Bwrsariaethau wedi'u creu ar gyfer myfyrwyr Cyfraith Prifysgol Glyndŵr Wrecsam y dyfodol diolch i rodd ariannol hael

People signing document relating to law bursary

Date: Awst 2022

Gallai myfyrwyr sy'n gwneud cais i astudio'r Gyfraith ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam elwa o fwrsariaeth sydd wedi'i ddarparu gan roddwr hael.

Mae Francis Glynne-Jones wedi cyfrannu rhodd chwe ffigwr sylweddol, gyda arian a dderbyniwyd yn ddiweddar gan ei frawd Colin i'r brifysgol a fu farw, er cof am ei daid Cyril Oswald Jones, ei dad, Hywel Glynne-Jones, a'i frawd Colin Glynne-Jones, sydd i gyd yn gyn-Lywyddion Cymdeithas Cyfraith Caer a Gogledd Cymru.

Mae'r rhodd wedi ei wneud ar ffurf Gweithred Rodd ac mae'n benodol er budd adran Y Gyfraith y brifysgol.

Caiff ei ddefnyddio ar draws cyfnod o 10 mlynedd er mwyn galluogi myfyrwyr y Gyfraith ddawnus o gefndir difreintiedig i ddilyn eu huchelgais drwy orchuddio eu ffioedd cwrs, diolch i greu Cronfa Cyril Oswald Jones.

Sefydlwyd pwyllgor rheoli i weinyddu'r arian a'r cyfarfod cychwynnol cyntaf fydd cytuno ar y meini prawf i gael eu cymhwyso ar gyfer y fwrsariaeth flynyddol.

Wrth drafod creu'r bwrsari, dywedodd Francis Glynne-Jones: "Gobeithio y bydd yn annog llawer o bobl ifanc i ddod i broffesiwn y gyfraith, yma yng Ngogledd Cymru.

"Mae'r Gyfraith dal i fod yn adran newydd yn y brifysgol a gobeithio y bydd hyn yn helpu gyda'i datblygiad."

Croesawodd Is-ganghellor Prifysgol Glyndŵr Wrecsam, yr Athro Maria Hinfelaar, y caiff y gwaith o greu'r fwrsariaeth a'r cyfle y bydd yn darparu myfyrwyr dawnus na fydd o bosibl yn gallu gwireddu eu huchelgeisiau fel arall heb ei chefnogaeth.

Dywedodd: "Rydym yn falch iawn o haelioni ac rydym yn ddiolchgar iawn i Francis Glynne-Jones a'i deulu am gefnogi'r Brifysgol.

"Mae'n bartneriaeth dda rhyngom ni a'r proffesiwn cyfreithiol lleol sy'n mynd yn ôl cenedlaethau.

"Bydd hyn yn rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr sydd angen tipyn o gefnogaeth ychwanegol i gynnal eu rhaglen Y Gyfraith gyda ni ond mae hefyd yn gwobrwyo rhagoriaeth mewn myfyrwyr y flwyddyn olaf.

"Mae cydbwysedd braf rhwng cefnogaeth i fyfyrwyr sy'n dod i mewn i'r brifysgol, a gwobrau yn cael eu cyflwyno i fyfyrwyr am sut roedden nhw'n perfformio tra gyda ni.

"Nid wyf yn credu bod llawer o brifysgolion a fyddai'n gallu cynnig y math hwn o gymhelliad i fyfyrwyr ar eu gradd yn y Gyfraith fel ein bod ni'n teimlo mor falch o allu gwneud hynny."

Bydd y brifysgol yn dewis myfyrwyr sy'n bodloni'r gofynion o ran derbyn mynediad i Radd y Gyfraith i gael eu hystyried fel darpar dderbynwyr Cronfa Cyril Oswald Jones.

Bydd telerau'r rhoi yn sicrhau:

  • Darlith flynyddol Cyril Oswald Jones i'w threfnu gan y Brifysgol mewn ymgynghoriad â'r Pwyllgor.
  • Bydd £1,000 Prif wobr myfyriwr ym Mlwyddyn 3 o'u Gradd yn y Gyfraith bob blwyddyn (a noddir gan Gronfa Cyril Oswald Jones).
  • Bwrsariaeth flynyddol o £3,000, drwy gydol y rhaglen radd ar gyfer myfyriwr sy'n hanu o Gymru yn dod o gefndir difreintiedig o fewn 50 milltir o Wrecsam sy'n dymuno astudio'r gyfraith yn y brifysgol.

Aelodau'r pwyllgor fydd Robert Glynne Jones, Peter Humphrey Jones, John Evans ac un aelod staff hŷn o'r Brifysgol a enwebwyd gan yr Is-Ganghellor.

I gael rhagor o wybodaeth am gwrs LlB y Gyfraith ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam, ewch i https://glyndwr.ac.uk/cy/cyrsiau/cyrsiau-israddedig/y-gyfraith/