Wrth fyw oddi ar y campws, mae'n bwysig i chi ddewis eiddo sy'n ddiogel, cadarn ac wedi'i reoli'n dda.
I helpu chi wneud hyn, mae gan dîm Preswyl a Bywyd Campws Prifysgol Glyndŵr Wrecsam cofrestr ar-lein o'r enw Student Pad ble gallwch chi chwilio am eiddo addas i'w rhentu o fewn ac o gwmpas ardal Wrecsam.
I wella ein gwasanaeth i fyfyrwyr, dim ond perchnogion wedi'u hachredu gyda thystysgrif Cynllun Achredu Perchnogion Cymru caiff eu rhestru trwy Student Pad. Cefnogwyd y Cynllun APC gan bob cyngor yng Nghymru ac mae'n hysbysebu perchnogion a gwerthwyr proffesiynol sy'n rhentu llety o ansawdd da wrth ddeall anghenion myfyrwyr a'u rhwymedigaethau fel perchnogion.
Mae'r tîm Preswyl a Bywyd Campws bob tro ar gael i roi cymorth ac arweiniad i fyfyrwyr sy'n dewis byw mewn llety preifat ond mae'n bwysig cofio pan mae myfyrwyr yn rhentu eiddo, mae'r cytundeb deiliadaeth rhwng y myfyriwr a'r perchennog. Felly, dylai fyfyrwyr ceisio datrys unrhyw broblem yn syth gyda'u perchennog neu gyda'r cyngor.