfyrwyr presennol neu gyn-fyfyrwyr gysylltu ag aelod priodol o staff proffesiynol neu academaidd yn gyntaf i ofyn am ganiatâd, cyn i unrhyw ddogfennaeth gael ei hanfon gan drydydd parti. At ddibenion GDPR, bydd hefyd yn ofynnol i fyfyrwyr ddarparu caniatâd ysgrifenedig sy'n caniatáu i'r Brifysgol ryddhau gwybodaeth i drydydd parti. Trafodwch gyda'r myfyriwr yn y lle cyntaf, er mwyn dod o hyd i aelod staff addas y gallant gysylltu â nhw i wneud y cais hwn.

Ydych chi angen dilysu gwybodaeth feintiol ar broffil y myfyriwr, er enghraifft, dyddiadau ymgofrestru, enw'r cwrs, cyflawniadau?

Y mecanwaith cywir i ddilysu dyfarniadau Prifysgol Wrecsam yw Hedd (Gwiriad Data Gradd Addysg Uwch), gwasanaeth dilysu ar-lein ar gyfer cyflogwyr ac asiantaethau. Noder fod y gwasanaeth hwn ar gyfer trydydd partïon yn unig. Mae'r gwasanaeth gwirio ymgeiswyr ar-lein yn caniatáu i ymholwyr sydd wedi eu cofrestru mewnbynnu data a ddarperir gan ymgeiswyr (enw, dyddiad geni, sefydliad, blwyddyn graddio, dosbarth cymhwyster etc). I wneud ymholiad mae'n rhaid i chi gofrestru gyda Hedd drwy ymweld â www.hedd.ac.uk. Dewiswch Brifysgol Glyndŵr Wrecsam o'r rhestr o sefydliadau addysg uwch yn y DU a dewiswch yr opsiwn i 'ddilysu dyfarniad gradd'. Mae cost o £12 am bob ymholiad. Yn ogystal, bydd gofyn i chi lanlwytho ffurflen ganiatâd. Os yw'r wybodaeth a gyflwynir yn cyfateb yn union â'r wybodaeth a ddelir o fewn cofnod y myfyriwr, bydd eich ymholiad yn cael ei wirio'n awtomatig. Os nad yw'r wybodaeth yn cyfateb â'r holl feysydd, bydd yr ymholiad yn mynd at y tîm yma i'w wirio gyda llaw, gan gymryd hyd at bum diwrnod i'w gwblhau. Os oes gennych unrhyw broblemau neu ymholiadau, cysylltwch â heddhelp@prospects.ac.uk, gan nodi eich rhif ffôn os hoffwch dderbyn galwad yn ôl.

A oes gennych dystysgrif neu drawsgrifiad sydd angen ei ddilysu?

Anfonwch y dystysgrif, trawsgrifiad a chaniatâd y myfyriwr drwy e-bost at employmentreferences@glyndwr.ac.uk 

Ar gyfer unrhyw ymholiadau cyffredinol ynghylch geirdaon cyflogaeth, e-bostiwch employmentreferences@glyndwr.ac.uk 

Gallwch weld ein Polisi ar Ddarparu Cyfeiriadau i Fyfyrwyr yma.