Camerâu y mae unigolion yn eu gwisgo yw fideos a wisgir ar y corff (BWV) neu gamerâu a wisgir ar y corff (BWCau). Fel arfer, maent yn sownd i ddillad neu’n rhan integredig o wisg. Mae delweddau o unigolion sy’n deillio o BMCau yn debygol o fod yn ddata personol dan ddiffiniad deddfwriaeth diogelu data. Mae’r datganiad polisi hwn yn amlinellu’r ystyriaethau allweddol o ran defnyddio BWCau, a’i nod yw helpu i sicrhau bod y Brifysgol yn cydymffurfio â’i ymrwymiadau dan y ddeddfwriaeth.

Mae Gwasanaethau Diogelwch Glyndŵr wedi ymrwymo i fod mor effeithiol â phosibl wrth daclo ymddygiad gwrthgymdeithasol, lleihau trosedd ac anhrefn a chynnal amgylchedd diogel i staff, myfyrwyr ac aelodau’r cyhoedd ar eiddo’r Brifysgol. I gefnogi hyn, mae Camerâu a Wisgir ar y Corff (BWC) yn cael eu cyflwyno i’w defnyddio gan staff diogelwch at ddibenion gweithredol.

Content Accordions

  • DIBEN A NODAU

    • Atal/Lleihau trosedd ac anhrefn
    • Atal/Lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Darparu amgylchedd diogel a chadarn
    • Atal digwyddiadau rhag cael eu huwchgyfeirio
    • Cynyddu cyfleoedd i gasglu tystiolaeth

  • EGWYDDORION CYFFREDINOL

    Bydd BWCau ond yn cael eu defnyddio pan fo angen yn weithredol i gefnogi’r nodau uchod.

    Rhaid gallu cyfiawnhau staff rheng-flaen yn defnyddio BWC fel dull gweithredol, a rhaid iddo fod yn gymesur i’r mater dan sylw. Mae hyn yn golygu y bydd recordio sain a fideo yn benodol i’r digwyddiad. At ddibenion y ddogfen hon, diffinnir ‘digwyddiad’ fel:

    ‘Ymgysylltiad ag unigolyn ar eiddo’r Brifysgol sydd, ym marn staff Diogelwch, yn ymosodol, a ble mae’r swyddog diogelwch yn credu y gallai brofi trais corfforol neu ar lafar, neu at ddibenion casglu tystiolaeth ar gyfer adroddiad digwyddiad i’r Brifysgol’.

    Mae unigolyn yn mynd at y swyddog diogelwch ar eiddo’r Brifysgol mewn ffordd sy’n cael ei ystyried yn fygythiol neu’n ymosodol.

    Lle bo’n bosibl, ar ddechrau unrhyw recordiad bydd y swyddog diogelwch yn cyhoeddi ar lafar er mwyn nodi pam fod y recordiad yn digwydd. Os yw’n bosibl, dylai’r cyhoeddiad gynnwys dyddiad, amser a lleoliad y recordiad, yn ogystal â chadarnhad fod sain a fideo o’r digwyddiad yn cael ei recordio.

    Diben y cyhoeddiad yw rhoi cyfle i’r un sy’n cael ei recordio addasu unrhyw ymddygiad annerbyniol, ymosodol neu fygythiol. Os bydd y swyddog diogelwch, ar unrhyw adeg, yn credu y byddai defnyddio BWC neu roi rhybudd ar lafar yn debygol o waethygu sefyllfa fygythiol, gall yr aelod staff ddefnyddio disgresiwn i beidio â thrafod ymhellach a thynnu nôl o’r digwyddiad. Nid oes geiriad penodol i’w ddefnyddio mewn amgylchiadau o’r fath wedi’i bennu, ond dylai swyddogion diogelwch ddefnyddio iaith syml y gellid ei deall yn hawdd gan bawb sy’n bresennol, er enghraifft:

    ‘Rwy’n gwisgo camera teledu cylch cyfyng, ac rwyf bellach yn recordio fideo a sain’

    Os defnyddir BWC, rhaid meddwl yn ofalus am ddefnyddio strategaeth gynhwysfawr er mwyn cydymffurfio â ‘phrosesu teg’ gwybodaeth sy’n cael ei recordio o fewn telerau Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (UKGDPR) 2018. Y gofyniad cyfreithiol sylfaenol yw cydymffurfio â GDPR, ond bydd Staff Diogelwch hefyd yn ystyried eu hymrwymiadau yn yr amgylchedd deddfwriaethol ehangach o ran;

    Deddf Hawliau Dynol (HRA) 1998,
    Deddf Rhyddid Gwybodaeth (FOI) 2000
    Deddf Amddiffyn Rhyddid (POFA) 2012 - gan gynnwys Cod Ymddygiad Camerâu Goruchwylio y Swyddfa Gartref yn unol ag Adran 30 (1)(a) o FOPA 2012.


    Er mwyn cynnal arfer da, bydd Staff Diogelwch yn defnyddio BWC yn unol â Chod Ymddygiad Camerâu Goruchwylio a Gwybodaeth Bersonol 2014 Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).

