female student doing laundry

Cwestiynau Cyffredin

YMGEISIO AM C'S LLETY

Content Accordions

  • Beth yw’r gost?

    Cost yr wythnos 2023/24

    £119.50 yr wythnos - ystafell sengl (248 gan gynnwys dwy ystafell hygyrch)

    £124.50 yr wythnos - ystafell sengl + - ystafell ychydig yn fwy yn cynnwys gwely 4 troedfedd - yn amodol ar argaeledd (69 ystafell)

    £171.50 yr wythnos - ystafell ddwbl - argaeledd cyfyngedig (4 ystafell)

  • OPSIYNAU CYTUNDEB

    CONTRACT

    TALIAD SY'N ANGENRHEIDIOL DERBYN CYNNIG YSTAFELL

    GOSODIADAU

    Cytundeb 51 wythnos (Medi - Medi)

     

    £250.00

    3 rhandaliad (Hydref, Ionawr ac Ebrill)

    Cytundeb 40 wythnos (Medi – Gorffennaf)

     

    £250.00

    3 rhandaliad (Hydref, Ionawr ac Ebrill)

    Semester 1 (18 wythnos, Medi - Chwefror)

     

    Taliad llawn


    Amherthnasol

    Semester 2 (21 wythnos, Chwefror - Gorffennaf)

     

    Taliad llawn


    Amherthnasol

  • Sut ydw i yn cael llety?
  • Oes gennych chi ystafelloedd hygyrch?

    OES- Nodwch ar eich cais bod angen un o'r ystafelloedd hyn arnoch.

  • beth yw rhagdaliad?

    Taliad yw rhagdaliad a wnewch cyn i chi gyrraedd i sicrhau eich cynnig ystafell.

    Nid yw'n flaendal. Bydd y swm yn cael ei dynnu o'ch rhandaliad diwethaf.

    Os ydych wedi talu eich rhagdaliad ac yna'n penderfynu peidio ag aros gyda ni, dim ond os gallwn ôl-lenwi'ch ystafell y byddwch yn ei dderbyn, ac ni allwn warantu hynny. Gorau po fwyaf o amser sydd gennym i wneud hyn.

  • Alla i wneud cais am lety heb gadarnhad o le?

    GALLWCH - Rydym yn anfon cynigion ystafell allan ym mis Awst. Ond os hoffech ganfod llety arall neu os na lwyddwch i gael lle, anfonwch e-bost atom accommodation@glyndwr.ac.uk accommodation@glyndwr.ac.uk i roi gwybod i ni cyn gynted â phosib.

  • Alla i nodi yr hyn rydw i'n ei ffafrio ar fy nghais?

    GALLWCH - Rydym yn gwneud ein gorau i hwyluso unrhyw ffafriaeth a nodwyd ar eich cais, er na allwn roi sicrwydd - (fflat yr un rhyw, fflat distaw, yn dysgu chwarae drymiau!) os nad yw'r hyn rydych yn ei ffafrio yn ffitio’r hyn a gynigir, gallwch nodi unrhyw bethau a ffefrir gennych o fewn yr adran nodiadau.

  • Alla i newid yr hyn rydw i'n ei ffafrio?

    Efallai na fydd hi’n bosib i chi newid yr hyn a ffefrir gennych gan fod eich llety eisoes wedi ei glustnodi. Os nad yw wedi ei glustnodi hyd yma, fe geisiwn ni wneud hyn. Cysylltwch ar unwaith gydag enw eich dewis newydd.

    Rydym yn gwneud ein gorau i gwrdd â'r hyn sy'n cael ffafrio ond ni allwn sicrhau hyn. Rydym hefyd angen cadarnhad ysgrifenedig gennych. Gall hyn gael ei e-bostio i accommodation@glyndwr.ac.uk.

  • Pryd fyddaf yn derbyn cynnig ystafell?

    I roi syniad i chi o'r amserlen ar gyfer y ceisiadau.

    MAWRTH

    Ceisiadau ar agor

    MEHEFIN & GORFFENNAF

    Prosesu ceisiadau

    AWST

    Cyhoeddi E-gytundebau - Mae gan fyfyrwyr 14 diwrnod i dderbyn a thalu eu taliad £250.

    MEDI

    Myfyrwyr yn cadarnhau neilltuo ystafelloedd & dyddiadau cyrraedd ar-lein a'r cyfnod trwydded yn cychwyn.

  • Sut le yw Wrecsam?

