Mae Wrexham Village yn cynnig llety pwrpasol, ar y campws i fyfyrwyr Prifysgol Glyndŵr Wrecsam.
YMGEISIWCH NAWR: Mae llety ar gael i fyfyrwyr newydd a phresennol yn Wrexham Village.
Mae Wrexham Village yn cynnwys:
321 o ystafelloedd preifat en-suite - Gallwch ddewis ystafell Sengl en-suite neu Sengl+ en-suite (ystafell ychydig yn fwy gyda gwely 4 troedfedd - yn amodol ar argaeledd)
WiFi anghyfyngedig â phwyntiau cysylltu mewn ystafelloedd a mannau byw
Teledu sgrin fflat yn y gegin/mannau byw
Biliau gwasanaethau a thrwydded teledu gomunol wedi'u cynnwys yn y pris*
Mynediad diogel â cherdyn taro
Diogelwch/cynhaliaeth a TCC 24-awr ar y campws
Parcio diogel ac am ddim ar y campws
Golchdy a weithredi â cherdyn ar y safle
Staff cyfeillgar a hawdd i fynd at, ar gael gyda pholisi drws agored
Agos iawn i gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus - munudau i ffwrdd o orsafoedd trên a bws drwy gerdded
Parc adwerthu, archfarchnadoedd a chanol dref i gyd yn agos
*Mae'r drwydded teledu a chynhwysir yng nghost y llety yn gomunol, yn cyfro'r teledu yn y gegin/man fyw.
I fyfyrwyr sy'n gwneud cais o Ogledd Iwerddon neu Weriniaeth Iwerddon
Cod Ymarfer Universities UK ar Reolaeth Tai Myfyrwyr
Mae Prifysgol Glyndŵr wedi ymrwymo i God Ymarfer Universities UK ar Reolaeth Tai Myfyrwyr ar gyfer ei safleoedd llety yn:
Campws Wrecsam
Campws Llaneurgain
Mae'r cod yn anelu i hysbysu ymarfer gorau dros ragor o agweddau rheolaeth gan gynnwys: Safonau Iechyd a Diogelwch; Trefniadau Cynhaliaeth a Thrwsio; Ansawdd Amgylcheddol; Partneriaethau Perchennog a Deiliaid; Lles Myfyrwyr ac Ymddygiad Gwrthgymdeithasol.
Mae yna broses cwynion allanol i'r Brifysgol yn bodoli mewn achosion ble dorrwyd y cod, mewn achosion ble mae cwyn heb ei ddatrys drwy'r Tîm Preswyl a Bywyd Campws neu brosesau cwynion Prifysgol Glyndŵr Wrecsam.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â Chodau Ymarfer UUK, gallwch fynd i uukcode.info