    Dylid ystyried unrhyw ddefnydd o BWC ochr yn ochr â rhyngweithiadau eraill ac effaith ar staff, myfyrwyr ac aelodau’r cyhoedd a allai fod yn bresennol.

    Bydd Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOPau) sy’n arddangos yn glir defnydd derbyniol o BWCau ar gael i bob defnyddiwr (rheng-flaen a thimau rheoli) ar bob lefel o recordio, storio data a chasglu data.

    Dylai Staff Diogelwch gydymffurfio â’r ddogfen Bolisi hon a SOPau wrth gasglu tystiolaeth neu wybodaeth, gan sicrhau ansawdd a chywirdeb y dystiolaeth neu’r wybodaeth honno.

    Rhaid dilyn y ddogfen Bolisi hon a’r SOPau perthnasol mewn unrhyw ddigwyddiad lle bydd BWCau yn cael eu defnyddio, neu lle maent wedi cael eu defnyddio.

    Mae gan staff diogelwch system reoli tystiolaeth BWC trydydd parti. Bydd y system hon yn sicrhau cydymffurfiaeth â’r holl ddeddfwriaeth berthnasol ac yn darparu treial archwilio llawn, sy’n cynnal parhad y dystiolaeth. Bydd staff diogelwch yn defnyddio’r offer yn unol â’r Datganiad Polisi hwn a’r SOPau. Byddant yn cael hyfforddiant llawn a chyfarwyddiadau ar sut i’w ddefnyddio, hyfforddiant ar-lein ar Ymwybyddiaeth o’r Effaith ar Breifatrwydd a'r ddeddfwriaeth berthnasol. Bydd yr hyfforddiant a’r SOPau yn cynnwys;

    • Sut i weithredu’r offer;
    • Pryd y dylid recordio (a phryd na ddylid recordio)
    • Gofynion eraill ar gyfer casglu tystiolaeth;
    • Rhoi gwybod fod BWV ar waith;
    • Lawrlwytho’r fideo;
    • Cynnal a chadw;
    • Diogelwch;
    • Datgelu delweddau; a
    • Sut i adrodd am faterion.

    Bydd pob aelod staff yn defnyddio’r offer yn unol â’r Asesiad Risg o Effaith ar Breifatrwydd Data y Gwasanaeth Diogelwch

    Bydd pob aelod staff diogelwch rheng-flaen yn mynd ar hyfforddiant llawn cyn defnyddio BWCau. Bydd yr aelodau staff hyn yn derbyn copi o’r Datganiad Polisi a’r SOPau, ac yn cadarnhau eu bod wedi’u derbyn, eu darllen a’u deall. Ar ôl gwneud hyn, byddant wedi’u hawdurdodi i ddefnyddio’r offer

    Ni fydd defnyddwyr yn gwylio delweddau yn archifau’r BWCau yn rheolaidd er mwyn gweld camymddwyn neu weithredoedd anghyfreithlon, ond os derbynnir cwyn, gellid mynd drwy’r system yn briodol ac wedyn byddant yn cael eu gwylio.

    Dim ond ag awdurdod y Swyddog Diogelu Data neu Gyfreithiwr y Brifysgol neu Uwch Swyddog Cyfrifol y Brifysgol a fydd yn gallu gweithredu ceisiadau ar gyfer adolygiadau.

    Bydd Asesiad Risg o’r Effaith ar Breifatrwydd Data y Gwasanaethau Diogelwch yn cael ei gyflwyno i roi arweiniad ar ddefnyddio BWCau ac offer perthnasol. Rhaid defnyddio’r asesiad yn unol ag asesiadau risg cyffredinol eraill. Bydd pob aelod staff cymwys yn defnyddio’r offer yn unol ag asesiadau risg wedi’u cyhoeddi.

    Bydd tîm rheoli’r staff Diogelwch yn monitro’r defnydd o BWCau er mwyn sicrhau bod yr offer yn adnodd priodol, ac i sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio yn unol â’r Polisi a’r gweithdrefnau hyn.

  • DATGELAU

    Bydd unrhyw Ddatgeliad yn gyson â’r diben(ion) a’r nodau a amlinellwyd uchod. Gan mai un o ddibenion y BWC yw atal a chanfod troseddau, byddai’r Brifysgol o bosibl yn rhannu’r delweddau ag asiantaeth gorfodi’r gyfraith os yw’n briodol. Ni fydd delweddau BWCau yn cael eu cyhoeddi’n gyhoeddus heb awdurdodiad y Swyddog Diogelu Data, Cyfreithiwr y Brifysgol neu’r Uwch Swyddog Cyfrifol. Bydd pob datgeliad yn cael ei gofnodi. Byddwn yn cofnodi:

    • Pwy sydd angen gweld y delweddau;
    • Pam fod angen iddynt weld y delweddau;
    • Y penderfyniad ar ddatgelu (a fydd yn cael ei gymeradwyo neu ei wrthod);
    • Dyddiad y datgeliad; a
    • Phwy wnaeth y penderfyniad.
  • YMDRIN Â CHEISIADAU GWRTHRYCH AM WYBODAETH

    Mae gan unigolion y mae eu gwybodaeth wedi’u recordio hawl i gael gweld y wybodaeth honno neu, os ydyn nhw’n cydsynio, i weld y wybodaeth honno. Gelwir y rhain yn geisiadau gwrthrych am wybodaeth (SAR). Sicrhewch fod bob SAR yn cael ei anfon at y Swyddog Diogelu Data ar unwaith er mwyn ei brosesu.