    Fe'n hamgylchynir gan safleoedd treftadaeth y byd gyda harddwch naturiol gwyllt ond, mae gennym hefyd fywyd nos gwych gyda chlybiau myfyrwyr fel ATIK a lleoliadau cerddoriaeth fyw - Central Station a'r Parish ac mae gennym gysylltiadau gwych â Gogledd Cymru, Lerpwl, Caer, Manceinion, a hyd yn oed Llundain.

    Mae Wrecsam yn lle gwych ar gyfer siopa gydag enwau mawr megis Primark, River Island, Game, Topshop/Topman gyda llwythi o siopau bwyd hefyd - Nando’s, Burger king, McDonalds & Starbucks. Mae gennym adloniant dydd gyda sinema, ali fowlio, parc lleol hardd o fewn pellter cerdded i Bentref Myfyrwyr Wrecsam (WSV) - perffaith ar gyfer teithiau cerdded byr, barbeciw gyda chyfeillion neu ddim ond i gael peth awyr iach, ac ychydig ymhellach mae gennym drac beicio Llandegla, Zip World a mynyddoedd Eryri.

  • Oes archfarchnadoedd o fewn pellter cerdded?

    Oes, mae Sainsbury’s ac Aldi 10 munud o daith gerdded o PMW

  • Pam ddylwn i aros ym Mhentref Myfyrwyr Wrecsam?

    Os nad yw llety ar y campws yn ddigon o reswm (3 munud o gerdded i'r Brifysgol) - dyma rai manteision eraill

    • Mae'r holl ystafelloedd yn en-suite - sengl, sengl+ a dwbl
    • Cynhwysir yr holl filiau cyfleustodau - Dim costau cudd
    • WIFI am ddim ac yn ddiderfyn
    • Cegin fawr, lle bwyta ac ardal lolfa gyda theledu - lle gwych i gymdeithasu
    • Mynediad i wasanaeth diogelwch safle 24/7
    • Mynediad i olchdy ar safle 24/7
    • Cynnal a chadw ar y safle
    • Digonedd o barcio AM DDIM
    • 10 munud o gerdded i archfarchnadoedd
    • 10 munud o gerdded i ganol y dref
    • 15 munud o gerdded i'r parc lleol
    • 5 munud o gerdded i Orsaf drên Ganolog Wrecsam
    • Ar gael i fyfyrwyr sy'n dychwelyd
    • Teimlad gwych o gymuned
    • 3 munud o gerdded i undeb y myfyrwyr
    • Cefnogaeth i fywyd preswyl ar safle
  • A fydd hi'n broblem os byddaf ar wyliau ym mis Medi?

    Os byddwch chi i ffwrdd o’ch cartref am fwy nag wythnos yn ystod dechrau Medi, gwiriwch eich e-bost wedi i chi ddychwelyd i edrych ar eich cytundeb.

    Fyddwn ni ddim ond yn cadw cynnig ar gyfer llety yn agored am 14 diwrnod (yn hwyach os nad ydych yn byw yn y DU). Os na fyddwch wedi ymateb, fe gymerwn nad ydych eisiau'r cynnig a byddwn yn rhoi'r ystafell i fyfyriwr arall.

  • Sut i gysylltu â chi?

    E-bostiwch ni ar accommodation@glyndwr.ac.uk accommodation@glundwr.ac.uk neu ein ffonio  Llun - Gwener 08.30 - 16.00 ar 01978293344

CYN CYRRAEDD C'S

Content Accordions

  • Beth ddylwn i ddod efo fi?

    Yr hyn y dylech ddod gyda chi:

    • Llestri personol, cyllyll a ffyrc, offer coginio, haearn a bwrdd smwddio os oes angen.
    • Llieiniau llaw a bath personol, llieiniau sychu llestri cegin, cadachau llestri, hangeri cotiau, papur tŷ bach.
    • Dillad gwely, duvet a gobennydd- mae pecynnau gwelyau ar gael i'w prynu.
    • Cyflenwad o fwyd hyd nes y cewch chi gyfle i fynd i siopa.

    Yr hyn rydym ni yn ei ddarparu:

    • Gwely a matres, cwpwrdd, desg, cadair a silffoedd.
    • Popty, meicrodon, oergell, rhewgell a thegelli.
    • Biniau gwastraff.
    • Llenni.
  • Alla i newid fy llety?

