Mae Bwrdd yr Is-Ganghellor wedi cymeradwyo'r polisi hwn i sicrhau bod gwybodaeth sy'n cael ei cadw a'i phrosesu gan y Brifysgol, neu ar ran y Brifysgol, ar draws holl weithgareddau'r Brifysgol, mewn unrhyw ffurf ac unrhyw leoliad, yn cael ei hamddiffyn yn ddiogel yn erbyn canlyniadau torri cyfrinachedd, methiannau o ran cywirdeb neu doriadau ar argaeledd y wybodaeth honno.

Y Information Security Policy yw'r ddogfen Polisi Diogelwch gwybodaeth lefel uchaf ar gyfer y Brifysgol. Mae polisïau a gweithdrefnau a safonau eraill sy'n dod o fewn y ddogfen hon:

  • Dosbarthiadau Diogelwch Gwybodaeth
  • Polisi Diogelwch Data ar gyfer Dyfeisiau Electronig Symudol
  • Polisi Defnydd Derbyniol
  • Polisi Rheoli Cofnodion

Polisi Gwarchod a Diogelu Data

Nod y Ddeddf Diogelu Data (DPA) yw sicrhau preifatrwydd personol, trwy roi hawliau unigolion o safbwynt gwybodaeth amdanynt eu hunain a rhoi cyfrifoldebau ar sefydliadau sy'n prosesu'r wybodaeth hon. Wrth brosesu data personol mae rhaid i sefydliadau hefyd  gydymffurfio â'r egwyddorion canlynol:

  1. Rhaid prosesu data personol yn deg ac yn gyfreithlon.
  2. Dylid cael data personol ond am un neu fwy o ddibenion penodol yn unig, ac ni chaiff ei brosesu ymhellach mewn unrhyw fodd sy'n anghydnaws â'r diben hwnnw neu'r dibenion hynny.
  3. Bydd data personol yn ddigonol, yn berthnasol ac nid yn ormodol.
  4. Rhaid i ddata personol fod yn gywir a lle bo angen, yn cael ei diweddaru.
  5. Ni chaiff data personol a brosesir at unrhyw ddiben neu ddibenion ei gadw am gyfnod hwy nag sy'n angenrheidiol.
  6. Rhaid prosesu data personol yn unol â hawliau gwrthrychau data o dan y Ddeddf.
  7. Rhaid cymryd mesurau technegol a threfniadol priodol yn erbyn prosesu data personol heb ganiatâd neu'n anghyfreithlon ac yn erbyn colli neu ddinistrio data personol, neu ei ddifrodi'n ddamweiniol.
  8. Ni chaiff data personol ei drosglwyddo i wlad y tu allan i'r Ardal Economaidd Ewropeaidd oni bai bod y wlad honno'n sicrhau lefel ddigonol o ddiogelwch.

Sut rydym yn prosesu eich data

Polisiau

Hysbysiad Preifatrwydd