Sut i wneud cais

Gyda system ceisiadau llety Prifysgol Glyndŵr Wrecsam ar lein, mae gwneud cais am lety yn sydyn ac yn hawdd.
Yn syml, defnyddiwch y system ar lein wrth ymgeisio am lety Wrexham Village neu Neuadd Corbishley.
Hefyd, os nad ydych eisiau ymrwymo i gytundeb 40-wythnos yna rydym yn hapus i gynnig cytundeb semester cyntaf i chi er mwyn i chi weld os ydych yn hoffi byw ar y campws gydag opsiwn i ymestyn neu ryddhau adeg y ar ddiwedd y semester un contract.
Os oes gennych unrhyw ymholiad, E-bostiwch accommodation@glyndwr.ac.uk
Cymhwystra
Mae ein hystafelloedd mor boblogaidd, yn anffodus, ni fedrwn ni roi ystafell i bawb sy'n gwneud cais. Felly, rydym yn gweithio i system sy'n rhoi ystafelloedd i'r rheini sydd eu hangen y mwyaf. Golygir hyn fod blaenoriaeth i fyfyrwyr sydd:
- Yn eu blwyddyn gyntaf o astudio
- Ar gwrs llawn-amser ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam
- Heb fod ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam o'r blaen
- Yn byw rhy bell i ffwrdd i gael hyd i lety preifat ar rent
- Gydag anghenion cymdeithasol a/neu gorfforol penodol
Gall myfyrwyr sy'n dychwelyd gwneud cais am lety prifysgol ar gyfer unrhyw ystafelloedd sydd gennym ni dros ben.
Talu am eich llety
Talu blaendal eich deiliadaeth
Pan ydych yn cytuno i'ch cytundeb, gofynnir i chi dalu blaendal deiliadaeth o £250. Defnyddir manylion y cerdyn a roddwyd i dalu hwn ar gyfer y taliadau cerdyn cylchol tuag at randaliadau eich llety. Dychwelir eich blaendal deiliadaeth i chi os nad oes swm ar ôl sy'n ddyledus o dan eich cytundeb llety.
Fforddiadwyedd ac opsiynau rhatach
Os na fedrwch chi fforddio’r llety rydym wedi cynnig, byddem yn trio cynnig llety rhatach a mwy sylfaenol i chi. Er mwyn i ni fedru gwneud hyn, bydd angen i chi ysgrifennu i neu E-bostio ein Tîm Preswyl a Bywyd Campws yn esbonio'r sefyllfa a rhoi gymaint o fanylion a sy'n bosib.
Anableddau ac anghenion arbennig
Ydych yn darparu i'r rheini gydag anableddau ac anghenion arbennig?
Byddem yn rhoi'r cynnig o'ch dewis cyntaf o lety mewn neuadd os:
- Mae gennych chi anabledd sy'n effeithio eich gofynion llety
- Rydych yn cwblhau'r ffurflen gais ar-lein erbyn canol mis Mehefin
- Rydych wedi nodi eich cyflwr meddygol neu anghenion arbennig yn y rhan Dewisiadau Personol o'r ffurflen gais ar-lein
- Byddem hefyd yn gwarantu lle i chi mewn neuadd dros gyfnod eich astudiaethau, ond efallai bydd angen i ni weld tystysgrif feddygol.
Os oes well gennych chi lety yn y sector preifat, efallai bydd yn bosib i ni dderbyn gwybodaeth perchennog addas. Gallwch hefyd dderbyn mwy o wybodaeth am hyn gan Wasanaethau Myfyrwyr.
Dyddiadau allweddol
Chwefror/Mawrth
- Os ydych chi wedi derbyn y cynnig am le ar gwrs Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn gadarn a bod eisiau llety arnoch, mae angen ichi gofrestru cyfrif ar y system ar-lein ac wedyn cwblhau'r ffurflen gais ar-lein.
- Os ydych yn fyfyriwr israddedig yn eich blwyddyn gyntaf ac y byddwch yn gwneud cais cyn diwedd Mawrth, mae llety wedi'i warantu i chi.
Mehefin/Gorffennaf
- Os ydych yn fyfyriwr newydd gyda chynnig diamod neu amodol, mae angen i chi lenwi'r ffurflen gais ar-lein erbyn mis Mehefin er mwyn sicrhau cael ystafell
- Os byddwch yn llwyddiannus, byddwch yn derbyn e-gontract yn ystod mis Gorffennaf. Yna, mae'n rhaid derbyn hyn o fewn 14 diwrnod ynghyd â thalu'r £250.00 i gadarnhau eich bod chi am dderbyn yr ystafell.
- Bydd y swm y bydd angen i chi ei dalu am eich ffioedd llety yn cael ei nodi ar dudalen dderbyn contract eich e-contract. (Gall y ffioedd llety naill ai cael eu talu fel un cyfandaliad neu mewn 3 thaliad cerdyn cylchol)
Awst
- Bydd ffurflenni cais ar-lein a gwblhawyd ar ôl canol Awst yn cael eu hystyried ar gyfer unrhyw ystafelloedd sydd gennym o hyd yn y neuaddau
- Os ydych yn fyfyriwr Clirio dylech gwblhau ffurflen gais ar-lein cyn gynted â o phosibl
- Os nad ydych wedi llwyddo i gael ystafell mewn neuadd, byddwn yn eich helpu i ddod o hyd i lety yn y sector preifat
- Os oedd eich lle yn amodol ar ganlyniadau ac nad ydych wedi cael y graddau, mae angen i chi wneud cais i ni am ad-daliad o'r blaendal o £250.00.
- Anfonir e-bost yn gwahodd myfyrwyr i gwblhau'r broses cyrraedd (lle rydych yn dewis amser cyrraedd) ac ymsefydlu ar-lein. Mae'r cyfnod ymsefydlu yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol am fyw yn ein llety.
Medi
- Mae cyfnod y drwydded yn dechrau ac mae myfyrwyr yn cyrraedd Prifysgol Glyndŵr Wrecsam. Byddwn yma i'ch croesawu ac i'ch helpu i setlo.
- Ar ôl cyrraedd, byddwch yn cael Llawlyfr Preswylwyr
- Os nad ydych yn hapus yn yr ystafell a ddynodwyd i chi, byddwn yn derbyn ceisiadau ar gyfer newid/cyfnewid ystafell a'u cydlynu os yw'n bosibl.