    Allwn ni ddim ond ystyried symud ystafelloedd o fewn Pentref Wrecsam. (Cofiwch - fe fyddwch chi wedi arwyddo cytundeb cyfreithiol rwymol yn benodol ar gyfer eich ystafell am gyfnod wedi ei bennu).

  • Beth os na fyddwch wedi cael unrhyw ohebiaeth gennym?

    Os na fyddwch wedi derbyn cytundeb ac rydych yn bryderus am eich lety, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â ni drwy e-bostio accommodation@glyndwr.ac.uk.

  • LLE ALLAF I BARCIO?

    I wneud cais i barcio am ddim gyda ni – cofrestrwch eich cerbyd GWNEWCH GAIS AM BARCIO AM DDIM

    Mae gennym ddau faes parcio ar y naill ochr a’r llall i lety Pentref Myfyrwyr Wrecsam.

      • Maes parcio gollwng yn unig – rhwng y llety a’r stadiwm
      • Prif faes parcio ar ochr arall y llety

    Gweler Map Campws WGU. Pentref Myfyrwyr Wrecsam yw rhif 12 ac mae gennym ddau faes parcio, man gollwng a phrif faes parcio sy'n darparu digon o leoedd.

    Byddwch yn ystyriol wrth barcio eich cerbyd a pharciwch yn y mannau sydd wedi eu neilltuo’n arbennig. Peidiwch â pharcio mewn mannau eraill, yn cynnwys:

      • Mannau bathodyn glas (os nad ydych yn dangos bathodyn glas)
      • Mannau sydd â llinellau cris-groes melyn
      • Mannau lle mae glaswellt

    Nid yw Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am ddifrod, damwain neu golled ac rydych yn defnyddio’r meysydd parcio ar eich menter eich hun.

  • Alla i ddod â'm teulu i aros?

    Yn anffodus, nid yw ein neuaddau preswyl yn cynnwys llety sy'n addas ar gyfer teuluoedd, cyplau neu rieni myfyrwyr. Efallai y gall y tîm lletya eich helpu i ganfod llety lleol arall iddynt

     

PRESWYL C'S

Content Accordions

  • Alla i symud i ystafell arall?

    Os bydd ystafelloedd ar gael, gallwn eich symud i ystafell arall yn WSV, rydym yn codi £50 am lanhau. Allwn ni ddim ond ystyried ystafelloedd o fewn Pentref Wrecsam.

  • O ble ydw i'n codi post

    Bydd parseli a phecynnau i breswylwyr Pentref Myfyrwyr Wrecsam yn cael eu danfon i Ystafell y Post gerllaw’r Brif Dderbynfa yn y Brifysgol (gwelwch isod i gael map, neu what 3 words i gael y lleoliad), byddwch angen gofyn am eich llythyrau/parseli a dangos ID i brofi pwy ydych.

    Cysylltwch â reception@glyndwr.ac.uk neu 01978290666 i weld a oes gennych bost/parseli

    Gellir casglu post yn ystod yr amseroedd a ganlyn:

    10:00 – 12:00 // 14:00 – 15:00 – Dydd Llun i Ddydd Gwener

    LLEOLIAD YSTAFELL Y POST

    MAP CAMPWS – Pentref Myfyrwyr Wrecsam yw rhif 12 a rhif 1 yw derbynfa’r prif gampws.

    What3words - ///list.just.early

  • Pryd mae'r ystafell bost ar agor?

    Gellir casglu post yn ystod yr amseroedd a ganlyn:

    10:00 – 12:00 // 14:00 – 15:00 – Dydd Llun i Ddydd Gwener

  • SUT MAE CYSYLLTU A WIFI?

    Byddwch yn cael cyfarwyddiadau yn ardal lolfa eich fflat, sydd wedi'u lleoli ar yr hysbysfyrddau.

  • BLE MAE CERDYN GOLCHI DILLAD?

    Dylech fod wedi cael cerdyn golchi dillad wrth gyrraedd ond gallwch godi un arall o'n swyddfa llety am £2.00

  • NI ALLAF MYNEDIAD I FY YSTAFELL

    Os yw eich drws wedi bod yn fflachio'n goch, mae hyn yn golygu bod angen newid y batris a bydd angen i chi gofnodi hyn ar ein

    RHODDWCH FATER CYNNAL A CHADW YMA

    Gall llety ail-greu hen allwedd. Codir £2.00 yr un am gardiau newydd. Bydd llety yn canslo'ch hen gerdyn ac yn actifadu allwedd newydd i chi.