  • YMDRIN Â CRG

    Mae gofynion y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (FOIA) yn berthnasol i’r Brifysgol. Golyga hyn fod gan unrhyw unigolyn (nid o anghenraid yr unigolyn sydd wedi’i recordio) hawl i wneud cais i weld unrhyw wybodaeth sydd wedi’i chofnodi ym meddiant y Brifysgol. Rhaid anfon bob cais FOIA i’r Swyddog Rhyddid Gwybodaeth i’w brosesu ar foi@glyndwr.ac.uk. Y terfyn amser ar gyfer ymateb i gais FOIA yw 20 diwrnod gwaith, felly mae hi’n bwysig sicrhau bod hyn yn digwydd cyn gynted ag y bydd y cais yn dod i law.

    Mae Adran 40 o’r FOIA yn cynnwys eithriad â dwy ran ynghylch gwybodaeth am unigolion. Y rhan gyntaf yw pan fo’r recordiad yn cynnwys delwedd o’r unigolyn sy’n gwneud cais am y wybodaeth. Yn yr achos hwn, gwrthodir y cais a rhoddir cyngor i’r ymgeisydd gyflwyno SAR. Yr ail ran yw pan fo’r recordiad yn cynnwys delwedd pobl eraill. Mewn achosion o’r fath, bydd angen i ni bwyso a mesur buddion yr unigolyn sy’n gwneud cais am y wybodaeth yn erbyn hawliau a rhyddid y rhai sy’n rhan o’r recordiad.

    Fodd bynnag, cofiwch hefyd y mae’n bosibl y byddwn yn derbyn ceisiadau am y system BWC ei hun, er enghraifft, faint o unedau sydd gennym, beth yw’r gost, pwy sy’n eu defnyddio ac ati. Os cedwir gwybodaeth o’r fath, bydd angen inni ystyried a fyddai’n briodol datgelu’r wybodaeth. Os nad yw datgelu’n briodol, bydd angen inni bennu a yw’r eithriad yn berthnasol i’r wybodaeth y gofynnir amdani ac, mewn rhai amgylchiadau, a fyddai’n fwy buddiol i’r cyhoedd i ddatgelu’r wybodaeth ai peidio.

  • CADW

    Nid yw’r Ddeddf Diogelu Data yn pennu isafswm neu uchafswm o ran cyfnodau cadw ar gyfer systemau neu ddelweddau. Yn syml, mae’n nodi “Ni fydd data personol sy’n cael ei brosesu at unrhyw ddiben neu ddibenion yn cael ei gadw am gyfnod hirach nag sydd ei angen ar gyfer y diben neu’r dibenion hynny”. Bydd y BWCau yn y Brifysgol yn casglu delweddau ar gyfer 30 diwrnod er mwyn cyflawni’r diben(ion) penodol. Fodd bynnag, gall fod achosion pan fydd delweddau penodol yn cael eu cadw am gyfnod hirach yn dibynnu ar y digwyddiad dan sylw. Pan fo delweddau penodol yn cael ei gadw, bydd ffeil achos yn cael ei hagor ar y system, a bydd ond yn cael ei gadw ar gyfer y nodau a’r dibenion uchod.

I ddechrau, bydd effeithiolrwydd y system yn cael ei adolygu ar ôl chwe mis i sicrhau ei fod yn gwneud yr hyn a fwriadwyd. Os gwnaeth y system gyflawni ei phwrpas, bydd y BWCau yn cael adolygiad cyfnodol (o leiaf bob blwyddyn), gydag adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Llywodraethu Gwybodaeth a’r Pwyllgor Archwilio. Os nad yw’r system yn cyflawni ei phwrpas, gall gael ei hatal neu ei diwygio. 

Bydd defnydd BWCau yn Glyndŵr yn amlwg; maent yn fychan, ond mae modd eu gweld yn rhwydd. Ni fydd cuddwylio’n digwydd gyda’r BWCau, h.y. ni fydd y camerâu’n cael eu cuddio.

Yn y lle cyntaf, dylid anfon cwynion am ddefnydd BWCau at dpo@glyndwr.ac.uk.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon am y gweithdrefnau hyn neu am ddefnydd BWCau yn gyffredinol, cysylltwch â d.powell@glyndwr.ac.uk, sef y Rheolwr Cyfleusterau.

Mae gan y Brifysgol nifer o hysbysiadau preifatrwydd i hysbysu testunau data ynghylch sut rydym yn prosesu eu gwybodaeth bersonol. Mae dolenni i'r rhain i'w gweld ar y dudalen polisïau a datganiadau.