Hygyrchedd
Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn ymrwymo i sicrhau fod ei wefan yn hygyrch i'r gynulleidfa ehangaf posib, gan gynnwys defnyddwyr gydag anableddau.
Mae'r Brifysgol yn y broses o sicrhau fod ei dudalennau yn cydymffurfio â'r safonau AA o fersiwn o Ganllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (CHCW) a argymhellir gan W3C. Mae'r Brifysgol yn cydnabod bod hyn yn waith rhagweledol a pharhaus ar ei hanner ac, er mwyn sicrhau nad oes unrhyw ddefnyddiwr dan anfantais tra bod y gwaith yma'n mynd ymlaen, mae'r Brifysgol yn bwriadu ymateb i bob cais am gymorth gyda hygyrchedd unai drwy newid y cynnwys angenrheidiol cyn gynted a sy'n bosib, neu, os dymunwyd, drwy ddarparu'r wybodaeth mewn ffurf arall o fewn ffrâm amser rhesymol.
Bydd y Brifysgol yn gwneud newidiadau rhesymol er mwyn sicrhau cyrraedd anghenion penodol unigol ni all newidiadau prif ffrwd eu gafael. Cysylltwch webeditor@glyndwr.ac.uk am gymorth â hyn.
Newid gosodiadau yn eich porwr
Newid maint testun
Drwy ddefnyddio gosodiadau eich porwr gallwch wneud y testun ar y gwefan hwn yn fwy neu'n llai.
Internet Explorer
- Cliciwch "View" i agor y ddewislen "View" neu pwyswch "Alt" a "V"
- Dewiswch yr opsiwn "Main Testun" neu dewiswch drwy bwyso "X"
- Dewiswch eich main testun dewisol drwy ddefnyddio eich llygoden neu defnyddiwch y botymau saethau i fyny ac i lawr
- Cliciwch i ddewis y maint testun neu pwyswch "Enter"
- Dylai'r maint testun newid i adlewyrchu'ch dewis
Google Chrome
Newid Maint Testun o dudalennau gwe rydych yn edrych ar
- Cliciwch y botwm sbaner "Addasu a Rheoli" yn y gornel dde ar y top (Alt + E)
- Dewiswch y botymau Chwyddo + a - i newid y maint testun (Ctrl + + new Ctrl + -)
Firefox
Newid Maint Testun o dudalennau gwe rydych yn edrych ar
- Agorwch y ddewislen "View" gyda'r llygoden (neu pwyswch Alt + V).
- Dewiswch "Chwyddo" ac yna defnyddio'r opsiynau Chwyddo i mewn (Ctrl + +) a Chwyddo allan (Ctrl + -) i newid y maint testun.
Gallwch ddewis yr opsiwn "Chwyddo main testun yn unig" i dim ond newid maint y testun heb newid unrhyw elfen arall ar y dudalen.
Safari
- Cliciwch "View" i agor y ddewislen "View"
- Cliciwch ar "Gwneud Testun yn Fwy" neu "Gwneud Testun yn Llai" neu i ddefnyddio llwybrau byr yr allweddell dewisiwch
- "Apple" a "+" (plws) neu "Apple" a "-" (minws)
- Dylai'r main testun ar ein gwefan newid i adlewyrchu'ch dewis
Bar offer hygyrchedd
I wella'ch profiad ar ein gwefan, gallwch hefyd ddefnyddio ein bar offer hygyrchedd (wedi'i darparu gan Recite Me) i newid sut mae ein gwefan yn arddangos. Mae'r bar offer yma'n rhoi llawer o opsiynau gan gynnwys:
- Newid maint testun a ffontiau
- Dewis lliwiau cefndir a blaendir gwahanol
- Cyfieithu o destun i mewn i fwy na 100 o ieithoedd
- Nodweddion testun-i-siarad
I gyrchu'r bar offer cliciwch y linc "Hygyrchedd" ar ben unrhyw dudalen wrth ymyl y bar chwilio. Bydd y bar offer yn ymddangos ar ben y dudalen. Bydd unrhyw newid ydych yn gwneud yn aros tra rydych yn llywio drwy'r wefan. Nodwch, dim ond ar dudalennau wedi'u cynnwys o fewn www.glyndwr.ac.uk bydd y bar offer yn gweithio.
Newid lliwiau
Mae'r wefan hon yn defnyddio Dolenni Diwyg Raeadrol (CSS) i nodi'r steil. Os oes gennych drafferthion yn darllen y testun ar ein gwefan mae'n bosib newid lliwiau'r testun a chefndir drwy addasu gosodiadau'r porwr
Nodweddion hygyrchedd Internet Explorer
Darganfyddwch mwy am sut i newid maint testun a lliwiau.